Eglwys Sant Llawddog Penboyr

Enwyd Plwyf Penboyr ar ôl yr eglwys hon, er erbyn hyn mae Plwyf Llangeler yn cynnwys Plwyf Penboyr a Llangeler.
Yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr mae Daniel Jones wedi rhoi disgrifiad llawn i ni o hanes yr eglwys hynafol hon. Mae ei lleoliad o fewn y plwyf braidd yn hynod gan ei bod yng nghwr uchaf dwyreiniol y plwyf ac mewn llecyn unig iawn ychydig tu allan i bentref bychan Penboyr ei hun. Yr enw swyddogol ar hyd y blynyddoedd ar yr ysgol gynradd sydd ym mhentref Drefach Felindre yw Ysgol Gynradd Penboyr.
Yn 1808 tynnwyd yr hen adeilad i lawr ac adeiladu eglwys newydd yn ei le.
Mae festri eglwys Sant Llawddog ym mhentref Penboyr ac yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol lleol.
Mae John Evans (John y Gwas) wedi ysgrifennu am y traddodiad o gynnal ‘Y Bilgen’ (Y Plygain) bob bore Nadolig am 6 y bore ers sawl canrif yn Eglwys Penboyr.
Bu Sarah Jones Trecoed, Felindre yn chwarae’r organ am 60 mlynedd yn ddifwlch ym mhob Plygain Flynyddol yn yr eglwys.
-
Mae’r ‘Bilgen Flynyddol’ yn dal i gael ei chynnal yn yr eglwys a chofiaf (PHG) fynd iddi yn gyson pan yn ifanc.
-
Mae beddau Teulu’r Lan – fy nheulu i (PHG) ar y chwith, a nesaf at y llwybr sy’n arwain o’r brif fynedfa i borth yr eglwys).
-
Mae llawer o enwogion lleol wedi eu claddu ym mynwent Eglwys Penboyr ac yn eu plith ffrindiau i mi – Eric Griffiths (Eric Tŷ Hen), Bryan Davies (Bryan Pantygog), Y Parch J Towyn Jones (Towyn Lan). Ymhlith eraill y mae John Evans (John y Gwas), Mrs Sarah Jones Trecoed, gyda William Daniel Davies (yn yr hen fynwent) a’i frawd John Davies Patagonia – tad Nel Fach y Bwcs.
Mae prosiect Stori Fawr Dre-fach Felindre wedi casglu lluniau'r eglwys, a gallwch eu gweld nhw ar y wefan Casgliad y Werin.


