skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

TOM MORGAN  (Tom Dancapel) 

Tom Dancapel in a kilt.Ganwyd Tom Morgan yn un o 14 o blant (11 merch a 3 bachgen) i Mr Mrs William H Morgan, Dancapel, (y tŷ cyntaf ochr isaf i Gapel Bethel Drefach), ar Rhagfyr 20ed, 1897. Bu farw ar noson Gŵyl San Steffan 1967 pan yn 70 oed ac fe’i claddwyd ym mynwent Drefach. Treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn byw yn yr ardal a bu ei gyfraniad amrywiol i fywyd ei fro yn rhyfeddol. Yn grwt ifanc fe fuodd e yn y Rhyfel Byd cyntaf gan wasanaethu ym Mesopotamia (Irac erbyn hyn).

Roedd Rachel Ann ei wraig yn ddisgynnydd o deulu enwog y Thomasiaid, Ffynnon Dudur, Drefelin,(wele tudalen 122-3 yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr.) Merch i Tom a Rachel Ann  oedd Gwen Winston, a’i ddwy wyres yw Anne Pash a Norma Winston Jones, Perthi, Dre-fach Felindre). Bu Tom a’i wraig yn byw yn Glasdir (ychydig yn is i lawr o Dancapel) ac yno y bu Gwen a’i gwr Bob yn byw hefyd gyda Ann a Norma.

Bu’n gynrychiolydd i Gwmni ‘Little & Ballentine’ a ‘Crown Chemicals’ gan deithio’r holl ardaloedd yn cymryd archebion gan ffermwyr. Daeth i adnabod ardal eang a’i phobl yn dda iawn, a hwythau yntau. Yn wir roedd Tom Morgan yn berson adnabyddus iawn a ffrind i bawb.

CAPEL.  Bu ei dad William H Morgan yn flaenor yng Nghapel Clos-y-graig ac fe etholwyd Tom yn flaenor hefyd (Mae llun – 1954 - o’r gweinidog y Parch Michael L Thomas a’r blaenoriaid yn y llyfr Eglwys Clos-y-graig 1754-1954. Tom yw’r ail ar y chwith yn y llun.)

Ni fu aelod mor ffyddlon a gweithgar na Tom yn ei gapel. Fe a’i gyd flaenor, a’r baswr cryf Donald Johnson fyddai’n arwain y gan a chyda’r cerddor dawnus Albert Evans wrth yr organ fe fyddai pawb yn cydnabod mai yng Nghapel Clos-y-graig oedd y canu gorau mewn  gwasanaeth mewn unrhyw gapel. (Mae llun arall o Tom yn y rhes flaen a thu ôl i’r plant gyda’i ddwylo ar Norma ei wyres ar dudalen 83 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler.

ANGLADDAU.   Oherwydd ei adnabyddiaeth eang gyda chymaint o bobl a’i gysylltiadau amaethyddol mor niferus, eithriad oedd gweld angladd heb fod Tom Morgan yn bresennol, ac yn ddieithriad byddai’r galarwyr i gyd yn dibynnu ar Tom Morgan i bitsho’r canu ar lan y bedd.  Tybed, sawl gwaith y gwnaeth Tom arwain canu’r emyn ‘O fryniau Caersalem’ ar y don ‘Crugybar’ ym mynwentydd Sir Gaerfyrddin?

Tom Morgan - Tom DancapelCANWR.  Tenor swynol iawn oedd Tom Morgan a bu’n perthyn i nifer fawr o bartïon lleol a thra enwog. Un o rheini oedd ‘Wythawd Bargod Teifi Octet. (Mae llun y parti poblogaidd hwn ar dudalen 95 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler.)  Ond am ei ran yn y ddrama gerdd ‘Merch y Glannau’ yr anfarwolodd Tom ei hun fel canwr ac actor. Fe oedd Capten y Llong yn y cyflwyniad hwnnw gan gwmni’r Urdd yn lleol. Perfformiwyd y ddrama gerdd nifer   o weithiau  yn Neuadd y Ddraig Goch.

Gyda agoriad y neuadd newydd bresennol yn 1966 wele Tom unwaith eto’n ymgymryd a’r un rhan er tipyn yn hyn.

CARNIFAL.  Mae Carnifal enwog Dre-fach Felindre wedi ei gynnal yn ddifwlch bron ers diwedd yr ail ryfel byd, ac yn flynyddol fe fyddai Tom Morgan ‘yn gwisgo lan’. Mawr fyddai’r dyfalu  ymlaen llaw, cyn gweld ar y dydd pa gymeriad fyddai’n cerdded y pentref ddydd y carnifal. Gwisgodd fyny fel ‘Macarios’ pan oedd hwnnw yn ei fri. Hefyd fel ‘Twm Barels’ dychmygol gan fod colofn gan hwnnw yn y Carmarthen Journal. Yna, fe gariodd blacardiau adeg symud Capel Penrhiw i San Ffagan. Gwisgodd fel menyw hefyd gan gerdded trwy’r pentref fel menyw ddieithr ar wahân i’r carnifal gan boeri bob hyn y hyn. Mawr fu’r siarad am y fenyw ryfedd a fu’n poeri wrth gerdded trwy’r pentref.

