skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Yr Henadur JOHN LEWIS C.B.E., J.P.,  1851 – 1943 

– gyda mwy o hanes Teulu’r Lewisiaid Meiros Hall, Drefach Felindre.

Heb os roedd JOHN LEWIS perchennog Ffatri Wlan Y Meiros (Meiros Mill), ar lan yr afon Bargod ym mhentref Drefach yn un o arweinwyr mwyaf blaenllaw cyfnod ‘oes aur’ y diwydiant gwlân yn yr ardal.  Adeiladodd y tŷ Meiros Hall tua 1880. Urddwyd ef yn Henadur yn 1892, yna yn Ynad Heddwch erbyn 1910 ac fe dderbyniodd y C.B.E. yn 1918.  Dywedir fod y Frenhines Mary, ar un achlysur, wedi derbyn gwahoddiad i Meiros Hall.

Roedd John Lewis yn fab i David a Elizabeth Lewis (Jones cyn priodi). Priododd gyda Anne Williams (g 25 Awst 1859. m 20 Tachwedd 1952), ac ail gyfnither iddo yng Nghapel y Bedyddwyr Drefach ar 21ain o Ionawr 1882. Yr enwog - Y Parchedig Gomer Lewis, ac ewythr i Anne, a’u priododd.

[Roedd Anne yn ferch i Samuel ac Eleanor Williams, Ffatri’r Dyffryn. Roedd Eleanor Lewis ei mhâm yn chwaer i’r Parch Gomer Lewis, Abertawe a’r ddau yn blant i John ac Elizabeth Lewis, Llwynbedw. Y John Lewis hwn adeiladodd Ffatri’r Dyffryn yn ymyl Llwynbedw.]

Sgrol Yr Hendadur John LewisBu John Lewis, Meiros Hall yn ddiacon yng Nghapel y Bedyddwyr, Drefach am dros 70 mlynedd. Roedd e’n Rhyddfrydwr brwd ers pan yn ŵr ifanc ac yn Is-Lywydd y mudiad yng Ngorllewin Sir Gaerfyrddin ac yn gefnogwr a ffrind i Lloyd George. Etholwyd ef yn 1889 yn aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin pan sefydlwyd y Cyngor yn gorff democrataidd am y tro cyntaf, a bu’n  Gadeirydd yn Cyngor.  Yn 1892 cafodd ei urddo er anrhydedd yn Henadur Sirol ac mae’r sgrôl wreiddiol honno a gyflwynwyd iddo ym meddiant ei or-wyr Robin Exton.  Dywedodd Robin ei fod yn cofio aelodau o’r teulu yn son am yr Henadur John Lewis yn mynd i gyfarfodydd o’r Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin mewn coits a cheffyl, ac yna yn aros yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg y noson cynt a’r noson ar ôl y cyfarfod, cyn teithio nol i Meiros Hall.

Cafodd ei wneud yn Ynad Heddwch Sir Gaerfyrddin gan eistedd ar Fainc Llys Castell Newydd Emlyn.   Daliodd nifer helaeth o swyddi ym mywyd cyhoeddus y cyfnod ac roedd e’n aelod o nifer o bwyllgorau’r Cyngor. Bu’n aelod o’r cychwyn o lywodraethwyr Ysgol Sirol Llandysul pan gafodd yr ysgol honno ei sefydlu yn 1895, ac yn gadeirydd.   Yn y llyfr Canmlwyddiant Addysg Uwchradd Llandysul – golygydd Arwyn Pearce, ac ar dudalen 124 mae llun o Lywodraethwyr yr Ysgol, ac yn eu plith yr Henadur John Lewis, C.B.E., J.P., mewn gwth o oedran. Yna, ar dudalen 138 mae darn wedi ei ysgrifennu gan John Evans (John y Gwas) i gofio am “The Late Alderman John Lewis, J.P., C.B.E.  Mae’n son amdano... “We mourne the passing of a well known industrial figure and a worthy representative of the public whose long and varied experience was turned to service, consideration and charitable usefulness for the common good.”  Bu’n Lywodraethwr ar Goleg Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol De Cymru.. a mwy.  Yn ystod y rhyfel byd cyntaf (1914-18) fe oedd is-gadeirydd y Trebiwnlys Milwrol ac yn 1918 fe dderbyniodd yr C.B.E. ac fe’i hurddwyd ym Mhalas Buckingham gan y Brenin Sior V. Mae’r fedal honno yn awr gan Robin Exton ei or-wyr.

