Dr. David Leslie Baker-Jones Y.H., M.A. (Oxon), PhD, F.S.A.
Bu farw’r academydd, yr hanesydd a’r awdur a chyn athro yn Ysgol Ramadeg Llandysul y Dr. David Leslie Baker-Jones yn 96 oed ar Ionawr 21ain 2019. Cynhaliwyd ei angladd, hollol breifat i’w deulu yn ôl ei ddymuniad, yn Eglwys Sant Barnabas, Felindre, ar Sadwrn Chwefror 9ed 2019, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Sant Celer, Llangeler.
Roedd y Dr Gareth Crompton, Y Parchedig Towyn Jones a minnau – Peter Hughes Griffiths – hefyd yn bresennol yn yr angladd i dalu’r gymwynas olaf i berson arbennig iawn, ac un o’r unigolion disgleiriaf a welodd ardal Dre-fach, Felindre yn ei holl hanes.
Yn ei baragraff cyntaf o’i lyfr Cofio’n Ôl. Mae ei frawd John Tudor Jones yn son fel hyn –
“Roedd ein mam, Mary Elen wedi ei magu yn Llainffald ym mhentref Felindre a Tom, neu Tommy ein tad, wedi cael ei eni yn ‘Triolbach’, Rhos, Llangeler. Ac ar ôl priodi buont yn byw yn Llainffald am oddeutu dwy flynedd cyn geni Leslie yn 1922. Ni symudodd Leslie gyda’n rhieni i Lwynneuadd, fe wnaeth aros yn Llainffald a chael ei fagu yno gan dat-cu a mam-gu, sef Sam a Martha Jones, a’n dwy anti, Nan a Hetty.”
Yn Llainffald gyda’i ddwy fodryb Nan a Hetty y bu Leslie byw tan iddo ymddeol a symud wedyn i fyw i Dangribyn sydd ar y ffordd i Gwmpengraig. Yn lleol fel ‘Leslie Llainffald’ roedd pawb yn ei adnabod.
Cafodd Leslie Baker-Jones yrfa ddisglair ar ôl dyddiau coleg yn Llanbedr-pont-Steffan a Rhydychen, ac yna fe aeth yn athro yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Addysg Grefyddol a Chymraeg oedd ei bynciau addysgu a bydd cenedlaethau o ddisgyblion yr ‘Ysgol ar y Bryn’ yn cofio amdano yng nghyfnod prifathrawiaethau T. Edgar Davies, Islwyn Williams ac Arwyn Pearce.
Yn y llyfr ‘Canmlwyddiant Addysg Uwchradd yn Llandysul’ (1995) gan Arwyn Pearce fe welir y canlynol:
School Notes 1949 – ‘We congratulate D.L. Baker-Jones on being elected Gorsedd Ovate.
1950 Recent Success – D.L.Baker-Jones B.A., M.A. (Oxon). Gorsedd Ovate National Eisteddfod Licence Certificate of Tonic Solfa College.
1971 – 72 : Etholwyd D.L. Baker Jones yn J.P. (Ynad Heddwch.)
Tudalen 177 yn y llyfr gwelir llun o Staff Ysgol Ramadeg Llandysul gyda D.L. Baker-Jones yn sefyll yr olaf ar y dde.
Tudalen 300 yn y llyfr: Teyrnged i I.T.Hughes gan D.L. Baker- Jones.
Tudalen 318 yn y llyfr: Llun o Staff Ysgol Ramadeg Llandysul yn 1980 – nid yw D.L. Baker-Jones yn y llun. Hyn yn golygu ei fod wedi gorffen fel athro yn yr ysgol.
Yn 1979 fe gafodd swydd yn Adran yr Archifau yng Nghaerfyrddin, ac yno y bu wrth ei fodd yn ymchwilio, cofnodi ac ysgrifennu nifer helaeth o ysgrifau ac erthyglau hanesyddol a lleol fel – ‘Notes on the Social Life of Carmarthenshire during the 18th Century’ a ‘History of the House of Edwinsford’ i Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin.
Mae yn fy meddiant ei gyhoeddiad 28 tudalen ‘To Supply The Sick Poor’ (County Record Office Carmarthen.) sef adroddiad manwl ar sut y sefydlwyd y ‘Public Infirmary’ gyntaf yng Nghaerfyrddin. ‘Notes on the Social Life of Carmarthenshire during the 18th Century' – Carmarthen Antiquarian Society.
Yna, ‘Y Graig y naddwyd ni ohoni’ sef y Rhagair i Wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.
Ers y dyddiau hynny pan yn gweithio yn yr Adran Archifau, ac yn arbennig ar ôl ymddeol, fe gyhoeddodd Leslie Baker-Jones lyfrau a ystyrir yn glasuron hanesyddol fel ‘Princelings, Priviledge and Power’ - The Tivyside Gentry in their Community (1999), The Glaspant Diary 1896 – A chronicle of Carmarthenshire Country Life,(2002) a The Wolfe and the Boar (2005), sef hanes Teulu’r Lloyds, Plas y Bronwydd ger Aberbanc, sef hanes y teulu o 1562 tan marwolaeth Syr Martine Lloyd yn 1933,(Quatrefoil Books, Dangibyn House, Felindre.) – i enwi dim ond rhai o’i gyhoeddiadau. Roedd canmoliaeth uchel mewn adolygiad ar y 12ed Hydref 2018 yn y Church Times gan David Wilbourne ar ei lyfr Jeremy Taylor (1613 – 1667) – A Presbendary of St. David’s Cathedral.
Derbyniodd ei Ddoethuriaeth, PhD am hanes tai bonedd Dyffryn Teifi a ddatblygodd yn ei ddau lyfr Princelings, Privilege and Power, a The Wolfe and the Boar, gan Brifysgol Abertawe o dan yr Athro David Howell yn yr Adran Hanes.
Roedd ei gartref ar ôl ymddeol yn Dangribyn, Cwmpengraig, Felindre yn cynnwys pob math o gasgliadau toreithiog a fydd yn werthfawr i haneswyr a chasglwyr yn yr archifdy newydd Y STORDY yng Nghaerfyrddin. Er ei fod hanner ffordd trwy ysgrifennu am hanes ei gymuned pan fu farw, bydd gweld y gwaith hwnnw hefyd yn gofnod pwysig iawn.
Er yn berson tawel a swil ei anian, carai dreulio y rhan fwyaf o’i amser ymhlith ei ffrindiau ac aelodau o’i deulu, gan osgoi yn bwrpasol y bywyd cyhoeddus.
Bu Leslie Baker-Jones yn eglwyswr selog trwy ei oes ac yn gerddor o safon uchel iawn a chyn organydd meistrolgar yn Eglwys Sant Barnabas, a phleser pur oedd ei glywed yn chwarae yr organ glasurol bersonol oedd ganddo yn ei gartref yn Dangribyn.
‘Yn ymhel a’r clasuron’ y treuliodd ei fywyd, ac mae ei ragair i Wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre yn crynhoi ei gariad a’i ymlyniad yntau i’r pethau gorau sy’n perthyn i ni fel dynoliaeth.
Cofiwn am David Leslie Baker-Jones fel person arbennig a disglair iawn, ac mae’r dyfyniad Lladin ar ei daflen angladdol – ‘Lux Perpetua Luceat Eis’ yn nodi’r hedd a mae’n deilwng ohono.
Peter Hughes Griffiths.
Cliciwch ar y lluniau i'w hehangu: