Stori Fawr Dre-fach Felindre

Olive ac Alan Campden

Alan ac Olive Campden

Coed-y-pry, Drefach Felindre

Bu farw Olive Campden yn Ebrill 2024 yn 89 oed a’i gwr Alan Campden yn Awst 2025 yn 94 oed.

Dyma ddau berson a dreuliodd eu hoes gyfan yn byw o fewn y ‘filltir sgwâr’ yn Dre-fach Felindre. Bu’r ddau mor weithgar ar hyd eu hoes hir o fewn eu cymuned, gan lwyddo i drosglwyddo’r hen hanes mewn gwahanol ffyrdd i’r ‘oesoedd a ddel.’   Mae’r adroddiadau sy’n dilyn yn adlewyrchu hynny, a diolchwn am eu gwasanaeth clodwiw a di-flino, nid yn unig i’r pethau gorau oedd ac sydd yn perthyn i ardal Dre-fach Felindre, ond hefyd i ni fel cenedl. Braint i bawb oedd cael eu hadnabod, a mawr yw ein dyled am gyfraniad gwerthfawr y ddau  i’r fro hon.
Cliciwch ar y lluniau i'w darllen.

DYDD AGORED ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ yn Yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol i Gofio am Olive Campden

Mehefin 2024.
Un a wnaeth gyfraniad oes i ardal Dre-fach Felindre.
Athrawes yn ôl ei galwedigaeth a chyn Brifathrawes Ysgol Brynsaron.
Roedd ei gweithgarwch a'i brwdfrydedd yn ddi-flino, a'i chyfraniad i gymaint o fudiadau a chymdeithasau yn sicrhau eu llwyddiant.
Cynnal Capel Closygraig oedd un o flaenoriaethau ei ffydd Gristnogol, a bu ei ffyddlondeb i'r cysegr yn ddi-fwlch.
Yn ein hiraeth clodforwn hi am ei gwasanaeth clodwiw.

 

Rhaglen ‘Gwasanaeth o Gofio am Olive Campden’. Cliciwch ar y lluniau i'w darllen.
 

 

COFIO OLIVE gan Peter Hughes-Griffiths

Annwyl Ffrindiau,
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni fe gafwyd Seremoni i gofio am R Alun Evans a oedd yn gymrawd yr eisteddfod ac yn un o’r Cymry a wnaeth gymaint dros yr iaith a’r eisteddfod.  Ac fe lansiwyd Gwobr Goffa R Alun Evans i’w chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf. Bydd y wobr Goffa yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn ei ardal leol.  Mae Gwobr TH Parry Williams ar gael eisoes yn flynyddol i’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig yn genedlaethol. Ond, gwobr am gyfraniad lleol fydd Gwobr Goffa R Alun Evans.

A phan glywes i am y wobr arbennig hon – fe ddaeth enw un person i fy meddwl yn syth – Olive – Olive Campden. Fe fydde hi yn enw mor deilwng i’w gyflwyno am y wobr ac fel enghraifft berffaith o un a weithiodd ar hyd ei hoes yn ei bro a’i chyfraniad mor bwysig i sicrhau llwyddiant cymaint o fudiadau a chymdeithasau yn yr ardaloedd hyn – a hynny bron tan ei hanadl olaf.    Ac fe fydden i wedi bod wrth fy modd yn cyflwyno ei henw pe bawn i wedi cael y cyfle i wneud hynny. Ond, chawn ni mo’r cyfle bellach.

Wel, ble ddechreuodd y cwbl ‘te?

Mae llun gyda fi fan hyn o bump o blant o flaen Bronllys – y tŷ oedd yn sownd wrth Llwynbedw. Nesta a Olive yn eu gym-slips Ysgol Ramadeg Llandysul – tua 12 oed weden i, (Olive gyda’i sbectol hyd yn oed y pryd hwnnw!), gyda Gareth ei brawd a’i chefnder Geraint Rees ar gefen treisicl a finne wedyn yn grwt bach 6 oed.  Do fe fagwyd Olive a finne drws nesaf i’n gilydd trwy ein plentyndod a’n tyfiant a hithe a Gareth yn blant i Bryn a Minnie Evans – y ddau ohonyn nhw o deuluoedd lleol parchus. Fe symudo nhw fel teulu wedyn i fyw i Ardwyn yn Nrefelin.

