Penboyr
Dyma fynd ar daith trwy bentref bach Penboyr, yr enw a roddir ar y plwyf hwn, ac ar yr Ysgol Gynradd Eglwysig leol. Dyma geisio dwyn atgofion o’r ardal honno yn y 40’au a’r 50’au yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Mae’n werth nodi bod John Tudor Jones yn ei lyfr Cofio’n Ôl a Cofio’r Hwyl yn cyfeirio’n gyson at ardal Penboyr, Cwmpengraig a Drefach Felindre. Trwy wneud hynny mae’n cofnodi bywyd yr ardal o’r 1920’au ymlaen ac mae’r ddau lyfr yn bwysig oherwydd eu bod yn rhoi darlun byw i ni o fywyd yr ardal yn y cyfnod hwnnw.
Mae’r ffordd drwy bentref Penboyr yn dechrau wrth yr Hen Reithordy ar waelod Rhiw Cyrff ac yn gorffen wrth Bwlchclawdd a Cross Roads, ac yn cwrdd a’r ffordd sy’n dod o Gwmpengraig. Doedd hon ddim yn ffordd y byddem ni yn ei defnyddio bron o gwbl, ond mae enwau’r llefydd yn gyfarwydd gan fy mod yn adnabod cymaint o’r bobl oedd yn byw ar y topiau hynny uwchben pentref Felindre yn y cyfnod hwnnw.
Dyma ddringo Rhiw Cyrff yn gyntaf, sef rhiw serth iawn i fyny am gyfeiriad Penboyr. O edrych lawr ar yr ochr chwith fe gawn olygfa dda o Alltpenrhiw a phentref bach Drefelin. Ac o edrych yn ôl o dop y rhiw gwelwn bentref Felindre oddi tanom, a Drefach a Waungilwen yn y pellter.
Ond pam galw’r rhiw hon yn Rhiw Cyrff?
Mae Daniel Jones yn ceisio egluro hynny ar dudalen 97 o’r llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (1899). Dyma mae e’n ddweud –
“Hon yw’r ffordd o Felindre i Eglwys Penboyr. Helaethwyd hi, gan ei gwneud yn addas i angladdau i deithio drosti tua dechrau’r ganrif (tua 1800), gan yr Archddeacon Beynon, rheithor Penboyr. ... a thebyg bod y rhiw hon yn cael ei dynodi ar yr enw oddi wrth y ffaith mai dyna’r ffordd y cludid cyrff i fynwent y plwyf.”
Y tŷ cyntaf ar y dde, a rhyw hanner ffordd fyny Rhiw Cyrff yw Brynbedw. Cefais i fy ngeni yn Llwynbedw sydd yn y pant o dan Brynbedw. Roedd Llwynbedw yn hen enw, ond mae’n debyg, oherwydd mai tŷ newydd cadarn oedd hwn, bod yr enw Brynbedw yn addas iawn gyda choedwig rhwng y ddau le, ac un yn uwch i fyny na’r llall.
Yr hen ŵr Jams Williams a’i wraig oedd yn byw yno yn fy nghyfnod i gyda Alice May a Martha Jane y merched a James Williams y mab – y tri yn ddibriod. Roedden nhw yn Fethodistiaid brwd ac yn ffyddlon iawn i’r achos hwnnw yng Nghapel Closygraig. Cofiaf yn dda am James y mab pan fyddai’n amser i ddewis y pregethwr gwadd i Gyrddau Mawr Closygraig pob Gwener y Groglith yn cynnig y Parch Tom Nefyn Williams yn gyson. Roedd e’n bregethwr Cyrddau Mawr arbennig iawn, a chofiaf ef yn pregethu yng Nghlosygraig. Fe wnaeth argraff fawr arnaf a byddai’n dod lawr o’r pulpud gan gario ymlaen i bregethu wrth gerdded ar hyd yr ale yn y capel. Mae un o’i bregethau yn dal yn y cof, sef honno am y fflam Gristnogol, a byddai’n gweiddi - ‘ddiffoddyth hi byth’. Roedd James mab Brynbedw yn gweithio yn siop groser Jorry yng Nghaerfyrddin ac yn dod adref bob penwythnos i Frynbedw. Yn un o’r ffatrïoedd gwlân y gweithiau Alice May ond bu Martha Jane yn gweithio gyda fy mam fel un o’r cogyddesau cinio yn Ysgol Penboyr. Nhw oedd y ddwy gogyddes gyntaf pan ddechreuwyd cinio ysgol am y tro cyntaf ar ôl yr ail ryfel byd.
