ATGOFION A THRADDODIADAU ARDAL DRE-FACH FELINDRE
(Wrth ddechrau ar y gwaith o fynd trwy bapurau y diweddar Dr David Lesley Baker-Jones, Dangribyn, Felindre yn Ionawr 2021, y ffeil gyntaf a welwyd oedd yr un gyda’r teitl uchod ac yn nodi hefyd –“Nodiadau Cymysg ar Amrywiol Bynciau” yn ei lawysgrifen ei hun. Dyma gopi o gynnwys y ffeil honno sy’n rhoi darlun i ni o’r cyfnod pan oedd yr awdur yn byw yn Llainffald yng nghanol pentref Felindre. Sylwer hefyd ei fod wedi ysgrifennu’r ‘atgofion’ yn y flwyddyn 1977. – ( Peter Hughes Griffiths Ionawr 2021. )
John Roch a’r ‘Llestr’.
Enw iawn John oedd John Griffiths. Brodor o ardal Llangeler ydoedd yn byw mewn bwthyn ar ystâd Llysnewydd – Danrallt. Cymeriad gwledig ac amrwd ydoedd yn ol yr hanes. Llysenwyd ef yn ‘Roch’ oblegid ei fod yn carthu a phesychi’n anfoneddigaidd yn Eglwys Llangeler yn ystod y gwasanaeth a gwneud sŵn ‘Roch, roch’.
Un adeg roedd John yn sal a galwodd cymydog i’w weld. Yn ystod y sgwrs awgrymodd y cymydog y dylai gael ‘siambar’ (chamber pot) yn ei ystafell wely, ac addawodd brynu un i John y tro nesaf yr ai i Gastell Newydd Emlyn. O dipyn i beth cafodd John y llestr ac ymhen amser gwellhaodd o’i afiechyd. Wythnosau wedyn galwodd y cymydog i mewn i fwthyn John, ac er mawr syndod iddo roedd John wedi darganfod pwrpas newydd i’r llestr – oblegid roedd ar y bwrdd yn y gegin – a’i lond o fara te – a John yn mwynhau ei hun i’r eithaf wrth ei frecwast. [Bara Te = bara wedi ei dostio neu wedi ei drochi mewn te. Bwyd digon cyffredin yn yr ardaloedd gwledig i fyny hyd at y 1950au.] 6.8.1977
(Hen bennill a arferem ei adrodd yn lleol. Tybed a’i yr un ‘John Roch’ oedd hwn?
Mamgu, mamgu,
Dowch mas o’r tŷ
I weld ’John Roch’
Ar gefen y ci. (PHG)
Y Llygoden yn y Crochan Hufen.
Wedi ‘dod i lawr’ o Rydychen (DL Baker - Jones) euthum yn athro i Ysgol Ramadeg Y Gwendraeth a lletya gyda Mrs Morgans mewn tŷ ar sgwâr Drefach, Llanarthney. O 1947 i 1948 oedd hynny.
Yn fynych roedd Mrs Morgans yn son am hen gymeriadau’r ardal – un ohonynt hen wreigan yn cadw gwartheg ar ei thyddyn. Ar ôl rhai dyddiau roedd y crochan hufen yn weddol llawn a’r bore hwnnw roedd y ddynes yn paratoi gogyfer a chorddi i wneud ymenyn. I’w syndod fe welodd fod llygoden fawr wedi boddi yn yr hufen. Buasai pob un arall yn taflu’r cyfan ymaith, ond yn lle cyflawni’r fath wastraff yn ei thyb hi – dyma hi’n cydio yng nghynffon y llygoden a’i dal i fyny ar un llaw ac yna tynnu ei llaw arall o gynffon hyd ben y llygoden fel bod pob diferyn o’r hufen yn ôl yn y crochan. 6.8.1977.
[Hanesyn tebyg i’r uchod gan Peter Hughes Griffiths.
