skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Sgwrs am JOHN EVANS (John y Gwas)

gan Peter Hughes Griffiths ar nos Fercher Mai 22ain 2019 yn Nhafarn John y Gwas, Felindre.

Y cof cyntaf sy gen i am John y Gwas yw ei weld yn sefyll tu allan i ddrws y New Shop Inn (neu Yr Alsop) yn gwrando ar blant y pentref yn canu ac yn casglu calennig ar Ddydd Calan.  Roeddwn i yn un o rheini, a bob blwyddyn fe fydde fe’n mynd i boced ei wasgod a rhoi ‘pishin tair’ newydd sbon y flwyddyn newydd honno i ni. I ni y plant roedd y dyn hwn yn ddyn arbennig iawn – shwt yn y byd roedd e’n gallu cael, ar ddydd cynta’r flwyddyn y pishin tair newydd hwn? Felly, roedd John y Gwas wedi creu argraff arna i a finne ond yn blentyn!

EWYLLYS SAM OWENS
Ond, roedd y John y Gwas hwn wedi chwarae rhan arall yn fy mywyd i – a hynny heb yn wybod i mi – a finne ond tair oed.

Roeddwn i yn byw yn Llwynbedw, ond yn byw mewn un ystafell drws nesaf ond un i ni roedd y bardd lleol enwog Samuel Owens. Roedd e’n berson shei, hen, tlawd a musgrell, a fy mam mwy neu lai yn edrych ar ei ôl yn ei henaint a’i dlodi.

Yr hyn sydd gen i fan hyn yw copi gwreiddiol o Ewyllys Sam Owens.
(Dangos yr ewyllys a’i darllen.)   Ie, John Evans (John y Gwas) New Shop Inn oedd y tyst angenrheidiol i wireddu’r ewyllys. Beth gafodd Beti fy chaer a fi ar ei ôl? Dim ond un peth – sef Cadair Eisteddfod Soar 1910 – achos gorfod i mam werthu ei holl eiddo prin i dalu am ei gladdu – ond fe gadwodd hi y gadair hon a bu honno yn ein tŷ ni, ac ar landin fy nghartref yng Nghaerfyrddin tan i fi ei chyflwyno i’r Amgueddfa Wlan Genedlaethol fel rhan o Arddangosfa Hen Eisteddfodau Drefach Felindre fel rhan o ‘Stori Fawr Drefach Felindre’.
Hefyd, roedd mam yn dipyn o ffrind gyda Elisabeth neu Leisa i bawb, sef ail wraig John y Gwas, gan fod y ddwy wedi eu magu yn ardal Trelech.
 
Felly, pan fuodd John y Gwas farw ar Dachwedd 15ed 1958 roeddwn i yn 18 oed ac felly wedi byw ers pan yn grwt yn y cyfnod pan fuodd e a Leisa yn cadw’r Alsop fel y galwen ni y dafarn.  Fel crwt ifanc rwyf fi yn ei gofio’n dda, ond  mae eraill yn ei gofio yn well na fi – pe bai ond am Alan Campden.
 
OND PWY OEDD JOHN Y GWAS MEWN GWIRIONEDD? 
Ganwyd JOHN WILLIAM EVANS yn ‘Tŷ hwnt’, Aberbanc ger Henllan ar Dachwedd 1af 1877.   Fe fuodd e yn ‘Pupil Teacher’ yn Ysgol Penboyr dan ofal Daniel Jenkins y prifathro. Yna, yn ‘Assistant Master’ yn Ysgol Hendy ger Pontarddulais ac yna Brynmawr tan Medi 1899.
Ar Ebrill 30ain 1900 dechreuodd fel athro yn Ysgol Aberbanc, a bu yno fel ‘Uncertificated Assistant Teacher’ am 36 mlynedd a 9 mis gan orffen ar Ionawr 19eg 1937. Derbyniodd ‘Testimonial’ o £22.71 swllt.
 
Nawr, roedd John Evans wedi priodi Mary Jane Davies ar 11eg Hydref 1924 gan dderbyn ‘Silver Ink Stand’ yn anrheg priodas gan y staff a’r plant ar Ionawr 1af, 1925. Sylwer ei fod yn 48 oed yn priodi. Bu farw ei wraig Mary Jane ar 31 Mai 1935, deng mlynedd yn ddiweddarach a hithau yn 74 oed (wedi ei geni 28 Tachwedd 1860).  Felly, roedd hi 17 mlynedd yn hyn na John Evans ei gwr. Fe’i claddwyd hi ar 4ydd Mehefin 1935 ym mynwent Eglwys Penboyr a John yn 58 oed.
 