Cofiaf am Jams Williams y tad yn dda gan fod llais uchel main ganddo ac fe’i clywsech yn siarad o bell! Roedd David y mab arall, a merch arall, yn byw yn Spring Cottage, Cwm Isaf, Cwmpengraig.
Teulu da a rhinweddol iawn oedd teulu Brynbedw. Mae’n amlwg fod Cware Cerriig wedi bod ar y safle hwn hefyd gan fod y graig wedi ei naddu allan o’r tir o flaen y tŷ.
Wrth y tro ar ben y rhiw mae’r llwybr sy’n croesi’r ddol o Drefelin yn cysylltu gyda’r ffordd,. Yr hen enw ar y llwybr hwn oedd ‘Llwybr y Gath’. (Yn llyfr John Tudor Jones Cofio’n ÔL mae ganddo wybodaeth am lwybrau’r ardal sy’n ddefnyddiol iawn, ac mae’n son bod llwybr ar draws y ffordd ynny fan hon yn mynd trwy’r goedwig a lawr bob cam i Glanesgair sydd ar y ffordd i Gwmpengraig.)
Yna, o deithio ymlaen am ychydig ar ôl y tro fe ddown at ben hewl fferm Penlanfawr ar y chwith.
Jonnie Williams a’i wraig oedd yn ffermio Penlanfawr yn fy amser i, ac yn ogystal a bod yn ffermwr llwyddiannus a diacon yng Nghapel Closygraig, rwyf fi yn ei gofio fel chwaraewr snwcer a billiards llwyddiannus hefyd yn Neuadd y Ddraig Goch. Gwr bychan cadarn oedd ‘Johnny Penlanfowr’. Cyflwynodd Dlws Snwcer arbennig i’r tim gorau yng Nghyngrair Snwcer De Ceredigion, ac mae’r timau yn dal i chwarae amdano heddiw. Roedd fy mam yn adnabod Mrs Williams, Penlanfawr yn dda, gan y byddai hi yn dod lawr i Noddfa, yn y pentref, tŷ Mrs Campden y weinyddes hefyd ar nos Sadwrn i gael sgwrs gyda fy mam ac eraill tra byddai Jonnie ei gwr yn y neuadd yn chwarae snwcer. Yn ei lyfr Cofio’n Ôl gan John Tudor Jones, ac ar dudalen 99 mae’n son am Jonnie Williams a’i ‘wac lath’ (rownd laeth) ac yn mynd yn ddyddiol i werthu llaeth o gwmpas y tai... “Roedd ganddo ‘Fforden’ sef un o’r Ford Eight a gynhyrchwyd yn 1932. Byddai Williams yn cadw churn fawr ar y cludwr y tu ôl i’r modur a dosbarthu i’r ysgol hefyd.” Cymerodd Trevor Walters y rown laeth drosodd wedyn ar ôl i Jonnie ymddeol. Roedd Trevor wedi priodi merch Sam Williams Gwastod, Penboyr, sef brawd i Johnny. Bu Trevor yn was fferm ym Mhenlanfawr, ac fe gariodd Gillian a Jean, merched Trevor, ymlaen gyda’r ‘rownd laeth’ am ddegawdau.