Roedd Mr Mrs Davies yn cadw ‘Siop Chips’ ar y dde i’r ffordd sy’n arwain o Sgwâr y Gat, Felindre i gyfeiriad Waungilwen yn y blynyddoedd ar ôl yr ail ryfel byd. Roedd llwybr yn arwain heibio i hen Neuadd y Ddraig Goch a heibio i’r ‘Siop Chips’ i ymuno gyda’r ffordd i Waungilwen – bron gyferbyn a Maes y Berllan a Tŷ’r Lon. Hen sied sinc oedd y ‘Siop Chips’ hon ac yn boblogaidd iawn, ac ar agor gyda’r nos yn unig. Mae’r dull o ffrio’r sglodion mewn saim poeth yn dal yr un o hyd yn ein ‘Siopau Chips’ heddiw, a byddai Mr Mrs Davies yn dod ddiwedd y prynhawn i baratoi’r tatws ac i ail dwymo’r saim wedi iddo oeri o’r noson cynt. Roedden nhw wrthi un prynhawn pan redodd hen gath i mewn gan neidio fyny i geisio cael darn o bysgodyn uwchben y peiriant ffrio’r sglodion. Ond, fe lithrodd y gath a syrthio i mewn i’r twba a’i lond o saim lle roedden nhw yn ffrio’r sglodion. Roedd hi’n lwcus bod y saim heb ei boethi a hithau’n nofio ynddo. Cydiodd Mr Davies ynddi ar unwaith a’i chodi allan o’r twba saim. Daliodd y gath fyny wrth ei gwddf a thynnu ei law ar hyd ei chorff a lawr bob cam at ei chynffon fel bod y saim i gyd yn mynd nol i dwba ffrio’r chips. Gollyngodd hi’n rhydd wedyn ac fe redodd y gath mas o’r ‘Siop Chips.’ Chware teg i Mr Davies, yn y dyddiau tlawd rheini – roedd hi yn bwysig peidio gwastraffu diferyn o’r saim! Yn ol Dyfrig Davies, Pensarn Cottage ar y pryd, a adroddodd y stori mi – roedd hi yn berffaith wir!]
Bythynod Felindre a Drefach.
Tyfodd y pentref ac adeiladwyd tai newyddion ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf (19ed Ganrif) a dechrau’r ganrif bresennol (20ed Ganrif). Hwb i hyn oedd y gwaith gwlân. Adeiladwyd tai mawr gan y meistri a pherchnogion y ffatrïoedd – Llainffald, Spring Gardens, Cilwendeg, Meiros Hall, Square Hall, Llwynbrain ac eraill. Roedd gweithwyr yr ardal am gartrefi newydd iddynt eu hunain, ac aethant ati i adeiladu tai llai, ond glan a chysurus. Eithriadau yn y dau a’r tridegau oedd bythynnod yn y pentref – a’r ddau fwthyn ‘Cross Lane’ sy’n arbennig yn y cof am eu tlodi a’u bryntni. Roedd teulu mawr o saith neu wyth o blant yr un ynddynt – y tad heb waith, ac oherwydd tlodi a’r holl blant roedd golwg’ ddidoreth’ iawn arnynt. Bythynnod dau ben a llawr pridd oeddynt – un ystafell fyw ac un ystafell gysgu. Nid oedd ganddynt ‘dai bach’ hyd yn oed, ac wrth fynd ar y llwybr heibio i ‘Cross Lane’ – Lon Fach Cross Lane - roedd rhaid troedio yn ochelgar iawn oblegid y budreddi ar hyd y llwybr. Roedd y ddau fwthyn yn llawn chwain, ac er bod y plant a oedd yn byw yn y ddau fwthyn yn ddigon hoffus, eto roedd rhaid gofalu rhag eistedd yn rhy agos iddynt yn yr ysgol rhag ofn y chwain a’r llau oedd ar eu cyrff. Eithriadau oedd y bythynnod hyn. Er bod nifer yn yr ardal, roeddynt ar y cyfan yn lan ac yn cael eu cadw’n ddestlus. 24.8.1977.
