Felindre fy mhlentyndod a mwy – Richard Jones
O Sgwâr Pen-sarn heibio fy nghartref yn Nhre-coed i Sgwâr y Gât ac i fyny Rhiw Couon i’r Goetre lle roedd dat-cu yn byw oedd fy ‘milltir sgwâr i’ yn y 1950au.
Ar Sgwâr Pen-sarn mae teras o dai’n wynebu Sgwâr y Gât, – dau dŷ sy yno nawr ond yn y 1950au roedd wedi ei rannu yn bedwar – ar y pen roedd Pen-sarn Cottage lle roedd Samuel a Rachael Ann Davies a’u plant Dyfrig, Eifion, Janice ac Elinor yn byw. Cofio mai Nansi oedd Mrs Davies yn cael ei galw a roedden nhw’n deulu clos, llawn hwyl a sbri. Roedd Sam yn storïwr a thynnwr coes mawr ac etifeddwyd y ddawn gan Dyfrig ac Eifion, un yn flodeuog ei stori a’r llall yn fwy cynnil. Drws nesaf roedd Arhosfa, cartref Miss James, – cof plentyn gennyf ei gweld yn sefyll yn nrws y tŷ. Wedyn dau dŷ Pen-sarn, un yn gartref i Emrys Owen a Maggie Griffiths a’u plant John a Henry – ac ar y pen a’i ddrws yn wynebu’r rhiw roedd Mari, Harri a Jim a Rachel Anne yn byw yn eu tro. Ar waelod y rhiw gyferbyn roedd Castle Square a ailenwyd yn ddiweddarach yn Annedd Wen pan aeth Mrs Davies, Pen-sarn Cottage i fyw yno. Drws nesaf mae Siop Pen-sarn lle roedd John ac Elisabeth Evans a’u merched Mair a Rachel Ann yn byw. Fferm fach oedd hi ac yn ôl yr enw mae’n rhaid bod siop wedi bod yno rywbryd. Pe byddai nhad yn dweud wrth John Evans y byddai saer coed yno am 8.00am drannoeth byddai John Evans yn brasgamu i Glanywmor os na fyddai’r gweithiwr yno i amser! Bu Rachel Ann yn athrawes arnaf yn Ysgol Penboyr ac yn Ysgol Sul St Barnabas a bu’n byw yn Siop Pen-sarn ar ôl priodi Byron Thomas a oedd yn athro mathemateg yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Fe symudon nhw i fyw yn Llanybydder yn ddiweddarach.
Gyferbyn â thŷ Pen-sarn roedd Pen-bont lle codwyd nythaid o blant gan David a Jane Jones mewn bwthyn bach yn cefnu ar y pownd a gariai’r dŵr i droi rhodau’r ffatrïoedd gŵlan islaw. Diddorol sylwi ar hynt y plant yn gadael eu cartre a’u pentre genedigol yn y 1920au a’r 30au i ennill bywoliaeth. Dinah Mary oedd yr hynaf; fe briododd hi â Rees Davies, Islwyn, Felindre a buon nhw’n cadw siop pysgod a sglodion yng Nghaerdydd a dychwelodd Dinah i fyw yng Nger-y-llan wedi ymddeol. James (Jim) oedd yr ail blentyn a buodd e’n cadw siop a rownd laeth yn Llundain cyn dychwelyd i fyw yn Rhiwbeina, Caerdydd a chadw garej am gyfnod yn Ystrad Mynach. Joshua Rees oedd wedyn; priododd e â Hannah, chwaer fy mam a buont yn ffermio yn Goetre. Yn eu hieuenctid roedd Rees a’i frawd Jim, a’u tad, David Jones hefyd, wedi bod yn lowyr am gyfnod yn y Rhondda Fach gan letya yn Ferndale. Annie Jane oedd y nesaf; fe briododd hi ag Edward Crompton a byw yn Danffynnon, Cwm-pen-graig. Nhw oedd rhieni Gareth a fu’n Brif Swyddog Meddygol Cymru ac yn Athro ym Mhrifysgol Caerdydd. Y nesaf oedd Wil a oedd wedi priodi a byw yng Nghlydach. Roedd ganddynt ddau o blant, Martin a Wyn; bu mam y bechgyn farw yn ifanc a daeth Martin, a oedd tua’r un oed â fi, am gyfnod estynedig i fyw gyda’i fodryb yn Danffynnon a Wyn i Barc-y-gors, Dre-fach gyda theulu ei fam. Johnny oedd y chweched a dychwelodd ef ar ôl cyfnod yn Birmingham i gadw siop pysgod a sglodion, Fountain Cafe, yn Llandysul. Gwyn oedd yr ieuengaf a bu ef yn nyrs yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin ac roedd ef a’i deulu yn byw yn y dref honno. Bu yn boy soprano llwyddiannus iawn gan ennill dros 200 o gwpanau arian mewn eisteddfodau ac ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1947. Roedd Mrs Jones, eu mam, yn ddynes garedig iawn i’w chymdogion a dywed Gareth Crompton fod ei famgu yn ei groesawu ganol dydd ar ddyddiau ysgol i fwyta ei ginio yn y blynyddoedd cyn i’r gwasanaeth cinio ysgol ddechrau.
Yn ddiweddarach bu Emrys Owen yn paratoi menyn yn y bwthyn bach – Bargod Meadow Butter. Mae’r tŷ wedi ei ddymchwel erbyn hyn gan fod dŵr o’r pownd wedi tanseilio’r wal gefn. Roedd y pownd yn atyniad poblogaidd i fechgyn ifanc y pentre gan fod cannoedd o sildod yn y dŵr a hwyl wrth eu dal mewn rhwyd neu eu ticlo. Trecochyn alwai Eifion Pen-sarn y pysgodyn bach yma – roedd bola coch gan y pysgodyn gwryw – roedd e’n eu cadw mewn jar wydr ond doedden nhw ddim yn byw yn hir. Gallech ddal brithyll yn y pownd hefyd gan ei fod yn agored i’r afon Bargod yn ymyl Bargod Mills ac yn is i lawr yn ymyl ffatri Square Hall.
Rownd y cornel i Ben-bont tuag at Felindre mae Dôl-werdd. David Lewis oedd yn byw yno pan oeddwn blentyn er nad wyf yn ei gofio’n dda iawn. Enillodd rai miloedd ar y pŵls pêl-droed ac roedd yn un o’r ychydig yn y pentre a oedd yn berchen ar gar yn y 1940au. Roedd Defi’n brolio ei fod yn gwneud forty miles an hour ar fflats Cydweli! Roedd tafod tew ganddo ac mae Eifion yn cofio amdano yn gwylio Bargod Rangers ac yn disgrifio chwaraewyr Bargod yn mynd ‘through the defenthe like a rocket’.
Drws nesaf mae Derw-lwyn lle rwyn cofio’r ddwy chwaer Ena a May a’u brawd Defi Henry yn byw. O ran pryd a gwedd a cherddediad mae Mrs Brown, sydd ar y teledu, yn fy atgoffa o Ena. Tom Nicholas oedd ei gŵr a phostmon oedd e. Roedd Defi Henry wedi bod yn gweithio fel buyer yn siop Lewis Lewis yn Llundain ac wedi dychwelyd ar ôl ymddeol. Deuai dipyn i siop Glanywmor; ei gofio’n dod â whilber i nôl bag o sment ac yn dweud ‘Codwch e i’r whilber ifi, plis, achos dim ond siswrn rwy wedi arfer ei godi’. Buodd e byw ryw ychydig yn fyr o’i gant oed.
Rhandir sydd wedyn, y tŷ olaf yn Dre-fach cyn croesi’r afon Bargod i Felindre. John Ifan Williams a’i wraig, Sarah Ellen, oedd yn byw yno. John Ifan â gwên lon ar ei wyneb, wedi bod yn löwr a bob hyn a hyn deuai llwyth o lo iddo, ei dipio ar y palmant ac wedyn ei wthio trwy’r drws bach metel yn y wal i lawr i’r sied islaw oedd yn yr ardd. Roedd y Parch Gwyn Davies Jones, Cydweli yn frawd i Mrs Williams, a hefyd i Mrs Isaac, Teifi Cafe, a byddai’n ymweld o dro i dro a chofiaf chwarae criced gyda’i fab, Gwyndaf, wrth ochr ein ty ni.
Croesi Pont y Capel wedyn dros yr afon Bargod i Felindre. Roeddwn i wastad yn dweud mai yn Felindre roeddwn i’n byw ac nid yn Dre-fach Felindre ac yn sicr nid yn Dre-fach! Dros y blynyddoedd aeth Dre-fach yn drech na Felindre ar dafod leferydd am ryw reswm. Pan ofynnith rhywun i fi lle rwyn byw, rwyn dweud ‘Felindre’ a’r ateb yn aml yw ‘O! Dre-fach’ a bydda i’n dweud, ‘Nage, Felindre!’. Erbyn hyn derbyniaf mai Dre-fach Felindre yw’r norm gan fod nifer o Dre-fach a Felindre eraill i gael. Mae arferion yn newid, on’d yn nhw? Slawer dydd bydden ni’n mynd lawr i Gastellnewy – ‘Down to Emlyn’ yw hi nawr.
Beth bynnag wedi croesi Pont y Capel ar dir yr ochr dde sy’n is na’r hewl bresennol roedd hen gapel eglwysig gynt – Capel y Drindod neu Gapel Bach. Ychydig o wybodaeth a geir amdano - yn ôl Daniel Jones yn ei lyfr ar hanes y ddau blwyf roedd ywen yn y fynwent y tu ôl iddo ond roedd yr adeilad yn adfail erbyn 1863 pan agorwyd eglwys St Barnabas. Tua dechrau’r ugeinfed ganrif codwyd tai yno ac mae’n ddiddorol sylwi bod cyfeiriad at gapel neu ywen yn enwau’r pedwar tŷ yn y fan, sef Ywen-las, Maesycapel, Maesyrywen a Glanywmor.
Ywen-las yw’r tŷ cyntaf lle roedd James Davies a’i ferch Hannah yn byw – Jim Bryn a Hannah Bryn. Bryn, bwthyn ar ben lôn fferm Derwig, oedd cartre Jim ac rwy’n cofio ei chwaer, May, yn byw yno. O’r hyn a gofiaf roedd Jim yn dipyn o – beth ddweda i – entrepreneur lleol. Glöwr oedd yntau un amser hefyd ac yn derbyn llwyth o lo achlysurol wedi ei dipio wrth yr iet – roedd mwy o ffordd ganddo i’w gario i’r cwt glo na John Ifan, Rhandir. Cofiaf fod ar y lawnt yng nghefn Tre-coed pan ddaeth Jim i chwilio am nhad. Roedd coed afalau ac eirin yno ac un goeden bêrs ifanc ddigalon yr olwg. Gwelodd Jim y goeden bêrs a chyn pen dim roedd wedi agor ei gyllell boced a thynnu hi ar hyd bonyn y goeden o’r top i’r gwaelod i ryddhau’r rhisgl yn ôl Jim. Poeni wedyn beth ddwedai nhad a phenderfynu mai dweud dim fyddai orau – chi yw’r cyntaf i wybod yr hanes. Beth bynnag y rheswm, fuodd y goeden ddim yn fyw yn hir.
Drws nesaf mae Maesycapel lle roedd Anti Magi a’i thad Johnny yn byw – Data oedd e i Magi ac felly Data i finne hefyd. Treuliwn lawer o amser gyda Magi yn cael te yn y gegin gefn - roedd hi’n hynod o groesawgar a charedig ond yn nerfus iawn â llais cwynfanllyd. Priododd Magi ar ôl colli ei thad a symud i Gastellnewydd Emlyn.
Wedyn mae Maesyrywen lle roedd John a Marged Jones yn byw. Roedden nhw wedi gweithio ar hyd eu hoes yn ffatri wlân y teulu yn Bargod Mills, ochr draw’r afon y tu ôl i Dre-coed. Roedd John Jones yn warden am flynyddoedd yn eglwys St Barnabas. Dw i ddim yn credu imi fod unwaith ym Maesyrywen yn y cyfnod hwnnw. Yn ddiweddarach daeth Tom James Rees (tad Iori Rees, CNE) a’i wraig Hannah Mary (Cwm-bran gynt, a chwaer Megan Lodwig, Erw-lon) i fyw yno ac roedd y ddau ohonyn nhw yn garedig iawn i mam. Merch Bronhydden, Pentrecagal oedd Hannah Mary; roedd hi’n perthyn inni a threuliodd oriau yng nghwmni mam o flaen tanllwyth o dân yn Nhre-coed.
Wedyn daw Glanywmor lle roedd mam-gu a dat-cu yn byw a dyma lle cafodd fy nhad ei godi. Thomas Jones, un o feibion Rhydfoyr Isaf, oedd fy nhad-cu – saer coed ac ymgymerwr wrth ei alwedigaeth. Roedd yn un o ddeuddeg o blant gyda’u hanner yn marw yn eu hugeiniau cynnar o’r ddarfodedigaeth. Roedd ei frawd, Daniel, yn dechrau dangos yr un symptomau ddechrau’r ugeinfed ganrif a chynghorwyd ef gan y doctor i fynd i fyw i Ganada i osgoi lleithder y wlad hon. Gwirfoddolodd brawd arall, David (Dafi), i fynd gydag ef a bant â nhw gan ddychwelyd i fyw yn Rhydfoyr flynyddoedd yn ddiweddarach yn eu 80au. Mynychai teulu Rhydfoyr eglwys St Llawddog oedd gerllaw. Roeddwn i wedi deall mai Bedyddwyr oedden nhw’n wreiddiol ond mae Alan Awelon yn credu mai Annibynwyr oedden nhw. Beth bynnag roedd eglwys Penboyr lawer yn nes na chapeli Bethel neu Soar. Annibynwraig oedd mam-gu Glanywmor, merch Llwynderw Cwm-pen-graig ac yn aelod o gapel Soar ar hyd ei hoes. Roedd dat-cu a nhad yn aelodau yn St Barnabas, datcu yn selog iawn yn y gwasanaethau a nhad yn mynd o bryd i’w gilydd. Roedd Glanywmor yn dipyn o gegaid i fi pan yn fach ac fe’i bedyddiais yn Milo a dyna fuodd e i’r teulu a gweithwyr fy nhad - a Mam-gu Milo a Dat-cu Milo fuon nhw.
Rwy’n cofio dat-cu, er yn hen, yn cynorthwyo yn y gweithdy y tu cefn i’r tŷ ac yn aml iawn yn gwneud arch – er pan fyddwn i yno bydden nhw’n dweud mai cloc oedd e. Deuai’r ‘co’d coffine’ o gwmni Jonah Lewis, Treorci. Yn y fan honno y rhyfeddais o weld David Charles, y saer, yn sgrifennu fy enw â’i ddwy law yr un pryd ar ddarn o bren, - y llaw chwith yn mynd o’r chwith i’r dde a’r llaw dde yn symud o’r dde i’r chwith fel bod fy enw yn ymddangos am yn ôl yr ochr honno. Roedd dat-cu yn drwm iawn ei glyw ac er bod teclyn ganddo yn ei glust doedd e ddim bob amser yn gallu dilyn y sgwrs yn anffodus. Roedd yn aelod selog yn eglwys St Barnabas, fel y dwedais, yn ymddiddori yn y canu ac yn un o sylfaenwyr Gŵyl Ddirwestol Eglwysi Deoniaeth Emlyn. Roedd mam-gu yn hoffi gwneud pwdin reis a llaeth condensed ynddo ac roeddwn i’n hoffi cael llwyaid o’r truth melys pan fyddai hi wrthi. Dan nenfwd y gegin byddai tusŵau o wahanol berlysiau yn sychu gan gynnwys camil (camoméil). Gan fod mam-gu yn cadw poteli pop dan y sinc rwy’n cofio imi fynd unwaith yn slei bach i gael glased a’i boeri i’r sinc yn go gloi – te gamil oedd e. Rhychiau o dato a rhychiau o gladioli oedd yn yr ardd gefn yn bennaf. Roedd mam-gu yn ymddiddori’n fawr yn y gladioli ac yn fy anfon ar fy meic â’r blodau i’w ffrindiau ar hyd a lled y pentre. Rwy’n casáu’r blodyn byth oddi ar hynny!
Roedd ffynnon dan lawr y gegin a nhad wedi dyfeisio system i bwmpio’r dŵr i’r tanc yn y llofft. Yn gyntaf roedd rhaid arllwys cwpaned o ddŵr i dop y pwmp, switsio’r trydan mlaen a throi’r olwyn oedd wrth y pwmp yn gyflym i ddechrau’r system. Yng nghornel y stafell hongiai weiren trwy nenfwd y stafell a phelen blwm ar ei gwaelod ac wrth i’r tanc yn y llofft lenwi symudai’r belen blwm am i lawr. Ar ôl i’r belen gyrraedd marc penodol ar wal y gegin roedd y tanc dŵr yn llawn a switsiwyd y trydan bant.
Nhad a’i gwmni adeiladu gododd Tre-coed, gyferbyn â Milo, lle ces i fy magu. Ddechrau’r Ail Ryfel Byd oedd hi a chan fod pren adeiladu’n brin daeth llawer o’r coed o allt Plas y Bronwydd. Mae estyniad unllawr i’r tŷ lle roedd siop ironmonger gan fod hynny’n gydnaws â gwaith fy nhad fel adeiladwr. Gan fod y tŷ wedi ei adeiladu ar dir oedd yn goleddu roedd seler, fel y dwedem, o dan hanner y tŷ – yno roedd stôf lo, rhyw fath o wres canolog cynnar a pheiriant golchi a storfa coed tân a glo.
John Richard Jones oedd enw fy nhad; Johnrichet i’w dad a’i fam a JR i bawb arall gan gynnwys Mam. Da, ac nid dad, roeddwn i’n ei alw. Ganwyd ef yng Nglanywmor, ochr draw’r hewl, yn 1904 a chafodd ei addysg yn ysgol y pentre ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin gan letya yn Heol Glan-nant yn y dre. Wn i ddim llawer am ei amser yno ond mae gen i lun ohono yn nhîm rygbi’r ysgol. Daeth adre o’r ysgol i gynorthwyo ei dad yn y busnes adeiladu a’i ddiddordeb pennaf y pryd hwnnw oedd gwaith trydan. Ef oedd yn gyfrifol am y gwaith trydan yn y cynyrchiadau yn Neuadd y Ddraig Goch yn y 1940au a’r 50au. Cofiaf amdano yn mynd i weld The Ghost Train yn Theatr y Grand yn Abertawe i gael syniadau gan fod y ddrama i’w pherfformio yn neuadd y pentre.
Sarah Evans oedd mam cyn priodi, – Sara i’w thad a’i chwaer, Sarah i’w ffrindiau ysgol, Sal i fy nhad a Mrs JR i bawb arall. Cafodd hi ei geni yn Parc, Henllan cyn i’r teulu symud i’r Goetre pan oedd hi’n ddwy/dair oed. Addysgwyd hi yn ysgol y pentre ac yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Bu streic athrawon annifyr iawn pan oedd hi yno yn y 1920au ac o’r herwydd cadwyd hi gartre o’r ysgol ac ni chafodd ddychwelyd wedyn. Gan fod ei braich dde yn fyrrach na’r un chwith awgrymodd Dr Jenkins ei bod yn cael gwersi piano er mwyn ymarfer y fraich. A dyna sut y daeth yn athrawes biano a chanu gan deithio’r ardal o dŷ i dŷ ar gefn ei beic yn rhoi gwersi. Bu’n dysgu partïon canu mewn eisteddfodau lleol ac eisteddfodau’r Urdd a chyfeilio i gynyrchiadau llwyfan yn Neuadd y Ddraig Goch dan arweiniad Maldwyn Williams, Dyffryn, a’i wraig a William Davies, Pen-lôn, a’i wraig. Roedd yn organydd selog yn eglwysi St Llawddog a St Barnabas. Dechreuodd chwarae ym Mhenboyr yn 16oed ond ni châi chwarae yn St Barnabas lle roedd yn aelod tan i Mr Morgan, prifathro’r ysgol ymddeol – prerogatif Mr Morgan a Mr Daniel Jenkins o’i flaen oedd organ ‘Saint’ fel y gelwid yr eglwys.