Un stori dda y clywais am Jonnie, ac yntau yn ddiacon yng Nghapel Closygraig, yw fod Sam y Bwtshwr wedi galw ym Mhenlanfawr ar ddydd Sul i geisio prynu bustach ar gyfer ei ladd a gwerthu ei gig. Y pryd hwnnw wrth gwrs, roedd hi’n beth annuwiol yng ngolwg y gymdeithas grefyddol leol i wneud del ar y Sul ac roedd rhaid ceisio osgoi hynny.
Beth bynnag, fe ddaethpwyd a’r bustach allan i’r clos gyda Jonnie yn sefyll un ochr iddo a Sam y Bwtshwr yr ochr arall. Gofynnodd Sam y Bwtshwr “Oni bai mai dydd Sul yw hi fe fydden ni yn gofyun ichi, faint ych chi ishe am y bustach?” Yna, meddai Jonnie – “ Wel, oni bai mai dydd Sul yw hi fe fyddwn i yn gofyn am ugain punt ichi am y bustach ‘ma.”
“Jawch”, oedd ateb Sam y Bwtshwr, “Ydy e’n dewach yr ochr ‘na te na beth yw e yr ochor hon”?
Mae taith o rhyw hanner milltir wedyn cyn dod i bentref bach Manllegwaun, sef yr enw ar yr ychydig dai ar fanc Penboyr. Os trown ni eto i lyfr Daniel Jones Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr ac ar dudalen 87 fe gawn eglurhad llawn ar ystyr y gair Penboyr. Dyma bytiau o’r hyn mae e’n ei ddweud –
“ Tua diwedd y ganrif ddiwethaf (18ed Ganrif) y dechreuwyd ysgrifennu a dweud yr enw ‘Penboyr’. Penbeyr ydyw hefyd mewn cofnodiad a wnaed yn 1487 ar lyfrau yr esgobaeth. Yn 1668 ysgrifennir ‘Penbeire a Penbeyer’, ac yn 1788 yn ‘Penbeyre’.” Mae Daniel Jones yn son wedyn am darddiadau posibl eraill i’r enw, ond ar y diwedd mae’n dweud –“Mae’n amhosibl rhoi ystyr boddhaol iddo”.
Y tŷ cyntaf y down iddo ar y dde yw Haulfryn. Yma yr oedd Ianto Davies neu ‘Ianto Bach’ i bawb yn yr ardal yn byw. Ychydig o gof sydd gen i amdano, ond ei fod yn teithio o gwmpas yn gwerthu nwyddau a’i fod yn caterer bwyd ar gyfer digwyddiadau. Yn agosach at fy nghenhedlaeth i oedd ei feibion Wilfred a Wally, a’i ferch Dilys.
Yna, yn syth ar ôl Haulfryn mae lon yn arwain at ddwy fferm fechan sef Penlanganol a Phenlangerrig.
Ym Mhenlanganol roedd Will ac Elsie Crompton yn byw. Yr un teulu a’r Dr Gareth Crompton a oedd yn byw yn Danffynnon, Cwmpengraig. Mae brith gof gen i am Ralph Palmer ac Annie Parry yn byw ym Mhenlangerrig. Da nodi i’r Dr Gareth Crompton briodi gyda un o deulu Ralph Palmer maes o law. Rwy’n cofio’r lon hon o Fanllegwaun, a heibio i Benlanganol a Phenlangerrig yn dod lawr bob cam ac allan yn ymyl Spring Cottage yng Nghwmpengraig.
Ar dudalen 64 yn ei lyfr Cofio'n Ôl, Mae John Tudor Davies yn dweud fel hyn – “Bodolau llwybr o Gwmpengraig Isaf ger hen adeilad Panteg i fyny dros Gware Llwyd allan i Rhiw Ledde gan ganlyn i Fanllegwaun ar ffordd Penboyr.”
