skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

JOHN (Johnny) LEWIS, Cambrian   1873-1954

Mae’n bwysig cofnodi cyfraniad un arall o deulu’r Lewisiaid yn hanes ardal Drefach Felindre, gyda phwyslais arbennig ar eu cyfraniad yng nghyfnod llewyrchus y diwydiant gwlân.  Fe ddaeth y John Lewis hwn yn berchennog ar Ffatri Wlan Cambrian – lleoliad Yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol bresennol, a theg yw dweud iddo ddod yn gyfoethog iawn. Ar y llaw arall, er iddo gael ei ystyried yn aml fel cyflogwr caled fe rannodd Johnny Lewis (fel y galwyd ef yn lleol), ei gyfoeth ar gyfer creu tri lleoliad sydd mor bwysig ym mywyd Drefach Felindre o hyd – Mynwent Drefach (1929), Parc Puw (1954) a Neuadd y Ddraig Goch (1964).

Priododd Eiffel Lewis mab yr Henadur John Lewis, Meiros Hall, (Wele hanes Lewisiaid Meiros Hall o dan ‘Enwogion a Phobl Leol Drefach Felindre’), gyda Amelia Davies a mynd i fyw yn Y Garth, Felindre. Priododd Johnny Lewis gyda chwaer Amelia Davies sef Esther (Hetty) Davies, a mynd i fyw i Trewern (tŷ gyferbyn a’r Red Lion ym mhentref Drefach.) Pan wahanodd Eiffel ac Amelia fe aeth eu mab Thomas Lewis (Tom Y Garth), i fyw at ei ewythr a’i fodryb Johnny a Hetty Lewis yn Nhrewern. ( Mae hanes ‘Tom Y Garth,’ a gafodd ei ladd mewn damwain awyren yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hefyd i’w weld o dan ‘Lewisiaid Meiros Hall’). Claddwyd Tom Y Garth a’i fam Amelia yn yr un bedd a Johnny a Hetty Lewis ym mynwent Drefach.

Symudodd Johnny Lewis i fyw i’r Garth, a bydd llawer un, fel fi,  yn ei gofio yn byw yno. Mae’n werth rhoi sylw i’r tri lle y mae Johnny Lewis yn gyfrifol am eu sefydlu at wasanaeth ardal Drefach Felindre.

John (Johnny) Lewis Cambrian Mills
John (Johnny) Lewis

Esther (Hetty) Davies (gwraig 1af Johnny).

Esther (Hetty) Davies gyda'i chwaer Amelia Davies

MYNWENT DREFACH  -   Roedd Johnny Lewis yn ddiacon yng Nghapel y Bedyddwyr Drefach, ac fe sylweddolodd nad oedd mynwent yn rhan o’r capel, a’r aelodau yn cael eu claddu mewn mynwentydd eraill yn yr ardal. Fe aeth Johnny Lewis ati i brynu darn o dir ar rhiw Pensarn, a gyferbyn a Chapel Penrhiw. Yn y llyfryn ‘Achos Y Bedyddwyr DREFACH 1793-1993’ gan Alun Jones, ac ar dudalen 9 mae pennod ar Fynwent Capel Drefach.  “Ar y wal gerllaw’r fynedfa mae’r geiriau ‘Claddfa’r Bedyddwyr 1929 Drefach.’   Rhodd oedd tir y fynwent gan Johnny Lewis, Cambrian, ac fe ddefnyddiwyd y fynwent cyn bod y waliau o’i hamgylch yn cael eu codi.”   Ers hynny, mae’r fynwent yn cael ei defnyddio yn gyson ar gyfer claddedigaethau, ac mae digon o le ar ôl ynddi am ganrif arall.

PARC PUW -  Dyma enghraifft eto o haelioni Johnny Lewis wrth iddo brynu’r darn tir hwn gan ei ddraenio a gosod wyneb newydd ar y cae ar gyfer maes chwarae i dim pel droed Bargod Rangers,  ynghyd a lle i gynnal pob math o ddigwyddiadau awyr agored lleol, a lle ac offer chwarae i’r plant. 
     
Mewn cyfarfod o Gyngor Plwyf Llangeler dyddiedig Awst 24, 1954 wele gofnod fel hyn:  “John Lewis of Garth Felindre, retired woollen manufacturer, is desirous of making a free gift of a piece of land by estimation three acres and thirty three perches of Llangeler Parish Council for the purpose of cricket, football or other games or recreations. It was resolved to accept the said property at a duly constructed meeting on August 24, 1954.”  

