Galw heibio Waungilwen
Dyma gychwyn ar daith o Sgwâr y Gat ym mhentref Felindre am Waungilwen gan gofio a nodi y tai a’r adeiladau yng nghyfnod y 40’au, 50’au a ‘60’au yr 20ed ganrif pan oeddwn i Peter Hughes Griffiths, yn blentyn ac yn tyfu lan fel gwr ifanc yn yr ardal.
Yn syth ar y chwith mae rhes o dai, a’r tŷ cyntaf yn y cyfnod hwnnw oedd Maesyberllan ble’r oedd Ellen Evans yn byw gyda Eirwyn Evans ei mab. Mae brith gof gen i hefyd am dad Ellen yn hen ŵr yn byw yno. Bu Eirwyn yn chwarae pel droed gyda tim Bargod Rangers ac fe briododd gyda Metta a mynd i fyw i un o’r Tai Cyngor – yr olaf ond un cyn cyrraedd Aberbudrell ar y ffordd o Drefach i Bont Henllan. Fe gawson nhw ddwy o ferched sef Janet a Helen. Person ffraeth iawn oedd ‘Eirwyn Maesyberllan’ ac yn bencampwr ar chwarae snwcer yn Neuadd y Ddraig Goch ac yn aelod o dim y neuadd mewn cystadlaethau.
Arferai Eirwyn a fy nghyfaill Gwynfor Jones, Ivy House, gael tocyn tymor i fynd i weld tim pel droed Abertawe yn chwarae ar y Vetch Field yn Abertawe. Yn aml iawn fe fydden i yn ymuno gyda nhw yng Nghaerfyrddin a theithio i weld y gemau. Yn sedd gefn y car wedyn cael gwrando ar Eirwyn a Gwynfor, un ar ôl y llall, yn adrodd storïau hynod o ddigri – rhai yn wir am gymeriadau lleol ac eraill heb fod yn wir o gwbl! Fe ddefnyddiais laweroedd o’r storïau hynny wrth arwain ‘Nosweithiau Llawen’ ar hyd a lled Cymru. Mae fy niolch mor fawr i ‘Eirwyn Maesyberllan’ a Gwynfor am hynny. Ar ôl ymddeol fe symudodd Eirwyn a Metta i fyw i San Cler a chollais y cyswllt agos ar ol hynny, a mawr fu fy ngholled. Coffa da am ‘Eirwyn Maesyberllan’.

Tîm Snwcer Neuadd y Ddraig Goch - Pencampwyr cyntaf Cynghrair Snwcer Ceredgion. O'r chwith: Rhys Davies, Alun Jones, Gordon Evans, EIRWYN EVANS, John Morgan.
Rhaid nodi i deulu arall ddod i fyw i Maesyberllan tua diwedd y cyfnod hwnnw sef Wyn Jones (y peinter) a Bethan ei wraig a’u plant Carys ac Eryl. Un o ferched Dinas, Cwmhiraeth gynt oedd Bethan a’i chwaer Marina a briododd gyda Denzil Havard, Parcysty, Drefach, a dod i fyw i 3, Lluest y Bryn Caerfyrddin wedyn. Bu farw Denzil yn 2021 ac fe’i claddwyd yn ei hen ardal ym mynwent Bethel, Drefach Bu farw Bethan yn ifanc iawn. Aeth Carys ymlaen i fod yn bennaeth Ysgol Gynradd Llechryd a Eryl yn athro yn Aberporth ac erbyn hyn yn Aberaeron.
