Hanes datblygu ystafell ddarllen yn Drefach-Felindre yn 1889
Crynhodeb o waith Mr Lynn James, Llyfrgellydd rhanbarth Caerfyrddin (gynt o Bronwion, Alltpenrhiw) ar gefndir y penderfyniad i adeiladu ystafell ddarllen yn y pentref. Ers yr amser hynny bu yr adeilad gwreiddiol yn cael ei ddefnyddio fel siop (Mr J.R. Jones - tad Richard Goitre) ac eraill a bellach mae yn ystafell orffwys Wyn Williams Rhydfoyr.Gweler hanes Lynn James yn Stori Fawr Drefach-Felindre-Enwogion a Phobl Drefach-Felindre.

HANES ADEILADU DARLLENFA LLYSNEWYDD, DREFACH-FELINDRE
Daeth ystafell ddarllen yn y pentref yn boblogaidd iawn yn Sir Gâr yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf, yn bennaf oherwydd awydd y dosbarth gweithiol i addysgu eu hunain, gyda chymorth diwydiannwyr a masnachwyr llewyrchus y dydd. Mewn sawl man, roedd dylanwad y clerigwr lleol yn ysgogiad cryf i sefydlu'r canolfannau hyn. Yn Drefach Felindre, yn bendant, roedd pob un o'r ffactorau hyn yn bresennol. Rhoddwyd y tir gan y Milwriad William Price Lewes o Lysnewydd ac y mae sail dros gredu mai'r prif ysgogiad i'r cynllun oedd y Parch T.E. Jones, B.A., Goitre. Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod gweithwyr yr ardal yn llythrennog a'u bod yn rhoi pwyslais mawr ar addysgu eu
hunain.
Fis Mehefin 1890, er enghraifft cynhaliwyd cyfarfod gan weithwyr ffatri Pantglas i benderfynu pa bapurau newydd i'w prynu am y tri mis dilynol. Roedd hyn yn arfer ganddynt, a'r tro hwn, dewiswyd ganddynt dderbyn y Carmarthen Journal, Tarian y Gweithwyr a'r Faner. Y mis blaenorol, mae adroddiad yn y Carmarthen Journal yn nodi "The Reading Room is in course of erection and will no doubt be finished by next winter. Let its promoters put their shoulders to the wheel as there are several intelligent weavers in this locality thirsty for knowledge. Now is the time for co-operation as the employers and employed are on the best of terms. It will be a great blessing to the young men of populous district".
Mae'r sylwadau am y cyflogwyr ar delerau da â'i gilydd yr adeg hwnnw, yn cyfeirio at y streic chwerw braidd fu ymhlith y gwehyddion ddiwedd 1889. Er bod yr anghydfod wedi'i ddatrys ers rhyw bedair mis roedd hi'n obeithiol i sôn am y fath berthynas esmwyth. Ysgrifennodd rhywun a alwai ei hun yn Sion Brwynog i'r Carmarthen Journal fel a ganlyn - "Mae yn wybyddus i holl ddarllenwyr y Journal fod y Llywodraeth wedi gwneud deddf i reoleiddio oriau gwaith mewn gweithfeydd. Mae gweithfeydd Drefach a Felindre yn dyfod o dan ddarpariaethau y ddeddf hon, ond nid yw y meistriaid yn gwneud unrhyw sylw o honi. Gwelir menywod a phlant yn cael eu gweithio yn ddidrugaredd o chwech neu saith o'r gloch yn y boreu hyd nos Sadwrn. Pa fodd y medr y meistriaid hyn ddangos eu gwynebau yn y capel ar eglwys ar y Sul sydd yn anesboniadwy i mi? Ond yno y maent yn ddigon pen uchel, a llawer ohonynt mewn meddiant o'r sêt fawr, a'u hamenau yn uwch na neb. Onid yw gwaed y trueiniaid y maent yn eu gorthrymu yn tystiolaethu yn eu herbyn. Ymddengys fod y Llywodraeth yn cydnabod fod llawer meistr, heblaw meistriaid Drefach a Felindre, yn ddigon anghyfiawn i dorri pob cyfraith er mwyn elw personol, gan hynny, apwyntiwyd arolygwyr, dyletswydd y rhai ydyw gofalu fod darpariaethau y ddeddf i gael eu cario allan. Ond mae ymweliadau y swyddogion hyn mor anaml ag ymweliadau angylion yn Nhrefach a Felindre".
Ar waethaf ambell i anhap, codwyd yr arian angenrheidiol.
Gosodwyd y seiliau fis Tachwedd, 1889, ac agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Milwriad Lewes o Lysnewydd ar Ragfyr 31ain, 1890. Gymaint oedd y diddordeb a ddangoswyd gan y trigolion lleol fel yr oedd yn rhaid cynnal y seremoni agoriadol yn yr Ysgol Genedlaethol er mwyn cael lle i bawb. Yn yr anerchiad, dywedodd y Milwriad Lewes mor falch ydoedd nad oedd gwleidyddiaeth wedi amharu ar y cynllun, ac y byddai'r Ystafell Ddarllen yn ddi-amau yn rhoi cyfle i'r bobl gyfarfod a gweithio gyda'i gilydd er lles y gymdeithas. Rhoddwyd amlinelliad o'r sefyllfa ariannol gan Mr. T. Williams, Llwynbrain, y pensaer, a dangosodd bod angen £4 arall i glirio pob dyled. Gwnaed casgliad felly ar gyfer y gronfa adeiladu, a rhoddwyd £5 gan y Milwriad Lewes tuag at yr Ystafell Ddarllen.
Cyn diwedd Ionawr, roedd bron 400 o aelodau o'r Ystafell Ddarllen, a chofnodwyd bod gŵyr blaenllaw yr ardal yn rhoi nifer o bapurau newydd dyddiol ac wythnosol i'r Ystafell. Roedd dros 50 o gyfrolau hefyd wedi'u rhoi tuag at sefydlu llyfrgell fenthyg.
(The story of the building of a reading-room in Drefach-Felindre - funded by both employers and employees of the local, then flourishing, woollen industry).
Cliciwch ar y lluniau ar gyfer y sgript wreiddiol.