A Thre-coed wedi ei orffen priododd fy rhieni yn 1942. Bu’n newid byd i mam gan fod siop ynghlwm wrth y tŷ ac wrth iddi weithio yn y siop lleihaodd y gwersi piano oherwydd diffyg amser. Cyn bo hir gwelwyd bod y siop yn rhy fach a daeth cyfle i brynu’r adeilad gyferbyn, sef Reading Room y pentre gynt. Symudwyd y siop yno a sefydlwyd cangen o Banc y Midland, Castellnewydd Emlyn yn y stafell lle bu’r siop. Rhoddwyd yr arwydd Midland Bank llythrennau metel bras uwchben y drws a’r ffenestr a darparwyd gownter sylweddol yn y stafell er mai am fore’r wythnos yn unig roedd e ar agor. Deuai un o weithwyr y banc a’i fag lledr llawn arian yng nghar garej Cawdor a gyrrwr y car fyddai’r gard am y bore. Dipyn yn ddiweddarach rhoddwyd gwydr gwrthfwled ar hyd canol y cownter i amddiffyn dyn y banc rhag y cwsmer! Am weddill yr wythnos roedd y cownter yn gyfleus iawn i nhad wneud cyfrifon y siop a’r busnes adeiladu a phan fyddai taro deuai Griff Davies – Wncwl Griff – o Gaerfyrddin i gynorthwyo gyda’r cownts. Roedd Wncwl Griff yn gweithio yn swyddfa Trysorydd y Sir ac yn deall ei bethau. Ar y Suliau hynny roedd Stafell y Banc yn fwg tew wrth i’r ddau bori dros y cyfrifon.
Ddechrau’r 1950au a minnau rhyw 7 oed daeth ewythr i mam i fyw atom – Lewis Lewis – ac yntau dros ei 90oed. Brawd fy mamgu Goetre oedd ef wedi ei fagu yn Ffynnondudur ac wedi byw a ffermio yn fferm Pibwr-wen, Caerfyrddin. Aem yn rheolaidd i ymweld â nhw wedi iddyn nhw ymddeol o’r fferm a symud i lodj Pibwr-wen, gyferbyn â mynedfa Ysgol Bro Myrddin erbyn hyn, – Lewis a’i frawd John a Martha’r forwyn. Roedd y tri yn edrych yn debyg iawn i fi, felly Wncwl Lewis, Wncwl John ac Wncwl Martha oedden nhw! Roedd gwinwydden gref yn y tŷ gwydr ar waelod yr ardd a oedd yn dipyn o ryfeddod.
Roedd digon o waith felly gan mam gan ei bod yn gweithio yn y siop ac yn cadw llygad ar Wncwl Lewis. Roedd e’n dipyn o gymeriad a chan ei fod yn ddall roedd rhaid darllen y Carmarthen Journal iddo’n wythnosol – adroddiadau angladdau ardal tref Caerfyrddin âi â’i fryd yn bennaf a’i sylw wedi’r darllen fyddai, “Beth yw’r answer?” h.y. faint o arian oedd yr ymadawedig wedi ei adael!
Ochr Drefach i Dre-coed mae cae bach rhyngddo â’r afon Bargod. Yn y cae mae Ffynnon Capel lle bu’r trigolion gynt yn nôl dŵr ac yng nghornel y cae wrth y bont dros yr afon codwyd bloc toiledau cyhoeddus yn 1950au. Erbyn hyn dymchwelwyd y toiledau a chodi tŷ modern ei gynllun a’i adeiladwaith yn ei le a’i enwi yn Ffynnon Capel. Yn y cae bach yma hefyd y porai Browni, fy mhoni, – roedd tipyn o oed arno pan ges i fe ac roedd e braidd yn benstiff wrth ei farchogaeth trwy’r pentref gan y mynnai aros pan welai rywun yn y gobaith o gael rhywbeth i fwyta! Symudwyd un o hen siediau cadw offer adeiladu fy nhad i gefn y tŷ i Browni fynd iddo ar nosweithiau oer. Un noson rewllyd caewyd Browni yn y sied ac erbyn y bore roedd wedi bwrw’r drws lawr ac yn sefyll ar y borfa a llwydrew ar hyd ei gefn!
Drws nesaf i Glanywmor roedd Reading Room y pentref – yn y 1940au a chyn hynny. Wn i ddim a oedd stoc o lyfrau yno i’w darllen ond roedd nifer o bapurau newydd yn cyrraedd. Yn eu plith roedd Y Faner oherwydd clywais am gymeriad yn dod yno’n wythnosol i ddarllen – darllenai’r papur ar ei hyd yn uchel a byddai’n dechrau “ Y Faner. Pris ceinog.......” ac ymlaen tan y diwedd. Roedd Dr Jenkins yn cynnal syrjeris yma hefyd. Roedd y Doctor yn ganolog i fywyd y pentre a’r un fath â doctoriaid mewn cymdogaethau eraill roedd nifer o straeon amdano wedi datblygu. Un stori – ac mae gwahanol fersiynau ohoni i gael:
Bachgen bach yn cnoco ar ddrws tŷ’r Doctor; Doctor yn dod i’r drws a’r bachgen yn dweud,
“Ma mam yn gofyn all hi gal poteled o’r moddion coch”.
“Dere miwn”
Y bachgen yn ei ddilyn i’r gegin. Doctor yn cydio mewn potel bop wag o sil y ffenest ac yn arllwys rhyw fodfedd o driog coch i fewn. Wedyn yn dechrau llenwi’r botel â dŵr o dap y gegin ac yn troi a gofyn,
“Dwed wrtha i, machgen i. Beth sy’n bod ar dy fam?”
Y bachgen yn gegrwth wrth weld y botel yn llenwi ac yn ateb, “Weden i mai syched sy arni.”
Ar ôl dyddiau’r Reading Room prynodd fy nhad yr adeilad gan fod angen mwy o le ar y siop. Roedd tipyn o bopeth yno ar werth o bethau bach fel hoelion a sgriws, paent, papur wal a phethau mwy eu maint fel llefydd tân a dodrefn. Roeddwn i’n hoff iawn o hoelion. Y pryd hwnnw roedden nhw’n rhydd mewn bocsys cardfwrdd mawr ac mae’n debyg y byddwn yn symud yn llechwraidd at yr hoelion – cymryd dyrnaid yn fy nwylo y tu ôl i’m cefn a sleifio allan i’w hoelio i’r pren cynta welwn i. Mae iet bren troedfedd sgwâr wnes i gen i o hyd. Yn ogystal â’r hen weithdy i’r seiri coed (sydd newydd ei ddymchwel – Haf 2021) codwyd sied newydd i gadw nwyddau adeiladu – coed a byrddau adeiladu, sinc toeau, sment, calch, etc. Roedd mynd i’r warws i ddewis nwyddau i’r siop yn achlysur cyffrous. Cawn fynd gyda’m rhieni – dau le rwy’n eu cofio yw cwmnïau Shufflebotham yng Nghastell-nedd a M A Rapport yng Nghaerdydd – sylwais yn ddiweddar fod adeilad Rapport yno o hyd yng nganol adeiladau crand newydd canol y ddinas.
Wrth i’r busnes gynyddu cyflogwyd tair merch yn eu tro i gadw’r cyfrifon a gweini yn y siop. Ddechrau’r 1950au roedd Meg yno, – hi’n byw ym Mhontweli; priododd â gweinidog y Wesleaid yn Llandysul, Glyn Williams, cyn symud i Ben-y-groes yn Sir Gaernarfon. Cofiaf ymweld â nhw yno ryw wyliau haf. Daeth Rita Evans wedyn – Manchester House CNE yn ddiweddarach – roedd Efan, ei gŵr, yn saer coed gyda nhad. Mabel Charles – Newcombe erbyn hyn – ddaeth wedyn tua dechrau’r 1960au. Roedd tipyn o fynd a dod yn y siop, yn arbennig o amgylch y stôf lo gast oedd ar ganol llawr y stafell ganol – yr un math o stôf a oedd yn y stafell fawr yn yr ysgol ac yn stafell biliards y neuadd hefyd – gelwid nhw yn tortoise stoves gan eu bod yn llosgi’n slow but sure. Yma roedd y papurau wal yn cael eu cadw ac roedd cownter pwrpasol â ffon fesur yn rhan ohono ar gyfer torri’r hyd angenrheidiol. Cofio plismyn y pentre – PC Davies (Tommy Farr) a PC Ken Evans – yn dod i mewn i dwymo wrth y stôf a chynnal pen rheswm; BD Rees, y prifathro, yn dod ar ôl oriau ysgol – yn rhoi ei fys bach yn ei glust ac yn rhoi eitha sigliad iddo. Nifer o drafaelwyr yn galw i gasglu archebion hefyd – yn eu plith Oswald Davies, arthwerthwr offer trydanol o Gaerfyrddin, yn ei got fawr hir a slowtsien ar ei ben yn fy atgoffa o sêr ffilmiau du a gwyn Hollywood. Roedd ‘bwco’ – hynny yw, nodi’r hyn a brynwyd mewn ledger mawr du – yn arfer gyffredin wrth siopa i’r cwsmeriaid rheolaidd. Mae ledger y 1960au gen i o hyd a chofiaf Mabel Charles yn sgrifennu biliau i bobl – bob mis rwy’n credu. Ymhlith y cwsmeriaid cofiaf am Miss Williams, tŷ Oakland – dynes fach, eiddil o gorff, mewn siwt two piece navy blue a het fach gron o’r un lliw ar ei phen – yn cario can dau alwyn i nôl paraffin. Deuai Colonel Norman Coates hefyd yn ei got law wedi ei chau â chorden binder a wellingtons am ei draed a golwg sarrug ar ei wyneb ar yr un perwyl. Roedd e wedi bod yn aelod seneddol yn Lloegr am ryw ychydig ond wedi bod yn fachgen drwg ac erbyn y 1960au yn byw fel meudwy ym Mhant-y-crug yn ymyl Llain. Gallwch ddarllen ei hanes yn Wikipedia. Cofiaf Caroline Bodafon, Dre-fach – un o deulu Llys Herber – yn dod mewn i’r siop gydag arddeliad, on a mission fel y dywedir, ac ym mynnu cael gair â JR, wnâi neb arall y tro. Roedd Dr a Mrs Selcon yn gwsmeriaid rheolaidd gan fod teulu ganddyn nhw yn Drefelin. A phan gyrhaeddai’r stoc llestri o warws Shufflebotham byddai Kezia Fowr a Kezia Fach, Glanbargod, am y cyntaf yn y siop i gael y dewis gorau. Os byddai dau o’r un math o lestr atyniadol yno byddai Kezia Fach yn siwr o ddweud, ‘Dewch â’r ddou i fi!’