Ysgol Penboyr, Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg Hyfforddi Y Barri cyn mynd yn athrawes a dysgu yn Ysgol Penrhiwlas – ac wedyn ry ni yn cysylltu Olive yn bennaf wrth gwrs gyda Ysgol Brynsaron – fel athrawes ac yna fel Pennaeth, ble buodd hi am gyfnod hir yn mowldio a pharatoi cenedlaethau o blant yn gynnar ar lwybr bywyd – a’r parch iddi mor uchel bob amser.

Wrth feddwl amdani fel athrawes roedd hi yn ‘role model’ mor ardderchog ac un o’r pethe nodedig amdani oedd ei llefaru – llais da a chlir ac mor bwrpasol a’r Gymraeg ar ei gorau – dylanwad Norah Isaac (cafodd tad Norah ei fagu ym Mancyfelin yma yn Nrefelin). Fe ddysgodd Norah gannoedd ohono ni fel myfyrwyr sut i lefaru’n glir. Fel hyn roedd hi yn ein ymarfer. Meddyliwch am y llythyren A:

Aeth Ann o Gwmaman,
Un annwyl yw Ann.
Aeth Ann o Gwmaman
Bob cam i Gwmann.

A dyna pam, roedd clywed llais Olive mor glir bob amser mewn pob math o gyfarfod a gyda’r plant, yn gyhoeddus – ac yma yng Nghlosygraig a hyd yn oed ar y meic yn y Carnifal yn un arbennig.   Ac fel ei llefaru roedd ei hymddangosiad a’i hymarweddiad bob amser mor bwrpasol, a’i gwallt – os ca i ddweud, bob amser yn berffaith yn ei le. Roedd ymddangosiad ac ymarweddiad bob amser mor bwysig iddi a’i barn gadarn a chlir yn ychwanegu at ei phersonoliaeth gref a chadarn.

Y broblem sy ‘da fi nawr yw nodi fel enghraifft ichi un neu ddwy o’r amrywiol bethau a digwyddiadau eraill y buodd Olive yn rhan ohonyn nhw.

Neuadd y Ddraig Goch.  Fel chi’n gwybod mae gyda ni wefan hanesyddol nawr sef ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ ac fe es i ati i ysgrifennu hanes y neuadd – ac mae hynny ar y wefan. Ac un peth rwy’n gofio wrth fynd trwy’r llyfrau cofnodion y neuadd a’r ymchwil bod enwau rhai pobl yn dod lan yn aml fel aelodau o bwyllgor y neuadd a’r gweithgareddau – ac un o rheini oedd Olive.  Wyddech chi iddi gael ei hethol yn Is-Gadeirydd Pwyllgor y Neuadd yn 1966 a hithe ond yn 30 oed, ac fe weles i wedyn iddi gael ei hethol eto yn Is-Gadeirydd yn 2015 – hanner can mlynedd yn ddiweddarach.   Onid yw hynny yn dweud y cwbl wrtho ni am ymrwymiad a chyfraniad Olive.

A does dim amser heddi i fi geisio rhestri ei rhan mewn cymdeithasau eraill lleol – dim ond un – a’r pwysicaf i gyd – CLOSYGRAIG.

CLOSYGRAIG – ei chartref ysbrydol a lle’r oedd hi’n ymarfer ei ffydd Gristnogol. Ie, yma. Dod yma i’r Ysgol Sul i ddechrau ac yna profi cwmni cymaint o gyn weinidogion ers dyddiau da y Parch Michael L Thomas tan heddiw, ac er y trai mawr mewn aelodaeth ym mhobman roedd cynnal Closygraig yn un o flaenoriaethau ei bywyd, a bu ei ffyddlondeb i’r cysegr hwn yn ddi-fwlch fel aelod, fel diacon ac fel ysgrifennydd – a phopeth arall.

Do, fe dreuliodd hi ei hoes yn byw yn lleol, ac fe wnaeth hi’n gwbl siŵr o hynny drwy briodi rhywun lleol hefyd yn 1959! Ie, Alan Campden mab Dai a Saran Ellen Campden, Glyn Noddfa yng nghanol y pentref – allech chi ddim bod yn fwy lleol na ‘na! A mynd i fyw maes o law i Goed y Pry yn 1973 a’i adeiladu yn gartref newydd iddyn nhw.