Y tŷ nesaf, ar enw presennol arno yw Llwynesgair. Ond yn fy nghyfnod i fan hyn oedd Swyddfa Bost y pentref. (Mae’r bocs postio tu allan o hyd!) Yn grwt 16 ac 17 oed bum yn bostmon lleol adeg y Nadolig a gwyliau’r haf. Yn fy mlwyddyn gyntaf cofiaf mai y Tŷ Post oedd hwnnw sydd ar Sgwâr y Gat. Ond, pan orffennodd Sam Post y perchennog fe sefydlwyd Swyddfa Bost newydd yn yr union fan y mae Llwynesgair heddiw a drws nesaf i Maesyberllan. Douiglas ac Annie Daniels Jones a gymerodd drosodd y Swyddfa Bost hon. Bu Annie yn flaenllaw ym mhob agwedd o weithgareddau’r pentref gan gynnwys Eglwys Sant Barnabas a’r Clwb Pel Droed. Hi oedd y ‘bostfeistres’ o 1953 tan ei marwolaeth yn 1988. Magwyd Stephen eu mab yno ac fe gymerodd ef a’i dad y cyfrifoldeb o redeg y Swyddfa Bost o 1988 tan y flwyddyn 2000 tra bod Stephen yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Tan yng Nghaerfyrddin. Felly, bron hanner can mlynedd o wasanaeth gan y teulu i ardal Drefach Felindre. Yno erbyn 7 o’r gloch y bore roeddwn i yn ymuno gyda May Post, sef postmon Waungilwen, a Gwyneth Felix postmon rhan uchaf y pentref a Chwmhiraeth, i sortio’r llythyron cyn mynd mas i’w dosbarthu. Rownd Gwyneth Felix oedd fy rownd i pan oedd hi ar ei gwyliau. Hen ferch oedd Gwyneth a llawer yn ‘tynnu ei choes’ am hynny wrth iddi fynd ar ei thaith ddyddiol allan i’r wlad ar ei beic. Hen daith anodd a thrafferthus iawn oedd hon trwy bentref Cwmhiraeth ac yna dringo i’r topiau i Cwmbran a Bwlch y domen yn ymyl Pant y Bwlch, ac yna nol heibio Treale, Penrallt a Phant yr Hebog a nol i’r pentref. Rhaid i mi gyfaddef i mi gael fy nhemtio yn aml i ddal ambell lythyr yn ôl am fwy nag un diwrnod nes bod gohebiaeth arall yn cyrraedd cyn diwedd yr wythnos cyn mynd i ambell le!
Ond, yr hyn a gofiaf, yn fwy na dim am y Swyddfa Bost hon yn y pentref, oedd mae yno y ces i fy nghanlyniadau Arholiad Lefel O. Yn y cyfnod hwnnw byddai’r holl ganlyniadau Lefel O a Lefel A trwy Gymru yn cael eu cyhoeddi yn y Western Mail yn unig, ac roedd ambell un ym mhentref Felindre yn derbyn y Western Mail drwy’r post bob bore. Felly, ar y bore tyngedfennol hwnnw fe agorodd Annie Daniels Jones y papur ac edrych ar ganlyniadau disgyblion Ysgol Ramadeg Llandysul, a fy nghanlyniadau i yn arbennig. Yno hefyd roedd William John, mab Mrs Jones Graig Wen, Alltpenrhiw (a ddaeth yn enwog wedyn fel ‘Nel Fach y Bwcs’), yntau am wybod canlyniadau ei ferch Eiry, sef Eiry Palfrey erbyn hyn! Bu Douglas ac Annie Daniels Jones (un o ferched teulu enwog Oakford, Alltpenrhiw) yn gwasanaethu’r Swyddfa Bost am gyfnod hir iawn. Pwrpasol yw nodi mai Stephen Jones (Steve Post i’w ffrindiau) oedd Cadeirydd cyntaf Pwyllgor Gwefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre,’ a mawr yw ein diolch a’n dyled i Stephen am fod mor daer i sicrhau bod y weledigaeth honno wedi ac yn llwyddo.)
Mae’n rhaid mai yn y tŷ hwn (cyn iddo ddod yn Swyddfa’r Post) neu yn y tŷ drws nesaf a enwir yn awr yn Hendon yr oedd Daniel y Saer yn byw achos gyferbyn a’r tai, ac ar draws y ffordd roedd ei weithdy sinc gyda tho crwn iddo. Wrth ail fyw y daith hon yn haf 2021 roeddwn mor falch o weld bod yr union sied yno o hyd ac mewn cyflwr derbyniol iawn gyda’i blaen i gyd o bren a’i hochrau a’i tho crwn o sinc, ac wedi ei phaentio yn ddu – yn union fel y cofiwn hi yn y 1940’au. Un peth amlwg iawn a gofiaf am ‘Dan Sar’ oedd mai ef oedd yr unig saer lleol, a byddai galw arno i baratoi coffinau i bwy bynnag fyddai’n marw yn yr ardal. Byddai Dan a’i wraig yn mynd i Aberystwyth am bythefnos o wyliau bob haf, ac yn ddieithriad bron byddai yn cael ei alw adref i baratoi arch ar gyfer yr ymadawedig. Datblygodd hyn i fod yn ofid lleol gyda’r siarad ar hyd y lle – “Mae Dan Sar wedi mynd ar ei wyliau. Pwy fydd yn marw eleni?”
