Y Murlun - manylion yn llun, cornel gwaelod, ar y dde
Mae awgrym o gylch arall yng ngwaelod y llun ac yn dechrau gyda’r merched sydd wedi bod ac yn dal yn rhan o Garnifal Blynyddol y pentref sydd wedi ei gynnal ers blynyddoedd maith. Merched y flwyddyn 2013 yw’r rhain sy’n dod i lawr o’r lori. Ar ôl eu gosod yn y llun mae’n ymddangos fel pe baen nhw’n cerdded allan o’r murlun ac yn creu trydydd dimensiwn.
I’r chwith o’r merched mae tri o gymeriadau’r ardal – John Crossley – trefnydd y carnifal yn ei grys gwladgarol a nodweddiadol. Yna Ken Howell sy’n gymeriad doeth a hoffus ac yn gynghorydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin dros yr ardal, ac yna Glanville Evans – Gos i bawb lleol. Fe wnaeth yntau gyfraniad oes i’r ardal mewn amryw ffyrdd ac yn enwedig i glwb pêl droed Bargod Rangers ac Eglwys Llangeler. Bu farw Gos yn 2014.
I’r chwith iddyn nhw mae Danny Cole Jones (Danny Cole), y pysgotwr adnabyddus ac un o’r ‘cymeriadau ffraethaf ei dafod’ a welodd y pentref erioed. Mae storïau difyr Danny Cole yn dal yn fyw ar lafar gwlad.
Yna, yn sefyll uwch ei ben mae Marged Trefeca – Mrs Margaret Evans, Trefeca, Drefelin. Hi a’i gŵr Dai oedd gofalwyr yr hen neuadd a oedd ar draws y ffordd i’r neuadd bresennol. Rhan bwysig o’u gwaith oedd edrych ar ôl y rhan lle roedd y tri bwrdd snwcer. Byddai’r bechgyn ifainc a’r oedolion yn chwarae snwcer neu filiards chwe noson yr wythnos. Byddai Joe a Fred Davies a phencampwyr snwcer a biliards eraill Prydain yn dod yn flynyddol i’r neuadd i chwarae yn erbyn y bechgyn lleol ac i gynnal arddangosfeydd. Sylwch ar y bwrdd snwcer tu ôl i Marged ac yna ‘yr hen stôf fawr’ a dwymai’r lle yn ei hymyl. Roedd ‘eistedd rownd y stôf’ yn lle pwysig iawn yn gymdeithasol gan y byddai bechgyn a dynion o bob oed yn sgwrsio â’i gilydd gyda’r to hŷn yn trosglwyddo’r straeon a’r hanesion lleol i’r bechgyn ifainc. Y rheiny wedyn yn trosglwyddo’r wybodaeth ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
Hawdd yw adnabod y chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Williams sy’n dod o Dre-fach a pha ddelwedd well na’r un ohono’n sgorio’r cais fuddugoliaethus yn Twickenham yn 2012.
Yna’n sefyll yn uwch na Scott mae John Evans – John y Gwas. Roedd e’n gymeriad amryddawn iawn a chyn-athro yn Ysgol Aber-banc ac yn cadw Tafarn y New Shop Inn yn y pentref. Bu’n gynghorydd sir am gyfnod hir ac yn arweinydd cyngherddau ac yn gasglwr a hanesydd lleol. Ysgrifennodd yn wythnosol i’r Carmarthen Journal am gyfnod maith. Yn y murlun mae’n sefyll tu allan i’w dafarn. Yr enw ar y dafarn erbyn hyn yw Tafarn John y Gwas.
Yn cwblhau’r cylch hwn sy’n ymwneud â diddanwch y mae tair merch yn dawnsio. Oherwydd y cyfyngiadau cymdeithasol, yn enwedig ar ferched, gan nad oedden nhw’n cael dawnsio gyda’r bechgyn, roedd hi’n arfer gan Ferched yr Ystafell Wnïo ddawnsio gyda’r crysau gwlanen bydden nhw’n eu gwneud ar ôl i’r shifft ddod i ben yn y ffatri. (Merched Dawnswyr Talog fu’n modelu’r dawnsio gyda’r crysau gwlanen ar gyfer y llun).
Rhwng y merched sy’n dawnsio a Chapel Pen-rhiw mae Merched Beca wrthi’n chwalu gatiau’r tolldy ar sgwâr Felindre ar 15ed Mehefin 1843. Gelwir y lle yn Sgwâr y Gât ers y dyddiau hynny. Fe welwch hefyd y "Pillbox" a oedd wrth Sgwâr y Gât a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd sawl un ar hyd a lled y wlad lle’r oedd croesffordd fel bod ein milwyr neu ein Home Guard yn medru cuddio ynddo, pe bai galw, a saethu allan at y gelyn.
"Bob the Army" yw’r ci Labrador du sydd o flaen y "pillbox". Mae’n debyg i’r milwyr Americanaidd a gymerodd rai o’r ffatrïoedd gwlân trosodd adeg yr Ail Ryfel Byd ddod â chi gyda nhw ac fe gynhesodd y bobl leol ato, a’i anwylo a’i fwydo nes yr oedd yn rhy dew i fynd yn ôl i’r America ar ôl y rhyfel. Mabwysiadwyd ef gan bobl Dre-fach Felindre gan roi’r enw ‘Bob the Army’ arno.
Fe welwch uwchben Merched Beca ddyn yn codi ei ddwylo mewn trap a phoni. Yr enwog Barchedig Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn (1829 - 1912) yw hwn ar ei ffordd adref ar ôl bod yn pregethu yng Nghapel Clos-y-graig ac newydd groesi pont yr ysgol dros afon Esgair cyn iddi gael ei sgubo i ffwrdd gan y llif. Enw’r llif enwog hwnnw oedd Llif Axa ac fe welwch "lygad y storm" yn y cylch glas a’r llif yn rhedeg ohono yn y murlun. Yn ôl yr hanes ar lafar gwlad, fe aeth Axa ar brynhawn Sul am bicnic i ben Moelfre yn hytrach nag i’r Ysgol Sul yng Nghapel Soar. Daeth storom fawr iawn a’r gwerinwyr yn amau mai cosb oedd hyn am dorri sancteiddrwydd y Sul, neu efallai mai ofergoeliaeth y cyfnod oedd yn rheoli!
Darllenwch mwy am y murlun: Murlun | Detail 1 | Detail 2 | Detail 3 | Detail 4