Nodais iddo gyflwyno ei ymddeoliad a gorffen fel athro yn Ysgol Aberbanc ar Ionawr 19eg 1937 ac yntau yn 60 oed. Ond, fe ailbriododd John Evans ar 23 Mai 1937 gyda Miss Elizabeth Davies o ardal Trelech yn Eglwys Sant Teilo, Plwyf Trelech ar Betws ac yntau yn 60 oed erbyn hynny.
Mae’n edrych yn debyg mai dyna pryd y daeth y ddau i gadw’r New Shop Inn ym mhentref Felindre er bod hi’n gwbl glir fod y person arbennig hwn sef John y Gwas (yn ôl ei ffug enw) yng nghanol ‘y pethe’ a’r diwylliant Cymreig pan yn athro yn Aberbanc. Ond, ar ôl dod i’r New Shop Inn fe flodeuodd e fel person cyhoeddus eto ac fel hanesydd, awdur, bardd a beirniad a Chynghorydd a llawer iawn mwy fel y cawn weld.
Roedd e’n 60 oed yn priodi Leisa ac fe gafodd e ugain mlynedd a mwy o fyw yma yn Yr Alsop. Erbyn hynny roedd pawb yn galw’r dafarn yn ‘Dafarn John y Gwas’ ar lafar. Yma fuodd e tan ei farw yn weddol sydyn ar Dachwedd 15ed 1958 yn 81 oed ac fe’i claddwyd yntau hefyd ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr.
Yn ystod haf 1958, ac ychidig cyn iddo farw, rwy’n cofio’n dda mynd gyda Aled Parcnest, Castell Newydd Emlyn i noson ‘Ymryson y Beirdd’ yn neuadd Henllan wedi ei threfnu gan Dan Lynn James. John y Gwas a’i ddoniau hwyliog oedd arweinydd y noson – roedd e yn ei elfen gyda Bois y Cilie,
 T Llew Jones, Dic a Tudfor ac eraill yn cyfansoddi’r tasgau ar y pryd. Yr anfarwol Isfoel oedd y ‘Meuryn’ ac fe osododd y teitl ‘John y Gwas ar gyfer cyfansoddi yr englyn i’r timau.  Rwy’n dal i gofio’r  esgyll o waith Dic Jones, ac fe rown y byd o wybod beth oedd y paladr!  Ac o gofio fod gwallt gwyn fel yr eira gan John y Gwas a’i fod yn dyfarnwr meddai Dic Jones
                             “Ei wallt neis sydd fel eisin,
                               Hwn yw’r jawl a ranna’r jin”.
Do, fe fuodd John y Gwas farw ychydig fisoedd ar ôl y noson honno yn Henllan, a finne wedi mynd i Goleg y Drindod ym mis Medi. Tybed a’i dyna’r tro diwethaf i fi ei weld e? Os ie, fe weles i e yn ei elfen ac ar ei orau yng nghanol ‘y pethe’ ac yntau wedi treulio ei fywyd yn cyfansoddi a diddori cynulleidfaoedd.
 
CYFNOD Y NEW SHOP INN neu’r ALSOP
Yn ei gyfnod yn y New Shop Inn fe ddaeth e yn gynghorydd – yn gyntaf ar Gyngor Gwledig Castell Newydd Emlyn (1940 – 46) ac yna yn 1951 dros Blwyfi Llangeler a Phenboyr ar Gyngor Sir Caerfyrddin – ac rwy’n cofio yn iawn – os gwelech chi’r Cynghorydd  John Evans yn gwisgo ei fowler hat, roedd e ar ei ffordd i gyfarfod o’r Cyngor yng Nghaerfyrddin neu ar fusnes arall pwysig. Teithio gyda Gwyn Parcnest efallai neu dal bws y Western Welsh. Ni welais i e yn gyrru car erioed, ac rwy’n weddol siwr na fu yn berchen un.
Dyma’r cyfnod pan y buodd e yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol newydd Fodern Emlyn ac Ysgol Ramadeg Llandysul ac aelod o Lys Prifysgol Coleg Abertawe.
 