Drws nesaf i Hendon mae Ty’r Lon. Yno y cofiaf Myrddin a Mattie Davies yn byw a’u meibion Graham a Mansel. Roedd Graham ychydig yn hyn na fi a Mansel dipyn ifancach. Cymeriad enwog iawn yn lleol oedd Myrddin, ac yn wreiddiol o ardal y ‘gweithie glo’, ac yn enwog am dynnu coes a chyflawni pethau anarferol. Gwisgai ddillad du bob amser ac fe gafodd ei frawd a Myrddin yr enw ‘Capones’ (ar ôl Al Capone) pan yn galw mewn tafarndai lleol. Un stori amdano, pan oedd cwmni drama teithiol Saesneg yn perfformio dramâu Shakespear yn Neuadd y Ddraig Goch, Felindre am wythnos gyfan yn ystod yr haf, ac Albert Evans yn gofyn i Myrddin gyda llond y siop o bobl un bore wedyn – “Beth yw eich barn chi am ‘Hamlet’ Myrddin? (Un o ddramau Shakespear). “ Oh”, oedd ateb Myrddin. “mae llawer gwell gyda fi Castella!” (sef math o sigâr, gan bod Hamlet yn air am sigars poblogaidd hefyd ar y pryd!). Fe symudodd Myrddin a Mattie i fyw wedyn o Tŷ’r Lon i Hendon a oedd drws nesaf. Helpu’r plant i groesi’r ffordd wrth Ysgol Penboyr bu Mattie am flynyddoedd maith iawn ac fe dderbyniodd yr MBE am ei chyfraniad oes ynghyd a chyhoeddusrwydd mawr yn genedlaethol.
Pan symudais i fyw i Gaerfyrddin yn 1972 roedd cyfnod y teledu lliw am y tro cyntaf yn boblogaidd a dyma fi yn mynd at Graham Tŷ’r Lon i brynu set deledu lliw o’i siop yng Nghaerfyrddin, ac fe ddes i gysylltiad ag e unwaith eto. Roedd y siop ar y gornel wrth droi i’r chwith o Heol y Gwyddau i Heol Dwr. Roedd hwn yn adeilad hynod gan fod pen ddelw o’r Frenhines Fictoria tu allan uwchben y drws. Fe ddymchwelwyd yr adeilad a bu holi hir am flynyddoedd, beth ddigwyddodd i ben yr hen frenhines! Bu Graham farw yn ŵr canol oed yng Nghaerfyrddin. Mae’n debyg i Mansel ymuno fel plismon gyda Heddlu Dyfed Powys yn ardal y Drenewydd /Trallwm ym Mhowys.
Bu Bernard Davies a’i chwaer Theresa Davies yn CAEROWEN, (enw’r tŷ y pryd hynny), sef y tŷ nesaf at y Swyddfa Bost, cyn symud i fyw i Gaerfyrddin. Mae Bernard yn un o noddwyr hael Tim Pel Droed Tref Caerfyrddin ac yn rhedeg busnes o dan yr enw ADB Davies ‘Haulage Contractor’, Caerfyrddin.
Mae’n debyg mai Daniel a Nellie oedd yn byw yn y tŷ pellaf sef Awel Deg, er na allaf fi gofio hynny. Ond wrth fynd heibio yn Haf 2021 yr enw ar y tŷ oedd ‘Haye’s Residence’.
Yn fy nghyfnod i yn Felindre roedd lle pwysig iawn ar draws y ffordd a gyferbyn a Tŷ’r Lon, sef Siop Chips boblogaidd iawn y pentref yn y 40’au a’r 50’au, ac yno byddai’r pentrefwyr yn dod gyda’r hwyr i gael pryd da o ’fish and chips.’ Y pryd hwnnw roedd llwybr yn mynd gyda ochr y sied lawr heibio ochr Neuadd y Ddraig Goch ac allan i’r ffordd arall trwy’r pentref. Hoff beth ambell blentyn drwg fyddai rhedeg heibio’r sied gan ddal darn o bren a’i wasgu ar y sinc wrth ochr y sied gan greu sŵn ratlo mawr y tu fewn.
Mr Mrs Edwards, Dandinas, Waungilwen oedd y cyntaf i agor y siop chips yno. Pan ddes i ar staff Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn y 1980’au, un o’r darlithwyr oedd Roy Edwards mab Mr Mrs Edwards Dandinas. Fe ddaethon ni yn gyfeillion agos yn y coleg ac yna trwy Gymdeithas Gefeillio Caerfyrddin a Lesneven gan deithio llawer gwaith i Lydaw gyda’n gilydd. Roedd Roy yn medru siarad Ffrangeg yn rhwydd, ond bu fawr yn 2019.
Yn dilyn Mr Mrs Edwards fe ddaeth Mr Mrs Davies, 2, Llysnewydd Cottage i werthu’r chips. Roedd Mr Davies wedi bod yn Giper ar stad Llysnewydd ac fe’u cofiaf yn dda gan i ni fel teulu symud i fyw drws nesaf iddyn nhw yn 3, Llysnewydd Cottage.