O fynd nol i Fanllegwaun, Penwalk oedd y lle nesaf gyda Bessie, Nansi a Molly Phillips yn byw yno. Yna down i Arfryn. Yn Arfryn roedd Wilfred (mab i Ianto Bach Haulfry) a Doreen Davies a’r plant yn byw. (neu Wilf i bawb). Fe ddaeth Wilf yn Gynghorydd dros yr ardal ar Gyngor Dosbarth Caerfyrddin ac yna’n Gadeirydd y Cyngor hwnnw. Dyma llun da ohonno o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’, dudalen 108.
Cyng. Wilfred Davies yn cyflwyno anrheg i Leah Slaymaker yn 1993, am ddilyn Ysgol Brynsaron yn ddi-dor am saith mlynedd, yng ngŵydd y Brifathrawes Mrs Olive Campden.
Manllegwaun yw’r tŷ nesaf – y tŷ a roddodd ei enw i’r pentref bach hwn. I mi roedd yr enw yn un adnabyddus iawn gan bod Alice Evans Manllegwaun yn wraig bwysig ac amlwg ym mywyd Capel Closygraig, a minnau’n grwt ifanc yn addoli yno. Roedd Mari ei chwaer hefyd yr un mor ffyddlon ac yn perthyn i deulu Brynbedw. Fe ddaeth Lalmai y ferch yn wraig i’r Parch D J Thomas a fu’n weinidog yn yr Hendy, Pontarddulais a Machynlleth, ac ymddeol i ardal Beulah, Castell Newydd Emlyn. Merch iddyn nhw yw Mererid James, cyn Brif Weithredwraig a chyn Lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr. (Newidiwyd yr enw Manllegwaun i LLANFAES erbyn hyn.)
Fferm fechan oedd Gwastod, ond yn llawer mwy enwog am y ddau Sam Williams – Sam Mowr a Sam Bach, sef Sam Gwastod y tad a Sam Gwastod y mab. Roedd Sam y tad yn frawd i Jonnie Williams Penlanfawr a’i wraig yn chwaer i Jac y Gof, Drefelin a Dafi Gof, Cwmpengraig. Roedd llawer o storïau difyr iawn am y ddau Sam a’r bobl leol yn hoff iawn o’u hadrodd. Dyma enghraifft o un o rheini yn unig.
Nid oedd trydan wedi cyrraedd Gwastod a Manllegwaun pan oedd Sam y mab yn ŵr ifanc, ac wedi iddo briodi a mynd i fyw i Landysul fe alwai nol yn Gwastod i weld ei dad gan mai helpu ei dad i ffermio oedd e’n arfer ei wneud yn Gwastod. Meddai Sam Bach wrth ei dad –
“Nhad, na neis a gwell yw ca’l byw yn Llandysul gyda letric yn y tŷ, ac yn y gaea’ a’r fore tywyll, na’r cyfan sy’ ishe ei ‘neud wrth godi yw tynnu corden y switsh wrth y gwely ac fe ddaw’r gole ‘mla’n.”
“Paid a cwyno,” oedd ateb ei dad. “Pan oeddet ti yn codi yn y gaea’ yma yn Gwastod ro’dd hi’n ole yn barod!”
Yn Lletyclyd roedd Dai a Lizzie Reeves a’r plant yn byw. Mae ei disgynyddion a’r enw Reeves yn dal i fod yn ardal Caerfyrddin.
Y lle nesaf yw Llaingof, ac yn ei lyfr Ar Drywydd Llofrudd mae’r diweddar Barch J Towyn Jones yn son amdano yn galw gyda’r hen wr ‘Evan Davies Llaingof’ i gadarnhau hanes y llofruddiaeth ym Mlaenduad yn Ebrill 1834. Rwyn cofio am Lizzie Ann a Mari Llaingof ac roedd ganddyn nhw frawd a ddaeth yn ficer, sef y Parch Evan John Davies. Fe ddaeth yn ficer poblogaidd iawn a chofiaf amdano pan oeddwn i yn y coleg ac yntau yn ficer yn Llanrhystud ger Aberystwyth.