Ych chi wedi bod yng Nghoed y Pry? Ar y llawr uchaf roedden nhw’n byw ac yn edrych mas dros olygfa lawn o’i ‘milltir sgwâr’ – lle bendigedig i un a oedd yn caru’r ‘filltir sgwâr’ honno yn angerddol.

Erbyn hyn, Olive oedd ‘cof yr ardal’.  Roedd hanes a thraddodiadau’r fro hon mor bwysig iddi, ac roedd cof mor arbennig ac mor fyw gyda hi. Roedd ei hatgofion am bobl a bywyd yr ardal bob amser yn werth gwrando arnyn nhw, ac roedd hi mor barod i’w rhannu nhw hefyd – gyda plant Ysgol Penboyr a gyda ninne sy wrthi’n datblygu’r wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.’   Llai na blwyddyn yn ôl – mis Tachwedd diwethaf, roedd hi gyda ni yn Festri Penboyr yn trefnu’r gweithgareddau am eleni, ac un ohonyn nhw oedd cynnal Dydd Agored yn yr Amgueddfa Wlan ddiwedd mis Mehefin. Ychydig feddylion ni y bydden ni yn troi y dydd hwnnw yn Ddydd Agored i Gofio Olive.

Alla i ddim llai na chofio pan ddechreuon ni ar y gwaith o gasglu hen luniau ar gyfer y wefan. Fe geso ni wythnos yn yr Amgueddfa ble roedd pawb yn gallu dod a hen luniau. Yna, fe fydden ni yn eu sganio a rhoi’r lluniau nol. Y broblem oedd ysgrifennu am y lluniau a phwy oedd pwy a beth oedd beth. Tua 800 ohonyn nhw. A’r pryd hwnnw y gwelon ni Olive wrth ei bodd ac ar ei gorau yn nodi y lleoliad, yr adeiladau a phwy oedd yn y lluniau. Anhygoel o gyfraniad i gofnodi hanes Drefach Felindre i haneswyr y dyfodol – a bydd rheini mor ddiolchgar - a diolch i Olive yn bennaf am y gymwynas honno fel popeth arall tuag at y wefan – er na ddangosodd hi ddiddordeb mewn datblygu ei sgiliau cyfrifiadurol mae’r cynnwys a’i chyfraniad yn amlwg.

Fel y dywedes i – dim ond nodi rhai nodweddion y galla wneud yn yr ychydig sylwadau hyn achos fe allen i gadw chi ‘ma am y prynhawn!

Ond, yn ein hiraeth, diolchwn am ei gwasanaeth clodwiw a di-flino i’r pethau gorau sy’n perthyn i’r ardal hon ac i ni fel cenedl – a braint i ni gyd oedd cael ei hadnabod.

A’r ffordd y bydda i yn dal i gofio am Olive yw fel un a oedd yn byw yng Nghoed y Pry ac yn cadw llygad arno ni gyd ac ar bopeth oedd yn digwydd o’i chwmpas – a’i bod hi yn dal i gadw llygad arno ni o hyd. A dyna pam mae hi mor bwysig ein bod ni YN DAL ATI. Roedd CADWRAETH yn air mor bwysig i Olive – cadw pethe i fynd yng Nghlosygraig, cadw pethe i fynd yn Neuadd y Ddraig Goch a’r holl ddigwyddiadau... Y Stori Fawr a’r holl bethau eraill a oedd mor bwysig iddi o fewn y ‘filltir sgwâr’.

Gadwch i ni wneud hynny a chadw pethe i fynd gyda’r un ysbryd ac ysbryd Olive a dweud fel ardal ‘FEL Y CEDWIR I’R OESOEDD A DDEL Y GLENDID A FU.’ Dyna oedd ei bywyd.

Diolch.  Diolch Olive.

COFIO ALAN gan Eifion Davies

Bu Alan a’i rhieni, fel fy nheulu i yn byw yn Dre-fach Felindre ei holl oes ac felly  rwy wedi cael cyfle arbennig i adnabod  Alan yn weddol dda am dros  hanner can mlynedd.