Mae gan Dyfrig Davies, a oedd yn byw yn Pensarn Cottage ar y pryd, stori dda am Mr Davies, a pha mor ofalus yr oedd e ynglŷn a pheidio gwastraffu dim pan oedd rhaid gofalu am bob ceiniog goch. Y stori, yn ôl Dyfrig oedd fod Mr Davies yno yn ei siop chips yn gynnar un dydd yn paratoi pan ddaeth rhyw hen gath i mewn yn slei bach a neidio fyny a llithro i mewn i’r cawg oedd yn dal y saim i ffrio’r chips. Gwelodd Mr Davies hi, ac fe gododd hi allan pan oedd hi yn nofio yn y saim. Daliodd Mr Davies y gath wrth ei gwddf a thynnu ei law arall lawr fwy nag unwaith ar hyd corff y gath fel bod y saim i gyd yn mynd yn ôl i’r cawg cyn gadael y gath yn rhydd tu allan! Mae’n stori wir yn ôl Dyfrig.
Melys yw’r atgofion am fwyta’r ships blasus rheini am chwe cheiniog y pecyn.
Pan ddaeth cyfnod y Siop Chips i ben fe ddaeth Wendel Davies yno a throi’r lle yn efail y gof, a bu yno am flynyddoedd lawer tan iddo ymddeol. Wrth fynd heibio yn Haf 2021 braf oedd gweld fod y sied sinc yno o hyd ac mae John Wigley, cyn athro celf yw ei pherchen yn awr.
Rhaid cofio ar ôl gadael y tai cyntaf hyn mae caeau gwyrdd oedd wedyn ar y ddwy ochr o’r ffordd nes cyrraedd pentref Waungilwen hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ac eithrio ar y chwith yr unig dai oedd Goetre Isaf,
Penlongoetre, Llyscoed a phen hewl Aberbran ac ar y dde dim ond un tŷ sef Penlon a’r ffordd sy’n troi i’r dde cyn hynny.
Codwyd Stad Ger y Llan yn y 1960’au, ac ers hynny yr holl dai eraill ar ddwy ochr y ffordd cyn cyrraedd pentref Waungilwen.
Goetre Isaf oedd y cyntaf ar y chwith gyda John Rees, sef hen, hen ddatcu y bechgyn sy’n rhedeg JE Rees Tractors sydd yno heddiw, ac yn byw yno. Nesaf wedyn roedd Penlongoetre, ac rwy’n cofion dda am y plant Dilwen ac Elgan Jones. Roedd Dilwen rhyw flwyddyn yn hyn na fi ac Elgan rhyw ddwy flynedd yn iau. Fe fuodd Dilwen yn byw yn Zimbabwe/ Rhodesia am gyfnod hir cyn dod nol i ymddeol i Felindre. Roedd Elgan yn chwaraewr pel droed da gyda Bargod Rangers a bu’n cadw Siop y Gwalia (Mini Market presennol) yng nghanol y pentref.) Ymhen amser fe aeth Elgan i fyw i’r Almaen ac mae e yno o hyd.
Roedd un tŷ reit fawr arall wedyn – Llyscoed, a’r unig beth a gofiaf yw bod hen wraig yn byw yno ac yn dod i Gapel Closygraig, a bob amser yn gwisgo dillad du.
Yna, down i ben hewl y fferm fechan Aberbran, ac yno roedd William James, un o fy ffrindiau yn Ysgol Penboyr yn byw. Bellach mae Wil Jim yn rhedeg busnes ‘Dyfed Tyres’ gyda’i fab yn Heol y Bragdy, Caerfyrddin, ac af ato bob tro mae angen teiar newydd ar fy nghar. Mae e’n byw yn Saron.
O droi lawr i’r dde o’r ffordd cyn cyrraedd Penlon yn fy nghyfnod i, roedd y ffordd yn arwain i fferm Pwllmarl ar y dde, Nythfa ar y chwith, yna adeilad mawr Ffatri Cilwendeg ac ymlaen am dipyn nes cyrraedd fferm enwog y Cryngae. Des a’i wraig oedd yn byw ym Mhwllmarl gyda’u merched Anita a Janet. Fe briododd Anita gyda mab Myrddin Evans Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Roedden nhw yn byw yn Frongelli, New Inn, Pencader. Bu Janet yn gweithio yn y banc ac yn byw yng Nghaerfyrddin.
Mr Mrs Cecil Evans oedd yn byw yn Nythfa. Un o deulu cigyddion neu fwtsheriaid Danwarin, Drefelin oedd ‘Ces Danwarin’ ac roedd ganddo yntau rownd gig wythnosol fel ei frawd David Evans, Neuadd Wen, Felindre. Chwaer iddyn nhw oedd Mrs Brynmor Williams – a ddaeth yn wraig flaenllaw yng ngweithgareddau’r pentref. (Mae ei hanes hi o dan ‘Enwogion Lleol’ ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’). Merch i Mr Mrs Cecil Evans yw Ann Evans (Ann Nythfa), sydd bellach yn byw ym Mhorth Tywyn ac yn fam i Lowri a Rebecca. Mae ‘Becs’ yn byw yn Hong Kong erbyn hyn ar ôl darlledu llawer ar Radio Cymru. Bu Lowri yn briod gyda John Hartson y cyn chwaraewr pel droed dros Gymru.
