Daniel Evan Jones 1860 – 1941
Awdur y Llyfr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ 1899


Rhagymadrodd
Yn yr Eisteddfod Lled-Genedlaethol a gynhaliwyd yn Nrefach Felindre ym mis Awst 1897 enillodd DANIEL JONES y wobr gyntaf am y traethawd gorau ar Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr. £20 oedd y wobr a’r beirniad oedd yr Athro J Gwenogfryn Evans, Rhydychen. Digon pigog oedd y feirniadaeth (yn Saesneg), gan ganiatáu ond hanner y wobr i’r buddugol – heb ystyried mai cystadleuaeth i werin cefn gwlad oedd hi ac nid i academyddion Rhydychen! Beth bynnag, mae’r traethawd buddugol, neu’r gyfrol yn ffrwyth ymchwil manwl a thrylwyr ac yn drysor o wybodaeth hanesyddol.
Cyhoeddwyd y gyfrol gan Wasg Gomer, Llandysul yn 1899. Hwn oedd trydydd cyhoeddiad Gwasg Gomer –‘Hanes Plwyf Llandysul’ yn 1896. ‘Ar Lan y Mor a Chaneuon Eraill’ (Sarnicol) yn 1998. ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ (DE Jones) yn 1999.
Profodd y llyfr gwerthfawr hwn yn boblogaidd iawn ac ymhen amser gwerthwyd yr holl gopïau. Erbyn ail ran o’r 20ed ganrif roedd copïau yn brin iawn ac ar gael yn unig mewn siopau hen lyfrau am bris uchel.
Yna, fe gafodd Lynn James, brodor o Drefach Felindre, y weledigaeth, trwy Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Dyfed, i gyhoeddi argraffiad ffacsimili o’r llyfr gwreiddiol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr gan Daniel Jones. Lansiwyd y gyfrol newydd, eto wedi ei hargraffu gan Wasg Gomer Llandysul mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddraig Goch Felindre ar nos Wener Tachwedd 25ain 1994 – bron canrif yn ddiweddarach.



-
Yn rhyfedd iawn ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael yn lleol am DANIEL JONES awdur y gyfrol bwysig hon. Felly, fy gymerais i (Peter Hughes Griffiths) y cyfrifoldeb a’r dasg o gasglu mwy o wybodaeth amdano ac i geisio canfod a oedd ganddo ddisgynyddion. Bum wrth y gwaith hyn am lawer blwyddyn tua diwedd y 1980’au a’r 1990’au cynnar ond heb fawr o lwyddiant.
Fe wnes i ganfod ei fod wedi byw yn ei hen ddyddiau gyda ei nai a’i nith Enoch a Rachel James yn Llaintarad, Saron, Llandysul ac iddo farw yno ar Awst 18ed, 1941 yn 80 oed a’i fod wedi ei gladdu ym mynwent Capel Penrhiw, Drefach Felindre.
Pan oedd y diweddar Barch J Towyn Jones yn fyfyriwr yn y 1960’au roedd yn cofio yn iawn amdano yn pregethu yng Nghapel yr Annibynnwyr Saron a mynd i fwyd at Enoch a Rachel James yn Llaintarad. Mae’n cofio hefyd gweld llun mewn ffrâm ar wal yr ystafell fyw yn Llaintarad o Daniel Evan Jones. I ble yr aeth y llun hwnnw tybed gan i ni fethu – hyd yn hyn a dod ar draws llun ohono?
