skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

CÔR BARGOD TEIFI

Adroddiadau Cyntaf :
Adroddiad am farwolaeth gwr o’r enw Mr David Peters yn y Cardigan &Tivy Side Advertiser ar 5ed Rhagfyr 1923 sy’n nodi pryd y sefydlwyd Cor Bargod Teifi am y tro cyntaf.
Dyma ddarn allan o’r adroddiad hwnnw mewn perthynas a David Peters a Chor Bargod Teifi:

DAVID PETERS, LAN COTTAGE, TREBEDW, HENLLAN.
The funeral of Mr David Peters took place last Monday (1.12.1923) at Llanfair Orllwyn when a large congregation was present. The Revs E J Davies, Bangor with Henllan, J Daves, Llanfair Orllwyn and E O Jones Llangunllo officiated. Miss Jones, Pencnwc played the ‘Dead March’ on the organ. The Chief mourners were Mr Mrs Samuel Davies, Lan Cottage (Brother in law and sister).......
Mr David Peters was born nearly 87 years ago at Carne, Capel Iwan. From 1871 to 1886 he was headmaster at Aberbank School and succesively he was in charge of other schools. His career of 15 years in the Vale of Teifi showed a marked success in musical matters. In the 70’s  (1870’s) the famous Bargoed Teifi Choir was formed and under the leadership of Mr Peters it was successful in securing a premier place in some of the most important musical concerts in West Wales. In 1874 the Choir won with ‘Teyrnasoedd y Ddaear’ at Llandysul and at 1877 at the same place won with ‘Yr Awel Fwyn’.
Mr Peters was also enthusiastic in his support of chorâl music abd for many years he was trainee and conductor of the Choral Festival at Newcastle Emlyn. His services in the interest of music in the district will be remembered for a long time. He came to Trebedw two or three years ago from Carmarthen and was a Member of Henllan Church.
 
Mae hyn yn dangos yn glir i Gor Bargod Teifi gael ei ffurfio yn gynnar yn y 1870’au. Ni allwn gadarnhau ai côr meibion neu gor cymysg o ran lleisiau oedd y côr a bydd rhaid chwilio mwy i hanes y côr o hynny i ddiwedd y ganrif a hyd at 1906.
 
1906
Ffurfiwyd Parti o fechgyn yn y lle cyntaf gan Mr Tom Luke,, Darwel House, Henllan tua adeg y Pasg 1906 gyda Miss May Jones, Pwllcornol Isaf, Penrhiwllan yn gyfeilyddes. Bu May Jones yn gyfeilyddes am flynyddoedd lawer i Gor Bargod Teifi.

Bwriad y Parti oedd cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chymryd rhan mewn cyngherddau. Mewn ystordy fechan, a oedd yn rhan o’r hen Swyddfa Bost yn Henllan (siop groser y pryd hwnnw), ac o dan olau canhwyllau y byddai Mr Luke yn ymarfer y Parti Bechgyn. Y wobr gyntaf a ddaeth i’w rhan oedd ennill gwobr o ddeg swllt (50c) yn Eisteddfod Y Pasg, Drefach- Felindre yn 1906 a’r aelodau i gyd yn byw ar ochr Henllan o’r afon Teifi.

Mewn cystadleuaeth o radd uwch yn Llanon, Ceredigion ym mis Awst 1906, gyda tua hanner dwsin o gantorion o Sir Gar wedi ymuno a’r Parti erbyn hyn, fe gurodd ‘Parti Bargod Teifi’ Gor Meibion Aberystwyth gyda Mr Harry Evans, Lerpwl yn beirniadu.

O ganlyniad i’w llwyddiant yn Llanon gwahoddwyd y Parti i ginio ym Mhlas y Bronwydd ar nos Wener y 5ed o Hydref 1906, ond oherwydd absenoldeb Syr Marteine Lloyd gohiriwyd y ginio am bythefnos.  Mae’n bwysig nodi a chofio am ddiddordeb a chefnogaeth hael Syr Marteine a Lady Helena Lloyd i bob mudiad lleol.