Roedd tua hanner dwsin o weithwyr – masiyniaid, seiri coed a labrwyr – yn cyrraedd yr iard gefn tua 7.30am a nhad yno i drefnu gwaith y dydd – gwneud gwaith atgyweirio ar dai ac estyniadau/addasiadau yn bennaf ond hefyd yn codi tai newydd. Mam yn mynd allan weithiau - un bore gwlyb iawn mam yn cael ei chyfarch gan Defi John Masiwn, ‘Mae’n pysho lawr, Mrs Jones!’. Y gweithwyr rwy’n eu cofio oedd Dase Davies, Pwll-marl, masiwn, gyda Ieuan mab Hettie Hughes, Waungilwen, yn labrwr iddo; Defi John Phillips, Gilwen Tce., masiwn eto; y seiri coed – David Charles (tad Mabel Newcombe), Cwmhiraeth ac Efan Evans (Manchester House CNE wedyn). Hefyd Garfield, o Henllan rwy’n credu, a oedd wedi bod yn was yn Goetre cyn hynny yr un fath â Dase; Alun Roberts a ganai Arafa Don yn eisteddfodau’r fro, Wil Main, dros ei chwe troedfedd, o ardal Bryngwenith a Bert Vine, Waungilwen. Roedd dau gerbyd at eu gwasanaeth: fan gaeedig i gario gweithwyr a nwyddau glân a fan cefn agored i gario sment, tywod, etc. Gweithiai Dase ar foreau Sadwrn i ddanfon nwyddau oedd wedi eu prynu yn y siop yn ystod yr wythnos a byddwn wrth fy modd yn mynd gydag ef dros lonydd anwastad, yn aml i lefydd pellennig fel Pen-parc. A chael rhannu’r tocyn oedd ganddo yn y bocs bwyd ganol bore. Nid Tesco oedd y cyntaf i wneud deliveries! Unwaith y flwyddyn glanheuid y fan i gludo’r gweithwyr ar eu trip blynyddol i’r Sioe Amaethyddol Fawr.
Drws nesaf i Dre-coed roedd Teifi Cafe – Teifi House nawr – lle roedd Mr a Mrs Isaac a’i merch Marian yn byw. Roedden nhw’n cadw siop groser ac yn y cefn roedd popty gyferbyn â’n drws cefn ni a deuai arogl bara ffres oddi yno. Roedd Mr Ball, The Hall, wedi bod yn bobydd yno ar un cyfnod. Roedd Marian yn dipyn hŷn na fi, fe gymhwysodd yn fferyllydd gan agor fferyllfa ym Mhorth Tywyn wedi priodi. Nabyddodd fi rai blynyddoedd yn ôl mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin gan fy mod yn debyg i nhad. Ar ôl eu dyddiau nhw daeth Benji a Maud Jones. Maud oedd mam Marian, John a Georgina Vare. Rwy’n cofio fwy ohonyn nhw. Doedd dim pobi bara bellach ond âi Benji allan â fan i werthu bwydydd o dŷ i dŷ. Ar eu hôl nhw daeth Mr a Mrs Jones arall – wedi dod o Loegr roedden nhw ac fe symudon nhw i Ger-y-llan wedi ymddeol.
Gyferbyn ar y dde mae Manorafon. Dyma lle roedd John Lewis yn byw, - pêl-droediwr o fri – outside right chwimwth - a rheolwr banc nes ymlaen. Roeddwn i’n fach ar y pryd ac rwy’n cofio mwy o Mrs Dr Jenkins – Fanw, Square Hall – a ddaeth i fyw yno wedyn. Roedd hi’n drwm ei chlyw fel ei chwaer Mrs Fleming, a oedd yn byw yn Square Hall, a ddaeth i fyw ati yn ei blynyddoedd olaf. Felly roedd rhaid gweiddi. Sgotyn tal, tenau, syth ei gerddediad, yn gwisgo siaced frethyn, wasgod felen a thei goch oedd John Fleming a’r acen Sgotaidd yn dew ar ei leferydd o hyd. Mae’n debyg iddo gymryd drosodd yn ffatri Square Hall a phenderfynu fod y crysau gwlanen a gynhyrchwyd i weithwyr dur a glowyr De Cymru yn llawer rhy hir. Torrwyd y crysau’n fyrrach a rhai misoedd yn ddiweddarach roedd siopau dillad Morgannwg yn dychwelyd y crysau gan eu bod yn rhy fyr – wedi shrinco ar ôl eu golchi.
Ymlaen un drws i Islwyn. John Davies a’i chwaer, Hannah Jane oedd yno – roedd brodyr eraill yn y teulu hefyd, sef Rees, Alfred a Wil Vaynor. Roedd Johnny wastad ar ben rhewl â phibell yn ei geg. Y cof sy gen i yw cerdded gyda dat-cu i Ysgol Sul St Barnabas bob Sul – pawb yn gwybod bod y ddau ohonom yn perthyn gan fod troed dde’r ddau ohonom yn troi mewn ryw ychydig bach – a sylw Johnny gan ein bod yn mynd yn rheolaidd oedd, ‘Esgob fydd e, Tom Jones!’
Ochr chwith i’r hewl mae Llys Herber, tŷ diweddarach na’r gweddill yn y stryd. Nhad gododd y tŷ i Sam Evans a’i deulu. Roedd David, y mab, ‘Defi neu Dai Llys Herber’ neu ‘Defi Caffi – gan i’r teulu fod yn byw yn Teifi Cafe cyn y teulu Isaac – yn dioddef o barlys yr ymennydd ac yn annwyl iawn gan bawb. Roedd e’n pwyso ar y wal ffrynt pan fyddai’n braf yn cyfarch pawb a chyda’r hwyr byddai ei chwaer, Bessie, yn ei helpu i gerdded i Billiard Room y Neuadd lle roedd digon o gwmni a fe fyddai Defi’n cadw’r sgôr wrth i eraill chwarae snwcer. Bu Gordon a Nan Evans – Nan yn nith i Bessie a Defi – yn byw yma’n ddiweddarach. Erbyn hyn Garry a Lora Parsons (Lora Morris gynt o Waungilwen) a’r teulu sy’n byw yno a dangosodd Lora imi gynllun gwreiddiol y tŷ a wnaed gan nhad wedi’i fframio gan y teulu gwreiddiol – yno o hyd ar ôl yr holl flynyddoedd.
Ymlaen ar y chwith mae Erw-lon. Ainsleigh Evans a’i fam rwyn eu cofio yma. Roedd Ainsleigh yn gymeriad hoffus iawn. Roedd garej ceir ganddo drws nesa a phympiau petrol lle mae Erw Fach nawr. Roedd e hefyd wedi bod yn gwerthu ceir dros garej Evans Motors yng Nghaerfyrddin. Just y boi i wneud y gwaith. Gallaf ei ddychmygu’n mynd i werthu Rover i fferm yn Nyffryn Tywi – Ainsleigh yn ei siwt frethyn dridarn – botwm gwaelod y wasgod heb ei gau – y twsh dan ei drwyn wedi ei drimio’n ofalus – yn eistedd yn strategol yng nghegin y fferm yn union gyferbyn â gwraig y tŷ ac yn dal ei llygad bob tro y deuai perlau o’i enau! Roedd e yr un mor drwsiadus ar fore Sul a’i lyfr emynau dan ei gesail yn ei throedio hi i chwarae’r organ yn nghapel Bethel, Dre-fach.
Flynyddoedd yn ddiweddarach treuliais flwyddyn yn darllen llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ymchwilio ar gyfer gradd. Y drefn oedd sgrifennu enw’r llawysgrif y dymunwn ei darllen ar ffurflen a byddai un o weithwyr y Llyfrgell yn mynd i nôl hi o grombil y lle. Syrpreis! Syrpreis! Pwy gyrhaeddodd â’r llawysgrif dan ei gesail ond Ainsleigh Erw-lon. O werthu Rovers i ymgeleddu trysorau’r genedl!
Beth ych chi’n neud fan hyn, Ainsleigh?
Rwyn gwitho ma. Ges i interview a gofynnon nhw i fi pa lyfrau ro’n i’n hoffi a fe ddwedes i mae un llyfr oedd i fi.
O, ie. Beth yw hwnnw?
Y Beibl.........a fi gas y job.
Erbyn hyn roedd Ainsleigh wedi priodi ac yn byw yn Nyffryn Aeron ac roedd ei gwmni dyddiol yn donig. Roedd nifer o straeon!
Un tro roedd Ainsleigh wedi cael gwahoddiad i chwarae’r organ mewn cyngerdd cysegredig yn eglwys Aberaeron. Roedd unawdydd gwâdd yn y cyngerdd hefyd. Ffoniodd yr unawdydd i drafod gydag Ainsleigh y caneuon roedd e’n bwriadu eu canu.
’Machgen bach i’, meddai Ainsleigh, ‘Byddwch chi’n canu beth rw i’n gallu whare.’