Ond, yr hyn oedd yn hynod amdano oedd y ffaith ei fod yn fyr iawn o gorffolaeth ac fe geir un stori amdano yn pregethu yn y pulpud a dim ond ei ben i’w weld uwchlaw’r Beibl yn y pulpud hwnnw. Wrth iddo godi ei destun “Myfi yw goleuni’r byd,” fe glywyd un o’r gynulleidfa yn dweud yn glir, “ tro’r pabwr lan ychydig ‘te”. (‘Pabwr’ yw’r gair am y darn hwnnw mewn lamp baraffin sy’n goleuo, ac wrth ei droi yn uwch fe geir mwy o olau.)
Wedyn daw Hyfrydfa, ble roedd Trevor Walters a’i deulu yn byw. ‘Trevor llaeth’ oedd e i bawb gan fod ‘rownd laeth’ ganddo yn yr ardal. Fe symudodd e i fyw wedyn i waelod pentref Drefach ac fe gariodd ei ferched Gillian a Jean y busnes ymlaen am flynyddoedd lawer. Bydd llawer yn cofio am Tom a Sarah Davies yn byw yno hefyd.
Johnnie ac Elizabeth a’u merch Elinor oedd yn byw yn Delfryn.
Mae ffordd yn troi i’r chwith wedyn am Eglwys Penboyr ac ychydig cyn cyrraedd yr eglwys mae fferm Maesllan. Brith gof sydd gen i o James Thomas a’i wraig Kate yn byw yno.
Yn ymyl y mae Penrhiwficer.
Yn ymyl hefyd mae’r ddau Rhydfoyr – sef Rhydfoyr Isaf ble roedd Ben a Dan, a Morfyn ac Eira Jones yn byw. Er hynny ‘Alan Rhydfoyr’ roeddwn i yn adnabod orau (sy’n byw ym Manllegwaun o hyd). Roedd Morfyn yn weithgar iawn yn lleol ac yn aelod ffyddlon o Gor Bargod Teifi sydd a’u llun ar dudalen 115 o’r llyfr Canrif o Luniau. (Morfyn yw’r pumed o’r chwith yn y rhes gefn)
Teulu’r Williams oedd yn byw yn Rhydfoyr Uchaf ac yn ei lyfr Cofio’n Ôl mae John Tudor Jones yn son am Jams Williams Rhydfoyr fel crefftwr a saer cefn gwlad ac yn gwneud ceirt a gambo ac olwynion o bren – “Mae’r grefft yn dal i fod yn y teulu heddiw a gyda mab Dafydd, sef Wyn Williams wrthi fel saer erbyn hyn.”
Mae Eglwys San Llawddog yn sefyll mewn man agored ar ôl ichi fynd heibio i Faesllan.
Ar dudalen 178 ymlaen yn y llyfr Hanes Plwyfi Penboyr a Llangeler gan Daniel Jones (1899) fe gewch gefndir hanesyddol yr eglwys yn llawn. Dyma eglwys Penboyr, a’r enw sydd ar y plwyf hwn. Yn 1808 tynnwyd yr hen adeilad i lawr ac adeiladwyd eglwys newydd. Mae lluniau o’r eglwys ar dudalen 99 o’r llyfr Canrif o Luniau.
(Ar y chwith, a rhyw hanner ffordd rhwng y brif fynedfa o’r ffordd a’r eglwys ar hyd y llwybr mae bedd sgwâr gyda dwy garreg fedd fy hen deulu i – sef Teulu’r Lan, Cilrhedyn. (PHG).
Yn gorwedd yn y fynwent newydd mae llawer o fy ffrindiau a fy nghyfoedion yn ardal Drefach Felindre – ‘Eric Tŷ Hen’, ‘Bryan Pantygog’ ac yn ddiweddar Y Parchedig J Towyn Jones – disgynnydd arall o deulu’r Lan, Cilrhedyn. Yma y gorwedd John Evans (John y Gwas) yr hanesydd lleol ac yr ysgrifennais amdano o dan y pennawd ‘Enwogion’ ar Wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.’)