-
A ninnau wedi gwasgaru’r neges yn holi am fwy o wybodaeth am Daniel Jones ac am ei deulu – ni ddaeth ymateb o unman tan i gyd-ddigwyddiad rhyfedd ateb yr holl chwilota. Yr oedd y meddyg y Dr Gareth Crompton, brodor o Gwmpengraig yn Athro Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ond yn dal i gadw cysylltiad agos a Drefach Felindre ac yn aelod yn Eglwys Sant Llawddog, Penboyr. Un noson fe aeth e i Ginio Cymdeithas Meddygon Caerdydd gan ddigwydd eistedd nesaf at feddyg lleol yng Nghaerdydd. Yn naturiol, wrth fwyta, dyma’r ddau yn sgwrsio, a dyma’r meddyg lleol yn gofyn i Gareth o ble roedd e’n dod yn wreiddiol. Atebodd yntau yn falch iawn mai o Blwyf Penboyr a’i fod yn aelod yn Eglwys Penboyr ger pentref Drefach Felindre. Dyma oedd ymateb y meddyg lleol a eisteddai yn ei ymyl - “Well, my wife’s grandfather, Daniel Jones wrote a book on the history of Penboyr in Welsh.”
Cododd clustiau Gareth Crompton yn syth gan egluro i’r meddyg lleol yn ei ymyl fod copi o’r llyfr gyda fe a bod ei gyfaill (Peter Hughes Griffiths) wrthi yn ymchwilio i fywyd Daniel Jones ac yn ceisio dod o hyd i unrhyw ddisgynyddion. Fe gymerodd Gareth Crompton enw a chyfeiriad a rhif ffon y meddyg lleol, a’r bore wedyn fe ffoniodd Dr Crompton fi (PHG) gyda’r wybodaeth a chyn diwedd y dydd roeddwn i (PHG) wedi cysylltu gyda Dr JRE Jenkins yn Ninas Powys ger Caerdydd.
O ganlyniad i hynny fe wahoddwyd aelodau o deulu Daniel Jones i’r Lansiad Swyddogol o’r argraffiad newydd o’r llyfr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ yn Neuadd y Ddraig Goch ar Dachwedd 25ain 1994. Ar y noson honno cafwyd cwmni ALUN HOWARD JONES – wyr i Daniel Jonesa JOAN ELAINE JENKINS wyres i Daniel Jones.(Wele luniau ohonyn nhw). -
O ganlyniad cyflwynodd Dr JRE Jenkins i mi y ddogfen The Family History of The Jones and Evans Families of Trefach Felindre and Llangeler. Ef ei hun oedd wedi paratoi’r ddogfen deuluol hon sy’n cofnodi’n fanwl teulu’r awdur DANIEL EVAN JONES a llawer mwy. Manteisiais ar y cyfle i baratoi COEDEN DEULUOL gyflawn o gyn-deidiau Daniel Evan Jones a’i ddisgynyddion i gyd. O ganlyniad i ddogfen deuluol Dr JRE Jenkins mae manylion am fywyd Daniel Evan Jones gyda ni yn llawn bellach ac ar gof a chadw.


-
Ar nos Wener Medi 23ain 2011 dadorchuddiwyd cofeb hyfryd iawn i DANIEL EVAN JONES yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn Nrefach Felindre, ar ffurf copi metal o’r gyfrol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr yn agored gyda manylion am yr awdur. Dadorchuddiwyd gan Luke ac Elena Jenkins Tyddewi sef gor-gor wyron i Daniel Jones. Trefnwyd yr holl achlysur gan Gangen Merched y Wawr Bargod Teifi a diolch iddyn nhw am ofalu bod cofnod gweledol o’r gyfrol ar gael mewn lle cyhoeddus lleol.



-
Bydd copïau o Hanes Teulu Daniel Evan Jones ynghyd a dogfennau eraill perthnasol i’r digwyddiadau a nodwyd ar gael mewn ffeil i’w gweld yng nghwpwrdd ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ yn Archif yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn Nrefach Felindre.
HANES BYWYD DANIEL EVAN JONES
Awdur y gyfrol ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr ‘– Gwasg Gomer 1899
(Dyma fel mae y Dr JRE Jenkins, Dinas Powys wedi cofnodi hanes bywyd Daniel Evan Jones yn y ddogfen ‘The Family History of the Jones and Evans Families of Trefach Felindre and Llangeler.’)
Daniel Jones was born 22.9.1860 at Groesffordd, Penboyr. He was at Cefn in 1881. At his wedding in Llangeler Church on 6th January 1883 he was described as a stone mason of Bargod Villa, a house in the main street of Drefach when he was 22 – a bachelor and his father was John Jones, also a stone mason. However, at the birth of his fourth child in 1887 – 4 years later – he was a Master Weaver – rapid progress!
He married Ellen Evans, aged 27 and a spinster of Bargod Villa. Drefach whose father was Daniel Evans a shoemaker.
Daniel Arthur Jones his son, says that the family moved in 1890 to Pontweli on the other side of the river near Llandysul and that they are there in the 1891 census. They lived at 4 Lewis Street, Llanfihangel ar Arth, with their sons Gwilym, John, Daniel and a daughter Enid. Also there was the wife’s aunt Rachel Evans, one servant and seven wool workers such as carders, wrapers and dyers. This was a considerbal enterprise called The Teify Mills. Then they moved between the birth of their youngest son in 1895 and the burial of their daughter Luned Elen in February 1908 to Lower Machen, a village 2 miles north of Newport Gwent. There, Daniel brought some workers from Llandysul to build and set up a flannel mill at the Pandy. However, because the water of the Rhymney River was hard the operation was not profitable as was supposed to be. However his daughter Enid was buried at Penrhiw Chapel graveyard on 13th December 1897, so he must have been at Pontweli then.
(Note by PHG – the competition in the Eisteddfod was held in 1897 and in his introduction to the book published in 1899 the address at the bottom is - Teifi Mills, Llandysul, Calan Ionawr 1899)
Daniel went to the US as agent to the Liberal Unionist Party in about 1899, probably from Machen. He published a book on the Parishes of Llangeler and Penboyr in Welsh.
He was described as Clerk of the Works in 1915 at his son John Owain Jones’ wedding in August 1915 in Lower Machen. In January 1930 he was doing building work in Drefach. A Mr Thomas of Felindre remembers him working for his father at that time. He married a second time someone who outlived him.
He died at Llaintarad, Saron, Llangeler, where he lived for several years with the James family. He died on August 18th, 1941 and is buried in Penrhiw Chapel Yard. There is a small stone with just his name on it in the chapel yard according to MGR, but I have been unable to find it.
His wife Elen was buried at Lower Machen on 12th April 1909 from TB, which probably affected the children who also died there.
JEJ says that Daniel was a Unitarian whilst Elen was Church of England and that is why they were married in Llangeler Church in 1883.
Daniel and Elen had 9 children:
-
Gwilym Ifan Jones was born 26.10.1883, died 25.3.1971. He had a son Alun Jones, who was recently retired from Community Medicine.
-
John Owain Jones born 12.1.1885, died 21.8.1941
-
Twins died at birth.
-
Daniel Arthur Jones born 21.1.1887, died 5.3.1972.
-
Enid Myfanwy Jones born 1887 in Llangeler, buried at Penrhiw aged 10 on 13.12.1897. (PHG – Dyma ddywed Daniel E Jones yn ei bennod ar Gapel Penrhiw ar dudalen 226 o Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr – “Bydd y fynwent fechan, neilltuedig yn annwyl a chysegredig fyth yn ein golwg er mwyn ein hannwyl ferch, Enid, a gladdwyd yma ar 12ed Rhagfyr 1897, yn 10 oed.”)
-
Francis Alun Jones born 3.2.1892 at Teifi Mills, Pontweli, buried in Machen 19.4.1909 aged 17.
-
Luned Elen Jones born 14.7.1893 at Teifi Mills, she was buried at Machen on 17.2 1908 aged 12.