Roedd na ddarlithydd un o adrannau Cymraeg y Brifysgol yn treulio ei wyliau haf yn flynyddol yn gwneud gwaith ymchwil yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe gadwai hwn Ainsleigh yn brysur iawn yn carto llawysgrifau iddo – a’r un rhai yn flynyddol drosodd a thro. Un diwrnod, Ainsleigh yn aros wrth fy ochr â llawysgrif fach maint dyddiadur poced yn ei law – ar ei ffordd at y gŵr bonheddig ac yn dweud yn fy nghlust,
‘Os collith y Llyfrgell y llawysgrif ma, mae’r boi na draw fan na yn gwbod hi ar ei gof!’
Dychwelodd Ainsleigh gyda’i ail wraig i fyw yn Erw-lon.Yr hyn a gofiaf am yr amser hwnnw yw’r ail Mrs Evans bob haf yn peintio’r iet haearn o flaen y tŷ. Brown oedd yr iet ond roedd addurniadau bach mewn haearn drosti fel mes a dail – ac roedd brwsh bach gan Mrs Evans i beintio’r rhain mewn lliwiau amrywiol. Ar ôl eu dyddiau nhw prynwyd y tŷ gan Vivian a Megan Lodwig a symudon nhw yno o Gwmhiraeth.
Gyferbyn ag Erw-lon ochr dde y stryd mae’r Garth lle roedd Johnny Lewis, Cambrian Mills yn byw. Dyn cyfoethog yn ôl safonau’r ardal, wedi ei wisgo mewn du, yn feistr digon llym yn y ffatri, yn byw yn gynnil, yn cwyno na allai fforddio hyn a’r llall, ond eto yn gallu bod yn garedig i rai oedd gwir angen cefnogaeth. Rhoddodd swm sylweddol o arian er mwyn codi neuadd newydd yn y pentre. Prin gof sy gen i ohono ond rwyn cofio Mrs Lewis yn iawn, yr ail Mrs Lewis. Roedd Hannah Mary Campden, Pentrecagal yn ei chynorthwyo yn y tŷ. Gwerthodd Mrs Lewis y tŷ a symud i Gaerdydd. A daeth Hannah Mary i helpu mam yn y tŷ ac yn yr ardd yn Nhre-coed. Bu teulu Sam Evans, Llysherber, yn byw yma am gyfnod wedi gadael Teifi Cafe tra bo eu tŷ newydd yn cael ei adeiladu.
Drws nesaf i Erw-lon roedd y garej geir a phympiau petrol gynt ond erbyn hyn codwyd tŷ yno gan Megan Lodwig – Erw Fach – a bu hi’n byw yno. Wedyn daw Neuadd-wen lle roedd David a Ceinwen Evans yn byw. Cigydd oedd Defi/Dai Danwarin ac roedd siop gigydd yn rhan o’r tŷ. Roedd graen bwtsiwr ar Defi - wyneb, corff a dwylo llawn a thew. Roedd yna dri cigydd yn cystadlu â’i gilydd yn y 1940au – Dai Danwarin, Ben Rogo a Rees Goetre! Yn ddiweddarach daeth Mrs Brynmor Williams, Magi Danwarin, chwaer Defi, i fyw yno. Erbyn hynny roedd Ceinwen Evans wedi marw a Magi wedi colli ei gŵr, Brynmor, hefyd. Roedd Mrs Brynmor yn dipyn o gymeriad, yn gynghorydd lleol, yn organydd yn eglwys St Barnabas, yn biler y W.I., ac yn ohebydd lleol i’r Carmarthen Journal. Rwy’n cofio cael galwad ffôn ganddi un noson yn gofyn imi ddod ar unwaith. Wedi cyrraedd gweld fod Norah Isaac yno a dim golwg dda o gwbl arni. Er ei hanabledd roedd Norah yn wydn a phenderfynol iawn ac roedd hi’n galw’n aml gyda Magi. Beth bynnag fe garies i Norah i’r llofft am y nos. Galw wedyn y bore canlynol i gynnig help – roedd Norah wedi mynd!
Drws nesaf i Neuadd-wen mae Ty Llynfi neu Boot Stores fydden ni’n ei alw pry’nny. B D a Nellie Rees a’u bechgyn, Gerallt ac Emyr, oedd yn byw yno. Athro oedd B D Rees, wedi dysgu mewn nifer o ysgolion cynradd y cylch ac wedi olynu Mr Powell fel prifathro Ysgol Penboyr. Roedd B D yn warden yn eglwys St Llawddog ac roedd diddordeb ganddo mewn cadw gwenyn. Roedd y siop sgidiau yn rhan o’r tŷ dan ofal Mrs Rees. Byddai Mrs Rees yn dod yn aml i Dre-coed am sgwrs â mam – yn sydyn byddai cloch yn canu yn ei phoced a byddai’n codi’n sydyn a rhuthro allan trwy’r drws – roedd cacen yn y ffwrn a rhaid mynd ar unwaith. Rwy’n credu ei bod hi o ardal Maesteg fel yr awgryma enw’r tŷ ac roedd dau frawd ganddi, Defi a Willie Hughes, yn cadw siop sgidiau yn Stryd y Brenin, Caerfyrddin. Symudodd Defi yn ddiweddarach i gadw siop sgidiau yn Llan-rwst. Roedd Mrs Hughes, mam Nellie, yno hefyd – Gramma i Gerallt ac Emyr a dw i ddim yn credu ei bod yn gweld yn dda iawn wrth iddi geisio osgoi’r teganau fyddai Gerallt a fi’n chwarae â nhw ar lawr y y siop.
Aeth Gerallt i’r Coleg Normal ym Mangor, wedyn i ddysgu i Coventry lle cwrddodd â’i wraig, Louise, cyn symud i Sir Benfro lle bu’n brifathro uchel iawn ei barch ar ysgol gynradd yn Hwlffordd. Roedd e’n gaffaeliad mawr i eglwys St Llawddog hefyd lle bu’n warden gweithgar yn ei flynyddoedd olaf. Bu farw yn llawer iawn rhy gynnar. Roedd Emyr yn dipyn ifancach na fi ond rwy’n cofio cyfnod pan fuom yn gyfeillion mawr – roeddwn i yn 11oed a gartref o’r ysgol am gyfnod estynedig gan fy mod wedi cael llawdriniaeth pendics ac roedd yntau heb ddechrau’r ysgol. Mae Emyr yn dal i fyw yn Nhŷ Llynfi.
Y tŷ nesaf yw Central Stores lle roedd Albert a Mary Evans yn byw ynghyd â’i mab, Alun a’i wraig, Linda ac Eirlys ei merch. Roedd siop groser yno – roedd Albert yn gerddor dawnus ac mae ei hanes wedi ei sgrifennu yn y Stori Fawr; y ddwy Mrs Evans oedd yn y siop yn bennaf ac roedd Alun yn athro ysgol. Roedd Eirlys yn yr un flwyddyn â fi yn Ysgol Penboyr ac rwy’n cofio bod Alun, ei thad, yn athro arnaf yno am ryw gymaint.
Ochr arall yr hewl roedd y Neuadd y Ddraig Goch gyntaf – ceir ei hanes yn y Stori Fawr. Billiard Room oedd yn ffrynt yr adeilad er mai snwcer fyddai’n cael ei chwarae yn bennaf. Cyfyng oedd fy ngallu snwceraidd ond ro’n i’n dod i ben ac roedd gennyf giw personol mewn casyn ar y wal – ciw a enillwyd gan Rees, Goetre, mewn raffl yn y neuadd. Roedd gennym ni, fechgyn ifanc, ryw barchedig ofn o’r sanhedrin a eisteddai mewn cadeiriau esmwyth o gwmpas y stôf lo ond wedi dweud hynny roedd pawb yn garedig iawn a’r hen a’r ifanc blith drafflith drwy ei gilydd. Roedd Marged Evans, yr ofalwraig, yn eistedd yn un o’r cadeiriau a bocs crisps wrth ei hochr – prynu pecyn wedyn ac agor y cynhwysydd halen glas tywyll a thwist ar ei dop. Roedd hi’n gymdeithas egalitaraidd iawn ond gwae unrhyw grwt fyddai’n camfihafio achos ceid gair o gerydd gan Wil Vaynor neu rywun. Roedd y comopo hwn yn ysgol brofiad bwysig i nifer ac felly roedd yn lle delfrydol fel canolfan i’r bechgyn ifanc fynd iddi yn hytrach na bod ar gornel stryd. Roedd y brif neuadd y tu ôl i’r Billiard Room ac rwy’n cofio mynd yno i’r pictures gyda Rees, Goetre. Roedd Rees yn mynd yn rheolaidd bob wythnos tan iddo gael teledu yn Goetre (y set gyntaf yn yr ardal falle) a fuodd e byth yn pictures y neuadd wedyn! Rwy’n cofio perfformio mewn cyngherddau a phantomeimiau a gynhyrchwyd gan Maldwyn Williams, ffatri Dyffryn, a’i wraig. Cofio chwarae Cupid – wedi fy ngwisgo mewn dillad lliw arian, a’r unig beth oedd angen imi wneud oedd pwyso ar blinth lliw arian a bwa a saeth yn fy llaw tra canai rhywun gân serch.
Bob hyn a hyn deuai Al Roberts a Dorothy i gynnal noswaith o gonsurio a gwneud rhyfeddodau. Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n rhyfedd bod Al yn gwerthu tocynnau i’r noson yn y twll-gwerthu-tocynnau yng nghornel y Billiard Room a Dorothy wedyn yn derbyn y tocynnau gennym wrth fynd trwy ddrws y Neuadd! – pam na fydden nhw jest yn derbyn yr arian yn y drws wrth fynd i mewn? Cofio Dorothy yn gorwedd ar ford heb goesau iddi - pawb yn clapo. Al wedyn yn dweud ‘Dyna dric da!’ Roedd Eifion Pen-sarn a Bernard Ty’r-lôn yn eu harddegau cynnar yn helpu Al y tu cefn i’r llwyfan yn ystod y perfformiad. Pan ddwedai Dorothy ‘curtains’ gwaith Eifion oedd agor neu gau’r llenni; gwaith Bernard oedd helpu gyda’r props. Beth bynnag, dychmygwch y llenni’n agor a phâr o dumbbells ar ganol y llwyfan; Al yn dod mewn yn ei ddillad codi pwysau a chyda thipyn o seremoni yn cydio yn y dumbbells ac yn chwys domen yn llwyddo eu codi uwch ei ben; y dumbbells wedyn yn disgyn yn glep ar y llwyfan, Dorothy yn dweud ‘curtains’, Eifion yn dechrau cau’r llenni, rhywun yn gweiddi o’r gynulleidfa ‘stop’, Eifion yn ei wylltineb yn stopio a’r cyfan welai’r gynulleidfa oedd Bernard yn rhedeg ar y llwyfan, yn cydio yn y dumbbells a rhedeg bant yr ochr arall. Bonllefau o gymeradwyaeth!
