Nel Fach y Bwcs
Ysgol Penboyr
Mae Ysgol Penboyr wedi ennill gwobr yng nghystadleuaeth Menter y Dreftadaeth Gymreig 2016 am greu gwefan eu hunain 'Croesi'r Tonnau Nel Fach y Bwcs', gwefan gan blant i blant. Ynddi cawn stori Ellen Davies, a adnabyddwyd fel Nel Fach y Bwcs, a ymfudodd yn blentyn ifanc gyda’i rhieni yn 1875 i Batagonia, i chwilio am fywyd gwell mewn gwladfa ble y gallent siarad Cymraeg a chadw’r diwylliant a’r traddodiadau Cymreig, yn ôl addewid Michael D. Jones.
A oedd e’n fywyd gwell?
Cawn hanes ei bywyd ym Mhatagonia bywyd caled a’r trasiedi o golli ei mam. Yn 1901, dychwelodd hi a’i thad i Gymru a daethant i fyw i Drefach Felindre, tafliad carreg o’r ysgol. Mae’r wefan yn cynnwys tudalennau gwybodaeth, cyfweliadau a ffilmiau gyda theulu Nel, ffilmiau/e-lyfrau o ymweliadau i Lerpwl ac Iwerddon, tair rhaglenni radio, cyswllt ag Ysgol Yr Hendre Patagonia, cwis a gemau rhyngweithiol.

“Mae cwmni Atebol sydd wedi datblygu gwefan Patagonia 150 ar HWB wedi gweld ein gwefan,”dywedodd yr pennaeth Dr James. “Mae'n nhw wedi gofyn i roi linc o'i gwefan nhw i'n gwefan ni, sydd yn ddatblygiad arbennig ac yn anrhydedd i'r ysgol.”
Bu Ana, un o Lywodraethwyr Ysgol yr Hendre Patagonia yn ymweld ag Ysgol Penboyr yn ddiweddar. Mae plant Ysgol yr Hendre wedi bod yn astudio ein gwefan a gwneud gwaith ar Nel Fach y Bwcs. “Gobeithiwn gadw mewn cysylltiad a datblygu perthynas gyda Ysgol yr Hendre trwy gyfrwng skype,” ychwanegodd Dr James.