O ganlyniad i lwyddiant y Parti roedd sôn o amgylch yr ardaloedd y byddai Eisteddfod Fawreddog yn cael ei chynnal yn Henllan yn 1907. Ond, ni ddigwyddodd hynny.
Yn Eisteddfod Llanon, Ceredigion eto ar Ŵyl Banc Awst 1907 dyfarnodd y Dr Coward y wobr gyntaf i ‘Barti Bargod Teifi’.

Neuadd Newydd Henllan
Yn 1907 adeiladodd y Cyrnol William Lewes, Plas Llysnewydd, neuadd newydd yn Henllan ar ei dir a’i draul ei hun a dodrefnodd hi yn addas i’r gymuned ei defnyddio, ond yn bwysicach fyth yn ei olwg ef – fel bod lle addas i’r Parti Meibion i ymarfer.

Enillodd Parti Bargod Teifi Gwpan Arian yn Eisteddfod Is-genedlaethol Caerfyrddin yn 1907.

Ar yr 2il o Awst 1907 cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yn Ysgol Aberbanc er budd Parti Meibion Bargod Teifi. Roedd y lle yn orlawn ac yn profi cefnogaeth yr ardal i’r parti. Llywyddwyd (Arweinydd) y cyngerdd gan y Cynghorydd John Lewis, Meiros Hall, Drefach-Felindre yn ei ddull medrus a doniol arferol.

Cafwyd cyngerdd ymarfer orlawn eto yn neuadd newydd Henllan yn 1908 i baratoi ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen. Dywedodd Cadeirydd y noson sef y Cyrnol W Lewes, Plas Llysnewydd mai ymarfer oedd hwn cyn mynd fyny i gwrdd y gelyn yr wythnos ganlynol. Yr oedd yn gobeithio y cadwent i fyny eu dewrder a rhoi cosfa dda i’r gelyn. (Pawb yn cymeradwyo’n frwd!)  Y ddau ddarn prawf oedd “Treasures of the Deep” a “Meibion Gwalia”. Ond yr ail wobr gafodd y Parti. Yn ei feirniadaeth yn Llangollen fe ddywedodd Mr David Jenkins Mus Bac, fod Cor Manceinion wedi rhoi perfformiad ardderchog ac yn haeddu cael y wobr gyntaf. Yna, Bargod Teifi yn ail, Meibion Moelwyn yn drydydd, Meibion Dar yn bedwerydd a Meibion Penmachno’n bumed.

Anrhegu Mr Tom Luke, 11eg Medi 1908.
Gwahoddodd Cyrnol a Mrs Lewes, Plas Llysnewydd blant eglwysi Llangeler, Capel Mair a Henllan i de parti ar lawnt y plas ar yr 11eg o Fedi 1908. Yr oedd hyn yn ddigwyddiad blynyddol a phawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad. Ar ôl y te fe gynhaliwyd mabolgampau ar y lawnt a byddai Band Plas Llysnewydd yn chwarae darnau pwrpasol. (Hwn oedd y band hynaf yn yr ardal a sefydlwyd gan William Pryce Lewes tad Cyrnol William Lewes yn 1853). Talwyd pleidlais o ddiolchgarwch i’r Lewesiaid  am eu haelioni gan y Parchedig W Williams, Llangeler ac eiliwyd gan Mr T Thomas, Penwern. Dosbarthodd y Cyrnol Lewes wobrwyon i blant Ysgolion Sul Llangeler a Chapel Mair.

Galwodd y Cyrnol Lewes ar Mr Tom Luke i ddod ymlaen er mwyn i bawb ei weld. Diolchodd y Cyrnol Lewes iddo am ei waith fel arweinydd a dywedodd mai Mr Luke oedd yr arweinydd gorau oedd ef wedi ei weld a’r dyrfa’n cymeradwyo hynny. Cyflwynodd Mrs Cecelia Lewes Casyn Sigarennau Arian i Mr Luke a diolchodd ef am y rhodd werthfawr ac am gefnogaeth teuluoedd Llysnewydd a Phlasgeler bob amser. Dangosodd y dyrfa eu gwerthfawrogiad yn y modd arferol. I orffen y gweithgareddau canodd y dyrfa ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, ‘ God Save The King’ a “For he’s a jolly good fellow” gyda Samuel Davies yn arwain.

