Hanes Bargod Rangers
Gofynnir yn aml yn lleol pryd y ffurfiwyd Bargod Rangers. Dywed rhai mai 1880 oedd y flwyddyn pan chwaraewyd y gêm gyntaf a gofnodwyd ar Ddôl Llysnewydd. Mae eraill yn credu mai 1921 oedd hi pan ddaeth Bargod yn un o dimau gwreiddiol Cynghrair Pêl-droed Sir Aberteifi yn 1921. Fodd bynnag roedd Gwynfor Jones, Llywydd am Oes y clwb, yn sicr i’r clwb gael ei sefydlu yn 1897 ac mai tîm hoci oedd ef yn wreiddiol. Nid oedd ganddo unrhyw eglurhad na thystiolaeth ond roedd yn gadarn iawn ei farn am yr wybodaeth a oedd wedi cael ei throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall ac roedd hyn wedi sefyll yn ei feddwl.
Yn 2011 cafwyd tystiolaeth gadarn pan welwyd ffotograff o dîm hoci gyda’r enw Bargod Rangers wedi ei sgrifennu ar fag dillad o flaen y chwaraewyr. Roedd y dystiolaeth hon gydag adroddiadau cynnar o gemau o ganol yr 1890au yn cefnogi gair Gwynfor. Felly rydym yn sicr i Bargod Rangers gael ei ffurfio ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ôl hynny daeth yn un o aelodau gwreiddiol Cynghrair Pêl-droed Sir Aberteifi pan sefydlwyd hwnnw yn 1921. Bu’r clwb yn aelod o Gynghrair Sir Aberteifi yn ddi-fwlch ers ei sefydlu.
Rhai Ffeithiau Allweddol
1880 Ar 9fed Ionawr cofnodwyd chwarae’r gêm bêl-droed gyntaf gan dîm o Felindre, i ffwrdd yn erbyn Castellnewydd Emlyn. Ymddangosodd yr adroddiad yn y Tivyside a chyfeiriwyd at y tîm fel ‘Felindre’.
1884 i 1900au Chwaraeodd tîm y pentref dan wahanol enwau - Bargoed Rovers, Glanbargoed, Drefach, ac yn y blaen. Mae’r adroddiadau hyn yn taflu goleuni ar y ffordd y chwaraewyd pêl-droed yn lleol a’r gystadleuaeth danbaid a fodolai, yn arbennig yn erbyn Castellnewydd Emlyn. Ffyn o’r clawdd oedd y pyst gôl y dyddiau hynny gyda thâp yn gweithredu fel bar croes rhyngddynt.
1895-1899 Sefydlwyd cynghrair hoci gyda Bargod Rangers yn cael ei gefnogi gan Colonel Lewes, Plas Llysnewydd, un o’r boneddigion lleol a thirfeddiannwr. Byddai athletau a chriced yn boblogaidd hefyd ac roedd cwrt tenis ym Mhlas Llysnewydd a châi’r pentrefwyr a phobl blaenllaw eraill wahoddiad i ymuno yn y chwarae.
1900 - 1914 Mabwysiadwyd yr enw Bargoed Rangers ar y tîm pêl droed lleol – a dengys adroddiadau ar y gemau hyd at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf fod y tîm yn llwyddiannus yn y cyfnod hwnnw.
1921 Roedd Bargoed Rangers yn un o bedwar tîm a sefydlodd Gynghrair Pêl-droed Sir Aberteifi.
1920au a’r 1930au Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am Bargoed Rangers yn y cyfnod hwn ar wahân i rai lluniau yn y Llew Coch sy’n dangos bod cefnogaeth dda gan y clwb a’i fod yn ennill cystadleuthau cwpan yn rheolaidd yr adeg honno. Yn 1938 cafodd Oswald Davies, Berwyn, Dre-fach ei gap amatur dros Gymru yn erbyn Lloegr.
1946 – Dychwelai milwyr ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac roedden nhw’n barod i ailffurfio’r clwb. Yn 1946, y flwyddyn gyntaf o ailsefydlu’r gynghrair, enillwyd Cwpan y Gynghrair gan Bargoed Rangers. Roedd Defi John Jones, yr hynaf sydd ar ôl o’r chwaraewyr, yn aelod amlwg o’r tîm hwnnw.
1950au a’r 1960au Gelwir y cyfnod hwn yn Oes Aur y clwb pan enillwyd Cwpan y Gynghrair, Pencampwriaeth y Gynghrair a Chwpan y Bae yn 1957 a gwneud hynny’r eildro yn 1962. Yng nghanol y chwedegau symudwyd y chwarae o Ddôl Llysnewydd i Barc Puw yng nghanol y pentref. Penodwyd Eric Davies, Vaynor, cymeriad lleol lliwgar a rhyfeddol, yn ysgrifennydd y clwb a mynnai deyrngarwch angerddol gan y chwaraewyr.
1970au Daeth cyfnod o newid yn y clwb gyda Michael Davies yn dod yn ysgrifennydd ac yn flaengar iawn wrth godi arian i gael ystafelloedd newid pwrpasol ym Mharc Puw – cartref newydd y clwb. Roedd hi’n amser cyffrous gyda Ffeiriau Haf yn cael eu trefnu ac enwogion fel John Toshack a Stan Ogden o Coronation Street yn bresennol.
