Y Murlun - gwaelod ar y dde
Awn i’r dde ac fe welwn Eglwys Sant Barnabas a adeiladwyd yn 1863 ac sydd yng nghanol y pentref ac yng nghanol y murlun, a thu ôl i’r eglwys mae Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Pen-boyr a agorwyd yn 1866. Yna, fe ddown at gât arall a’r gair ‘Puw’ arni ac sy’n fynedfa i Barc Puw sy’n gae i’r tîm pêl droed ac yn lle chwarae i blant y pentref. Mae’r ddwy gât sydd yn y llun yn symbolaidd bwysig gan fod y naill yn cau a gormesu a’r llall yn agor ac yn fynedfa i bleser trwy hwyl a chwarae.
Cylch y Diwydiant Gwlân yw’r un amlwg arall sydd o’r canol i’r dde yn rhan isaf y murlun gyda Johnny Lewis, perchennog ffatri enwog Ffatri Cambrian. Dyma gartref bellach i’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, ac mae e’n edrych lawr dros do’r ffatri a holl hanes diwydiant cyfoethog y ffatrïoedd gwlân yn yr ardal.
Tu ôl iddo mae Ffatri Cambrian ar dân (1919) sy’n gynrychioliadol o nifer o ffatrïoedd eraill a losgwyd am ba resymau bynnag! Roedd Johnny Lewis yn ddyn llym ond teg, ac yn gwobrwyo gwaith caled ac yn dilorni diogi. Magodd gyfoeth mawr ond bu’n dda iawn i’r ardal ac iddo fe mae’r diolch am roi’n hael at sefydlu Parc Puw a neuadd newydd Y Ddraig Goch.

I’r dde iddo yntau ac yn dal y garthen mae’r diweddar Keith Rees, un a drosglwyddodd hanes y diwydiant gwlân i genedlaethau o ymwelwyr â’r Amgueddfa. Er y tristwch o’i golli mae ei straeon yn fythol wyrdd, fel am y dyn a gafodd ei gyflogi i fynd o gwmpas y pentref i brynu piso’r bobl. Roedd piso’n bwysig yn y broses o bannu gwlân, felly, roedd pris da am fwcedaid ohono, ond yn ôl Keith roedd dwywaith mwy o dâl am biso o dŷ dirwestwr gan fod yr hylif hwnnw cymaint purach. Dyna esbonio presenoldeb y gŵr yn y got werdd yn cario dau fwced o flaen Keith.
O barhau’r cylch hwn down at Raymond Jones sy’n torri’r defnydd gyda’i siswrn. Ef a’i wraig Diane yw perchnogion Melin Teifi sydd gyferbyn â phrif fynedfa’r Amgueddfa. Yma heddiw y cynhyrchir crysau a siacedi o safon. Mae’r ddau’n ben crefftwyr ac fe werthir eu cynnyrch ar draws y byd. Rhwng Raymond a Diane mae’r cymeriad arbennig Towy Cole Jones (Towy Cole), dyn a fu trwy ei oes o blaid chwarae teg i’w gydweithwyr ac a bortreadir â golwg benderfynol arno yn arwain y gweithwyr tu ôl iddo allan o’r ffatri. Mae gwybodaeth fanwl gan Towy am y diwydiant gwlân yn lleol ac mae ganddo gasgliad pwysig o luniau’r ardal.
Uwchben Towy mae menyw sy’n symbol o weithwyr cyffredin y ffatrïoedd gwlân, ac o gofio hanes sosialaidd Dre-fach Felindre, mae’n addas fod hon – un o’r werin – yng nghalon y llun, a hynny tra bo tŷ bonedd Llysnewydd yn ymylol yn y gornel uchaf ochr dde.
Rhown y gair olaf i Meirion Jones yr arlunydd – “Bu gwneud y gwaith yn dipyn o her – efallai y peth anoddaf i mi ei wneud yn greadigol – ond wrth i’r darnau ddisgyn i’w lle fe dyfodd y profiad yn un pleserus, ac yn un y dysgais lawer iawn oddi wrtho am beintio ac am y natur ddynol. Des hefyd i adnabod pobl Dre-fach Felindre yn dda a dod i wybod hefyd am eu hanes amrywiol, hynod o ddiddorol a chyfoethog.”
Darllenwch mwy am y murlun: Murlun | Detail 1 | Detail 2 | Detail 3 | Detail 4