Grasi a’r Sgadenyn.
Roedd Grasi yn hen wraig yn byw mewn bwthyn yn agos i lle saif Llwyngwern, Felindre heddiw. Cofiau fy nhadcu, Samuel Baker-Jones, Llainffald hi yn dda pan oedd yn grwtyn ifanc. Ganed ef yn 1860 a thybiaf mai yn 70’au y ganrif honno y mae’r traddodiad y cyfeiriaf ato. Pan fyddai Grasi yn prynu pysgod nid oedd yn ofalus iawn am lanweithdra wrth eu paratoi i’r ford. Yng ngeiriau Grasi bwyteiau hwy yn ‘Ben, berfe i gyd’ a’u ffrio a thipyn o benol canwyllau – Hynny yw – defnyddio gwer y gannwyll (candle grease). 24.8.1977.
‘Old Penasyn.’
Pan oeddwn tua chwech neu saith oed dechreuais fynd i’r ysgol Sul a’r oedfaon yng Nghapel Drefach (Bethel – Eglwys y Bedyddwyr). Roeddwn yn nosbarth ysgol Sul Sam Evans, Brynsingrug a Teifi Cafe, ac wedyn bu’n byw yn Llysherber. Roedd o deulu y Dr Herber Evans. Wedyn bum yn nosbarth Y Parch Tom Davies y gweinidog.
Cofiaf am fynychu’r oedfaon yn y capel ac edrych i lawr ar y diaconiaid yn y cor mawr. Yr Henadur John Lewis, Meiros Hall, David Jones (Dafi’r Gof), David Evans (Dafi Ifans) Square Hall, Henry Davies, Ynys Las – cefnder i fy nhadcu, ac eraill. Roedd un hynafgwr arall yn eu plith – Dafi Pendone (David Davies?) o Gwmhiraeth – y dyn gyda wyneb hir a gwelw a’i wallt wedi gwynnu a phen hir iawn ganddo.
Flynyddoedd wedyn roeddwn yn gyfeillgar a’r Parchedig Ganon a Mrs Rosser, Castell Newydd Emlyn. Magesid Mrs Rosser yn Rheithordy Penboyr, a chofiau yn dda am drigolion hynod a diddorol yr ardal. Un diwrnod gofynnodd imi – “Do you remember Old Penasyn? As I suppose it was before your time?” Dim yn hollol oblegid dyma’r Defi Bendone a oedd yn y cor mawr yng Nghapel Drefach.
Cymeriad tawel ac addfwyn oedd e mae’n debyg – ond ei fod yn anffodus o fod yn berchen pen mor hir a chlustiau mawr. 24.8.1977
Ifan Siop Pensarn – ‘Shifi Goch’ a ‘Shalots’.
Roedd Ifan Jones yn byw yn Siop Pensarn, Drefach, ac roedd ganddo ddwy ferch Leisa a Rachel. Priododdd Leisa a John Ifans, Tynewydd, Closygraig – ac ail ŵr Rachel oedd Sam Howells Bargod View – a hithau’n ail wraig iddo fe. Yn ôl yr hanes roedd Ifan Jones yn dynn iawn am y geiniog ac yn byw bywyd syml iawn a chul o ran bwyd ac anghenion eraill. Un dydd roedd Marged Maesyrywen (Margaret Davies ac wedyn Margaret Jones priod Johnny Jones Bargod Mills), ar ei ffordd o Bargod Mills i Maesyrywen a galwodd i mewn yn Siop Pensarn. Roedd Ifan Jones yn bwyta wrth y ford, ac er mawr syndod i Marged Maesyrywen, yr hyn oedd o’i flaen oedd llond plât o ‘syfi coch’ (rhai gwyllt o’r cloddiau) a ‘shalots’ wedi eu torri i fyny ynghyd a the a bara menyn. [Mrs Margaret Jones ei hun ddywedodd y stori wrthyf.] 24.7.1977.
Mari Morgans – ‘Y Badell Bres a’r Sofrins’.
Y tŷ hynaf yn Felindre, yn ôl pob tebyg yw Felindre House ac ar un adeg roedd yn blasty bychan. Bu Marteine Lloyd, Plas y Bronwydd, pan yn faban bychan, yn byw yma am ychydig yn ystod atgyweirio Plas y Bronwydd. Roedd Felindre House a’r tir o gwmpas yn rhan o ystâd Llysnewydd. Yn gynnar yn y ganrif hon (20ed) fe’i gwerthwyd i Mari Morgans gweddw William Morgans gwr o ardal Rhydlewis ac a gladdwyd ym Mwlchygroes. Roedd Mari a’i thylwyth o blwyf Penboyr, a’i brawd oedd James Williams, Manorafon, Felindre. Roedd Mari a’i theulu yn eithriadol eu dychymyg, neu yn byw mewn ffamtasi yn barhaus a bob amser yn bragio am eu harian neu diroedd a mwy.
Roedd modryb i mi sef Hettie Baker Jones, Llainffald a’i chyfaill Margaret Evans (Maggie Danwarin), ac wedyn y Cynghorydd M Brynmor Williams yn casglu arian dros Cymdeithas Nyrsus Henllan a’r Cylch –‘ Henllan and District Nursing Association’ a’r cymorth mwyaf i’r mudiad oedd Lady Lloyd, Plas y Bronwydd. Galwai fy modryb a Maggie yn Felindre House ac wrth son am gasglu a Mari mewn ffws a ffwdan a beth i’w roi, ac o’r diwedd yn galw ar un o’r merched – “Ajah, Ajah, cewch lan i’r llofft i’r badell bres a drychwch am bishin tair (threepenny bit) i roi at y nyrsus! 24.8.1977.
Y Canon Jones a’r Arferion Galar. Nid oedd dim o dan y pennawd hwn.
Mynd i Langrannog yng Ngherbyd Beni Bargod Villa.
Pan oeddwn yn blentyn awn bob blwyddyn i dreulio mis Awst i Langrannog – pythefnos gyda’m tadcu a’m magu a phythefnos gyda dwy fodryb. Rhyw ddau neu dri cerbyd modur oedd yn Felindre, ac un ffordd o fynd i lan y mor oedd gyda Beni Bargod Villa. Roedd Ben Phillips (Beni Bargod Villa) yn dwyn llythyrau o Henllan – ‘sorting office’- i Aberbanc, Penrhiwpal, Rhydlewis, Sarnau, Brynhoffnant ac i Langrannog. Y drefn oedd fod y swyddfa bost yn ‘heirio’ Ben Phillips a’i gerbyd. Er mwyn cael lle yn y cerbyd roedd angen rhoi gwybod ymlaen llaw, a dal y cerbyd yn Nrefach tua 6am, aros dipyn yn Swyddfa Bost Henllan am y llythyron a ddeuai gyda’r trên i stesion Henllan. Wedyn ymlaen am Aberbanc a dringo’r rhiw hyd ‘lodge’ gatiau’r Bronwydd. Deuai hen wraig allan i agor y clwydi, a dringo lan yn raddol ar hyd y ‘drive’ i glwydi eraill gyda choed a llwyni prydferth bob ochr, ac yna aros o flaen y plas. Deuai dynes dal allan a bag arbennig a throsglwyddo’r llythyron a rhoi’r llythyron iddi hithau hefyd. Mynd ymlaen at yr ‘home farm’ ar y dde ac allan i’r ffordd yn arwain am Llangunllo, Coedybryn a Rhydlewis. Cyrhaeddem Llangrannog tua naw o’r gloch. Siwrnau drafferthus oherwydd gorfod aros cymaint cyn cyrraedd glan y mor. Ond, roedd swyn a rhamant wrth fynd heibio Bronwydd – castell tylwyth teg i ddychymyg plentyn ac ar ôl gwyliau hapus ar lan y mor trist oedd y siwrnau adref ar wahân bod gweld tyrrau’r Bronwydd yn gysur unwaith eto. 6.10.1977.