Person swil, tawel oedd Alan ond un oedd yn edrych ymlaen pob Nos Wener i fynd i gymdeithasu yn Nhafarn John y Gwas yn y pentref. Ei hoff bapur dyddiol oedd yr “i” am fod hwn yn llawer mwy cytbwys na’r papurau arall.

Rwy’n  cofio Alan yn mynd ar ei feic bron pob dydd i’w waith gyda Mr Hickey, deintydd yng Nghastell Newydd Emlyn, ac wedyn symud i weithio gyda chwmni Marley Tiles cyn dychwelyd i’r coleg i gael ei hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.

Hawdd iawn  yw  cofio Alan trwy rhai agweddau neu amgylchiadau lle bu ein dau fyd gwahanol groesi.

Yn gyntaf cofio Alan a Olive fel cymdogion caredig dros ben ers 1998 pan symudo ni i fyw drws nesa ym Maesyronnen, y ddau yn barod o hyd i roi help pan fydde angen.

Yn aml, ar Nos Sul o’n i yn cael gwahoddiad i swper yng Nghoed y Pri  pan oedd fy ngwraig yn gweithio nos yn yr ysbyty, ac wrth gwrs cael cyfle i flasu tamaid o win arbennig Coed y Pri .

Deallais yn weddol gloi fod Alan a Olive yn gwbod mod i ddim yn gallu coginio dim byd mwy na tin o baked beans.

Yn ail, cofio Alan fel garddwr lle'r oedd  ei ddiddordeb ai allu yn syfrdanol.

Os byth ewch chi i Goed y Pri, sylwch ar y llun ar waelod y grisiau a dynnodd rhyw awyren i chi gael gweld cynnyrch yr ardd tu ‘nol i’r ty-mae’r planhigion bron yn uwch na’r tŷ gwydr.

Cofio gweld Alan yn palu’r ardd am oriau er mwyn tyfu'r cynnyrch gorau yn yr ardal. Roedd teulu Coed y Pri  bron yn byw o’r ardd --------ond digon ar ôl i rannu  gyda ni ym Maesyronnen.
 

Cofio Alan yn cerdded draw i Faesyronnen bron pob wythnos a chwdyn bach neu ddau o cinabens, tato, tomatos neu wrawnwyn ac roedd rhannu'r cynnyrch o’r ardd yn rhoi tipyn o bleser iddo.

Dyn awyr iach oedd Alan --- ei weld blwyddyn ar ôl blwyddyn o wanwyn i’r Hydref rhan helaeth o’i ddydd  tu allan yn yr ardd, yn y tŷ gwydr, yn torri porfa, glanhau rownd y pwll pysgod neu yn trwsio ei flodau—roedd rhaid cael pob peth yng Nghoed y Pri  yn edrych yn iawn—perffeithrwydd oedd ei nod.

Yn drydydd cofio Alan fel hanesydd lleol. Roedd cof Alan, er yn 94 oed yn berffaith a bu yn cyfrannu ei atgofion o fywyd cymdeithasol yr ardal fel rhan o “Stori Fawr Dre-fach Felindre” -ac fel ei hen ffrind y diweddar Towi Cole roedd ei atgofion a’i gwybodaeth ffeithiol o fywyd yr ardal yn amhrisiadwy. Heb ei help nhw byddai  llawer o’r storiais ar lluniau wedi diflannu am byth.

Bu Alan am beth amser yn y fyddin Brydeinig a hwyrach fod hyn wedi creu diddordeb mawr i adrodd hanes y miloedd o filwyr Canada ac America a fu yn yr ardal yn y pedwar degau ar ei fforddi i ymladd ym Mrwydr Normandy.

Clywais  ugeiniau o weithe gan Alan amdano yn cofio am  awyren y llu awyr yn hedfan nôl a phlan dros Dre-fach Felindre am amser cyn syrthio i’r ddaear gerllaw mynydd Moelfre a lladd pob aelod o’r criw-roedd yn bwysig i Alan fod neb yn anghofio'r trychineb hwn ar bobl ifanc a laddwyd.  Mae’r awyren nawr wedi ei pheintio i mewn i lun “Stori Fawr Dre-fach Felindre”  a diolch i Alan am wneud yn siŵr fod yr atgof arbennig yna  wedi ei rhoi ar gof a chadw am byth.

