skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Yr Athro Gareth CromptonYr Athro GARETH CROMPTON, FRCP, FFPHM

Professor of Public Health Medicine, Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru 1989 i 1997, Emeritus and Hon. Fellow Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd ers 1997.

Mae’r Dr  Gareth Crompton, heb os nac oni bai, gyda’r person disgleiriaf a welodd ardal Drefach Felindre ym myd meddygaeth erioed, ac mae’r hyn a gyflawnodd yn y maes hwnnw yn ystod ei fywyd yn rhyfeddol ac yn dra phwysig.

Ganwyd Dr Gareth yn Danffynnon, Cwmpengraig ym Mhlwyf Penboyr ar y 9ed o Ionawr 1937 ac yn fab i Edward  (Ted) Crompton ac Annie Jane Crompton (nee Jones). Mae llun o’i dad ar dudalen 101 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler. Bu Ted Crompton yn Glerc Cyngor Plwyf a Chymuned Llangeler am dros 50 mlynedd.
Roedd ei dad a’i fam yn eglwyswyr selog ac yn aelodau yn Eglwys Sant Llawddog, Penboyr. Mae Dr Gareth yn dal yn aelod o hyd yn yr eglwys honno ac yn eglwyswr ffyddlon.

Yn Ysgol Gynradd Penboyr ym mhentref Felindre y cychwynnodd ar ei addysg fore a bu yno o 1941 tan 1948, a gadewch iddo ef adrodd un hanesyn o’r cyfnod hwnnw yn ei eiriau eu hun:
“Roedd fy nhad yn yr ‘Army’ ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Penboyr ym Medi 1941, a fy mam yn brysur fel arfer yn disgwyl i rai o blant Cwm Isaf, Cwmpengraig i alw yn Danffynnon a mynd a fi gyda’r lleill i’r ysgol. Ond, erbyn deng munud i naw ni alwodd yr un o’r plant amdanaf.  Roedd mam mewn ychydig o banic, ac fe ddywedodd hi wrtha i am fynd ar fy meic mor gyflym a phosibl i’r ysgol.   Bant a fi gyda bag llawn o frechdanau ac afal dros fy ysgwydd. Yna, traed bant o’r pedals a lawr y rhiw a heibio’r Ogof a chyrraedd Hillside – siop fy ewyrth Jos a Antie Nellie. Gadael y beic gyda nhw a rhedeg cyn gynted a medrwn a dod i’r bont dros yr afon Esgair. Roedd iard yr ysgol yn wag heblaw am Miss Jones, Tygwyn a gweddill y babanod newydd yn barod i fynd i mewn.   Gwaeddais o ben y bont – ‘Arhoswch i fi.  Mae’n ddrwg gyda fi fod yn hwyr.’      Ie, fi oedd yr olaf i fynd i mewn, a thu blaen i mi roedd bachgen o’r enw Roy Lewis James. Roedd dwy sedd wag gyda’i gilydd i ni ein dau ar ôl mynd i mewn i’r dosbarth.  Mae’n werth nodi i ni ein dau fod yn ffrindiau mawr ers y dydd cyntaf hwnnw. Does neb yn well na Roy James! 

Athrawon Ysgol Penboyr 1941 – 1948:   Athrawes y Babanod oedd Miss Jones Tygwyn ac wedi hynny yn Mrs Davies Tygwyn. Roedd pawb yn yr ardal yn meddwl y byd ohoni am ei bod yn athrawes wych iawn. Ei phroblem fwyaf oedd fod gormod o ddisgyblion ganddi yn ei dosbarth. Roedd tri grŵp gwahanol – y babanod 4 i 5 oed, Second Class 5 i 6 oed a First Class 6 i 7 oed.

Cofiaf am un helynt fyth gofiadwy yn ymwneud gyda’r prifathro Mr TSF Morgans, pan y galwodd ym mhob dosbarth i gael casgliad i Miss Jones yr athrawes ar ei phriodas yn y dyfodol agos. Gorchymyn Mr Morgans i bob plentyn oedd i ddod a chwe cheiniog i’r ysgol trannoeth. Nawr, problem Roy James a minnau oedd hyn. Roedden ni ein dau yn aml yn gorfod codi mas o’r ddesg i sefyll o flaen y dosbarth ac aros ar un goes. Dyna oedd y gosb am edrych yn ôl dros ein hysgwydd ar y dosbarth mewn gwers.  Oherwydd hyn, penderfynon ni ein dau i beidio dod a dim i gasgliad Miss Jones. 

Trannoeth roedd pawb wedi dod a’i chwe cheiniog ond fi a Roy. Fe aeth Morgans yn gynddeiriog.   “Tro dy bocedi allan”, meddai, a chael mai dim ond dimau oedd yno. “I’ll have that,” meddai Morgans gan roi dimau yn ei ‘note book’ cadw cownt.

