Stori Fawr Dre-fach Felindre

Dadorchuddio Cofeb Daniel Jenkins

Dydd Sadwrn, Mehefin 27ain 2026, 2yp yn Eglwys Sant Barnabas, Felindre

Yn dilyn llwyddiant eu Dydd Agored yn Eglwys Penboyr y llynedd fe fydd cyfeillion y wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre yn cynnal Prynhawn Agored eleni yn Eglwys Sant Barnabas yn  y pentref ar ddydd Sadwrn Mehefin 27ain am 2 o’r gloch, ac mae croeso agored i bawb i ymuno yn y digwyddiad.

Daniel Jenkins
Daniel Jenkins

Mae’r ddau gerddor mwyaf a welodd ardal Dre-fach Felindre wedi eu claddu yn agos i brif fynedfa Eglwys Sant Barnabas yn y pentref.   Roedd y gofeb i DANIEL JENKINS mewn cyflwr ansefydlog a’r geiriad arni wedi dirywio. Felly, trwy gydweithrediad yr eglwys fe drefnodd Cyfeillion y Wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ i adnewyddu’r gofeb, a bellach mae’r gwaith wedi ei gyflawni. Y bwriad yw ail-ddadorchuddio’r gofeb am 2 o’r gloch ar Sadwrn Mehefin 27ain, 2026, ac ymweld hefyd â bedd ALBERT EVANS sydd yn ymyl.                                               

Albert Evans
Albert Evans

Yn ogystal â bod yn gerddorion disglair a’u cyfraniad cerddorol i’r ardal mor bwysig – Daniel Jenkins oedd arweinydd Côr Meibion Bargod Teifi, enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1911 a phan fu Daniel Jenkins farw yn sydyn yn 1917 daeth Albert Evans yn arweinydd y côr o 1919 tan 1955 (36 mlynedd) ac arweinydd Band Arian Dre-fach Felindre hefyd. Roedd Daniel Jenkins yn Brifathro Ysgol Genedlaethol Felindre (1892-1917) ac yn arweinydd y côr ac organydd yn Eglwys Sant Barnabas a hyfforddwr di-flino.

 

Dyma fydd rhaglen y prynhawn:
2.00 yp  -   Dadorchuddio’r Gofeb ar ei newydd wedd gan Peter Moody, Warden Eglwys Sant Barnabas a chyn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Penboyr.
2.15yp -    Yn Eglwys Sant Barnabas:
Cyflwyniad ar Eglwys Sant Barnabas gan Mari Elin.
Cyflwyniad ar Daniel Jenkins ac Albert Evans gan Peter Hughes Griffiths.
Cyflwyniad ar Ysgol Wirfoddol Penboyr gan Gwenno Mai.

Bydd cyfle wedyn i gael cwpaned o de ac ymweld â’r ysgol a’r arddangosfa o ddeunyddiau ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ sy’n cael eu cadw mewn cwpwrdd metal arbennig yn yr ysgol.

 

Mae gwahoddiad agored ichi ymuno gyda ni ar y prynhawn hwn yn Eglwys Sant Barnabas ac Ysgol Penboyr.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Peter Hughes Griffiths ar 01267 232240 neu ar e bost i Phughes-griffiths@sirgar.gov.u