y Parch Griffith Jones
Ysgol Penboyr
Roedd y disgyblion wedi ymchwilio i fywyd y clerigwr Cymreig ar arloeswr addysgol, y Parch. Griffith Jones, a anwyd yn eu plwyf, er mai â phlwyf Llanddowror y cysylltir ef gan amlaf. Roeddent wedi ymweld ag eglwys Llanddowror yn ogystal â'r amgueddfa a’r archifdy sirol, ac roeddent wedi casglu tystiolaeth am ei fywyd a'i waith. Maent wedi casglu ynghyd eu darganfyddiadau, ac wedi arwain gwasanaeth amdano yn eu heglwys leol. Gobeithiant rannu hyn ag ysgolion eraill. At hyn, maent wedi paratoi llyfr amdano yn y gobaith y caiff ei gyhoeddi.
Gweler gwaith y plant ar wefan Ysgol Penboyr.