Yn ôl y “Family History Report” a ddaeth i law, fe anwyd 10 o blant i John ac Anne Lewis rhwng 1882 a 1902, ond bu nifer farw pan ond yn fabanod. Dyma’r plant a oroesodd fel rhan o’r teulu :
Samuel David Lewis 1882 –
Albert Williams Lewis 1887 – 1959.
Eiffel Sidney Lewis  1889 – 1952.
Georgina Mai Lewis  1893 – 1937
Helen Lewis  1894 –
Lilian Beatrice Lewis  1902 – 1994.

Bu farw Yr Henadur John Lewis, Meiros Hall, Drefach ar 21ain o Ionawr 1943 ac fe’i claddwyd ym mynwent Capel Saron. Bu Anne Lewis ei wraig farw ar 20ed Tachwedd 1952 ac fe’i claddwyd hithau ym medd y teulu ym mynwent Capel Saron hefyd.     
                            
Heb os nac oni bai roedd yr Henadur John Lewis, Meiros Hall, Drefach yn un o bobl flaenllaw yr ardal a Sir Gaerfyrddin yn ystod ei gyfnod. Mae’n amlwg ei fod yn berson pwysig mewn llywodraeth leol a’i aelodaeth o wahanol sefydliadau cyhoeddus yn niferus ac yn ddylanwadol iawn.

Teulu John ac Ann Lewis, Meiros Hall, Drefach Felindre.

Casglwyd ychydig o wybodaeth am ddisgynyddion John ac Ann Lewis, Meiros Hall.

SAMUEL DAVID LEWIS – Ganwyd yn 1892 ac yn blentyn cyntaf i John ac Ann Lewis. Sam mae’n debyg redai Ffatri’r Dyffryn. Priododd merch Samuel David Lewis gyda Samuel Williams o Benrhiwllan ac fe gawson nhw nifer o blant. Yn eu plith roedd Samuel (arall) sef tadcu’r Cynghorydd Ken Howell, Penlan Fawr, Penboyr, Felindre. Bu’r Samuel Williams hwnnw, y mab farw o niwmonia yn 34 oed.  Bu’r  teulu yn rhedeg siop gwerthu crysau gwlanen (o Ffatri Dyffryn!) i’r gweithwyr dur yn Middlesburgh. Fe ddaethon nhw nol wedyn i redeg Ffatri’r Dyffryn a dyna pryd y bu Samuel Williams farw yn ifanc.  Bu cryn anghytuno rhwng y teulu Williams a’ theulu Lewisiaid Meiros Hall.  Fe aeth ei weddw yn ôl i Benlan Fawr gyda’i thri phlentyn at ei Anti a’i Wncwl a oedd heb blant. Y tri phlentyn oedd Samuel Cleveland Williams, (Sam Gwastod, Penboyr), Elinor, mam Ken Howell a Jonnie Williams (Penlan Fawr gynt).

Bu rhwyg yn y teulu am na gredai yr hen Sam - Samuel David Lewis y gallai menyw redeg y ffatri wlân fel ei gwr Samuel Williams.

ALBERT WILLIAMS LEWIS  - 1887 – 1959.  Ysgrifennodd John Trevor Lewis, plismon wedi ymddeol yng Nghanada erthygl yn y cylchgrawn Carmarthenshire Life – Hydref 1996 yn rhoi hanes ei dad Albert Williams Lewis a’i dadcu a’i famgu John ac Anne Lewis, Meiros Hall. Crynodeb o’r erthygl yw’r wybodaeth ganlynol :