Fe ddown wedyn at adeilad mawr Ffatri Cilwendeg. Adeiladwyd y ffatri wlân hon yng nghyfnod prysur y diwydiant gwlad yn ardal Drefach Felindre gan Deulu’r Williams. Adeiladwyd y plas bychan Cilwendeg yn 1903. Hyn yn dangos cyfoeth y teulu. Meddiannwyd y ffatri adeg yr ail ryfel byd gan y Weinyddiaeth Ryfel, ac yno y cadwyd nifer fawr o filwyr Americanaidd ar eu ffordd i fynd i ymladd yn Normandy Ffrainc. Yr hyn a gofiaf yn glir mai Ffatri Gaws fu ffatri Gilwendeg wedyn am gyfnod hir iawn. Roedd y caws yn cael ei wneud yn ffatri laeth Cow & Gate yng Nghastell Newydd Emlyn ac yna ei storio yn gosynnau mawr yn ffatri Cilwendeg nes iddo aeddfedu ac yn barod i’w werthu.
Pan ddaeth y cyfnod hwnnw i ben addaswyd rhan fawr o’r lle yn Ganolfan Hamdden lleol, a bu’n llwyddiant am nifer o flynyddoedd. Un nodwedd oedd bod sawl ‘miwral mawr’ wedi eu creu ar y waliau tu allan. Roedd un o dim pel droed Bargod Rangers ar ddiwedd y 50’au. Roeddwn i yn aelod o’r tim hwnnw a fy llun felly ar y wal! Roedd rhyw bump neu chwech llun yno i gyd. Tri ar y wal a thri ar gefndir metal, a chyn i’r ffatri gael ei gwerthu fe dynnwyd y lluniau ar y cefndir metal i lawr a’u gwerthu. Mae rheini nawr yn siop ddodrefn All Kings yn Beulah ger Castell Newydd Emlyn. Ceisiodd Stephen Jones eu prynu fel rhan o brosiect ‘Stori Fawr Drefach Felindre,’ ond ni fu’n llwyddiannus. Mae’r lluniau eraill, llai o faint, yn dal ar waliau’r ffatri.
O gario ymlaen ar hyd y ffordd gul am dipyn fe ddowch at Fferm Y Cryngae. Mr Mrs David Jones a ‘ merched deniadol Y Cryngae’ oedd yn byw yno. Enwau’r plant oedd Getta, Annie, Ray, Lizzie May, Thomas John a Willie. Roedd ‘Jones y Cryngae’ yn eglwyswr selog yn Eglwys Sant Barnabas ac mae llun ohono yn sefyll, y cyntaf ar y chwith, ar dudalen 72 o’r llyfr Canrif o Luniau wrth gat Ysgol Penboyr. Bu Willie y mab yn ffermio’r Cryngae ar ôl ei dad. Fe welir cyfeiriad at ‘Y Cryngae’ mewn llawer man mewn perthynas a’r bardd Cymreig enwocaf sef Dafydd ap Gwilym. Ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ ac o dan y pennawd ‘Hen Enwogion - Gan mlynedd a mwy yn ôl,’ rwyf wedi nodi’r cysylltiad rhwng y bardd a’r Cryngae. Hefyd yn ei lyfr Crwydro Sir Gar ac o dudalen 183 ymlaen mae Aneurin Talfan Davies yn manylu llawer mwy ac yn dyfynnu allan o’r gyfrol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, ac mae llun o’r Cryngae ar dudalen 182 o Crwydro Sir Gar. Heb os, roedd gan Y Cryngae le arbennig ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym.

O fynd nol i’r briffordd am Waungilwen, yr unig dy ar y dde oedd Penlon, ac os cofiaf yn iawn ‘May Penlon – May Post’ oedd un o bostmyn Felindre y cyfnod hwnnw. Fe ddaeth Gerwyn Jones, Penlon, yn aelod o’r heddlu ac ymddeol i Glan Tawelan, Tre Ioan, Caerfyrddin. Fe oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl Prif Gwnstabl Sir Gaerfyrddin Ronald Jones ac yn ei yrru yng nghar yr heddlu i bob man. Yma ym Mhenlon y cychwynnodd yr Ymneullduwyr gyfarfod yn rheolaidd gyntaf yn yr ardal.