Diwedd y stori oedd i Roy James a minnau gael ein dyrchafu yn syth i Standard 1 gyda Miss Eurwen Davies, Tŷ Canol, Cwmpengraig, yn athrawes i ni.  (Mrs Parch Derfel Rees maes o law.) Hi hefyd oedd wedi bod yn rhoi gwersi piano i mi er pan oeddwn yn 4 oed.

Yn Standard 1 cawsom ‘Arithmetic’ ddwy waith y dydd. Roy a fi yn cwrso ein gilydd i orffen gyntaf ym mhob gwers trwy’r flwyddyn.                               
Gyda llaw, wnaeth Mrs Davies, Tŷ Gwyn ddim siarad gyda fy mam am tua chwarter canrif nes un flwyddyn ar Sul y Cofio ar Sgwâr y Gat gan nad oedd mam yn gwybod dim am y casgliad cyn y briodas. Doeddwn i ddim wedi dweud wrthi, a’r gyfrinach gyda Roy James a minnau yn unig.”   (Adroddwyd gan Gareth Crompton Chwefror 2021).

Ar ôl llwyddo yn y ‘Scholarship’ bu Dr Gareth yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llandysul o 1948 tan 1955. Cofir amdano fel disgybl disglair dros ben ynghyd a’i ffrindiau Roy James a John Gwilym Jones (John Parcnest, Castell Newydd Emlyn.)

Dyma’r cyfnod y dangosodd Dr Gareth ei ddawn ym myd y campau hefyd. Bu’n chwarae pel droed gyda thîm Ysgol Ramadeg Llandysul, Esgair Rovers yn Nrefach Felindre a’r tim pel droed lleol Bargod Rangers rhwng 1953 a 1958 fel hanerwr chwith (rhif 6), neu gefnwr chwith (rhif 3). Enillodd dair medal yn y cyfnod hwnnw gyda Bargod Rangers – 2 fedal am ennill Cynghrair Ceredigion ac 1 am ennill rownd derfynol Cwpan y gynghrair ar Llun y Pasg 1958 ar gae Wilkes Head, Llandysul – Bargoed Rangers 4 a Castell Newydd Emlyn 1.   Chwaraeodd Dr Gareth dros Sir Aberteifi yn erbyn Sir Benfro ar gae Castell Newydd Emlyn yn 1955 fel rhif 6, ond colli fu’r hanes o 2 gol i 1.
                                                                                                           
Roedd Dr Gareth yn gricedwr dawnus iawn hefyd ac yn chwarae i dim Ysgol Ramadeg Llandysul rhwng 1952 a 1955 ac yn gapten ar y tim yn 1954 ac yn batio rhif 1 bob amser.

Meddai Gareth – “Yr uchafbwynt i mi oedd chwarae yn erbyn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin oddi cartref yn 1955. Roedd bowliwr enwog gyda nhw. Bowliwr cyflym, cyflym iawn, ond wedi methu a fy nghael i mas am tua 2 awr, ac yn bowlio yn beryglus o gwmpas fy mhen. Beth bynnag fe gledres i un o’i beli dros y ffin nes i’r bel ddisgyn ar y brif ffordd yn Richmond Terrace (Waun Dew). Ataliwyd y gem am dipyn er mwyn i’r athro fynd i chwilio am y bel.  Methodd Caerfyrddin a’n cael ni mas gyda’r sgôr terfynol yn – Caerfyrddin 180 i gyd allan a Llandysul 153 am chwe wiced.   Caerfyrddin wedyn yn dathlu buddugoliaeth a T Edgar Davies (Prifathro Ysgol Ramadeg Llandysul) yn dweud – “Losing Draw!”

Fe wnaeth Dr Gareth barhau gyda’i addysg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Cymru, Caerdydd o 1955 tan 1960 ac ennill yno ei MB  BCh gyda rhagoriaeth yn Iechyd y Cyhoedd yn 1960. Bu’n chwarae criced yn y Coleg Meddygol i’r “Cardiff Medicals” rhwng 1957-58.

Parhau wnaeth ei lwyddiant ym myd meddygaeth – 1962 D(obst)RCOG,  DPH yn 1964, yna, MFCM, FFPH, MRCP, FRCP erbyn 1986.   MD Cymru Er Anrhydedd a QHP yn 1984. Ar hyd y blynyddoedd derbyniodd nifer fawr o anrhydeddau eraill mewn perthynas a’i swyddi parhaol -  e.e.     1978 –1989 – Prif Swyddog Meddygol Y Swyddfa Gymreig.   1966 i 1973 Prif Swyddog Meddygol Ynys Mon.  1989 i 1996 Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus i Awdurdod Iechyd De Morgannwg.     Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus i Awdurdod Iechyd Bro Taf yn 1996..... a llawer iawn mwy, gan gynnwys ‘Cymrawd o’r BMA’.

Nodwedd arall o’i waith oedd  iddo gyhoeddi 32 o ‘Bapurau Cyhoeddus’ yn ymwneud a’i waith meddygol. Hyn i gyd yn dangos gallu Dr Gareth a’i arweiniad mewn meddygaeth fodern.