 Mae‘r tim pel droed lleol Bargod Rangers wedi ac yn dal i chwarae ar gae Parc Puw bob tymor yn ddifwlch ers hynny, ac fe’i hystyrir fel un o’r caeau gorau  yng Nghynghrair Ceredigion. Adeiladwyd ystafelloedd newid wedyn ar gyfer y chwaraewyr.
 

NEUADD Y DDRAIG GOCH  - Pan agorwyd y Neuadd y Ddraig Goch newydd ar y safle presennol ar Ddydd Sadwrn Medi 12ed 1964 am 2 o’r gloch cyhoeddwyd ‘Rhaglen Agoriad Swyddogol’ yn rhestri’r holl ddigwyddiadau i ddathlu’r agoriad. Er mwyn nodi pwysigrwydd cyfraniad ariannol Mr Johnny Lewis, Y Garth, dyma ddyfyniad o’r hyn a ysgrifennodd Mr B D Rees (Cadeirydd Pwyllgor Adeiladu’r Neuadd) a chyn Brifathro Ysgol Gynradd Penboyr: “Rwy’n siŵr mai dyma’r adeg (gan gyfeirio at ar ôl yr Ail Rhyfel Byd) y gwelodd Mr John Lewis, Cambrian, gwir werth y neuadd, ac yn y cyfnod hwnnw rhoddodd £3,000 ar gyfer adeilad newydd. Yn anffodus bu farw Mr Lewis cyn codi’r neuadd newydd. Yn ei ewyllys  gadawodd £5,000 arall. Yn awr roedd y £3,000 wedi tyfu’n £5,000. Aeth rhai blynyddoedd heibio ac yn 1962 cafwyd grant o £3,330 oddi wrth y Weinyddiaeth Addysg.  Cafodd George Lewis y contract i adeiladu’r neuadd am £15,000.”   

Mewn gair, arian John Lewis Y Garth a Ffatri’r Cambrian a dalodd am y cyfan bron o gost adeiladu’r neuadd newydd.

Ar ôl marwolaeth ei wraig Hetty yn 1949 fe ail briododd Johnny Lewis gyda nyrs o’r enw Rachel o Gaerdydd. Fe ddaeth hi i fyw i’r Garth, ond fe symudodd hithau yn ôl i Gaerdydd pan fu farw Johnny Lewis yn 1954.

Y digwyddiad cyntaf ar ‘Rhaglen Agoriad Swyddogol’ y neuadd newydd oedd – “Trosglwyddo’r Allwedd i Mrs John Lewis, Caerdydd” ac “Agor y Neuadd a dadorchuddio’r Plac gan Mrs Lewis.”

Yna, darlleniad o’r ysgrythur a Gweddi o Ymgysegriad.

Canwyd emyn o waith Peter Hughes Griffiths ar yr alaw Blaenwern:
Dyro Dad dy hael ddaioni,
A bendithia’n neuadd ni;
Boed hyfrydwch i’r gymdeithas
Dardda rhwng ei muriau hi.
Llywia ynddi bob un adeg
Holl weithgarwch ddyddiau ddaw
A’i chysegru a’th ewyllys,
Boed hi bythol yn dy law.

Cafwyd anerchiad gan Mr B D Rees a gan Mr Aneurin Talfan Davies, Trefnydd Rhaglenni Cymraeg y BBC., a anwyd yn Felindre pan oedd ei dad Y Parchedig Talfan Davies yn weinidog ar Gapel Closygraig.  Cafwyd eitemau gan Anne a Norma Winston a Peter Hughes Griffiths – buddugwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964.

Cynhaliwyd digwyddiadau trwy’r wythnos ganlynol, ac yng nghefn y rhaglen swyddogol mae rhestr o gyfraniadau yr holl noddwyr.
 

Mrs Rachel Lewis

****
Wrth i mi ysgrifennu Hanes Neuadd y Ddraig Goch sydd i’w weld ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ sylwais fod Mr John Lewis wedi gosod amod mewn perthynas a’i roddion ariannol tuag at adeiladu’r neuadd. Yr amod honno oedd – nad oedd y ddiod gadarn i’w yfed o gwbl rhwng muriau’r neuadd.    Credaf bod yr amod honno wedi ei chadw yn ddieithriad tan y blynyddoedd  diweddar. Fe ganiateir nosweithiau ‘Gwin a Chaws’ yn awr i godi arian at achosion lleol.
 