-
James Idris Jones born 21.3.1895 and he was taken care of at Pandy by DAJ (Daniel Arthur Jones), and after a short time as a miner he entered University College Durham where he took his BA in 1923 when he went to St Michael’s College, Llandaf. He waqs made deacon in 1924 and priested at Swansea in 1925. He was curate of Llanguike 1924-26, St Paul, Newport 1926-20, St Anne, Stamford Hill 1929-31, St Peter, St Albans 1931-34. (See rest in the Family History Document by Dr JRE Jenkins.)
Mae Peter Hughes Griffiths wedi paratoi Coeden Deuluol yn seiliedig ar y wybodaeth a baratowyd gan Dr JRE Jenkins.

Paratowyd taflen arbennig ar gyfer Noson Dadorchuddio Cofeb i Daniel Evan Jones, a drefnwyd gan Cangen Merched y Wawr Bargod Teifi ar nos Wener Medi 23ain 2011 yn Amgueddfa Wlan Genedlaethol, Drefach Felindre.Dyma ddyfyniadau pwrpasol allan o’r daflen honno:
DANIEL EVAN JONES 1860-1941 “Derbyniodd ei addysg yn lleol, yn arbennig gan Y Parch WE Davies gweinidog Undodiaid yn ei academi yng Nghapel Penrhiw.
Yn ifanc iawn dangosodd dalent arbennig mewn llythrennedd ac roedd ganddo wybodaeth eang o agweddau’r iaith Gymraeg a’r Saesneg. Enillodd wobrau lu am gyfieithu emynau o’r Gymraeg i’r Saesneg ac i’r gwrthwyneb. Cynigiodd y Western Mail wobr am gyfieithu emyn adnabyddus o waith y Parch Evan Evans (Ieuan Glan Geirionnydd) ‘Ar lan Iorddonen ddofn,’ a Daniel Jones gipiodd y wobr.Yn ystod ei ddyddiau cynnar gweithiodd Daniel Jones fel Saer Maen ac adeiladydd pontydd. Roedd e’n gerflunydd cywrain gyda chyn a morthwyl ac enillodd wobrau yn y maes hwnnw hefyd. Ei gerflun mwyaf enwog oedd hwnnw o benddelw Mr Gladstone.(PHG – Ble mae’r cerflyn erbyn hyn?)
Gallai arlunio’n dda hefyd ac yn arbennig mewn du a gwyn. Bu am gyfnod yn ohebydd dros ardal Llandysul i’r Carmarthen Journal . Yn hwyrach yn ei fywyd bu ganddo ffatrïoedd gwlân yn Drefach, Llandysul a Machen yn Sir Fynwy.”
Plant Daniel Evan Jones:
“Sicrhaodd fod ei feibion yn cael yr addysg orau. Bu tri yn offeiriaid yn Eglwys Loegr sef – Y Parch Idris Jones, Summerstown, Llundain. Y Parch D Arthur Jones, Rhuddlan, Rhyl, a’r Parch J Owain Jones, Macross Sir Fynwy. Daeth y mab arall Mr Gwilym J Jones yn Brifathro yn Abersychan, sir Forgannwg.
Cofnodwyd hanes ei angladd yn y Tivy Side ar Awst 29ain 1941 (yn Saesneg) -
“Blin gennym gofnodi marwolaeth un o drigolion parchus Llangeler ym mherson Daniel E Jones a fu farw yn Llaintarad, Saron, Llangeler ddydd Llun Awst 18ed yn 80 oed. Awdur Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr. Preifat oedd yr angladd yng Nghapel Penrhiw..... (yna mae’r adroddiad yn cofnodi pwy fu’n gwasanaethu yn yr angladd a’r bobl oedd yn bresennol.) Estynnir cydymdeimlad dwys a’r teulu.”
“Nid oes yr un gofeb i Daniel E Jones ym mynwent Penrhiw, er y gwyddys yn iawn lle claddwyd ef. Mawr hyderwn y gellir gwneud iawn am hyn.”