Fe ddown wedyn at bant yn y ffordd lle mae pont i groesi’r afon Bran, ac yna ychydig o godiad cyn pen hewl y ‘drive’ sy’n arwain i Blas Cilwendeg ar y dde. Yno, roedd Mr Mrs Edward Williams yn byw a’u meibion Gomer a Hubert Williams. Fe ddaeth Gomer yn Brifathro Ysgol Gynradd Parc y Lan yn ymyl Castell Newydd Emlyn ac yna yn Brifathro ar Ysgol Porth Tywyn cyn ymddeol, a’i frawd Hubert yn MOH (Medical Officer of Health) ym Mhorth Talbot.
Disgynnydd un o deuluoedd ‘oes aur’ y diwydiant gwlân oedd Edward Williams, Cilwendeg, gyda maint adeilad Ffatri Wlan Cilwendeg yn dystiolaeth o hynny. Tystiolaeth bellach o’r cyfoeth teuluol oedd y ffaith mai ym mhlasdy Cilwendeg y gwelwyd y bwrdd snwcer/biliards cyntaf yn yr ardal, a mawr fu’r defnydd ohono gan y bobl leol. Maes o law, gyda dyfodiad Neuadd y Ddraig Goch i’r pentref, trefnwyd bod byrddau snwcer yn y neuadd, ac mae’r arfer hwnnw yn dal hyd y dydd heddiw. Cofiaf Edward Williams fel diacon yng Nghapel Methodistiaid Closygraig, Drefelin. Ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan ‘Capel Closygraig’ fe welwch lun o ‘Ddiaconiaid Closygraig.’ Edward Williams yw’r trydydd o’r chwith. Mae’r un llun yn y llyfr ‘Eglwys Closygraig (1754-1954), Braslun o’i Hanes.’
Y tŷ mawr cyntaf ar y chwith wedyn yw Rose Villa ac roedd dau deulu yn byw mewn dwy ran o’r tŷ. Un o fy nghyd chwaraewyr yn nhîm Bargod Rangers oedd y golwr Arwyn Jones, Rose Villa. Roedd ganddo chwaer Rita hefyd. Roedd Arwyn yn gwisgo sbectol bob amser – hyd yn oed pan yn y gol i Bargod Rangers, a galwai ei ffrindiau ef yn ‘Sbecs’ bob amser. Roedd e’n golwr da iawn ac mae sawl llun ohono yn y casgliad o luniau o dim Bargod Rangers yn y 60’au. Hoff stori ‘Specs’ pan yn chwarae yn y gol i Bargod Rangers oedd yn erbyn Llandysul mewn gem gwpan yn Aberteifi gyda Bargod yn ennill o 2 i 1 yn eiliadau olaf y gem pan bennodd David Jones (Dai Chips) o dim Llandysul y bel i gyfeiriad cornel uchaf y rhwyd, ond hedfanodd Arwyn fel y wennol a’i gwthio dros y bar. Meddai Eirwyn Maesyberllan, a oedd yn sefyll tu ôl i’r gol – “O ti yn uchelach na’r crossbar yn safio honna!” “Ti’n iawn,” meddai Sbecs, “ ond cofia mai ar y ffordd lawr o’n i y pryd hwnnw!”. Priododd Arwyn gyda Sylvia Jones merch Spring Gardens ym mhentref Felindre. Nyrs oedd Sylvia ac athro oedd Arwyn, ac fe aeth y ddau i fyw i’r Barri, ac yno mae nhw wedi bod ar hyd eu hoes.
Yn y rhan arall o Rose Villa roedd Mr Mrs David Walters yn byw a’u merched Nesta (cyfeilydd i’r ddeuawd Vernon a Gwynfor maes o law), a Petra a’u brawd Leslie a ddaeth yn heddwas a phriodi gyda’r gantores enwog Trixy Walters a byw yn Llanymddyfri. Person cerddorol a gweithgar iawn oedd David Walters. Fe a Moses Davies, Tŷ Coed, Drefach, sefydlodd Adran o Urdd Gobaith Cymru yn y pentref, a threfnu’r perfformiad o’r opereta ‘Merch y Glannau’.
Mae ffordd gul yn arwain heibio i Rose Villa i Fferm Dandinas. Mae’n rhaid bod Mr Mrs Edwards y Siop Chips a’u mab Roy wedi symud oddi yno achos Mr Mrs Tommy Evans a’u merch Glenda rwyf fi’n gofio oedd yn byw yno. Symudodd y teulu wedyn i fyw i Pantgilgan yn ymyl pentref Llangeler. Roedd Glenda ond ychydig flynyddoedd yn iau na fi. Priododd Glenda gyda Ken Rees o Langeler. Er eu bod yn dal i fyw yng Nghasllwchwr ger Abertawe mae Ken wedi parhau fel organydd Eglwys Llangeler ar hyd ei oes. Trychineb fawr oedd y ddamwain honno ar y brif ffordd ger Cynwyl Elfed pan lladdwyd Mr Mrs Tommy Evans.
