GUSTAV BRDLICK
Bu cryn gynnwrf yn ardal Dre-fach Felindre pan gyrhaeddodd rhyw gymeriad rhyfedd yr ardal tua adeg yr ail ryfel byd. Roedd e’n dod o Tsecoslovacia ac fel ‘Y Tsiec’ roedd pawb yn ei adnabod. Pan gyrhaeddodd roedd ganddo farf hir goch, ac nid oedd hynny’n help iddo ymdoddi i fywyd traddodiadol y fro. Felly, cymeriad go ryfedd fu ‘Brdlick’ yng ngolwg y mwyafrif o bentrefwyr Dre-fach, Felindre ar hyd ei fywyd. Byddai’n destun trafodaeth yn gyson, a’i ffordd o fyw a’i gampau a’r storïau amdano’n tyfu ar lafar gwlad.
I Ffatri Glanbargod, sydd y pendraw i bentref Drefelin ac ar y ffordd gul i Gwmgilfach y daeth e i fyw yn gyntaf, ac mewn rhai nodiadau ‘hunangofiannol’ amdano (sydd gan Eifion Davies) mae Gustav Brdlick yn son am ei fagwraeth yng Ngwlad y Tsiec. Ganwyd yn 1886 yn Tabor Czechoslovakia.
Mae’n son am ei dadcu ar ochr ei dad fel ‘successful woolen manufacturer’ a’i fod wedi prynu ‘stad fechan’ i’w dad gan gynnwys ‘melin flawd’. Felly, yn ôl Brdlick roedd ei dad yn berchen ar adeiladau lawer ac yn byw mewn ‘mansion’ gyda gerddi a pherllanau a gwinllannau. Roedd ei dad yn cynnal artistiaid a cherddorion ac yn byw yn fonheddig ac roedd ei fam wedi etifeddu y bumed ran o stad gynhyrchu ‘sugar beat’.
Pan yn grwt byddai Gwstav a’i chwaer Ida yn ymweld a’r mynyddoedd ar y ffin ogleddol gyda Bohemia a’r Alpau a hyd yn oed dod i Brydain i ardal Y Llynnoedd ac Eryri yng Nghymru.
Yna, ac yntau’n ‘dal yn ŵr ifanc gwyrdd’ yn ôl Gustav, awgrymodd ei dad ei fod e’n mynd i Loegr. Ond yn ôl Dyfrig Davies, a ddaeth fel Eifion ei frawd i adnabod Gustav yn dda, yn ei deyrnged iddo yn y Tivy Side ar ôl ei farwolaeth –
“Ei eni o deulu bonheddig yn Czechoslovakia, ond ei orfodi i adael ei wlad yn llanc ifanc oherwydd ymrafael politicaidd. Cyrhaeddodd Ogledd Lloegr ac yno yr astudiodd y gwaith gwlân. O dipyn i beth daeth i lawr i Orllewin Cymru a gweithio mewn nifer o ffatrïoedd yn y cylch nes o’r diwedd iddo gymryd dwy ffatri ei hun – Y Ddol Goch a Glanbargod lle yr oedd yn byw yn awr. Llosgodd y rhan helaeth o’r ffatri hon rai blynyddoedd yn ôl a theimlai achryd yn rhedeg dros ei gefn wrth feddwl am y tan a’r difrod a wnaeth.”
Yn ystod ei fywyd enillodd glod fyd eang am ei liwiau a’i batrymau wrth gynhyrchu defnyddiau. Gallasai fod wedi gwneud ffortiwn ond nid oedd ganddo fawr o ddiddordeb yn hynny. Breuddwydiai am ffatri gydweithredol gyda nifer o bobl yn rhannu’r elw. Syniad comiwnyddol oedd hyn er ei fod yntau yn wrth-gomiwnyddol.
Roedd Gustav yn glamp o ddyn mawr gyda choesau cryf a thraed enfawr. Un o’i hoff ddiddordebau oedd mynd yn ei hen gar mawr i ardal Llansteffan i saethu hwyaid gwylltion. Teithio yno yn ystod y nos gan ddisgwyl i’r hwyaid hedfan heibio gyda’r wawr, ac mae’n siŵr y gall Eifion Davies adrodd mwy am y teithiau difyr rheini a llawer digwyddiad arall.
I mi yn bersonol mae un digwyddiad rhyfedd yn sefyll yn y cof.