Syr Marteine Lloyd a’r tenant yn methu talu’r rhent.
Tua 1950 – 51 roeddwn wedi bod yn ymweld a phlas y Bronwydd, a oedd ar yr adeg yn cael ei ddinoethi – a’r to, gwaith coed a’r maen ynddo yn cael eu gwerthu. Gerllaw’r plas roedd hen ŵr, dros ei bedwar ugain oed yn byw yn un o’r hen fythynnod a berthynai i’r stad.
Dywedodd stori wrthyf. Roedd ei dad yn ffermio un o ffermydd ar stad y Bronwydd yn ail hanner y ganrif ddiwethaf (19eg). Roedd y tymor wedi bod yn arw iawn a’r ffermwr wedi dioddef colledion enbyd – a sut roedd cael dau ben llinyn ynghyd i dalu’r rhent oedd y cwestiwn llosg. Roedd y ffermwr yn brin o arian ac ni fedrai dalu’r rhent. Gan ofni’r gwaethaf, aeth i weld ‘y Syr’ ac wedi iddo gyrraedd ystafell Syr Marteine dweud wrtho ei stori drist. Er syndod, dyma’r ‘Syr’ yn codi ar ei draed a dweud yn bendant - “Nawr, nawr, ti dim becso. Ni’n talu rhent gyda’n gili”. Felly, cafodd y tenant ei adael yn rhydd o dalu’r rhent y flwyddyn honno. [Roedd Syr Marteine Lloyd Plas y Bronwydd yn medru tipyn o Gymraeg go fratiog mae’n debyg.] 6.10.1977
Merched Rhydywyrn a’r Bocs Casglu Arian i’r Nyrsus.
Cymeriadau ‘diddorol’ eraill yn y fro oedd merched Rhydywyrn. (Dyna’r enw ar lafar am Rhydychwyrn mae’n debyg (PHG) – teulu’r Jonesiaid, ac yn fy nghof y tri brawd a thair chwaer heb briodi, gartref yn Rhydywyrn. Pobl garedig, diymhongar a swil. Pan ai’r ddwy o gwmpas i gasglu dros fudiad y nyrsus (Gweler o dan ‘Mari Morgans a’r Sofrins’) aent i Rhydywyrn a chnocio ar y drws ac yna clywed sŵn gwylltio o’r tu mewn, ac ar ol hynny ateb y drws a chroeso i mewn. Roedd yno lendid arbennig – y llawr llechi yn cael ei olchi ddwy waith neu ragor bob dydd. Wedyn rhoi cyfraniad at gronfa’r nyrsus. Roedd pob tŷ wedi cael blychau pren er mwyn rhoi ceiniog neu chwe cheiniog ynddo nawr ac yn yn man (y rhai mwyaf cefnog byth yn ffwdanu!), fel byddai’r arian yn caniatáu.
Un tro roedd teulu Rhydywyrn heb roi yr un geiniog yn y bocs, a gallent fforddio i beidio – ac wedi penderfynu faint i gyfrannu fe ddywedodd un o’r casglyddion – “Peidwch a ffwdanu rhoi arian yn y bocs, fe gymrwn ni beth bynnag sy gyda chi i roi.” “Na, na,” ebe un o’r teulu yn Rhydywyrn, a’r lleill yn cytuno – “Rhaid rhoi’r arian sy yn y bocs!”. [Felly y bu – gwastraff amser a diffyg ‘gweld’ (‘Synnwyr’) yr arian i mewn i’r bocs, y funud nesaf cael cyllell neu rhywbeth llym i dynnu’r label bapur a oedd yn cau agoriad cudd y bocs, tynnu’r arian allan ac yna rhoi’r label bapur yn nol ar y bocs go gyfer a’r tro nesaf. 9.9.1977
Major Francis Jones and Miss Campbell Davys.
Wales Herald called in the Office today and the conversation turned to the death in the Spring of this year (1977) of Miss Campbell Davys of Abermarlais and Neuadd Fawr – a strange woman in appearance, a gypsy of gypsies – but with the manners, culture and educated speech of a lady. The grounds at Neuadd Fawr and Abermarlais had literally become a wilderness and neuadd Fawr had been ampty for about 50 years. She lived in an upstairs room at Abermarlais, in a room which was kitchen, bedroom and everything – accompanied by many cats – she used an oil stove to prepare meals on. Apparently she wore riding breeches and wellingtons, over which she wore a long frock. No one was allowed near the place – windows and doors were barred – and a great deal of furniture had been sold. The drive to Abermarlais was overgrown and the outbuildings completely smothered by trees and uncontrolled growth. Within a week of her death Abermarlais was burnt down and only a shell remains. John Henry Richards of Llangadog told me recently that he used to ‘break in and train horses’ for Miss Campbell Davys. After a few days in his care they were docile and amiacable, but once they returned to Miss Campbell Davys at Neuadd Fawr they soon became wild and terrified of everything and everybody. The temperament of their owner no doubt had much to do with their condition. 9.9.1977.
Hen Gyrnol Llysnewydd yn chwilio gwraig i ‘Young Willy’.
Roedd y Canon Thomas Jones, Rheithor Penboyr yn ŵr dylanwadol yn ei ddydd – yn medru sefyll yn annibynnol oddi wrth y ‘gwyr mawr’ fel Lewesiaid Llysnewydd ac eraill.
Un tro roedd Canon Jones wedi cyfarfod Cyrnol Llysnewydd yn agos i Bont Henllan, ac meddai hwnnw “I think it is time for Young Willy to get married.” [Young Willy oedd William Lewes – wedyn y Capten Lewes yn rhyfel 1914-18 a Chyrnol Home Guard Felindre 1939-45 a’r olaf o Lewesiaid Llysnewydd. Mae llun o Home Guard Felindre ar dudalen 58 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler. Cyrnol Lewes yw’r un sydd yn y canol yn y rhes flaen gyda Dr Ben Jones Dangribyn yn ei ymyl a’i ffon rhwng ei goesau. PHG]
Meddai’r Canon, “Have you anyone in mind?” Atebodd y Cyrnol , “No, can you suggest a suitable girl.” Holodd y Canon, “What about one of the Bronwydd girls?” A’r ateb a gafodd, “Out of the question, no money there.”
Ymhen blynyddoedd priododd Willy gyda Daisy Wylie and ni fuont yn hapus. Ymhen ychydig flynyddoedd ysgarwyd hwy (a pheth anghyffredin oedd ysgariad yn negawd cyntaf y ganrif (20ed). Roedd Daisy Wylie yn rhadlon a charedig iawn i’w ffrindiau ac yn gyfoethog iawn, a dyna pam yr oedd yr hen Gyrnol Llysnewydd am i’w fab briodi aeres a gwaddol mawr. Un o hoff ddiddordebau Daisy Wiley oedd marchogaeth ceffylau, eu paratoi i neidio a rhedeg rasus. Aeth hi o Lysnewydd a phrynodd ystâd Werville Brook gerllaw Plwmp tua glan y mor. Wedyn fe aeth i swydd Amwythig a chadwodd Blas Geler yn ail gartref. 9.9.1977.
Llythyr Cam y Capten Tom.