Y CILT CYMREIG.  Heb os nac onibai Tom Morgan oedd y cyntaf i arddangos ‘Gwisg Swyddogol Y Cymro’ a oedd yn cynnwys y Cilt Cymreig. Er ei wisgo am y tro cyntaf mewn carnifal fe deithiodd Tom ym mhell ac agos i arddangos ei wisg wedyn. Fe’i gwelwyd yn cerdded tu ôl i orymdaith Yr Orsedd adeg cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn y chwedegau!

CAR CYNTAF. Roedd Tom gyda’r cyntaf i gael car yn yr ardal, ac yn hynod o garedig yn cynnig lifft i bawb i bob man. Un tro fe aeth a Mrs Fleming, Square Hall, bob cam i’r ysbyty yn Llundain. Golygai hyn gryn ymdrech. Yn wir, ni allai Tom basio neb heb gynnig lifft. Gan fod cryn bellter o bentref Drefach i Gapel Closygraig fe godai Tom bawb ar ei ffordd i’r capel ar y Sul a’i gar bach yn cyrraedd yn or-lwythog.

Tom Morgan - enwogion Dre-fach FelindreCENEDLAETHOLWR.  Tom oedd y cenedlaetholwr cyntaf i mi ei adnabod (PHG). Gyda’i weinidog Y Parch M.L. Thomas sefydlodd Gangen o Blaid Cymru yn Nre-fach Felindre yn gynnar yn y 50’au.  Roedd rhoi eich cefnogaeth yng nghanol gweithwyr llafurol y ffatrïoedd gwlân i’r Blaid yn hawlio cryn ddewrder a chadernid. Cofiaf yn dda (PHG) mynd gyda Tom Morgan a’r Parch M.L.Thomas i gyfarfodydd Jennie Eirian Davies, ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Byddai Tom a Michael Thomas yn siarad yn y cyfarfodydd rheini.

Yna, yn y noson fyth gofiadwy honno  yn y Lyric, Caerfyrddin, noson cyn is-etholiad 1966, a’r lle yn orlawn, a channoedd y tu allan, a’r ymdeimlad cenedlaethol wedi ei danio, ie, Tom Morgan a dorrodd allan i ganu’n gyntaf a’r dorf yn ymuno’n syth gan greu awyrgylch fyth gofiadwy.

Do, fe welodd Tom ei arwr Gwynfor Evans yn ennill yng Ngorffennaf 1966, a byddai yntau a’r Parch M.L. Thomas wrth eu boddai o wybod mai’r Cynghorwyr Sir John Crossley fu, a Ken Howell sydd yn cynrychioli eu hen ardal yn awr dros Blaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin.

ARWEINYDD.  Roedd Tom Morgan yn arweinydd Cyngherddau a Nosweithiau Llawen penigamp ac yn enwog am ei storïau difyr i gadw’r gynulleidfa i chwerthin. Roedd ganddo ddawn lafar ffraeth a hyderus. Gan ei fod yn fyr o’i gorffolaeth, efallai bod hynny’n help iddo drin cynulleidfa. Ni allwn lai na’i edmygu a phawb wrth eu boddau’n gwrando ar Tom Morgan bob amser ar lwyfan.

(Nodais yn fy llyfr Help Llaw i’r Noson Lawen’ sut y trefnodd Tom Morgan i fynd a fi gyda fe i arwain Noson Lawen yn Neuadd Pentrecwrt, a minnau’n dal yn yr ysgol. Rhwng ei gyflwyniadau ef ar y llwyfan fe gefais i’r cyfle hwnt ag yma i ddweud stori ac i gyflwyno’r eitem nesaf. A dyna’r tro cyntaf i mi erioed ‘arwain noson’. Mae’n siŵr fy mod wedi arwain cannoedd o gyngherddau a nosweithiau a digwyddiadau ar hyd a lled Cymru ers hynny. Ond, ni anghofiaf fyth mai Tom Morgan rhoddodd y cyfle cyntaf i mi wneud.  Diolch i Tom Dancapel. (PHG)

Bu cyfraniad Tom Morgan yn fawr  ac yn amrywiol iawn  i’w fro ac ardaloedd ehangach. Un o’r cymeriadau sy’n ‘sefyll mas’ yn hanes Dre-fach, Felindre yn ystod yr 20ed ganrif oedd Tom Morgan.
 

Peter Hughes Griffiths (Awst 2017)