Drws nesaf mae Camwy, cartref Frances Evans a Gwyneth, ei chwaer, cyn iddyn nhw godi cartref newydd ‘Y Bwthyn’ yn nes at Waungilwen. Roedd Frances yn athrawes yn Ysgol Brynsaron a Gwyneth wedi treulio blynyddoedd yn gweithio yn swyddfeydd post yr ardal gan gynnwys Felindre cyn mynd yn swyddog gweinyddol yn Ysgol Fodern Henllan ac Ysgol Fodern Emlyn wedyn.
I’r tŷ hwn y dychwelodd John Davies y Bwcs o Batagonia ddechrau’r ugeinfed ganrif. John a Jean Anthony ddaeth i Gamwy ar eu hôl nhw – roedd John yn rhentu garej Erw-lon (lle mae Erw-fach nawr) ac yn ddiweddarach prynodd yr hen neuadd ac agor garej yno. Gan John y prynais fy ngherbyd cyntaf – fan Morris Minor las – am £50. Roedd hi’n mynd yn iawn ond stico yn reverse weithiau – roedd rhaid cario sgriwdrifer mawr, dadsgriwio top y gerbocs ochr chwith sedd y gyrrwr, gwthio’r gêr nôl i’w le, ailsgriwio a bant â ni.
Drws nesaf mae Gwalia – tŷ byw oedd e yn y 1950au, cartref merched John Jones a gadwai siop yno yn gwerthu dodrefn a phethau i’r tŷ ddechrau’r ugeinfed ganrif. Elsie, un o ferched John Jones, oedd yn byw yno yn y 1950au.
Drws nesaf wedyn roedd The Nook, tŷ cul wedi ei godi o sinc yn nhalcen Gwalia gan Curtis Yeomans. Roedd Yeomans wedi dod o Loegr i weithio yn Llysnewydd, wedi ymsefydlu yn yr ardal ac wedi bwrw i waith y gymdogaeth. Roedd yn aelod o’r Cyngor Plwyf ac yn cynrychioli’r cyngor hwnnw ar Fwrdd Rheoli ysgol y pentre. Rwy’n credu i’w wraig gyntaf farw’n ifanc ac wedyn iddo briodi’r eilwaith a byw yng Nghil-graig, Cwm-pen-graig a siwr o fod dyna pryd y dechreuodd fynychu Eglwys St Llawddog. Lissie, chwaer Elsie Gwalia, oedd ei drydedd gwraig yn The Nook. Buodd yn rhyw fath o swyddog cyswllt rhwng y gymuned a’r milwyr a letyai’n lleol amser yr Ail Ryfel Byd – tybed ai dyna ffynhonnell y deunyddiau ar gyfer codi The Nook. Roedd Yeomans, fel y’i hadnabyddid, wedi meistroli’r Gymraeg i raddau helaeth er bod ambell stori smala ynghylch hynny – rhywbeth fel hyn - Yeomans yn dweud wrth wraig leol ei fod am weld ei gŵr, ‘Dere i fi ga’l gweld dy dyn di’.
Wedyn mae rhif 2 Glyn-coed lle roedd Gertie Freeman (chwaer Tom Morgan, Dancapel) a’i merch Vivienne yn byw. Roedd Mrs Freeman yn cynorthwyo Mrs Griffiths y Cwc yng nghegin yr ysgol ac roedd Vivienne yn yr un dosbarth â fi. Roedd Banc Natwest yn llogi stafell gan Mrs Freeman am fore’r wythnos i wasanaethu eu cwsmeriaid lleol.
Rhif 1 Glyn-coed yw’r nesaf ac roedd Wendel Davies y gof a’i wraig Enid yn byw yno a’i merch Verona. Wendel wnaeth weldo fy meic annwyl iawn ar ôl iddo wahanu’n ddau ddarn gan barha am flynyddoedd maith ar ôl hynny. Yma y bu Elisabeth Lewis flynyddoedd ynghynt – elwodd Capel Clos-y-graig o’i haelioni a rhoddodd £180 i’r ysgol yn 1943 i waddoli gwobr flynyddol am draethawd ar hanes Cymru neu hanes cymdeithasol gan y disgyblion hŷn. Priododd hi ag un o athrawon Coleg Aberystwyth ac mae wedi ei chladdu yn Llangurig.
Ar y cornel ar Sgwâr y Gât roedd swyddfa bost y pentre gynt. Symudwyd y swyddfa i Dŷ’r Lôn yn y 1950au a daeth Mrs Lote a’i bechgyn Gilbert a Vivian i fyw i’r hen swyddfa bost yn 1953 a’i enw bellach yw The Beeches. Merch y Gwendraeth, Dre-fach oedd Mrs Lote. Roeddwn yn yr un dosbarth â Viv yn Ysgol Pen-boyr ac yn chwarae gyda’n gilydd hyd a lled y pentre a deuthum i nabod Gilbert yn ddiweddarach gan fod y ddau ohonom yn y coleg yn Aberystwyth yr un pryd. Roedd Banc Lloyds yn llogi stafell gan Mrs Lote am fore’r wythnos.
Gyferbyn y tu ôl i glawdd uchel mae Felindre House a fu’n gartref i gurad Plwyf Penboyr un amser ond ganol yr ugeinfed ganrif John ac Aja Francis a’i mab Ieuan oedd yn byw yno. Roedd Edith Owen, chwaer Aja, yno hefyd mewn rhan o’r tŷ gyda’i gŵr, Brinley a oedd yn geiropractor - roedd plac pres ganddo yn cyhoeddi hynny wrth ymyl yr iet fach gyferbyn â’r fynwent. Bu brawd arall yno hefyd sef Josiah Morgan cyn iddo symud i Bengallt uwchben Aber-banc. Cofiaf y teulu’n arwain gwartheg ar draws Sgwâr y Gât o’r caeau yn Waungilwen – allech chi ddim gwneud hynny’n hawdd iawn heddiw. Wedi priodi ag Olive symudodd Ieuan i ffermio Dandinas.
Ar Sgwâr y Gât – lle bu Merched Beca yn ymosod ar y tolldy yn 1843 – mae Eglwys Sant Barnabas a dyma lle roedd ein teulu ni’n aelodau. Y Parch Sam Evans oedd rheithor Plwyf Penboyr pan oeddwn blentyn. Brodor o’r Coubal ger Cei Newydd oedd e wedi graddio o Goleg Llambed ac yn pwysleisio y dylai pawb gwerth eu halen astudio’r clasuron, neu ‘classics, classics, classics’ fel y dwedai. Roedd hi’n gyffredin i fynd deirgwaith y Sul – Gwasanaeth Cymun neu Foreol Weddi, Ysgol Sul y prynhawn yn yr ysgol lle roedd Mrs Evans y Rheithordy yn athrawes, a Hwyrol Weddi. Roedd cloch yr eglwys yn cael ei chanu hanner awr cyn dechrau gwasanaethau – ‘gloch gynta’ – ac wedyn eto pan ddechreuai’r gwasanaeth. Roedd Sam Evans yn pregethu gydag arddeliad – deugain munud weithiau. Roedd yn mynd i berlewyg, chwys yn byrlymu o’i dalcen a ffroth yn tasgu o’i geg dros Viv a fi yn eistedd yn y côr blaen. Bob hyn a hyn byddai’n cymryd anadl ddofn fel pe bai’n colli ei anadl a gêm Viv a finnau oedd gweld pa un ohonom fyddai’n gyntaf i ddweud ‘Amen’ yn ystod yr anadl fawr honno. Un o bleserau mynd i St Barnabas oedd mynd yn gynnar cyn y gwasanaeth er mwyn clywed Leslie Baker Jones ar yr organ. Awn i St Llawddog hefyd gan fod mam yn organydd yno. Cymraeg oedd iaith y gwasanaethau ar wahân i un Hwyrol Weddi y mis yn Saesneg yn St Barnabas ac mae cof gen i fod gwraig gyntaf Wil Pen-lôn a’i thad yn mynychu’r gwasanaeth hwnnw. Roeddem yn paratoi at Ŵyl Calan Hen yn eglwys Llandysul bob Ionawr, Cymanfa Ganu’r Llungwyn yn eglwys Castellnewydd Emlyn a Gŵyl Ddirwestol Deoniaeth Emlyn mewn gwahanol eglwysi yn flynyddol. Roedd trip yr Ysgol Sul a’r parti Nadolig yn rhan bwysig o’r flwyddyn a chynnal eisteddfod a chyngerdd neu ddrama hefyd.
