Y Murlun - manylion yn llun, cornel top de
Bargod Rangers. Fe welwch y tîm pêl droed yn y rhan uchaf ar y dde. Tîm o’r flwyddyn 1957 yw hwn ac yn sefyll o’r chwith i’r dde mae -
Ronnie Williams y dyfarnwr o Gastellnewydd Emlyn, a barbwr wrth ei alwedigaeth yn y dref, yna Peter Hughes Griffiths (Pete Bach), Bryan Jones (Bryan Garage, Saron), John Griffiths (John Pen-sarn), Aneurin Jones (Ythan, Saron), Ronnie Cannell (Penrhiwllan), Melville Thomas (Mel Bach), Eric Davies (Eric Vaynor). Blaen o’r chwith i’r dde mae – Les James (Les Bach), Tyssul Williams (Tyss, Pen-pwll, Saron), Edward Griffiths (Llys), Alun Jones (Alun Brynafon) a Bryan Davies (Bryan Pant-y-gog).
O flaen y tîm ar y dde yn dal y lluman mae Eifion Davies a fu’n chwarae i’r clwb am flynyddoedd ac sy’n dal yn un o hoelion wyth y clwb. O’i flaen yntau’n gwthio peiriant marcio’r cae mae Alan Campden, cyn-chwaraewr arall ac un sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i’r clwb.
Un o’r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb oedd yn niwedd y 1950au ac yn nechrau’r 1960au. Yn 1957 a 1962 enillodd y clwb dri chwpan y gynghrair am y tro cyntaf yn hanes y clwb a’r gynghrair. I gofio am yr ‘oes aur’ honno cynhaliwyd aduniad o’r cyn-chwaraewyr ar ddydd Sadwrn, 31ain Mawrth 2012. Yn y darlun mae chwaraewyr tîm dan 10 oed Bargod yn croesawu’r cyn-chwaraewyr i Barc Puw i weld Bargod yn chwarae yn erbyn Sêr Dewi. Defi John Jones (Defi John Velindre View), ac yntau dros ei naw deg oed, sy’n arwain rhes o’r cyn-chwaraewyr ac yn cael ei ddilyn gan Peter Hughes Griffiths (cot frown), Einsleigh Harris, Dr Gareth Crompton (yn ei gap), John Newcombe (a’i wallt arian) ac Adrian Edwards.Y chwaraewr sy’n cicio’r bêl yw Owain Thomas, capten y tîm ar y dydd hwnnw.

Y Llew Coch/ Red Lion yw’r adeilad â’r golau hydrefol euraidd arno i’r chwith o’r tîm pêl droed. Dyma bencadlys Bargod Rangers ar hyd y blynyddoedd ac yma roedd y timau’n arfer newid cyn cerdded lawr i ddôl Llysnewydd i chwarae. I’r Llew Coch y bydd pawb yn dod ar ôl y gemau o hyd i gymdeithasu. Yn y Red Lion, yn yr amser gynt, y byddai’r bobl fusnes yn lletya pan ddeuent i brynu nwyddau yn y ffatrïoedd gwlân.
Tu ôl i’r darlun o dîm Bargod Rangers (uchaf ochr dde) mae Plas Llysnewydd. Ar ‘Llysnewydd Meadow’ yng ngwaelod y pentref bu pêl droed yn cael ei chwarae er 1880 nes symud i Barc Puw yn y 1960au cynnar. A dyna gylch Bargod Rangers yn gyflawn. >
Adeiladwyd y plas cyntaf yn Llysnewydd yn 1795 yn gartref i deulu’r Lewes. Y plas fel ag yr oedd yn 1910 sydd yn y murlun ac a gynlluniwyd gan yr enwog John Nash. Cafodd ei ddymchwel gan y perchennog yn 1971 gan fod ei gyflwr wedi dirywio cymaint. Chwaraeodd y teulu Lewes ran amlwg yn hanes yr ardal.
Moelfre: I’r chwith o Blas Llysnewydd fe welwn Fynydd Moelfre, y darn uchaf o dir ym mhlwyf Penboyr. Mae’n 1,100 troedfedd uwchlaw’r môr ac mae yna lawer o hanes a henebion yn y ddaear sy’n mynd nôl i Oes yr Haearn ac efallai cyn hynny. Arferai teuluoedd o’r pentref fynd ar bererindod blynyddol i ben Moelfre a chael picnic yno yn yr awyr iach. Ond nid oedd hynny’n dderbyniol ar y Sul i’r gymdeithas grefyddol a gorfod i sawl teulu ddioddef beirniadaeth lem am wneud hynny. Sylwch ar yr awyren sydd yn yr awyr yn teithio tuag at y mynydd. Digwyddiad hanesyddol oedd hwnnw ym Medi 1944 pan ddisgynnodd awyren ar ben Moelfre trwy ddamwain gan ddenu torfeydd o bobl am wythnosau i weld ei gweddillion.
Gweler mwy: Murlun | Detail 1 | Detail 2 | Detail 3 | Detail 4