Derbyniwyd yn aelod o ‘Orsedd y Beirdd’ yn 1996 fel Derwydd er Anrhydedd.

Mae hefyd yn ‘Llywydd am Oes’ Tim Pel Droed Bargod Rangers ynghyd ag Alan Campden, Eifion Davies, Einsley Harries a Peter Hughes Griffiths.

Wele isod y darn priodol allan o “Who’s Who’ sy’n nodi gyrfa ddisglair iawn y Dr Gareth Crompton, gynt o Danffynnon, Cwmpengraig, ger Felindre, Llandysul a nawr o Glaspant, Ffordd Aberteifi, Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.

Prof Gareth Crompton biography

Rhai nodiadau ychwanegol a phersonol gan Peter Hughes Griffiths am Dr Gareth Crompton.

Gareth CromptonEr ychydig flynyddoedd yn hyn na fi, ystyriwn Gareth Crompton fel un o fy ffrindiau ac fel un o blant Cwmpengraig. Yn aml iawn byddwn yn mynd lan i Danffynnon o’m cartref yn Llyfnant gyferbyn a Glanesgair, i chwarae yn y Cwm Isaf. Y pryd hwnnw roedd ffynnon wrth ochr y ffordd gyferbyn a Danffynnon. O’r ffynnon hon byddai  teulu Danffynnon yn cael eu dwr pur ac oer. (Yn y flwyddyn 2020 nid yw’r ffynnon i’w gweld bellach). Byddai John Davies – John Dai yn byw yn Ffynnonbedr y tŷ nesaf fyny i Danffynnon a byddai Gareth John a fi yn chwarae rhan amlaf ar y darn ffordd rhwng y ddau dy. Gan mai dim ond tri oedden ni, criced oedd y gem fwyaf poblogaidd gan fod cloddiau digon uchel ar y ddwy ochr i rwystro’r bel rhag diflannu ar ôl ei tharo. Cawsom oriau hir a phleserus yn chwarae yma pan yn blant. Hyd yn oed yr amser hwnnw roeddwn yn gwybod bod Gareth Crompton yn grwt tra galluog, ac fe welwyd hynny yn sicr maes o law.

Mae gan Dr Gareth ddawn storïwr da, ac mae bod yn ei gwmni i wrando arno yn adrodd storïau am gymeriadau’r ardal neu ddigwyddiadau yn bleser pur.

Un o’r goreuon yw ei stori am y ffaith fod Handel, Haydn a Bach wedi bod yn byw yng Nghwmpengraig ar yr un pryd flynyddoedd yn ôl. Y cwestiwn wedyn oedd – A yw hynny’n wir? “Gwir pob gair,” yn ôl Dr Gareth.  “Roedd Handel yn byw yn Green Meadow. Haydn yn byw yn Peter’s Well a Jim Bach yn byw ym Mhantyffynnon.  Dyna ni – Handel, Haydn a Bach yn byw yng Nghwmpengraig!”

Hanesyn arall gan Dr Gareth yw’r ffaith iddo chwarae gyda Bargod Rangers a dod oddi ar y cae ar ôl y gem hanner modfedd yn llai o ran ei uchder. Eglurhad Dr Gareth oedd hyn –

“Fe gofiwch am yr hen beli lledr trwm iawn, yn enwedig ar ddiwrnod gwlyb a’r bel fel lwmp o fwd. Un tro, a finne yn chwarae gyda Bargod ar gae Llysnewydd Meadow fe giciodd rhywun y bel fyny ym mhell bell i’r awyr a phan ddaeth hi lawr fe wnes i benio’r hen bel drom honno.  A chi’n gwybod beth – rwy i hanner modfedd yn llai o uchder ers hynny!”

Ar ôl dod nol i Gastell Newydd Emlyn i fyw mae Dr Gareth wedi ail gydio yn ei gysylltiadau gyda ardal Drefach Felindre, Cwmpengraig ac Eglwys Sant Llawddog, Penboyr. Fe ddaw yn aml i ddigwyddiadau lleol ac i weld Bargod Rangers yn chwarae ar Barc Puw.
Y tro diwethaf i mi fod yn ei gwmni oedd yn angladd y diweddar Dr. Leslie Baker Jones, Dangribyn a Llainffald gynt, yn Eglwys Sant Barnabas.

Ar ôl cael golwg ar ei ‘Curriculum Vitae’, ac wrth baratoi’r nodiadau hyn ar fywyd y Dr Gareth Crompton y sylweddolais yn llawn fawredd y person  a ddaliodd y swyddi uchaf ym myd meddygaeth yng Nghymru. Bu ei gyfraniad yn un sylweddol ac aruchel iawn a phleser personol i mi yw cael ei adnabod o hyd fel ffrind.

Peter Hughes Griffiths Chwefror 2021