Dros wal y fynwent mae Ysgol Penboyr. Y cof cyntaf sydd gen i yw bod yn stafell y plant lleiaf – ‘yr Infants’ – a Mr Powell, y prifathro, wrth ddrws y stafell. Weles mono fe wedyn – dyna’r adeg wnaeth e ymddeol, debyg. Rwy’n cofio rhedeg i’r ysgol – doedd dim pell gen i fynd – gyda chylch a bachyn wedi ei wneud gan Wendel y Gof wrth fy ochr a chwarae â hwnnw yn ystod y dydd hefyd. Cofio bwyta panas disgyblion eraill i’w helpu i gael platiau glân. Ro’n ni’n gwneud lot o syms yn y bore ac mae cof gen i am wers natur gan B D Rees lle roedd e’n gwneud deiagramau o blanhigion ar y bwrdd du mewn sialc o wahanol liwiau wrth i’r wers fynd yn ei blaen. Cofio sgrifennu traethawd dan amodau arholiad ar gyfer Gwobr Elisabeth Lewis ac ennill – gwaredu erbyn hyn nid yn unig am imi sgrifennu yn Saesneg ond am imi ganu clodydd Syr Thomas Picton! O ddyddiau diniwed! Cofio hefyd am yr artaith i rai o’m cyd-ddisgyblion wrth baratoi at y 11+ ac rwyn cynnwys B D Rees ei hun yn yr artaith honno. Diolch byth i’r drefn honno ddod i ben. Cofio eistedd arholiad y scholarship yn y gampfa yn Ysgol Ramadeg Llandysul a phrynu satchel ledr olau yn barod i fynd. Yng Ngŵyl Calan Hen y flwyddyn honno – Ionawr 1956 -roeddwn wedi llewygu gyda phoen yn fy ochr yng nghangell eglwys Llandysul wrth i aelodau Ysgol Sul St Barnabas fynd trwy’u gwaith. Galwodd rhywun i weld sut roeddwn i ac o dipyn i beth gofynnodd i nhad a mam a fyddai diddordeb ganddyn nhw fy ngweld yn mynd i Goleg Llanymddyfri. Roeddwn i’n teimlo’n eitha cyffrous ynghylch y syniad. Nhad a mam mewn cyfyng gyngor - ar yr un llaw byddai’n gyfle i fi, fel unig blentyn, gael hoe oddi wrth yr holl hen bobl a oedd yn ein teulu estynedig ni – ar y llaw arall roedd rhywun wedi dweud wrthyn nhw nad oedd y bechgyn yn y Coleg yn cael plat bach i ddala eu bara menyn amser bwyd – roedd rhaid ei roi ar y ford!!! I dorri stori’n fyr mynd wnes i ryw brynhawn Gwener ym Medi’r flwyddyn honno a dau ddiwrnod wedyn dychwelodd y poen yn fy ochr a bant â fi mewn ambiwlans i Ysbyty Heol y Prior, Caerfyrddin i dynnu fy mhendics.
‘Pentre Lindre’ galwai dat-cu Goetre y stryd dai o Lain-ffald i’r Rheithordy sy’n arwydd mai dyma’r hen bentre gwreiddiol. Ond dw i ddim am fynd y ffordd na. Dewch gyda fi i’r dde o’r eglwys lan Rhiw Couon. Does dim llawer ohonon ni’n arddel yr enw na erbyn hyn. Ar y chwith mynwent St Barnabas ac ar y dde roedd gardd Maesyberllan. Yno erbyn hyn mae dau dŷ – 1 a 2 Colville Place. Nesaf ar y dde roedd Dan-rhiw Fach lle roedd Mari Morgan a’i meibion Les a John yn byw. Un mis Tachwedd a minnau ar gefn Browni’r poni yn mynd lan y rhiw gollyngodd John fanger – tân gwyllt – y tu ôl inni. Er yn hen aeth Browni lan ar ei draed ôl a bant ag e – trwy drugaredd ro’n i ar ei gefn o hyd. Yn ôl Eifion Pen-sarn roedd bangers John Mari’n fwy swnllyd na’r cyffredin - ‘little demons’ oedd eu henw.
Nesaf mae Dan-rhiw lle roedd John a Maggie Davies yn byw a Jennie, chwaer Maggie hefyd. Merched Abraham a Jane James, Dan-rhiw, oedd Maggie a Jennie. Roedd brawd iddyn nhw, Willie, yn byw yn Llandyfri gyferbyn â phrif fynedfa’r Coleg. Roedd y ddwy chwaer bob amser yn serchog; Maggie â sbectol gryf ac yn tueddi edrych drosti wrth edrych ymhell; roedd hi’n gweithio yn Cambrian; roedd Jennie yn gweithio yn yr ysbyty yn Aberystwyth, yn dod adre’n rheolaidd ac roedd hi’n hoffi mwgyn bach os cofiaf yn iawn. Erbyn hyn mae dau fyngalo wedi eu codi ochr chwith i’r hewl yng ngardd Dan-rhiw gynt. Llan Rhiw yw enw un ohonyn nhw.
Lan y rhiw wedyn – Parc-y-lan yw enw’r cae ar y fron ar y chwith, un o gaeau Goetre. ‘Cae’ ryn ni’n ddweud yn yr ardal hon, felly mae’n rhyfedd mai ‘parc’ sydd yn enwau’r caeau. Nes i fyny wedyn ar dro mae teras o dri thŷ – Penrhiwcouon uchaf, canol ac isaf oedden nhw gynt – neu tŷ isha, tŷ canol a thŷ ucha i breswylwyr y cornelyn bach hwn. Mae teras o dai o’r enw Penrhiwcouon i gael hefyd ar y rhiw wedi mynd heibio mynwent tref Caerfyrddin tuag at Ffynnon-ddrain. Tybed a ydy’r bobl leol yno yn cyfeirio at y rhiw fel Rhiw Couon?
Hannah Davies oedd yn byw yn ‘tŷ isha’ – pawb yn ei nabod gan iddi fod yn ofalydd yr ysgol – roedd dwy ferch ganddi, Mabel a Rayfiona. Priododd Mabel yn lleol ac aeth Rayfiona i goleg hyfforddi athrawon ac rwy’n ei chofio yn eistedd ym Mharc-ŵyn-bach, y cae rhwng Goetre Uchaf a Goetre Isaf, yn darllen – swato ar gyfer arholiadau?
Yn ‘tŷ canol’ roedd Joseff a Frances Jones a’u plant Jim, Sally a Lilian yn byw; roedd brawd arall, Dai, wedi priodi a gadael y cartre. Roedd Joseff yn helpu fy nhad-cu ar y cynhaeaf a phan fyddai fy modryb yn mynd â the i’r gweithwyr yn y cae llafur, er enghraifft, - brechdanau, cacen ffrwythau a the mewn stên – byddai rhaid cwato’r gacen achos byddai Joseff yn bwyta’r cêc gynta - heb adael digon i’r lleill. Bu Joseff farw o ganser pan oeddwn i’n fach a chofiaf glywed mai bwyta bara gwyn oedd yn gyfrifol er na ddeallwn yr ymresymu hwnnw ar y pryd! Gwraig fach eiddil, llwyd ei gwedd oedd Frances gyda sbectol NHS gron ar flaen ei thrwyn yn chwerthin wrthi hi ei hun wrth gerdded igam ogam â stên fach wen yn ei llaw i nôl llaeth o Goetre. Anti Jones oedd hi i fi. Roedd brest dynn iawn gan Jim o ganlyniad i weithio mewn lleoedd llaith gyda chwmnïau peirianyddol, debyg. Roedd fan y cwmni ganddo i fynd a dod ac roedd yn ei pharcio ar glos Goetre. Roedd e’n gallu bod yn ddigon llym ei dafod fel ei chwaer, Lilian, - hithau wedi bod yn gweithio yn Ffatri Cambrian ar hyd ei hoes. Roedd Sally yn berson mwyn a thawel a gweithiai gartre yn gwnïo i bobl a gofalu am ei mam. Treuliais lawer iawn o amser gyda nhw – ro’n nhw’n garedig iawn. Weithiau ar nos Fercher byddwn yn mynd yno i swper – macrel a bara menyn – macrel yr un i Anti Jones, Sally, Lilian a fi a dau i Jim.
Yn ‘tŷ ucha’ roedd Alun a Julia Lewis a’u dau fachgen, John a Lionel yn byw. Fe symudon nhw i fyw i Heol Glan-nant yng Nghaerfyrddin tua chanol y 1950au. Dw i ddim wedi gweld John ers blynyddoedd ac er iddo adael Felindre yn ifanc mae cof enseiclopedaidd ganddo am y pentre ac os byth welith e’r geiriau hyn rwy’n siwr y gallai ychwanegu llawer atyn nhw. Prynodd fy modryb a’m hewythr y tŷ, ei adnewyddu a’i rentu – ailenwyd ef yn Barc-y-lan ar ôl y cae gyferbyn a byddai’n barod iddyn nhw symud iddo ar ôl ymddeol. Bu nifer o bobl yn byw yno cyn i’m modryb ac ewythr symud yno ddechrau’r 1980au – yn eu plith, Wil Main, George a Hilda Evans Parcysty gynt, Efan a Rita Evans, a David a Mabel Newcombe.
