skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Lleoliad

 

Mae ardal Dre-fach Felindre yn cynnwys nifer o bentrefi cyfagos, sef Cwmhiraeth, Cwm-pen-graig, Dre-fach, Drefelin, Felindre ac Waungilwen ar lannau’r afonydd Bargod, Esgair a Brân yn ogystal ag ucheldir Penboyr. Mae’r pentrefi yng Ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, nid nepell o’r afonTeifi, tair milltir i’r dwyrain o Gastellnewydd Emlyn a thua hanner ffordd rhwng Aberteifi a Chaerfyrddin.