Stori Fawr Dre-fach Felindre

Capel y Methodistiaid Clos-y-Graig

Clos-y-Graig presennol, y trydydd capel ar y safle.
Clos-y-Graig presennol, y trydydd capel ar y safle.
Wrth ddathlu dau can mlwyddiant Capel Closygraig yn 1954 fe baratowyd ‘Braslun o’i Hanes’ gan Gomer M Roberts M.A. Mae’r llyfryn yn rhoi darlun i ni o hanes yr achos yng Nghlos-y-graig ers y cychwyn yn 1754 ynghyd a llun o’r ail gapel yn 1852  a’r trydydd yn 1900.

Yn ei ragair i’r llyfr mae’r awdur yn nodi ei fod wedi cael llawer o wybodaeth am y capel yn llyfr James Morris – Methodistiaeth Cymru, Hanes Mathodistiaeth Sir Gaerfyrddin, a llyfr Daniel Jones Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr.  Mae’n cyfeirio hefyd at nodiadau John Evans (John y Gwas) a oedd yn ymddiddori yn hanes yr ardal. (Mae holl bapurau John Evans yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth).

Saif Capel Clos-y-graig ym mhentref bychan Drefelin yn ymyl Drefach Felindre, a’r capel cyntaf oedd y trydydd capel i gael ei godi gan y Methodistiaid yn Sir Gaerfyrddin. Yma y daeth Howell Harris i bregethu yn 1769 ac fe gynhaliwyd ysgolion cylchynol Griffith Jones lawer gwaith yng nghapel Clos-y-graig. Pregethodd Daniel Rowland, Williams Pantycelyn a Peter Williams yma hefyd. Safai’r capel cyntaf ar glos Tŷ Newydd ac ar graig tu cefn i’r capel presennol. Dyma darddiant yr enw Clos-y-graig mae’n siŵr.

Mae cynnwys ‘Braslun o’i hanes’ gan Gomer M Roberts, ac o dudalen 227 hyd 233 o ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr,’ yn rhoi hanes ffeithiol i ni am Gapel Clos-y-graig. Prif rodd Clos-y-graig oedd y person nodedig John Harris Jones M.A., Ph.D (1827 – 1885) Datblygodd i fod yn ysgolhaig arbennig ac fe’i claddwyd tu allan i’r capel ac fe godwyd colofn yno i’w goffadwriaeth.  Ysgrifennwyd Cofiant Y Parch J. Harris Jones yn 1886.

Ymhlith y gweinidogion a fu’n gwasanaethu’r capel o 1903 am wyth mlynedd oedd Y Parch W Talfan Davies tad yr enwog Aneurin Talfan Davies awdur y llyfr Crwydro Sir Gar a thad Geraint Talfan Davies cyn reolwr y BBC yng Nghymru a thad y cyfarwyddwr presennol Rhodri Talfan Davies.
Y Parch Michael L Thomas oedd y gweinidog adeg y dathliadau yn 1954.

(Yn blentyn pedair ar ddeg oed cofiaf yn glir‘ Wythnos  Dathlu’r Dau Can Mlwyddiant’. Mae llun da o’r aelodau tu allan i’r capel ar dudalen 83 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau Plwyf Llangeler’ ynghyd a llun o’r capel ar dudalen 88 yn yr un llyfr.)
Mae prosiect Stori Fawr Dre-fach Felindre wedi casglu lluniau Capel Clos-y-Graig a gallwch eu gweld nhw ar y wefan Casgliad y Werin

Peter Hughes Griffiths Mawrth 2023