Stori Fawr Dre-fach Felindre

Y Ddwy Chwaer  - Anne a Norma

Anne a Norma

Anne ar y chwith a Norma ar y dde.

Yn yr adran ‘Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre’ ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ fe welir hanes y person arbennig Tom Morgan (Tom Dancapel).  Dwy o’i wyresau ef yw Anne a Norma  (Winston cyn priodi).

Mae’r ail baragraff ar y wefan sy’n cynnwys hanes bywyd Tom Morgan yn darllen fel hyn - “Merch i Tom a Rachel Ann Morgan oedd Gwen (Winston), a’i ddwy wyres yw Anne Pash sy’n byw yn Heol Caerfyrddin, Castell newydd Emlyn, a Norma Winston-Jones, Perthi, Dre-fach Felindre.  Bu Tom Morgan a’i wraig yn byw yn Glasdir (ychydig yn is i lawr na Dancapel,) ac yno y bu Gwen a’i gwr Bob (Robert) Winston yn byw, ac yno y magwyd Anne a Norma.”

Un o nodweddion pennaf Tom Morgan oedd ei ddoniau cyhoeddus amrywiol ac yn boblogaidd fel cyflwynydd ac arweinydd cyngherddau a nosweithiau llawen ar lwyfannau ein gwlad.  Fe ddangosodd ei ddwy wyres Anne a Norma eu doniau hwythau  yn ifanc iawn a bu llwyddiant eisteddfodol y ddwy yn un nodedig yn hanes diwylliannol pentref Dre-fach Felindre.

Norma Winston-Jones

Norma ac Anne a'i rhieni

Fe anwyd Norma yn 1949 yn ail ferch i Bob a Gwen Winston, Glasdir, Drefach Felindre, a phan ond yn dair oed fe ddechreuodd adrodd mewn eisteddfod leol ac yna cael ei hyfforddi gan Y Parch Michael L Thomas gweinidog Capel Closygraig. Roedd hi a’i chwaer Anne yn mynychu’r Ysgol Sul yno.     

Enillodd Norma ei chwpan cyntaf yn Eisteddfod Gwernllwyn a hithau’n dal ond yn dair oed, ac fel ei chwaer fawr Anne fe aeth hi ymlaen i gystadlu mewn eisteddfodau lleol, eisteddfodau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ynghyd ag Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen yn Llanbedr-Pont-Steffan a Phontrhydfendigaid, a chael cryn lwyddiant ac ennill dros 100 o gwpanau, tariannau a medalau. Yr uchafbwynt heb os oedd cael llwyddiant pellach yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964.  

ANNE A NORMA GYDA’R GWEINIDOG Y PARCH ML THOMAS

Wedi i’r Parch Michael L Thomas symud o Glosygraig i Wyddelwern ger Corwen cafodd Norma ei hyfforddi gan Y Parch O T Evans gweinidog Seiloh, Rhos Llangeler, ac yna gan  Mrs Jones, Croeslan.

ANNE a NORMA a PETER

Cafodd Norma ei haddysg yn Ysgol Gynradd Penboyr ac yna Ysgol Ramadeg Llandysul gan fanteisio bob amser ar y cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol – fel Cor yr Ysgol a’r timau hoci iau a hyn. Hwn oedd y cyfnod mwyaf llwyddiannus iddi fel adroddwraig hefyd, nid yn unig fel cystadleuydd, ond hefyd fel un a gymerodd ran yn aml mewn gwahanol ddigwyddiadau cyhoeddus e.e. yn agoriad swyddogol  Neuadd y Ddraig Goch newydd yn 1966 ynghyd a’i chwaer Anne a Peter Hughes Griffiths.

Ar ôl llwyddo yn ei arholiadau yn yr ysgol fe aeth Norma i weithio i Fanc Lloyds yn Llanbedr-Pont-Steffan yn 1967 gan symud i Landysul yn 1968. Maes o law fe’i penodwyd yn rheolwr ar fanciau Castell Newydd Emlyn a Threfdraeth.

Mae Norma wedi ymwneud a’r ‘pethe’ trwy gydol ei bywyd a bu’n aelod o Gor Bargod Teifi a Llywydd o Gangen Bargod Teifi o  Ferched y Wawr ddwy waith. Ers pan yn ifanc bu’n gefnogwr brwd o dimau pel droed Abertawe a Chymru. Teithiodd am flynyddoedd gyda’i thad i weld yr Elyrch yn chwarae ar Gae’r Fetch. Brodor o Abertawe oedd Bob ei thad.

Priododd Norma gyda Peris Jones yn 1971 gan symud i fyw i hen gartref y teulu – Dancapel (y tŷ cyntaf is law Capel Bethel Drefach). Hi oedd y drydedd genhedlaeth o’r teulu i fyw yno.  Ganwyd Siwan Haf eu merch yn 1973 ac fe raddiodd hithau mewn Cemeg – BSc cyn ennill ei MSc.   Symudodd y teulu i fyw i Perthi yn 1977, ac ar ôl ymddeol yn gynnar fe sefydlodd ei chwmni arlwyo Cegin Perthi gan wneud cwrs pellach mewn addurno cacennau.

Un o hoff bleserau Norma a Peris yw teithio’r byd ar fordeithiau, a thrwy hynny cael y cyfle i weld rhyfeddodau lu a chreu ffrindiau newydd a chael profiadau sy’n llawn mwynhad.