Roedd gan Brdlick ddarn o dir ar y ffordd i Gwmpengraig a chyn cyrraedd Ynys y Coed heddiw. Yno y byddai’n codi tato a llysiau gan ddilyn ei ddull hunangynhaliol ei hun. Am rhyw reswm roedd ganddo geffyl arabaidd. Y math o geffyl heini a bywiog ei natur nad oedd ei wasanaeth yn addas ar gyfer ardal Dre-fach Felindre! Ond, byddai Brdlick yn ei ddefnyddio i dynnu’r aradr ac agor rhychau tatws ar ei ddarn tir ar y ffordd i Gwmpengraig. Un diwrnod cafodd y syniad o osod darn o sincen hir tu nôl i’r ceffyl i gario dom i’w rhoi yn y rhychau cyn gosod y tato. Gyda sŵn y cerrig yn tarro a chrafu’r sincen y tu ôl iddo fe wylltiodd y ceffyl arabaidd a dod yn rhydd o reolaeth ei feistr, ac anelodd am y ffordd. Wedi iddo gyrraedd yr hewl roedd sŵn y sincen ganwaith gwaeth wrth iddi grafu’r wyneb dar macadam. Roedd y ceffyl arab yn wallgof wrth iddo glywed sŵn y llusgo uchel y tu ôl iddo, ac roedd dim amdani ond galapo nerth ei garnau i gyfeiriad y pentref yn gwbl allan o reolaeth a’r sincen yn creu sŵn dychrynllyd.
Credwch neu beidio roedd criw ohonom ni, yn fois rhyw ddeg i un ar ddeg oed, yn chwarae ar ein beics ar Sgwâr y Gat. Yn sydyn fe glywson ni’r sŵn mwyaf rhyfedd – sŵn carlamu ceffyl a rhyw sŵn sinc yn crafu’r hewl yn dod lawr trwy bentref Felindre, ac wrth edrych fyny am Spring Gardens beth welen ni ond ceffyl arab Brdlick yn dod fel y cythrel lawr trwy’r pentref yn llusgo’r sincen anferth y tu ôl iddo. Doedd dim amdani ond gadael ein beics a neidio i’r ochr neu dros y wal i mewn i’r fynwent. Yn fy gwylltineb, fe faglodd fy ngoesau ym mhedalau’r beic ac fe disgynais gyda’r beic ar fy mhen ar ganol y sgwâr. Mewn fflach rhedodd Jeff Bach, Cross Lane ata i a’m llusgo i at fon y clawdd eiliadau cyn i geffyl arab Brdlick garlamu heibio a throi am gyfeiriad Dre-fach. Fe ddaeth y shiten sinc yn rhydd wrth iddo droi ac fe arafodd yr hen arab pan beidiodd y sŵn.
Wrth edrych yn ôl, ni allaf ddychmygu beth fyddai wedi digwydd oni bai i Jeff Bach fy achub, ac mae fy nyled yn fawr iddo am ei weithred hynod o ddewr a dyngarol. Fe fues i’n diolch i Jeff bob tro y gwelwn ef fyth oddi ar hynny.
Ychydig a wyddwn i hefyd fod i’r sincen godi i’r awyr wrth i’r Arab ddod dros bont Felindre a’i daro yn ei ben ol yn galed gan achosi iddo wylltio mwy.
Ie, ceffyl Brdlick oedd hwn, a chredwch neu beidio, fe ddihangodd yr Arab dro arall o grafangau ei berchennog.
Mawr fu’r siarad am Arab Brdlick am flynyddoedd lawer.
Yn ei ‘hunangofiant’ byr mae Gustav Brdlick yn son am ei awydd i ymweld a lle ei eni pe bai eraill yn barod i ddod ar y daith gyda fe – a hynny wedi iddo fe sefydlu ei ‘settlement’ a phobl ifanc yr ardal yn cydweithio i gynhyrchu defnyddiau yn ei ffatrïoedd gwlân – a hynny, meddai ef os yn iawn mewn iechyd ac arian.
Yn ei ‘Deyrnged I Alltud’ gan Dyfrig Davies mae’n adrodd am ddydd a noson olaf Gustav Brdlick, Drefelin ar y ddaear ‘ma. Dydd Nadolig 1969 oedd hi, ac er iddo fynnu bod ar ei ben ei hunan gofalodd ei gymdogion fynd a chinio Nadolig iddo.
“Ar ôl ei ginio gwisgodd ei esgidiau a’i got orau a’i het frown a cherddodd o’i dy adfeiliedig drwy Drefelin, ei bentref bach mabwysiedig, ac i lawr i Felindre a Dre-fach. Galwodd yn nhai rhai o’i ffrindiau gorau yn y pentref i drosglwyddo cyfarchion yr Ŵyl ac roedd mewn uchel ysbryd...... Dychwelodd i’w dy meudwyaidd o flaen ei ddwy stof olew..... Amharwyd ar ddedwyddwch y pentref tua naw o’r gloch yr hwyr gan sŵn cloch y frigâd dan. Clywid fod tŷ ar dan yn Nrefelin – Ffatri Glanbarod. Meistrolwyd y tan, ond yn rhy hwyr. Daethpwyd a’r corff allan i oerni’r nos...... Ar ddiwrnod oer y cynhebrwng a’r gynulleidfa ar lan y bedd, hedodd haid o hwyaid gwyllt uwchben fel pe baent yn talu’r deyrnged olaf i hen wrthwynebydd, i hen gydymaith oriau man y bore. Ffarwel Gustav Brdlick.”
Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Llangeler yn 1969.
Peter Hughes Griffiths Awst 2017.