Rhyw pum wythnos ‘nol galwais i weld Alan i drafod ein prosiect hanes nesa, yn 2026, sef hen Neuadd y Ddraig Goch. Roedd ar ei orau yn cyfrannu yn ddiflino ei atgofion or pantomimes, eisteddfodau a chyngherddau a fu yn yr hen neuadd ac wedi gwneud nodiadau cytuno i siarad mwy dros y misoedd nesa.  Alan, wrth gwrs, yn dweud ei fod wedi ennill sawl “Oscar” ar lwyfan y nen neuadd.

Tri diwrnod yn ddiweddarach dirywiodd iechyd Alan yn sydyn a bu rhaid iddo adael Coed y Pri  am y tro olaf i’r ysbyty—felly mae gweddill atgofion Alan am yr hen neuadd wedi diflannu.

Yn olaf, cofio cyfraniad enfawr Alan i Glwb Pêl Droed Bargod Rangers dros ryw 70 deg o flynyddoedd. Dechrau fel chwaraewr a chefnogwr cyn cymryd troso mwy na chwarter canrif yn ddiweddarach y cyfrifoldeb o edrych ar ôl cae chwarae Parc Puw.

Roedd cyfraniad Alan fan hyn yn anferth---- pob bore Sadwrn yn y gaeaf, am ryw dair awr, ym mhob tywydd yn paratoi'r cae erbyn gemau'r prynhawn. Roedd y llinellau gwynion yn glir ac yn berffaith syth ar ddwy rwyd yn saff yn ei lle-tanlinelli unwaith eto ei nod am berffeithrwydd ym mhob peth oedd e yn neud.

Rhyw ddeg blynedd ‘nol gofynnwyd i mi, ar ran y clwb pêl droed, ysgrifennu dwy deyrnged---- un i Alan ar llall i Eric Vaynor. Mae'r ddwy ar wefan “Stori Fawr Dre-fach Felindre”.

Mae paratoi'r crynhodeb byr yma am rhai o fy atgofion personol am fywyd Alan wedi bod yn drist gan ein bod ym Maesyronnen dros y pymtheg mis ola wedi colli dau gymydog a gwreiddiau dwfn yn yr ardal.

Mae golau Coed y Pri  wedi diffodd ond mae’r atgofion am yr amser a fu yn dal yn fyw.

Alan--diolch eto  i ti fel cymydog ac am dy gyfraniad didwyll i  weithgareddau ein hardal -----.
Cysga yn dawel nawr.

These Boots Are Made For Walking by Eifion Davies

Can you guess who has walked over five hundred miles for the benefit of Bargod Rangers AFC?

He is over 21 years of age and played left back for the club years ago. You will see him most Saturdays on the Parc Puw pitch watching football matches although his regular Saturday chores are finished well before kickoff time. He is rarely thanked for his work and indeed looks for no accolades, yet without him competitive football would not take place .

Any guesses??. It's none other than octogenarian Thomas Alan Campden, Head Groundsman, line marker, dog "mess" remover and everything else which other people think are too difficult to achieve.

Alan has either played for or supported the club most of his life, and everything he does for the club at Parc Puw reflects his obsession with accuracy and perfection. His motto is simple - "If it's worth doing, do it well".

On rare occasions, when he is not around to undertake the pre match tasks, particularly the line marking his critical eye will be at Parc Puw at the earliest opportunity to study the quality of the work undertaken on his behalf. The quality of his line marking, even in adverse weather is legendary and to watch him nursing his faithful line marker "Isabel" around the field is an education in itself . The mixing of the ingredients which precedes the journey, and which he deposits in "Isabel's" belly before sending her on her way is a work of art requiring a minimum of a five year apprenticeship.

Alan enjoys his football and appreciates some special moments which he fondly recalls, such as Duncan Lewes's goal against Pencader some five years ago from thirty yards which left the goalkeeper stunned, or Dr Eurfyl Williams's goal against Llandyssul when he caught the keeper off his line and chipped him from twenty yards, or Mark Woolford's League Cup hat trick in the victory over Division one leaders Dewi Stars in 1996.

Alan's contribution in the back room, deep in the bowels of Bargod Rangers Football Club has been immense for more than half a century. It happens to be work he enjoys doing and we all hope that he will continue for another half a century doing those rare and highly skilled tasks he has acquired over the years.