Merched Beca
gan plant Ysgol Penboyr
Dechreuodd y prosiect gyda’r plant yn holi'r cwestiwn pam roedd canol y pentref yn cael ei adnabod fe! Sgwâr y Gât. Ysbrydolodd thema Merched Bcca eisteddfod yr ysgol a phrosiect ysgol a gynhyrchodd furlun mawr a thrawiadol. Gweithiodd y disgyblion gyda’r prifardd Ceri Wyn Jones.
Gwnaethpwyd ymchwil fanwl yn cynnwys ymweliadau â Sir Benfro, y Llyfrgell Genedlaethol a Sain Ffagan.
Newidiodd disgyblion iau eu tŷ bach twt yn dolldy. Codwyd arian ar ddefaid a cheffylau am fynd drwy'r glwyd a chasglodd y disgyblion dollau.
Rhannwyd eu darganfyddiadau yn eang gyda’r gymuned leol a’u hysgol gymar yn India. Ysbrydolodd eu gweithgareddau gomisiynu pasiant.
I weld eu gwaith gweler y wefan Ysgol Penboyr.