Stori Fawr Dre-fach Felindre

Capel Soar Penboyr

Angladd y Parchedig J G Owen, 1850-1920. Gwelir Capel Soar yn y cefndir ynghyd a'r hen gapel a'r ty capel. Tud 47 Canrif o Luniau.
Angladd y Parchedig J G Owen, 1850-1920. Gwelir Capel Soar yn y cefndir ynghyd a'r hen gapel a'r ty capel. Tud 47 Canrif o Luniau.

Mae Hanes Eglwysi Annibynnol yn nodi mai yn 1839 yr agorwyd Capel Soar Penboyr sydd wedi ei leoli mewn  “lle rhamantus ar lan yr afon Esgair yng Nghwmpengraig...” yn ôl Daniel Jones yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr.  Roedd nifer fawr o aelodau yr Annibynwyr yn addoli yn Saron ac yn Hermon cyn adeiladu Capel Soar Penboyr. Addaswyd yr hen gapel yn festri cyn codi’r capel presennol. Yn 1879 fe ddaeth y Parch JG Owen o Sir Gaernarfon yn weinidog yno ac erbyn diwedd y ganrif (1899) roedd rhif yr aelodaeth yn  272.  Bu’n weinidog hynod o weithgar a llwyddiannus tan iddo farw yn 1920. Mae llun o’i angladd tu allan i Gapel Soar ar dudalen 47 o’r llyfr Canrif o Luniau.   Mae mwy o wybodaeth am y capel o dudalen 215 ymlaen yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr.

Yn y llyfr Hanes Wil Tŷ Canol 1910 – 2000, cawn hanes Y Parchedig William Thomas a fu’n weinidog ar y capel rhwng 1960 a 1977. O dudalen 26 ymlaen fe gawn ddarlun clir o fywyd y capel a’r gymdogaeth.  Ar dudalen  98 o’r llyfr Canrif o Luniau mae llun o William Thomas ynghyd a chwech o weinidogion eraill a fagwyd yng Nghapel Soar Penboyr.
Adeliadwyd Maesawelon, y Mans yn 1926. Mae Maesawelon yn sefyll ar ochr y bryn sy’n edrych lawr dros y capel a’r pentref.

Llun arall arwyddocaol yw hwnnw ar dudalen 45 o’r llyfr Canrif o Luniau.  Yn y 1930’au roedd Soar yn enwog am gyflwyno gweithiau cerddorol o dan ofal y gweinidog y Parchedig TE Jones. Mae’r llun yn dangos aelodau o’r Ddrama Gerdd a berfformiwyd.

  • Mae cof gen i (Peter Hughes Griffiths) o fynd i ddigwyddiadau cyson yn cael eu cynnal yn Festri Soar pan yn blentyn yn y 1940’au a’r 50’au  e.e. Cyngerdd gan Fyfyrwyr Coleg Y Presby, Caerfyrddin gan gynnwys y Prifardd T James Jones a’r Parch Caradog Evans ac eraill.  Roedd Eisteddfod Flynyddol yn y festri hefyd a chofiaf gystadlu yno a chymryd rhan mewn cyngherddau lleol.

  • Enillodd John Evans (John y Gwas) wobr am ysgrifennu Hanes Capel Soar mewn eisteddfod yng Nghapel Soar Penboyr tua 1910(?). Mae casgliad o bapurau John y Gwas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

  • Enillodd Samuel Owens, Llwynbedw, Felindre gadair Eisteddfod Gadeiriol Soar 1910. Bu’r gadair honno yn ein meddiant ni fel teulu tan i ni ei throsglwyddo i’r Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn Nrefach Felindre.

  • Mae prosiect Stori Fawr Dre-fach Felindre wedi casglu lluniau Capel Soar Penboyr, a gallwch eu gweld nhw ar y wefan Casgliad y Werin