Fe briododd Albert Williams Lewis gyda merch o Geredigion ac fe aned merch iddyn nhw o’r enw Ann.  Ond bu tor briodas yn fuan.  (Bu farw Ann y ferch yn 1983.) Pan ymwelodd John Trevor Lewis ( hanner brawd i Ann) a Chymru fe ddangoswyd ei bedd iddo yn Llanon, Ceredigion gan Jack Tarr, gwr Ann.
Ail briododd Albert Williams Lewis gyda Hilda Charlotte Lewis yn Balham, Llundain ac fe anwyd mab iddyn nhw, sef John Trevor Lewis (Canada). Ond, fe wahanodd y ddau yn fuan ac fe ail briododd Hilda a symud i fyw i Ganada gyda’i gwr a’i mab John Trevor Lewis.
Ymunodd Albert Williams Lewis a’r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf ac ar ôl dychwelyd o Lundain i’r hen ardal yn 1918 fe brynodd ei rieni (John ac Ann Lewis, Meiros Hall) ffatri wlân iddo yn Llandudoch, a bu’n cynhyrchu crysau i Gwmni Marks & Spencer gan deithio i Lundain yn aml.
Daeth John Trevor Lewis ei fab  i Gymru am ddau fis yn 1996, ar ôl ymchwilio i hanes ei dad a theulu’r Lewisiaid, Meiros Hall. Mae llun ohono yn y rhifyn hwnnw o’r Carmarthenshire Life, ynghyd a llun ohono ef a’i wraig yn sefyll wrth fedd Albert Williams Lewis ei dad.

Dyma ddarn allan o nodiadau gan John Trevor Lewis (Canada) am ei dad Albert Williams Lewis.
OBITUARY – Cardigan & Tivy Side Advertiser – Page 5 Friday January 16, 1959.
Mr Albert Lewis – The funeral took place ar Saron, Llangeler on Monday of Mr Albert W Lewis, Oaklands, St Mary Street, Cardigan. He was 70. Mr Lewis was the son of of the late Alderman John Lewis, Meiros Hall, Drefach, Llandysul and at one time was a shirt manufacturer at Henlana Mills, St Dogmaels. He was born at Drefach and educated at Llandysul Grammar School and Llandovery College. He was a keen rugby enthusiast and played for the London Welsh and the Barbarians. Mr Lewis possessed an excellent voice and as a young man sang with several choirs in the district. Sympathy is extended to Miss Lilian Lewis, Meiros Hall on the death of her brother.
 
EIFFEL SYDNEY LEWIS  1889 – 1952.   Cafodd yr enw Eiffel mae’n debyg ar ôl Twr Eiffel ym Mharis, Ffrainc.  Adeiladwyd y twr hwnnw rhwng 1887 a 1889. Priododd gyda Amelia Davies a mynd i fyw i’r Garth, sef tŷ sylweddol ei faint yng nghanol pentref Felindre ychydig i lawr y ffordd o’r hen Neuadd y Ddraig Goch.  Ganwyd mab iddyn nhw sef JOHN THOMAS LEWIS a ddaeth yn adnabyddus fel TOM GARTH.

Priododd Hetty Davies – chwaer Amelia gyda Johnny Lewis perchennog Ffatri Cambrian. Pan wnaeth Eiffel ac Amelia Lewis wahanu  fe aeth Tom eu mab i fyw gyda Johnny a Hetty Lewis ei fodryb a’i ewythr. Roedden nhw yn byw yn ‘Trewern’ sydd gyferbyn a thafarn y Red Lion yn Nrefach.

Cymerodd Eiffel y cyfrifoldeb o redeg Ffatri Wlan Meiros pan oedd ei dad yn heneiddio.  Mae’n debyg fod Eiffel Lewis yn gymeriad lliwgar iawn a bu’n chwarae pel droed i dim Bargod Rangers. Roedd yn or hoff o’r ddiod gadarn hefyd yn ôl pob hanes amdano.

TOM GARTH’  - Roedd John Thomas Lewis (Tom Garth) yn fab i Eiffel ac Amelia Lewis, Y Garth, Felindre. Roedd e’n blentyn galluog iawn ac fe gafodd ei addysg yn y Felindre Council School ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Bu’n chwarae i dim pel droed yr ysgol ac yn y gol i Bargod Rangers. Mae lluniau ohono yn nhîm pel droed yr ysgol yn 1938 ar dudalennau 111 a tudalen 116 o’r llyfr Canmlwyddiant Addysg Uwchradd yn Llandysul. Ar dudalen 148 hefyd yn yr un llyfr mae rhestr o gyn-ddisgyblion yr ysgol a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn y rhestr honno mae’r canlynol:  F/O John Thomas Lewis  - Killed in Yorkshire 16th November 1944.