Fe symudodd Ieuan Francis mab Felindre House a’i wraig Olive a’i fab John i fyw i Dandinas wedyn. Roedd Ieuan yn hanesydd lleol arbennig iawn ac yn gasglwr stôr o wybodaeth am yr ardal. Ble mae’r casgliadau rheini bellach? Symudodd Ieuan wedyn i ffernio Pantyrhebog ac yno mae ei fab John yn dal i ffermio.
Gyferbyn a Rose Villa ac ar draws y ffordd mae rhyw ddau dy. Fe symudodd Mr Mrs Dan Phillips a’i merch Nana o Lwynbedw i fyw yn un o’r tai ac roedd Mrs Biddyr, yn y tŷ arall, yn nyrs yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin.
Ar dudalen 31 o’r llyfr Canrif o Luniau fe welwch hen lun o Gilwen Terrace, Waungilwen, sef rhes o rhyw bump tŷ teras ar y dde a Manteg cyn hynny.
Rhaid i mi gyfaddef bellach bod fy adnabyddiaeth o weddill pentref Waungilwen yn fratiog iawn, ac ni allaf gofio fawr ddim am breswylwyr Pleasant View, Pennnant, Gilwen Castle, Gilwen House a Parc y Deri. Er rwy’n cofio am Roy Parc y Deri a briododd Shirley o Bencader a oedd yn un o efeilliaid (Shirley a Minnie) yn yr un dosbarth a fi yn Ysgol Ramadeg Llandysul, ac sy’n byw yn ardal Peniel ger Caerfyrddin.
Drws nesaf ond un i Barcyderi roedd Gwyn Susan a’i wraig a’r plant John, Gwen a Christine yn byw. Rwy’n credu mai ‘John Gut’ roedden ni yn galw John a ddaeth yn blismon yn ardal Llambed. Aeth Gwen i fyw i Edinburgh a Christine i Langrannog.
Mae yna ffordd wedyn yn troi i’r chwith i gyfeiriad Fferm Penllwyn a Fferm Penllwyncoch a Ffynnon Fach ac allan i gyfeiriad Rhyddgoedfawr a topie Castell Newydd Emlyn. John Phillips rwyf yn gofio yn ffermio Penllwyn. Roedd John Penllwyn yn aelod o Gyngor Cymuned Llangeler a Phenboyr ac mae llun ohono ar dudalen 101 o’r llyfr Canrif o Luniau.
Ond yn fuan ar y ffordd hon roedd byngalo a’r enw oedd Fedwen, a chartref Lynn Rees sef mab Mr Mrs Rees a gadwai’r siop nwyddau Manchester House yng Nghastell Newydd Emlyn. ‘Lynn Fedwen’ oedd Lynn i ni, a rhyw flwyddyn neu ddwy iawn yn hyn na fi. Bu Lynn yn athro Addysg Grefyddol yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman yn Rhydaman ac yn weinidog ar gapel Saron ger Rhydaman. Mae Lynn a’i wraig yn byw yn Saron, Rhydaman.
Mae gen i frith gof hefyd am bobl leol yn son mai ar y ‘Lon Waun’ hon y byddai Teulu’r Lovells y Sipswn yn dod a byw yno am gyfnodau yn ystod y flwyddyn – ond cyn fy amser i.

Cyngor Bro Llangeler 1977. Sefyll: Ambrose Lloyd, David Jones, Aneurin Williams, Eric Griffiths, Jack Thomas, JOHN PHILLIPS, Trefor Evans.
Eistedd: Jac Jones, Margaret Brynmor-Williams, Alun Jones, Edward Crompton, James Jones.
Yn un o dai cyngor Stad y Waun roedd fy nghyfaill John Vare yn byw gyda’i chwiorydd Patricia, Marian a Georgina. Bachgen hynod o alluog oedd John Vare ac fe ddaliodd swyddi uchel iawn gyda chwmnïoedd awyrennau ac ym Maes Awyr Heathrow. Collodd ei fam a’r plant eu tad yn yr Ail Ryfel Byd a hwythau yn fychan iawn.
Yn yr ail dy cyngor roedd ‘Gwilym y Glo’ yn byw. Cafodd yr enw am ei fod yn gweithio i Ben Davies gwerthwr glo yn Henllan. Fe fues i yn ffrindiau gyda Elgan ei fab. Roedd gwallt coch gan Elgan ac fe fuon ni i Aberteifi sawl gwaith ar nos Sadwrn gyda’n gilydd.