Dyma sydd ar fedd teulu Johnny Lewis ym Mynwent Drefach:

Er cof annwyl am ESTHER – Priod John Lewis, Trewern, Drefach,  A fu farw Mawrth 31, 1949 yn 72 oed.
Hefyd am F/O JOHN THOMAS LEWIS, R.A.F., Trewern a roes ei fywyd dros ei wlad – Tachwedd 16 1944 yn 22 oed. 
Eto AMELIA LEWIS ei fam a fu farw Hydref 4 1954 yn 70 oed.
Eto JOHN LEWIS yr uchod a fu farw yn Garth, Velindre, Rhagfyr 15, 1954 yn 81 oed.
“ei enw’n perarogli sydd
A’i hun mor dawel yw.”

Yn agos i’r bedd hwn ym Mynwent Drefach mae bedd brawd Johnny Lewis sef GWILYM EDWARD LEWIS, Derw Mills, Pentrecwrt a fu farw ar 26ain Mawrth 1978 yn 96 oed.

Yn y ‘Carmarthen Journal’ dyddiedig’-  Friday 31st December 1954’-  ceir adroddiad o angladd Johnny Lewis. Roedd chwech gweinidog yn bresennol gan gynnwys y Parch Tom Davies, cyn weinidog Capel y Bedyddwyr Drefach a’r Parch E J Williams y gweinidog presennol yn 1954.

Mae rhestr y galarwyr fel a ganlyn : Mrs Lewis (Widow), Mr Mrs Tom Lewis, Barmouth (Brother and sister in law), Mr Mrs Lewis, Derw Mills, Pentrecourt (Brother and sister in law), Miss Lilian Lewis, Meiros Hall (cousin) gan gynnwys 11 arall gyda ‘cousin’ tu ôl i’w henwau.

(Yn ol yr adroddiad - Os oedd Lilian Lewis yn gyfnither i John (Johnny) Lewis mae’n rhaid bod eu tadau yn ddau frawd gyda’r Henadur John Lewis Meiros Hall yn ewythr i John Lewis Y Garth.

Paentiad o Johnny Lewis, Cambrian, allan o’r murlun Stori Fawr Drefach Felindre
Paentiad o Johnny Lewis, Cambrian, allan o’r murlun Stori Fawr Dre-fach Felindre

Dyma hanesyn gan Eifion Davies  a oedd yn byw yn ‘Pensarn Cottage’ pan yn blentyn am Johnny Lewis, Cambrian.

Mae Eifion yn  cofio cerdded i’r ysgol pan yn grwt tua’r flwyddyn 1952. Roedd ofn Johnny Lewis arno rhywsut am ei fod yn byw yn y tŷ mawr yn y Garth ac o hyd yn gwisgo siwt a dillad tywyll.  Un diwrnod ar ei ffordd i’r ysgol a thu allan i’r Garth dyma Johnny Lewis yn gofyn i Eifion –“Beth yw enw’r goeden hon?” a oedd o flaen Y Garth.  Atebodd Eifion trwy ddweud nad oedd yn gwybod, ac meddai Johnny Lewis wrtho – “Ffeindia mas a fe fydda i yn dy ddisgwyl di ar y ffordd adre o’r ysgol.”  Gofynnodd Eifion i’r prifathro B D Rees yn yr ysgol, ac fe gafodd yr ateb ‘Japanee Maple’, ac fe ysgrifennodd Eifion yr enw lawr ar ei law rhag ofn iddo anghofio.

Ar y ffordd adref o’r ysgol roedd Johnny Lewis yn sefyll o dan y goeden yn aros am Eifion, ac meddai Eifion wrtho – “Japanee Maple yw’r goeden.”  “Da iawn,” oedd ei ateb a mynd i’w boced a rhoi papur chweugain iddo.

Meddyliodd Eifion am yr haelioni hwn ar hyd ei oes, a’r casgliad a ddaeth iddo oedd – er bod Johnny Cambrian yn gyflogwr caled, roedd e hefyd yn garedig iawn. Efallai ei fod e wedi sylwi, wrth fynd heibio i Bensarn Cottage ar ei ffordd i Ffatri Cambrian, bod teulu o chwech yn byw yno, ac yn ffyddloniaid yng Nghapel Drefach, a bod angen yr help hwn arnyn nhw!

Heb os, mae dyled pentref Drefach Felindre yn fawr i Johnny Lewis, Cambrian am sicrhau bod Y Fynwent, Parc Puw a Neuadd y Ddraig Goch yn dal i wasanaethu’r gymuned. Rhaid cofio hefyd ei fod wedi bod yn brif gyflogwr yr ardal am gyfnod hir iawn trwy Ffatri Wlan Cambrian.

 

Peter Hughes Griffiths, Hydref 2021 gyda chymorth Eifion Davies.