Stori Fawr Dre-fach Felindre

Capel Y Bedyddwyr - BETHEL DREFACH (1793 - 1993)

Credit:Capel Drefach a'r Hen Gapel. Codwyd y Festri bresennol ar safle'r Hen Gapel yn 1923.
Capel Drefach a'r Hen Gapel. Codwyd y Festri bresennol ar safle'r Hen Gapel yn 1923.
Ar achlysur dathlu dau canmlwyddiant y capel yn 1993 fe gyhoeddwyd y llyfryn Hanes Y Bedyddwyr Drefach 1793 – 1993 gan un o’r aelodau sef Alun Lewis Jones (Alun Brynafon).

Fe gawn hanes dechrau achos y Bedyddwyr yn Nrefach a chodi’r capel cyntaf yn 1793 ar safle’r festri bresennol a’i alw yn ‘Tŷ Cwrdd’. Helaethwyd y capel hwnnw yn 1840 ac yna yn 1888 adeiladwyd y capel presennol ar ddarn o dir wrth y Tŷ Cwrdd. Cynhaliwyd cyrddau i ddathlu agoriad y capel newydd yn 1890.

 Yn 1910 adeiladwyd Berwyn y Mans i’r gweinidog, sy’n dal yn dy braf ar y chwith cyn cyrraedd mynwent y capel ar rhiw Pensarn sy’n mynd am Saron.

O amgylch 1910-12 y cafwyd yr organ, a bu’n gwasanaethu’r capel hyd at gyfnod  dathlu’r dau can mlynedd pan y cafwyd organ hardd drydan newydd ar gyfer y dathliad.
Tua diwedd y 1920’au prynwyd Tŷcoed yn ymyl fel tŷ i’r gofalwr ond fe’i gwerthwyd yn 1967.

Rhodd oedd tir y fynwent gan John Lewis perchennog Ffatri Wlan Cambrian yn 1929.

Mae’r llyfryn yn rhoi darlun llawn i ni o’r cymanfaoedd mawr, y briodas gyntaf yn y capel newydd, a’r eisteddfodau enwog a gynhaliwyd yn y capel adeg y Pasg.
Yn rhyfedd iawn nid oes neb yn gwbl siŵr pryd y cychwynnwyd galw’r capel yn ‘Bethel’ gan mai Capel Drefach oedd y lle ar lafar gwlad tan i’r enw hwnnw gael ei gynnwys yn adroddiad y capel yn 1955.

Yn y llyfryn mae ‘Anerchiadau’r Cwrdd Dathlu’ gan J Gwynfor Jones, D Lynn James, J Dyfrig Davies a Sioned Lleine Jones.

Ceir rhestr o’r gweinidogion a rhif yr aelodaeth hyd at gyhoeddi’r llyfryn yn 1993.

Yn ôl “Adroddiad Eglwys y Bedyddwyr BETHEL Drefach” am 2021 roedd 43 o aelodau, ac mae’r Parchedig Gareth Morris, Brogynydd, Drefach, yn weinidog ar yr eglwys er ei fod mewn oed ymddeol. Bellach  (2023) mae’r Parchedig Gareth Morris wedi ymddeol ond yn barod i wasanaethu’r cymun. Hwn fydd y tro cyntaf yn hanes y capel iddyn nhw fod heb  weinidog. Swyddogion yr Eglwys yw Arwyn Davies, Eleanor Davies, Eifion Jones, Kenneth Williams, Briallen Jones, Nigel Jones a Gwen Walters.

Yr ysgrifennydd yw Eifion Jones, Brynsiriol, Trelech – gynt o Spring Gardens, Felindre a’r Trysorydd yw Eleanor Davies, Brynawelon, Aberarad, Castell Newydd Emlyn – gynt o Pensarn Cottage, Drefach.

Yn yr adroddiad mai ‘Rhestr y Cymynroddion a Rhoddion Eraill a Fuddsoddwyd’ ynghyd a rhestr o’r aelodau presennol.

Mae prosiect Stori Fawr Dre-fach Felindre wedi casglu lluniau Capel Y Bedyddwyr -Bethal, a gallwch eu gweld nhw ar y wefan Casgliad y Werin

Peter Hughes Griffiths, Mawrth 2023.