Am flynyddoedd bu’n cyfrannu i’r ‘Carmarthen Journal’ trwy ei golofn wythnosol ‘Dwy Ochr Teifi’.
Roedd John Evans yn eglwyswr mawr ac wedi casglu gwybodaeth ac wedi croniclo hanes eglwysi – yn enwedig yn Ne Ceredigion, gan gynnwys manylion hunangofiannol am yr holl offeiriaid. Fe oedd Warden eglwys Penboyr am flynyddoedd maith.
 
Mae gen i gof fod Leisa ei wraig wedi cario mlaen i redeg y dafarn am ychydig ar ôl marwolaeth John y Gwas, ac fe glywais stori bod Leslie Baker Jones Llainffald (drws nesaf i’r dafarn) wedi gweld mwg yn codi o ardd gefn y dafarn rhyw fore. Aeth i edrych, a dyna lle’r oedden nhw yn mynd ati i ddechrau llosgi yr holl bapurau a holl ‘stwff’ John y Gwas. Yn ôl yr hanes, fe redodd Leslie Baker Jones atyn nhw a’u stopio. Diolch am hynny o achos fe drefnodd Leslie Baker Jones i holl bapurau a chasgliadau John y Gwas i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Rhyw dair blynedd yn ôl fe es i i’r Llyfrgell Genedlaethol i weld beth oedd yno, a phleser diddiwedd i fi oedd gweld fod dau focs cardfwrdd mawr yno yn llawn o lyfrau a phapurau John y Gwas Ar y ddau focs mae’n dweud:
“Manuscripts and Papers of John Evans (John y Gwas). Donated May 1961 (dwy flynedd a hanner ar ôl ei farwolaeth) by Mrs Irene Williams per DLBaker Jones (un-catalogued).
A fi oedd y cyntaf i agor y ddau focs ers 1961, ac fe dreuliais ddau ddiwrnod cyfan yn pori trwy gynnwys y ddau focs, a deall mai fi oedd y cyntaf i wneud hynny, a sylweddoli pwysigrwydd y person nodedig hwn yn hanes Drefach Felindre.
[ Yn fuan wedyn fe aeth Mr John Jenkins, 15, Maes y fallen, Bow Street, Ceredigion trwy’r ddau focs ar gyfer ysgrifennu’r llyfr “Aberbanc Ein Bore Bach” sef Hanes Ysgol Aberbanc 1848 – 2016. Mae ganddo bennod yn y llyfr o dan y teitl ‘Dyddiaduron John y Gwas’ sy’n rhoi darlun eto i ni o’i gyfnod yn Ysgol Aberbanc.]
 
CYNNYS Y DDAU FOCS YN Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL
Y peth cyntaf a rhyfeddol oedd gweld ei fod wedi cadw DYDDIADUR WYTHNOSOL yn ddifwlch o’r 26ain Hydref 1912 mewn 12 ‘copy book’ trwchus tan y 9ed Tachwedd 1958, sef chwe niwrnod cyn ei farwolaeth ar 15ed Tachwedd 1958. Mae hyn yn gofnod gwerthfawr dros ben ac yn rhoi darlun cymdeithasol llawn i ni o ardal Aberbanc a Henllan, Drefach Felindre a’r ardaloedd cyfagos.
Fe ddechreuodd e ysgrifennu “Fy Hunangofiant gan John Evans (John y Gwas)’ ac yntau ond 35 oed mewn ‘Invernell Excercise Book’. Hunangofiant hyd at pan ond yn 35 oed oedd hwn, ond ni wnaeth barhau ar ôl hynny.

  • Mae’n werth nodi ei fod yn defnyddio’r enw ‘John y Gwas’ fel ffug enw cyn ei fod yn 35 oed.

  • Mae hen draddodiad gan y Cymry wrth gystadlu i ddefnyddio ‘ffug enw’ wrth gyfansoddi ac ysgrifennu. Mae’n amlwg mai’r enw ‘John y Gwas’ a gymerodd John Evans. Nid yn unig roedd e yn ei ddefnyddio fel enw addas barddonol, ond fe ddatblygodd yr enw i fod yn rhan o’i fywyd cymdeithasol ac yntau ‘yn was i bawb’ fel cynghorydd, a’i barodrwydd i helpu pawb a phopeth yn ei weithgareddau lleol.