Gyda thalcen ‘tŷ isha’ mae pen lôn Goetre Uchaf ac ymhen canllath ar hyd y lôn roedd bwthyn bach, – Goetre Fach – cadw tato a bwydydd y ffarm roedd e yn fy nyddiau i ond roedd teulu’n byw yno ddechrau’r ugeinfed ganrif – yno y magwyd David George a fu’n byw yn ddiweddarach ym Mrynmeiros. Dymchwelwyd Goetre Fach yn ddiweddar gan ei fod yn anniogel. Lan i’r Goetre wedyn - dyma lle cafodd mam ei chodi ac yn byw yno roedd dat-cu, Esau Evans a Hannah, chwaer mam a’i gŵr, Rees, un o blant Pen-bont, Dre-fach. Nanna a Îsh oedden nhw i fi ac roedd Goetre yn ail gartref imi. Gŵr byr corffog gyda phen llawn o wallt oedd dat-cu gyda chylch fel modrwy ar flaen ei drwyn lle roedd ceffyl wedi ei gnoi pan oedd yn ifanc. Roedd yn dipyn o fabolgampwr yn ei ieuenctid gan chwarae i dîm hoci Bargod Rangers a gwneud y naid â pholyn ar ddôl Llysnewydd. Am ei wrhydri cafodd ddodrefnyn, bookcase, gan Colonel Lewes, sydd gennym ni o hyd. Roedd e’n ddall oherwydd cataractau yn ei 90au a barn y doctor oedd peidio â mentro ar lawdriniaeth gan y byddai angen iddo orwedd yn llonydd am wythnos a gallai hynny ddod â phroblemau eraill. Mewn ac allan o’r ysbyty mewn dwyawr yw hi nawr! Beth bynnag ar ôl imi gael fy nhrwydded yrru byddai’r ddau ohonom yn mynd yn y car ac yn galw weithiau yn y Red Cow, Adpar neu bryd arall yn Nhafarn Brynhoffnant – nôl ‘glased’ iddo wedyn mas i’r car. Cyrraedd gartre ac yntau’n dweud wrth Nanna inni fod yn Aberporth! Dathlodd ei ben-blwydd yn 100oed yn 1970 a chafwyd cyngerdd yn Neuadd y Ddraig Goch i ddathlu’r achlysur. Lluniodd plant yr ysgol sgrôl a’u llofnodion nhw i gyd arni ac mae hi wedi ei fframio gennym yn y tŷ. Roedd Nanna wedi bod gartre ar y ffarm erioed ar ôl iddi fod rywfaint yn yr Ysgol Ramadeg ym Mhencader a bu ar gwrs trin llaeth yn y coleg yn Aberystwyth hefyd. Roedd hi’n fawr ei gofal o dat-cu ac yn ail fam ryfeddol i fi. Roedd Rees yn garedig iawn imi hefyd er ei fod yn fwy gwyllt ac yn dipyn o gymeriad. Bu’n gweithio dan ddaear yn Ferndale, y Rhondda Fach, am ryw gymaint cyn dychwelyd a dechrau bwtsiera fel y dwedai. Ar ôl iddo briodi a dod i’r Goetre codwyd sied frics yn ymyl y tŷ a bu’n bwtsiera yno am ychydig. Cafodd y sied ei henwi’n Dŷ Cig – mae’n dal yma a Thŷ Cig yw ei henw o hyd er na welodd ddarn o gig ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd e’n smoco ers ei fod yn naw oed, meddai fe, ac ar ôl i deledu ddod i’r tŷ roedd e’n gwylio pob rhaglen beth bynnag y cynnwys - wrth gwrs nid oedd dewis y pryd hwnnw – un sianel oedd ‘na! Galla i ond dychmygu’r sylwadau fyddai ganddo am y dewis presennol!
Fferm 70 erw yn godro rhyw 15 neu fwy o wartheg oedd Goetre y pryd hwnnw. Roedd y tai mas ar ddwy ochr i’r clos o flaen y tŷ; ochr Goetre Isaf roedd sied i’r lloi, dau dwlc a garej amlbwrpas gan gynnwys tanc TVO i’r tractor – ac ochr Penrhiwcouon roedd y gegin fach â simne lwfyr – cofio nhw’n berwi dŵr yma mewn padell bres pan yn lladd mochyn a mynydd o lo mond yn y cornel yn barod i’w gymysgu â chlai i wneud peli glo. Mae’n debyg bod fy hen famgu yn byw fan hyn. Nesaf roedd y sgubor gyda pheiriant torri mangles ar ganol y llawr yn eich wynebu wrth y drws a llofft ar gyfer sychu llafur. Wedyn beudy mawr i ryw ddwsin neu fwy o wartheg gyda pheiriant godro Manus, stabal i’r hen geffyl gwedd, Pwnsh, a beudy bach ar y pen i bedair o wartheg godro. Yn y beudy bach bu chwaraewyr Bargod Rangers yn molchi ar ôl gêmau ar Ddôl Llysnewydd – roedd Eifion yn cofio helpu Rees i gario dau fwcedaid o ddŵr twym o’r tŷ - un bwcedaid ar gyfer rhan ucha’r corff a’r llall ar gyfer y coesau! Islaw’r beudy roedd y ddomen a sied ffowls bren – sied Bargod Rangers fel y dwedai Rees. Chofia i mo’r stori’n iawn ond roedd rhyw fusnes wedi bod yn ymwneud â sied ffowls a Bargod Rangers ac roedd Rees wedi prynu’r sied er mwyn dod â’r helynt i ben. Ochr arall i’r adeiladau yma roedd yr ydlan gyda sied wair sylweddol a pherllan hefyd ochr isaf y sied. Erbyn y 1950au unig waith Pwnsh, y ceffyl, yn ystod y flwyddyn oedd tynnu’r pitcher i godi’r gwair o’r trailer mewn i’r sied. Roedd tractor Fordson yma erbyn hynny i wneud y gwaith aredig.
Fel plant bydden ni’n chwarae yn y sied wair. Cofio adeiladu den yng nghanol y bêls gwair – plethu brigau coed ysgafn fel to a’i orchuddio â gwair rhydd – un tro daeth Ifan Pantybarcud i ofyn am bêl o wair ac anfonwyd ef i’w nôl o’r sied. Aeth Ifan lawr trwy do’r den wrth ddringo i nôl bêl – trwy drugaredd ni chafodd niwed.
Roedd hyn i gyd yn ddigon i gadw Nanna, Rees, gwas a morwyn yn brysur. Y gweision rwyn eu cofio oedd Garfield a briododd Leusa Llain, Dase Pwllmarl, - y ddau wedi gweithio i nhad yn ddiweddarach, - Moelwyn Freeman, Iwan Ffynnondudur a Ronald o Ffostrasol (Montana i’w gyfeillion). Rwy’n credu bod gweision ddechrau’r ugeinfed ganrif yn cysgu yn y llofft stabal ond cofiaf fod Iwan a Ronald yn cysgu yn y tŷ, - Ronald mas yn hwyr y nos ac yn gallu cwmpo i gysgu wrth drasho cloddiau yn ystod y dydd. Roedd Beti Ffynnon-fach - Beti Jones, Llwyn-onn, Waungilwen erbyn hyn - yn helpu Nanna yn y tŷ. Roedd Beti’n mynd at mam yn Nhre-coed hefyd a bu hi’n fy magu innau. Mae llun gen i o dat-cu, Beti a fi ar y traeth yng Nghei Newydd – wedi mynd am ddiwrnod ar y bws siŵr o fod.
Parc-ŵyn-bach a Pharc-ŵyn-mawr yw’r ddau gae ar ochr Goetre Isaf i’r clos. O fynd heibio iddyn nhw a thalcen tŷ Goetre down allan eto i hewl Cwmhiraeth ym Mhistyll Goetre – pistyll gan fod dŵr yn rhedeg bron iawn trwy’r flwyddyn o’r cae uwchlaw’r hewl, sef Parcypistyll. Ym mhen uchaf Parcypistyll mae ffynnon gyda’r dŵr yn llifo drwy biben i’r Goetre. Piben blwm oedd hi yn yr hen ddyddiau a dyna pam y daeth Dr Jenkins i’r casgliad mai lead poisoning oedd achos y cryndod drwg oedd ar dat-cu, ac ar aelodau eraill o’r teulu hefyd. Deiagnosis simsan! Newidiodd Rees a Dase y biben am un alcathene ddiwedd y 1940au. Bu Bargod Rangers yn chwarae ryw gymaint ym Mharcypistyll ddiwedd y 1940au a chofiaf gystadlaethau pêl droed chwech bob ochr yn ystod hafau’r 1950au yno – y Summer Cup. Bu fy athro Cymraeg uwchradd, Carwyn James, yn chwarae gyda thîm Rhydlewis yno.
Treuliais lawer o’m hamser yn eistedd neu gysgu yng nghefn y Fordson wrth aredig a thrin y tir. Nid oedd hynny’n bosibl pan ddaeth y Fergi Fach gan nad oedd lle diogel i eistedd yng nghefn honno. Ymlaen ar hewl Cwmhiraeth, Parcygarreg-wen isaf yw’r cae nesaf ar y chwith. Ar y dde mae lôn yn arwain lawr i Bantybarcud. Bu cyndeidiau Aneurin Talfan Davies yn byw yno fel y nododd yn ei lyfr, Crwydro Sir Gâr; ar ôl dyddiau Ifan Williams a’r teulu prynwyd y fferm gan Mr Leading o ganolbarth Lloegr rywbryd yn y 1960au. O ran pryd a gwedd a’i sbectol roedd e’n debyg iawn i D J Williams, Abergwaun! Galwai yn Goetre am sgwrs â dat-cu; roedd yn siaradwr mawr a chanddo gynlluniau mwy er ei fod yn edrych tua’r un oed â dat-cu i fi a oedd yn ei 90au erbyn hynny. Yn y cae ar y chwith lawr y lôn i Bantybarcud roedd e’n mynd i godi stâd o dai – wrth gwrs ddaeth dim byd o’r bwriad ar wahân i leoli hen garafan statig y bu’n byw ynddi am gyfnod rwy’n credu.
Y cae nesaf ar y chwith am Gwmhiraeth a’r olaf o gaeau Goetre yw Parcyreigras – enw sy’n swnio’n ddiddorol iawn ond ‘Parc y rye grass’ yw mewn gwirionedd. Yma y cofiaf ddiwrnod dyrnu llafur – injan ddyrnu Danny Beulah, Rees braidd yn fyr ei flewyn dan yr amgylchiadau dirdynnol, ambell i lygoden yn dianc o’r stacanau llafur(ŷd), digon o gymdogion yn helpu a phawb yn hapus ar ddiwedd y dydd yn mwynhau paned o de, bara menyn a chaws a theisen ffrwythau.
A dyna ben draw ‘milltir sgwâr’ fy mhlentyndod – a hynny ar gyffordd neu sgwâr arall; gallwch droi i’r chwith a dilyn y llwybr cyhoeddus allan i’r ffordd fawr ar ben lôn Pantyrhebog, neu ymlaen yn syth i Gwmhiraeth; neu wyro ychydig i’r dde a dilyn y ffordd i Bant-y-gog, Nant-eos, Pantywennol ac ymlaen i Bantyrefail, lle cafodd Griffith Jones ei eni, – un o hoelion wyth y ddeunawfed ganrif a chymwynaswr mawr y Gymraeg – neu pwyswch ar y dde ar iet Ca’ Abraham am hoe fach, – i’r fan hon bron ganrif yn ôl y cerddai Abraham Dan-rhiw hanner milltir ddwywaith y dydd a’i fwced yn ei law i odro’r fuwch.
Richard Jones, Medi 2021