Anne Pash (Winston)

Ann

Ganwyd Anne yn blentyn cyntaf i Bob a Gwen Winston, Glasdir, Drefach Felindre yn 1946 ac yn wyres i’r gwr lleol poblogaidd Tom Morgan, Dancapel, Drefach.
Dechreuodd adrodd pan yn chwech oed ac ennill y wobr gyntaf y tro cyntaf iddi gystadlu yn Eisteddfod Drefach ar Llun y Pasg. (Cynhaliwyd yr eisteddfod hon yn flynyddol am gyfnod hir yn Neuadd y Ddraig Goch bob Llun y Pasg.)

Ar ôl bod yn Ysgol Gynradd Penboyr a llwyddo yn arholiad y ‘scholarship’ fe aeth i Ysgol Ramadeg Llandysul lle  bu’n aelod o dim hoci iau a hyn yr ysgol ac yn aelod o dimau tenis ac athletau ysgolion Sir Aberteifi.

Cafodd gyfle hefyd i gymryd rhan mewn nifer o ddramâu yn yr ysgol, ac ar ôl llwyddo yn ei arholiadau fe aeth Anne ymlaen i Goleg Cyncoed Caerdydd i gael ei hyfforddi fel athrawes. Yng nghyfnod ei hienctid enillodd wobrau lu yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd ac Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen yn Llanbedr-Pont-Steffan a Phontrhydfendigaid, yn ogystal ag eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad.  Pinacl ei chystadlu oedd ennill Y Rhuban Glas, sef prif wobr Adrodd dan 25 oed yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1969. Hi oedd y person ifancaf ar y pryd i ennill y wobr arbennig hon.

Cafodd ei derbyn yn Aelod o’r Orsedd yn 1970 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman ac yna ei anrhydeddu gyda’r Wisg Wen yn Eisteddfod Sir Benfro yn 2002.    O ganlyniad i’w gweithgarwch a’i chyfraniad yn hyfforddi  unigolion a phartïon cyd-adrodd a llefaru dewiswyd hi yn Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd  Y Preseli.

Bu bywyd Anne yn un amrywiol iawn a hynod o ddiddorol. Ar ôl dysgu yn Ysgol Aberbanc ger Henllan ar ôl dyddiau coleg, fe ymunodd a’r fyddin fel athrawes yn Singapore, a bu’n dysgu yno o 1971 tan 1974. Bu’n chwarae hoci bob wythnos ar dir y clwb criced sydd gyferbyn a’r gwesty enwog Raffles. Yn Singapore y cyfarfu a Phil Pash a dod nol i briodi yng Nghapel Closygraig, Drefelin. Symud wedyn i Brunei lle roedd Phil ei gwr wedi ei secondio gyda’r fyddin. Mae’n werth nodi tra yn byw yno i Anne ddawnsio gyda’r person cyfoethocaf yn y byd yr adeg honno, sef y Swltan o Brunei!  Fe wnaethon nhw adael Brunei yn 1976 a dod nol i Fleet yn Hampshire ac yna i Nottingham yn 1978 lle ganwyd eu merch Cerys.  Yna, yn drist iawn, bu farw Phil yn 1980, a Cerys ond yn 15 mis oed.  Doedd dim amdani wedyn ond symud yn ôl i Gastell Newydd Emlyn i fyw er mwyn bod yn agosach at ei theulu yn yr hen ardal. 

Wrth gychwyn pennod newydd yn ei bywyd bu Anne yn athrawes dros dro yn Ysgol Gynradd Abercych ac Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn derbyn swydd yn Adran Gymraeg Ysgol Y Preseli. Fe ddaeth yn Bennaeth yr Adran Addysg Arbennig yn yr ysgol maes o law cyn ymddeol yn 2010.  Bu ei chyfraniad yng nghyfnod Ysgol Y Preseli yn un nodedig ac arbennig iawn ym maes adrodd a llefaru. Hyfforddodd nifer fawr o unigolion a phartïon llwyddiannus iawn ac fe enillodd Parti Cyd-adrodd Bro’r Garthen yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd yn 1994.    Bu Anne yn feirniad yn ein Gwyliau Cenedlaethol lawer tro yn ogystal ag eisteddfodau lleol ar hyd a lled Cymru.

Yn lleol yng Nghastell Newydd Emlyn bu’n aelod ffyddlon o Ferched y Wawr ac yn ysgrifenyddes yr Ysgol Feithrin am flynyddoedd lawer.  Bu’n aelod o Lywodraethwyr Ysgol Dyffryn Teifi am gyfnod a chafodd gyfle i ymlacio trwy fynd ar fordeithiau ar draws y byd.     Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn nid yw Anne wedi mwynhau yr iechyd gorau ac yng nghyfnod anodd Cofid cafodd ei chyfyngu i’w chartref yn Heol Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn.
Bu brwdfrydedd a dylanwad Anne Pash yn myd  llefaru ac mewn meysydd amrywiol eraill yn un y gall ardal Drefach Felindre a Chymru gyfan fod yn falch ohono, a diolchwn iddi am eu chyfraniad clodwiw a nodedig dros ben.

Peter Hughes Griffiths  Gorffennaf 2021.