Tua diwedd y 19ed ganrif roedd Capten Tom (Lewes) un o feibion Llysnewydd wedi syrthio mewn cariad ag un o ferched y gymdogaeth. Merch dlawd oedd hi heb lawer o addysg ac ni fedrai siarad Saesneg. I’r gwrthwyneb, un o deulu bonheddig Saesneg oedd Capten Tom, ac fel yr oedd pethau yn yr oes honno, ni wyddai ef ond y peth nesaf i ddim am y Gymraeg.
Un diwrnod roedd ef am ysgrifennu llythyr i’r ferch i ddatgan ei deimladau ati. Rhaid oedd gwneud hyn heb yn wybod i deulu’r Lewesiaid oblegid ni chaniateient ‘liaison’ a merch gyffredin.
Cafodd Capten Tom gymorth gan y garddwr – a wag heb ei ail oedd hwnnw. Yn y llythyr roedd Tom am ddweud sut yr oedd yn caru’r ferch a disgrifio ei rhinweddau. Roedd am ddweud am ei bronnau prydferth. Mewn Cymraeg bratiog meddai, “ Fi am dweud am ei pretty bosoms... Ti gweud shwt fi write about them.” Ac meddai’r garddwr – y wag a winc yn ei lygad - “Dwedwch Syr bod ganddi ddwy gader bert!!” [Cader yw’r gair lleol am cader buwch – ‘udder’ yn Saesneg.] 9.9.1977.
Crogi’r Ci Bach.
Amaethwr cefnog ym mhlwyf Penboyr oedd Jones Y Cr- - - - - -. Prynasai ei fferm trwy fenthyg arian yn yr 20iau adeg y dirwasgiad a thrwy weithio’n galed a byw’n gryno casglodd lawer o arian yn enwedig yng nghyfnod rhyfel 1939-45. Tybiasai ei hun fel un o’r ‘farmers mowr’ o gymharu a gweddill dynolryw sef y ‘dynion bach’. Roedd e’n Dori rhonc ac yn Eglwyswr selog er mai Undodiaid oedd ei hynafiaid o ardal Pontsian. Nid oedd gair da iddo fel meistr a garw oedd ei ymddygiad tuag at ei weision a’i forynion.
Ni fentrai dyn nac aderyn ddisgyn ar ei dir a moesymgrymu i’r teyrn. Adroddir stori am ei greulondeb tuag at gi bach a oedd wedi crwydro i dir y Cr - - - - - -. Daliodd D - - - Jones y ci bach a chlymodd gortyn am ei wddf a’i hongian i drengu o goeden ar ochr y lon yn mynd i’r fferm. Os na ddeallai cwn eraill eu tynged os mentrent roi troed ar dir Y Cr - - - - -, yna roedd y rhybydd yn glir i berchnogion cwn yn yr ardal. Bron yn rhy ddiweddar daeth cymydog heibio a gweld tynged y ci bach a oedd erbyn hyn ar fin tynnu’r anadl olaf – a thorrwyd lawr y truan. Deellir iddo gael triniaeth ac adennill ei sioncrwydd a’i hoywder, er nad oedd ganddo ffydd yn yr hil ddynol mwyach!! 9.9.1977
Geiriau Llafar a hen ddywediadau ardal Felindre
Yn yr un ffeil a’r uchod o eiddo Dr David Lesley Baker-Jones, Dangribyn, Felindre mae’r casgliad hwn o eiriau llafar a hen ddywediadau ardal Dre-fach Felindre, yn ei lawysgrifen ei hun. Wele gopi o’r cynnwys gan ddehongli’r llawysgrifen mor gywir a phosibl. (Peter Hughes Griffiths Ionawr 2021.)
O’r mwg i’r dowlad = o sefyllfa ddrwg i un waeth (cf from the frying pan into the fire)
Tangal = mae pethe wedi tangal neu tanglo - wedi mynd yn sownd yn ei gilydd.
