Y Murlun - manylion yn llun, cornel top chwith
Neuadd y Ddraig Goch. Mae’r neuadd newydd i’w gweld yn glir gydag arwyddlun Merched y Wawr, y W.I. a’r masgiau drama/theatr. Cynhaliwyd dramâu cyson yn yr hen neuadd a phantomeimiau yn y 1940au a’r 1950au yn flynyddol o dan gyfarwyddyd William Davies (Wil Pen-lôn) a fu’n ganwr proffesiynol yn Covent Garden. Dyma ganolfan gymdeithasol y pentref a’r diwylliant lleol.
O flaen y neuadd gwelir yr amrywiol gwpanau a enillwyd gan Gôr Meibion Bargod Teifi o dan arweinyddiaeth Albert Evans tua chanol y ganrif ddiwethaf. Ar dalcen y Llew Coch fe welir un o’r prif fedalau a enillwyd gan y côr hefyd. Mae hanes Côr Meibion Bargod Teifi yn mynd nôl i ddiwedd y 19eg ganrif a’r fuddugoliaeth fawr gyntaf oedd ennill Cystadleuaeth y Corau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911. Ffurfiwyd côr cymysg newydd yn 1974 a bu’n cystadlu mewn eisteddfodau ac yn cynnal cyngherddau tan 1999.
Alwyn Davies (Alwyn Dan Banc) yw’r person sydd o flaen y neuadd ac un a wasanaethodd y neuadd a’r gymdogaeth ar hyd ei oes. I’r chwith o’r neuadd mae Mrs Brynmor Williams (Margaret Evans, Danwarin) a oedd yn actores ac yn gynhyrchydd pasiantau a dramâu lleol, yn flaenllaw gyda’r W.I. ac yn cynrychioli’r ardal fel cynghorydd am flynyddoedd lawer.
Mae Meirion Jones yn pwysleisio bod y murlun ar ffurf nifer o gylchoedd ac mae un arall o’r rheiny yn rhan uchaf ac ochr chwith y murlun.
Yn y cornel chwith uchaf mae ffermdy Pantyrefail, Cwmhiraeth a man geni Griffith Jones, Llanddowror (1683-1761). Mae portread o’r gŵr pwysig hwn o flaen ei gartref. Fe sefydlodd yr Ysgolion Cylchynol gan ddysgu’r Cymry anllythrennog i ddarllen y Beibl Cymraeg. I’r dde o Griffith Jones mae Capel Pen-rhiw a symudwyd i Sain Ffagan yn 1952. Fe’i sefydlwyd fel tŷ cwrdd gan yr Undodiaid yn 1777 – blwyddyn y tair caib – ac yma hefyd o dan yr ywen las ar bwys y capel y byddai’r Undebwyr cynnar yn cwrdd, a nhw yw’r dynion sy’n dal y ceibiau. O flaen Capel Pen-rhiw mae’r bachgen bach yn gwrthod codi ei gap i’r bonheddwr ac yn cyfleu sut y tyfodd cydraddoldeb o fewn cymdeithas maes o law. Ym mynwent Pen-rhiw y claddwyd Daniel Jones, awdur y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr sydd wedi crynhoi hanes y ddau blwyf hyd at 1900.
Mae’r fam eglwys, Eglwys Sant Llawddog, Pen-boyr, ac eglwys y plwyf, ar y gorwel ym mhen uchaf y llun ac yn cau’r cylch hwn ac yn creu cydbwysedd. I’r chwith o Eglwys Penboyr gwelir hen Seindorf Rechabiaid Dyffryn Bargod yn eu gwisgoedd yn 1909. Bu bandiau yn y pentref hyd at gyfnod Albert Evans yn y 1950au.
Yr adeilad isel a hir wrth ymyl Capel Pen-rhiw yw hwnnw sydd ar fin y ffordd i Gwm-pen-graig. Yma yn Yr Ogof mae’r cofnod cynharaf o’r gwlân yn cael ei nyddu a’r gwyddiau llaw yn gweithio cyn i’r peiriannau gael eu gosod yn y ffatrïoedd. Fe welir y merched yn eu gwisgoedd Cymreig wrth eu gwaith yn troelli’r gwlân ychydig yn is i lawr yn y murlun.
Gweler mwy: Murlun | Detail 1 | Detail 2 | Detail 3 | Detail 4