  • ‘John y Gwas’ oedd e i bawb ac nid John Evans, ac mae ei enw yn dal yn rhan o fywyd pentref Drefach Felindre.

Mae’n amlwg o ddarllen cynnwys y ddau focs fod ganddo ysfa gystadleuol ac wrth ei fodd yn cystadlu mewn eisteddfodau ar farddoniaeth ac yn cyfansoddi ac ysgrifennu erthyglau.
Mae’n cynnwys rhestr hir o’r gwobrau a enillodd ac yn nodi ei erthyglau gan gynnwys un i’r cylchgrawn ‘Yr Haul’ yn 1903 ar Gastell Newydd Emlyn,
Bu’n gohebu i’r ‘Llan’, cylchgrawn yr Eglwys, fel ‘John y Gwas’ a hefyd i’r ‘Tivy Side’ a’r ‘Welsh Gazette’ a’r ‘Carmarthen Journal’ y papurau lleol.
Yn 1912 cyhoeddodd ‘Hanes yr Achos yng Nghapel Soar, Penboyr’.
Mae’n rhestri yr holl gadeiriau eisteddfodol a enillodd, a rhestr hir o’r eisteddfodau y bu’n beirniadu’r adrodd a’r adran lenyddiaeth.
Bu’n arwain eisteddfodau a chyngherddau a nosweithiau o bob math.
Ysgrifennodd am ‘Offeiriaid Enwog Sir Aberteifi’ – hyn i gyd CYN ei fod yn 35 oed gan eu fod yn nodi’r cyfan yn ei hunangofiant.
 
Mae’r ddau focs yn llawn o ugeiniau o ‘copy books’ ac ‘excercise books’ yn ei lawysgrifen ei hun. Mae rhestr o gynnwys pob un o’r llyfrau hyn i’w gweld gen i ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan ‘Hanes John y Gwas.’
Dyma flas yn unig ichi o gynnwys ambell beth yn y llyfrau hyn:
Llyfr Glas: Apêl Drefach Felindre a’r Cylch i gael ‘Siren’ i rybyddio pobl adeg yr ail ryfel byd – 2il Awst 1940.
Llyfr Bach Coch a Llyfr Bach Pinc:  Beirniadaethau cystadlaethau Adrodd mewn eisteddfodau, e.e. Eisteddfod Brongest Tachwedd 28ain 1922.
Copi o ddarlith gan John y Gwas yn Neuadd y Ddraig Goch, Felindre am y plwyf ac yn son am y peiriant ‘mule’ cyntaf yn dod i Ffatri Llwynbedw yn 1850.
Son am John Adams o Ffatri  Wlan Dolwyon, gan i un o’i deulu ddod yn Llywydd Unol Daleithiau’r America.
Mae ganddo gasgliad o’r hyn sydd ar gerrig beddau, gan enwi’r mynwentydd, mewn llyfr bach du ac yn cofnodi 271 o englynion ar feddrodau.
 
Tafarn John y Gwas oedd yr enw answyddogol ar y New Shop Inn yng nghyfnod John y Gwas ym mhentref Felindre a braf gweld mai dyna yw yr enw swyddogol heddiw. 
Pryd a phwy y penderfynwyd hynny?
Pob clod i bwy bynnag wnaeth enwi’r dafarn yn Tafarn John y Gwas er mwyn i’r genhedlaeth bresennol a’r dyfodol sylweddoli a gwerthfawrogi pam y mae’r dafarn hon wedi ei henwi ar ôl gwr mor ddiwylliedig ac arbennig iawn yn hanes yr ardal.
 
Rwy’n dychmygu y byddai John y Gwas wrth ei fodd heno, yn eistedd fan yna wrth y tan yn gwrando arna i yn adrodd ei hanes. Os nad yw e yma – mae ei ysbryd e yma.
Feddyliodd John y Gwas erioed y byddai’r crwt bach y rhoddodd e bishin tair sgleiniog a newydd iddo ar ddydd Calan wrth ddrws y New Shop Inn yma heno yn ei ganmol a’i glodfori ac yn helpu i gadw ei enw yn fyw 70 mlynedd yn ddiweddarach. Rwy’n siwr y bydde fe wrth ei fodd!
 
Dyna pwy oedd John y Gwas.