1975 Agorwyd yr ystafelloedd newid newydd ym Mharc Puw gyda gêm yn erbyn Llansawel (Briton Ferry). Ailenwyd y clwb yn Bargod yn hytrach na Bargoed, yn dilyn erthygl yn y Tivyside a’r Daily Telegraph yn Ionawr y flwyddyn honno gan Tom Lewis Jones, ‘Bom’, - cefnogwr brwd i’r clwb. Yn ei erthygl anghytunodd â Chyghrair Pêl-droed Sir Aberteifi ac eraill gan ddweud mai’r enw cywir oedd Bargod nid Bargoed. Nododd fod y clwb wedi ei enwi ar ôl yr afon Bargod oedd ar y ffin rhwng Dre-fach a Felindre.
1976 Arwyddodd John Davies, Cwrt, gôl-geidwad y clwb, yn broffesiynol i Ddinas Caerdydd, yr unig chwaraewr pêl-droed proffesiynol i ddod o’r clwb hyd yn hyn.
1977 Ailddatblygwyd wyneb y cae ym Mharc Puw gan gynnwys system ddraenio arloesol a oedd yn cynnwys tywod a mawn. Cafwyd cynlluniau tebyg yn y Baseball Ground, Derby, a Hampden Park, Glasgow. Agorwyd yr wyneb chwarae newydd gyda gemau cyn dechrau’r tymor yn erbyn Clybiau Pêl-droed Dinas Abertawe, Dinas Caerdydd a Wrecsam. Tua diwedd y degawd chwaraeodd y tîm cyntaf yng Nghynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru. Roedd dau dîm arall yn cynrychioli’r clwb yng Nghyngreiriau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
1979 Ar 21ain Ebrill chwaraewyd gêm ryngwladol ieuenctid rhwng Cymru ac Iwerddon ym Mharc Puw ac fe ymddangosodd y gêm ar y teledu.
1980 ymlaen 1981 Chwaraeodd Bargod Rangers yn erbyn Stourbridge o Gynghrair y De yn ail rownd Cwpan Cymru. Enillodd Stourbridge y gêm yn gyfforddus ac fe’u tynnwyd wedyn i wynebu Wrecsam o’r Drydedd Adran yn ail rownd y cwpan. Ymddangosodd adroddiad gan Idwal Robling ar raglen Sports Wales y BBC a gellir ei weld nawr ar YouTube.
1980au Yr adeg hon prynodd y clwb yr hen felin yng Nghilwendeg i ddatblygu canolfan hamdden gyda champfa, cyrtiau sboncen a badminton yn ogystal â bar trwyddedig a bwyty. Roedd tri thîm gan Bargod yn y cyfnod hwn, un yng Nghynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, ac un yr un yng Nghyngreiriau Pêl-droed Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bu’r tîm cyntaf yn cystadlu’n llwyddiannus yng Nghynghrair Canolbarth Cymru am ddwy flynedd ond roedd y costau teithio a chostau’r ganolfan hamdden, ynghyd â materion ar y cae ynglyn â dewis chwaraewyr nad oeddynt o’r ardal, wedi creu problemau a heriau anorchfygol. Yn dilyn yr anawsterau hyn dychwelodd y clwb i chwarae yng Nghynghrair Ceredigion ar ôl dioddef o ganlyniad i oruchelgais. Mae’n wir i ddweud bod y clwb yn yr iselderau am nifer o flynyddoedd wedyn.
1990au 1991 Bu gêm cyn dechrau’r tymor rhwng Bargod Rangers a Chlwb Pêl-droed Hendon ar Barc Puw ar 11eg Awst.
Yn dilyn yr anawsterau yn yr wythdegau edrychodd y clwb yn hyderus i’r dyfodol gan adael o’r neilltu faterion y gorffennol. Yn y cyfnod hwn roedd dau dîm gan y clwb yng Nghynghrair Ceredigion a bu nifer o lwyddiannau yn y gemau cwpan. Yn allweddol wrth adfywio’r clwb roedd cyfraniad nifer o fyfyrwyr a chwaraeodd dros y clwb am gyfnod o bedair blynedd hyd at 1996. Mae’n werth cofnodi yma fod tîm 1996 a enillodd bencampwriaeth yr Ail Adran a Chwpan Ceredigion yn dal i gynnal gemau aduniad yn erbyn Bargod Rangers.
2000au Roedd hwn yn gyfnod o gryfhau wrth sefydlu timau ieuenctid o wahanol grwpiau oedran i gystadlu yng Nghynghrair Pêl-droed Iau De Ceredigion. Roedd y tîm hŷn yn parhau i ddatblygu ac atgyfnerthu yn Ail Adran Cynghrair Pêl-droed Ceredigion.
2010au Rhwng 2010 a 2016 roedd safle’r clwb yn Adran Gyntaf Cynghrair Ceredigion wedi ei sefydlu’n gadarn. Yn yr un cyfnod ymddangosodd y clwb mewn tair Gêm Derfynol Llun y Pasg, gan ennill y cwpan yn 2014 - a dyma’r flwyddyn y collodd y clwb ei drysorydd, Glanville John Evans, ‘Gos’, un o hoelion wyth y clwb. Mae hi braidd yn eironig i’r clwb ennill y cwpan am y tro cyntaf mewn deugain mlynedd yr un adeg â’r golled enfawr hon.