Dychwelwyd ei gorff i gartref Johnny a Hetty Lewis i ‘Drewern’, Drefach.  Lladdwyd Tom Lewis ac yntau ond 22ain oed ar ôl iddo ymuno a’r RAF ar ôl bod yn blismon gyda Heddlu Portsmouth wrth i’r awyren ddisgyn ar ffermdy gerllaw Rufford yn Swydd Efrog pan yn ceisio glanio mewn tywydd drwg, Roedd e’n fachgen poblogaidd iawn yn yr ardal ac yn amlwg ym mywyd cymdeithasol Drefach Felindre. Roedd e’n wyr wrth gwrs i John ac Ann Lewis Meiros Hall.

GEORGINA MAI LEWIS  1893 – 1937.    Fe briododd Georgina Mai Lewis gyda Digby Exton o Faesteg ac fe anwyd mab iddyn nhw sef JOHN MEiROS EXTON. Yn dilyn marwolaeth Lilian Lewis (modryb John) daeth Meiros Hall yn eiddo i John Exton a bu ef a’i wraig Betty yn byw yno.  Magwyd eu plant ROBIN ac ANN ym Meiros Hall. Roedd John a Betty Exton yn berchen ar Westy’r Hebog, (Falcon Hotel) yn Heol Awst Caerfyrddin. Robin y mab sy’n rhedeg y gwesty yn awr ac mae e’n byw ym Mheniel ger Caerfyrddin a’i chwaer Ann yn byw yn Llundain.
Bu farw John Exton yn 1996 ac mae ef a’i wraig Betty wedi eu claddu ym mynwent Drefach.
 
HELEN LEWIS – 1894 -                     Fe briododd hi a chyfreithiwr gyda’r cyfenw Macdonald a byw yn Lerpwl.

LILIAN BEATRICE LEWIS  O.B.E.   1902 – 1994.  Hi oedd y plentyn olaf a anwyd i John ac Ann Lewis, Meiros Hall. Fe’i ganwyd ar 7ed Tachwedd 1902 a bu farw ar 7ed Chwefror 1994 ac fe’i claddwyd ym medd y teulu ym mynwent Capel Saron. Ymddangosodd adroddiad o’i marwolaeth yn y ‘Carmarthen Journal’ ar Chwefror 16eg 1994.

Mae’n debyg i’w rhieni ei hanfon i Ysgol Breifat yn Taunton ac yna i ‘Finishing School’ yn y Swisdir. Bu ar staff Coleg Pibwrlwyd, Caerfyrddin, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd cyn dychwelyd i Meiros Hall i edrych ar ôl ei rhieni yn eu hen ddyddiau.  Cofir amdani yn bennaf wedyn am ei chyfraniad hir fel Cyfarwyddwr  i fudiad y Groes Goch yn Sir Gaerfyrddin o 1954 tan ei hymddeoliad yn 1974.  Yn 1964 derbyniodd Fathodyn Er Anrhydedd y Groes Goch am ei gwasanaeth nodedig. Cymaint bu ei chyfraniad hir a diflino fe dderbyniodd yr O.B.E yn 1967. Hi gafodd yr eiddo o Meiros Hall ar ôl ei mam a’i thad a bu yn byw yn yr hen gartref cyn ei drosglwyddo wedyn i John a Betty Exton.
 

Dyma fedd teulu Meiros Hall, Felindre sydd nesaf at gof golofn y Dr Gomer Lewis ym mynwent Capel Saron, Llandysul.
Ar y garreg fedd - Er cof am nifer o’u  babanod. Yna John ac Ann Lewis, a’u merch MAY a’u mhab EIFFEL ynghyd a beddau eu plant  LILIAN  ac ALBERT LEWIS.

Bedd plant Meiros Hall
Bedd Lilian Bedd Albert

Peter Hughes Griffiths, Hydref 2021