Eisteddfod Llundain 1909
Er fod y Parti wedi ymarfer yn gydwybodol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909 ac wedi cynnal cyngherddau ymarfer yng Nghastellnewydd Emlyn a Choed y Bryn ni ddaeth llwyddiant i’w rhan yn y genedlaethol yn Llundain.

Y noson cyn cystadlu yn yr eisteddfod roedd y Parti wedi ymddangos mewn cyngerdd mawreddog yn Wimbledon ac wedi gorfod cerdded yn ôl i’r gwesty trwy niwl trwchus Llundain yn oriau man y bore. (Y gred oedd fod y damprwydd hwn wedi effeithio ar leisiau’r cantorion ac nad oedden nhw ar eu gorau ar gyfer y gystadleuaeth y dydd canlynol!)

Dyddiad yr Eisteddfod hon oedd Mehefin 15ed tan y 18ed, 1909 a’r tri darn gosod oedd –‘Reveille’ (Elgar), ‘O peaceful night’ (E. German) a ‘Fair Semele’s  born son’ (Mendelssohn).
 
Dyma’r marciau:
                                              1           2          3               Cyfanswm
Dowlais                              90          94         95                  279
Swansea                             80         86          92                  258
Newcastle                          85          88          90                 253
Bargod Teifi                       85          71           65                 226
Mid Rhondda                    67          75           80                 222
Ebenezer Mission             80          70           70                 220
Llanelly                               65         70            60                 195
Maesteg                             70         72            50                192
 
Er dod yn bedwerydd nid oedd angen i’r Cor gywilyddio oherwydd roedden nhw’n gydradd ail yn y darn cyntaf. Fe dderbyniodd Mr Luke delegram yn fuan wedyn wedi ei gyfeirio i – Mr Luke,  The Male Voice Party Bargod Teifi, Wales.

Roedd Parti Meibion Bargod Teifi yn llawen iawn o dderbyn neges gan eu Llywydd – Yr Henadur John Lewis, J.P., Meiros Hall, Drefach wedi iddo dderbyn cwpan anferth a hardd ac wedi ei gerfio’n gywrain i’w gyflwyno i’r Parti. Rhodd oedd hwn oddi wrth ffrindiau’r Cor yn y Rhondda fel arwydd o’u meddwl mawr am ddewrder ‘bois bach o’r wlad’ yn anelu at yr anrhydedd gerddorol uchaf yng Nghymru.
Cor Meibion Bargod Teifi 1909
Mae llun o Gor Meibion Bargod Teifi 1909 ar gael ac yn y llun hwnnw mae TOM LUKE yn sefyll rhwng y ddwy gyfeilyddes (Miss May Jones, Pwllcornol Isaf, Penrhiwllan oedd un ohonyn nhw. Gweler y llun hefyd ar Casgliad y Werin.
 
Hanes Mr Tom Luke

Ar ôl Eisteddfod Llundain yr oedd Mr Tom Luke yr arweinydd wedi blino’n llwyr ar y straen diddiwedd a phenderfynodd drosglwyddo’r arweinyddiaeth i Mr Daniel Jenkins C.M. Prifathro Ysgol Gynradd Penboyr, ond fe gadwodd ymlaen i hyfforddi Adran Henllan o’r Parti hyd 1914, pan dewiswyd Mr Eben Jones, Tyhwnt, Aberbanc i wneud y gwaith yn ei le. Yr oedd Mr Tom Luke wedi llwyddo yn arholiad ATS mewn ‘Tonic Solffa’.

Ganwyd Mr Tom Luke yn 1870 a bu farw yn 1954 a chyn iddo ddod i fyw i Darwel House, Henllan yn 1904 mae cofnod ohono yn lletya gyda Cathryn Griffiths  yn 3-4, Brynmeiros, Drefach ac yn gweithio fel ‘Wool Spinner’ yng nghyfrifiad 1891. Priododd yn 1898 a bu’n byw yn 3, Railway Terrace, Henllan, cyn symud i Darwel House, Henllan yn 1904. Yno yr oedd ef yn cadw siop groser a nwyddau a’i wraig yn gwneud a gwerthu hetiau yn y siop.