O ddod nol i’r brif ffordd a throi am gyfeiriad Caerfyrddin y fynedfa nesaf ar y dde yw’r lon sy’n arwain at y fferm TŶ HEN. Yma, roedd un o fy ffrindiau ysgol gorau yn byw – John Seimon Eric Griffiths neu ‘Eric Tŷ Hen’ i ni ei ffrindiau. Mae’r lon yn mynd heibio Tyhen a lawr bob cam i gwrdd a’r ffordd sy’n mynd o Gwmpengraig i gyfeiriad Caerfyrddin. Cofiaf fynd i Tŷ Hen, ac yno roedd tadcu Eric, sef Seimon, ei fam Annie a’i chwaer hithau Jane. Roedd gan Eric ddwy chwaer sef Nesta ac Eiry. Mae Eiry yn byw yn un o’r tai newydd yn weddol agos ym Mhenboyr.
Roedd ‘Eric Tŷ Hen’ yn gymeriad arbennig iawn ac mor chwimwth ei dafod a’i ddigrifwch yn amlwg. Roedd e’n hoff iawn o farddoni hefyd. Ar dudalen 48 o fy hunangofiant O Lwyfan i Lwyfan rwy’n son am Eric ac yn cyfeirio at stori gyntaf Emyr Llewellyn yn ei lyfr Hiwmor y Cardi, a fy stori gyntaf innau yn y llyfr Hiwmor Sir Gar, am Eric
A dyma ddod wedyn i Penlon Cottage lle’r oedd Tom Walters y crydd a gadwai siop waith yno. Roedd e yn un o ddigrifwyr yr ardal ac yn hoff iawn o glywed ac adrodd storïau.
Yna mae’r lon nesaf yn arwain i Nantllin ac yn lwybr cyhoeddus heibio’r Nant ac allan wrth Cilgraig ar ffoedd Cwmpengraig. Mab Nantllin oedd BD Rees a fu yn brifathro Ysgol Gynradd Penboyr ym mhentref Felindre am gyfnod hir. Fe wnaeth BD Rees gyfraniad mawr i fywyd cymdeithasol ardal Drefach Felindre, ac yn enwedig i Neuadd y Ddraig Goch. (Wele’r hanes amdano o dan y pennawd ‘Hanes Neuadd y Ddraig Goch’ ar Wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.) Mae llun ohono ar dudalen 86 o’r llyfr Canrif o Luniau.
Y lle nesaf yw Llwynscawen ac yna y fferm Waunfawr lle roedd William Griffiths yn byw a bu llawer gwas a morwyn yn gweithio iddo yno.
Yna Blaenmaenog lle y daeth y teulu Hicks i ffermio o ganol Lloegr. Roedd y merched a Dennis Hicks yn Ysgol Penboyr gyda fi.
Yna, fe awn heibio Pantymeillion a Pantycrug cyn cyrraedd y ddau Fwlchclawdd bob ochr i’r ffordd cyn cyrraedd Cross Roads. Roedd Idris, Lillian ac Iris yn byw yn Bwlchclawdd Bach, sydd ar y dde, ac ar y chwith mae BWLCHCLAWDD MAWR. Yno, roedd Tom a Sophia yn byw. (Wrth baratoi hanes y teulu deuthum i wybod fod merch Bwlchclawdd wedi priodi gyda mab Llainddu, sydd yn ymyl. Maes o law nhw oedd yn ffermio fferm Y Lan, Cilrhedyn (yn ymyl fferm Blaenbowi). Elisabeth, merch y lan oedd fy mamgu. Felly, roedd merch Bwlchclawdd yn hen famgu i mi. Disgynnydd o’r un teulu felly oedd Tom Bwlchclawdd.
A dyna fy nhaith o atgofioin trwy Penboyr wedi dod i ben.