Yn un o’r tai ar Stad y Waun, cyn cyrraedd y diwedd mae Llwynnon, sef cartref Defi John Jones (un o feibion Velindre View, Alltpenrhiw) a’i wraig Betty Ffynnon Fach. Bu Dai John yn chware pel droed gyda Bargod Rangers yn y 40’au a’r 50’au ac yn aelod o’r tim a enillodd y gynghrair yn 1947-48. Mae llun o’r tim hwnnw ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau. Roedd gan Dai John lais tenor hyfryd iawn a byddai’n cystadlu ar yr Emyn Dros 60 oed mewn eisteddfodau, ac roedd e’n aelod o sawl cor. Bu’n gadeirydd Pwyllgor Neuadd y Ddraig Goch ar wahanol gyfnodau ac yn ohebydd i’r papurau lleol. Roedd e hefyd yn hoff iawn o ddweud ei farn ar wahanol faterion gan greu anghytundeb gyda sawl un yn dilyn hynny.
Rhes gefn: Will Jones, Alun Jones, Bertie Davies, Cecil Williams, Hywel Davies, Lynne Thomas, DEFI JOHN JONES, Brinley Jenkins, Emlyn Davies, J B Evans.Rhes flaen: John Lewis, Phil James, Rhys Davies, Gwyn Williams, Albert Jones.
Y tŷ nesaf wedyn ar y dde yw’r Plas, ac yno roedd Wyn Edwards un o fy ffrindiau yn Ysgol Penboyr yn byw gyda’i fam. Un swil iawn oedd Wyn ac fe gollais gysylltiad llwyr gyda fe.
Aberlleinau yw’r fferm ar y dde ar ôl gadael Waungilwen. Roedd Tom Jones, Aberlleine yn gynghorydd lleol a chofiaf ef yn sefyll sawl etholiad. Roedd y meibion Alan a Hywel tua’r un oed a fi, ac Alan fu’n ffermio ar ôl ei dad yn Aberlleine. Priododd Alan gyda Brenda merch fferm Cwrws, Henllan. Bu ei chyfraniad hithau ar hyd y blynyddoedd yn amlwg iawn ym mywyd pentref Drefach Felindre. Merch iddyn nhw yw’r awdures Sioned Lleine. Ei brawd Aled sy’n ffermio Aberlleinau yn awr.
Cyn dod i bentref bychan a’r enw rhyfedd Pentrecagal, ar y chwith mae’r ‘Wyllech’ glai a fferm fechan Bronhydden. Byddai pobl yn dod i gloddio’r clai oddi yma yn yr hen amser gyda’u ceirt a’u ceffylau. Roedd y clai yn cael ei ddefnyddio i sawl pwrpas gan gynnwys adeiladu. Fe fues i yno yn grwt gyda fy nhad i nol ychydig o glai a’i gymysgu ar ôl mynd adref gyda llwch du y glo er mwyn creu yr hyn a alwyd yn ‘pele,’ (pele Mond), sef peli bychan. Wedi iddyn nhw sychu, yna eu rhoi ar y tan yn y grât, a byddent yn llosgi’r goch am oriau.
Yn ymyl hefyd roedd fferm fechan Pwll-y-gwyddau. Dan Bowen oedd yn ffermio yno gyda’r plant John, a alwyd yn Shon, a Rena’r ferch. Fe ddaethon nhw i fyw i Lwynbedw (fy hen gartref i yn Felindre) wedyn. Fy nhad ddysgodd Dan Bowen i yrru ei gar, a chofiaf fel plentyn eistedd yng nghefn y car ar un o’r teithiau. Wedi hynny, fe wnes i osgoi mynd mewn unrhyw gar gyda Dan Bowen yn gyrru! Bu Dan Bowen yn gweithio llawer yn Dangribyn gyda fy nhad, a’r enw a roddai Mrs Phyllis Jones arno oedd ‘goosie’ – gan ei fod yn byw ym Mhwll-y-gwyddau mae’n debyg!
A dyna fi wedi dod i ben a’r daith o Sgwâr y Gat, Felindre trwy bentref Waungilwen, yn bennaf fel a’i chofiaf yn fy nghyfnod i fel crwt a gwr ifanc. Mae’n werth darllen yn ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan y pennawd ‘Atgofion a Thraddodiadau’ yr hyn y mae John Tudor Jones wedi ei ysgrifennu o dan ‘Ôl-nodiadau: Yr Hen Aelwydydd’ gan ei fod yn son am nifer o’r llefydd y cyfeiriais i atyn nhw, a nifer eraill hefyd yng Nghwmhiraeth, Cwmpengraig a Phenboyr a mwy.
Peter Hughes Griffiths Haf 2021