Mae’n ddigon ni hala rhwng cardotyn a’i gwd = wrth son am dywydd gwael
Angel pen ffordd a diawl pen pentan = person sy’n ymddangos yn ffein i rhywun dieithr ond cythrel pan fo adref.
Cuwch (hy cyfuwch) cwd a ffetan = defnyddid ynglŷn a statws pobl mewn cymdeithas
Hyd ei anal (anadl) = cael gwybod beth sydd ar ei feddwl.
Ar flaen fy nhafod i = ar fin dweud rhywbeth
Bwlacs = e.e. ‘Cerdded trwy’r bwlacs’, sef tir mwdlyd neu pwdel.
Stecs = wedi gwlychu – ‘yn wlyb stecs’.
Tywydd sgarllad = tywydd oer gwyntog a gwlyb.
A chloch wrth pob dant = rhywun sy’n hapus iawn.
Tynnu dwr o’r dannedd = rhywbeth sy’n flasus neu yn dda iawn.
Tynnu bys trwy ddannedd = gwneud rhyw beth sbeitlyd i rywun.
Pystylad = bod yn grac a chwyno yn ymarferol a chadw sŵn.
Lletem = rhoi rhywun yn ei le –‘ rhoi lletem i rhywun.’
Dihatryd = rhywun a’i olwg yn gwaethygu ac yn fusgrell.
Matryd = dad wisgo eich dillad – ‘rhywun yn matryd.’
Dal pen rheswm = yn ymddiddan neu sgwrsio.
Brwd neu oer/ Twym neu oer = ‘Mae’n anodd gwybod ei dwym na’i oer.’ Heb wybod ei farn.
Sibwrtho/ Sibwrddo = wedi cael ei ysgwyd fel ar ôl damwain neu godwm.
Rhwng cardotyn a’i gwd = ‘Mae’n ddigon i hala rhwng cardotyn a’i gwd’ – am dywydd gwael yn parhau.
Cae nos = ‘ Mae’n bryd mynd i’r cae nos’ – amser mynd i’r gwely.
Stadus = ‘wedi gwisgo’n stadus’ – gwisgo’n deidi ar gyfer rhywbeth arbennig.
Tre din = ‘Wedi mynd y dre din’ – wedi mynd i ben (gone to the dogs)
Brips = pethau sy’n werth dim.
Ymyl y ddalen = dim ond rhan o’r stori.
Heger = ‘rhywun heger yw rhywun ‘cheeky’.
Halfor = gwastrafflyd – yn enwedig gyda arian.
Hanner syfien = (syfi – ‘strawberries’) – rhywun hanner meddw.
Arllwys ei gwd = rhywun yn dweud ei ofidiau a’i feddwl.
Hen ddihenydd = yn hen iawn
Yn dywyll piwc = yn dywyll iawn iawn
Stwffwl = person bychan cryf a thew – ‘Stwffwl o ddyn’.
Sgarthion = pethau drwg dros ben
Jac a raca = allech chi ddim dibynnu arno – ‘fel jac ar raca’.
Ciwga = person annibenadwy – ‘giwga o ddyn’
Cetyn = darn o rhywbeth – ‘cetyn diwrnod o waith’.
Codi cefen = pan yn gorffen gwaith.
Swae = arddangos ei hun - ‘ cerdded gyda bach o swae’.
Swache = dangos ei hun (‘show off’).
Man a man = ‘Just as well’ – ‘man a man ichi eistedd.’
Torri’r garw = wedi dod dros y rhan waethaf -
Gwenwn = dim hwyl arno neu yn flin - ‘tipyn o wenwn yn ei siarad’.
Ffradach = pethau wedi mynd o’i le - ‘Mae wedi mynd yn ffradach arno’.
Pilyn = darn o ddilledyn i wisgo
Haul ar bost = rhyw beth da dros dro yn unig
.......................................................................................................................