SAMUEL OWENS (S.O. y Bardd)
Dyma ysgrifennodd ‘John y Gwas’ yn y papur lleol yn dilyn marwolaeth y bardd lleol Samuel Owens.
“Fel S.O yr adnabyddid y bardd ymadawedig Samuel Owens, Llwynbedw, Felindre. Mab ydoedd i John a Rachel Owens, ac fe’i ganed yn Brynarian Plwyf Cenarth ar 9ed Hydref 1858, felly cafodd ysbaid o 85 mlynedd.
Treuliodd dros drigain mlynedd yn ardal Felindre, ac yr oedd iddo barch y teimladau gorau gan gylch eang o gyfeillion er mai gwr diymhongar yr encilfeydd tawel ydoedd.
Enillodd gymeradwyaeth gwerin gwlad fel bardd tyner oedd a’i gynhyrchion o wead y wir awen, a thrwy’r blynyddoedd bu iddo le amlwg fel cystadleuydd llwyddiannus yn eisteddfodau’r wlad. Enillodd dair cadair am bryddestau yn eisteddfodau’r cylch ac nid oes nemor i fisolyn Cymraeg na fu ynddo benillion o waith S.O.
Claddwyd ei weddillion ddydd Sadwrn ym mynwent Eglwys Castell Newydd Emlyn a gwasanaethwyd gan Y Parch Ganon H Rosser a darllenwyd y llith gan y Parch TE Jones, Soar. Y perthnasau agosaf oeddynt Mrs S Jones, Brynderi a Mrs S A Davies, Penrhiw, Felindre. Daeth amryw o’i gyfeillion i’r cynhebrwng. Bu’r cymdogion yn hynod garedig iddo.”
Llun o Samuel Owens gyda’i dair cadair o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’ Cyhoeddwyd ym Mehefin 2000. (Cliciwch i'w wneud yn fwy).
Hen lanc fu S.O. ar hyd ei oes ac yn fy llyfr O Lwyfan I Lwyfan rwy’n cyfeirio ato ar dudalen 11 gan ei fod yn byw drws nesaf i fy nghartref innau yn Llwynbedw. Fy mam a Mrs May Phillips fyddai’n gofalu amdano yn ei hen ddyddiau. Pan fu farw gorfod I fy mam werthu ei ychydig eiddo i dalu am ei angladd, ond fe gadwodd hi un o’I gadeiriau, sef cadair Eisteddfod Soar 1910. Bu’r gadair ar landin fy nghartref ar hyd y blynyddoedd. Mae hi bellach yn rhan o gasgliad parhaol ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn Nrefach. Mae’r darn papur yr ysgrifennodd S.O. ei ewyllus arno, gyda John Evans (John y Gwas) yn dyst, gen i o hyd gan iddo adael y cyfan i fi a fy chwaer Beti.
Dyma enghraifft o ‘fardd gwlad’ y cyfnod ar ei orau. Ymddangosodd ei weithiau yn gyson yn y Tivy Side ac ysgrifennodd nifer o ddarnau coffad ar Gardiau Coffa yn dilyn marwolaeth. Roedd hyn yn arfer yn yr ardal ddiwedd y 19ed ganrif ac ar ddechrau’r 20ed ganrif hefyd. Mae’r Dr Leslie Baker Jones wedi nodi rhai o’I gyfansoddiadau a ymddangosodd yn y Cardigan Advertizer ar y pryd.
1. Penillion I’r Sycamorwydden yng nghanol tref Castell Newydd Emlyn -1.11.1878
2. Cerdd ‘Calfaria’ 11.2.1881
3. Cerdd i ‘Ffynnon Beca’ 29.6.1883.
4. ‘Y Gwely Angau’, cyfieithiad o ‘The Death Bed’ gan Thomas Hood. 19.7.1890
5. Cerdd “Y Golygfeydd a welir o ben Cnwc y Fforest” 22.3.1874 a 19.8.1874.
6. Cerdd “ Tra’r Haul yn Machlud”. 11.10.1895
7. Cerdd “ Cwm Cadno Glannau Teifi “. 29.4.1904 (Buddugol yn Eisteddfod Llangeler)
8. Penillion i “Iorwerth y Seithfed” - Y Genhinen Eisteddfodol 1892. Tudalen 61.
Mae Leslie Baker Jones yn tybio bod llawer o’i waith wedi ymddangos o 1904 ymlaen hefyd yn y papurau lleol. Claddwyd S.O. mewn bedd di-enw ym mynwent Eglwys Castell Newydd Emlyn yn 1943, ond gan fod lle i osod coffad amdano ar waelod carreg fedd ei fam a’I dad sydd ar y chwith o ddrws yr eglwys fe wnaethpwyd hynny.
Trefnais ar Sadwrn Ebrill 30ain, 1988 gyfarfodydd ‘COFIO DAU FARDD’ yn Felindre. Fe osodwyd cofeb o lechen ar fur Pendref yn y pentref i gofio am D.S. Jones yn ogystal a’r arysgrif ar garreg fedd ei fam a’I dad yn Eglwys Castell Newydd Emlyn i S.O. Cynhaliwyd cyfarfod yn Neuadd y Ddraig Goch i gofio’r ddau fardd hefyd yn ystod y dydd hwnnw.
Peter Hughes Griffiths 2017