Stori Fawr Dre-fach Felindre

William Daniel Davies 1838 – 1900 

Yr unig gofnod oedd ar gael tan yn ddiweddar o William Daniel Davies oedd yr un sydd yn y Bywgraffiadur Cymreig, ac mae hwnnw i’w weld ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ yn yr adran ‘Beirdd ac Awduron Ardal Dre-fach Felindre’.

Yna, yn Rhifyn 135 – Haf 2022 o’r cylchgrawn Cymraeg ‘Y Casglwr’ ymddangosodd erthygl cynhwysfawr gan W Arvon Roberts, 33, Maes-y-Llyn, Penrhydliniog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5Nl o dan y teitl ‘Cardotyn Hyde Park – William Daniel Davies, 1838 – 1900.’  Mae W. Arvon Roberts wedi cymryd diddordeb ers pan yn blentyn yn hanes Cymry America, ac un o’r llyfrau cyntaf a gasglodd oedd ‘America a Gweledigaethau Bywyd’ gan William Daniel Davies. Mae W. Arvon Roberts wedi cofnodi dros fil o fywgraffiadau am Gymry America ac yn eu plith yr erthygl hon am William Daniel Davies.  Cafwyd caniatâd Mr Roberts i gynnwys yr erthygl a ymddangosodd yn ‘Y Casglwr’ ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.’

Mae’n werth nodi bod William Daniel Davies yn frawd i John Daniel Davies sef tad Ellen (Nel Fach y Bwcs).  Cewch hanes John Daniel Davies yn llawn yn y llyfr ‘ O Drelew i Drefach’ ac iddo ddod nol o Batagonia i Felindre i fyw yn 1901, blwyddyn ar ôl marwolaeth ei frawd William Daniel Davies, ac i dy yng nghanol y pentref a’i enwi yn ‘Camwy’.   Claddwyd William Daniel Davies ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr yn y flwyddyn 1900 ac yn yr un bedd y claddwyd ei frawd John Daniel Davies (Patagonia) yn 1925.  Y bedd nesaf atynt yw bedd eu mham Rachel Davies a fu farw yn 47 oed yn 1856, a’i mab hithau David Davies yn 19 oed. Er nad oes cofnod ar y garreg, yma hefyd y claddwyd eu tad John Daniel Davies yn 1865.

  Yr erthygl "Cardotyn Hyde Park". Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy. 

Bedd William Daniel Davies
Lluniau o’r cerrig beddau ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr.  Ar y chwith carreg fedd William Daniel Davies a John Daniel Davies (Patagonia,) Ar y dde carreg fedd Rachel Davies a’i mab a John Daniel Davies y tad.