Roedd Mr Tom Luke yn gyfansoddwr tonau emynau prydferth iawn – yn enwedig tonau plant a chyhoeddwyd llawer ohonyn nhw. Bu’n gor feistr Capel Drindod am 25 mlynedd a Thrysorydd yr eglwys honno am dros 40 mlynedd.
 
Bydd llawer yn cofio am ei mhab Mr Ieuan Luke a ddaeth yn gyfreithiwr yng Nghastellnewydd Emlyn. Priododd Ieuan Luke gyda Gwladys a anwyd ym Mhortmadog yn 1915. Ar ôl hyfforddiant i fod yn nyrs yn Aberystwyth a Landough ac ytna ar gwrs bydwraig yn Abertawe adeg yr ail ryfel byd. Symudodd i weithio yn y Borth ac yna Aberporth lle y cwrddodd hi a’i gwr Ieuan Luke (mab Tom Luke) Ar ôl priodi yn 1946 hi oedd Nyrs Ardal Drefach-felindre, swydd a fu ynddi nes iddi ymddeol yn 1979. Hon oedd y wraig a ddaeth nyn enwog fel Nyrse Luke yn ardal Drefach-Felindre.  Merch iddyn nhw yw Ann (Luke) Watson, 7, Castle Hill Drive, Pennal Ash, Harrogate. Ond, mae Ann yn dal i gadw’r hen gartref Darwel House yn Henllan – y tŷ sydd  yn wynebu sgwâr pentref Henllan, ac mae’r ‘feranda’ ers cyfnod ei thad-cu a’i mam-gu yn dal yn ei le o flaen y tŷ.
Claddwyd Mr Mrs Tom Luke a’u mab Ieuan Luke a’i wraig yntau Nyrs Gwladys Luke ym Mynwent Capel Gwernllwyn, Penrhiwllan.
 
Cor Meibion Bargod Teifi o 1909 ymlaen.
Fel y nodwyd fe drosglwyddodd Mr Tom Luke arweinyddiaeth Cor Meibion Bargod Teifi i Mr Daniel Jenkins, Prifathro Ysgol Penboyr yn 1909.
(Mae hanes Mr Daniel Jenkins i’w weld yn llawn o dan y pennawd ‘Enwogion Cerddorol Drefach-Felindre’ mewn rhan arall o ‘Stori Fawr Drefach-Felindre.’
Bu’r Cor yn fuddugol mewn sawl Eisteddfod Is-genedlaethol yn ystod 1910 o dan arweiniad Daniel Jenkins.
Penderfynwyd cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 ar y dydd Gwener sef dydd olaf yr eisteddfod y pryd hwnnw. Y gystadleuaeth oedd :
2.30pm  CYSTADLEUAETH Y CORAU MEIBION (agored i’r byd). Rhif y lleisiau rhwng 60 a 80.
Y darnau : (a) ‘Walpurga’ (Hager).  (b) ‘Peace be still’ (‘Gosteg For’ – D Jenkins Mus.Bac) Unaccompanied.
Ymgeiswyr

  1. Swansea and District Male Voice Choir

  2. Pontardawe Male Voice Society

  3. Barry Male Voice

  4. Neath and District Male Voice Choir

  5. Maritime Male Vice Society

  6. Bargod Teifi Male Voice Party

  7. Morriston Male Choir

  8. Garw Male Voice Society

  9. Ebenezer Mission Male Voice Party

  10. Kenfig Hill Male Voice Party

 
Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Gor Meibion Bargod Teifi o dan fatwn Daniel Jenkins ac yn ôl yr hanes roedd enw ‘Bargod Teifi’ ar wefusau’r dorf enfawr a oedd yn bresennol wedi iddyn nhw gael 100 allan o 100 o farciau gan y beirniaid am ddatganiad o ‘Gosteg For’. Faint o gorau all hawlio’r perffeithrwydd hynny?

Mae’n debyg fod cyfansoddwr ‘Gosteg For’ – Mr David Jenkins yn bresennol ac yn gwrando ar y gystadleuaeth ac iddo ddweud wrth Daniel Jenkins nad oedd wedi sylweddoli ei fod wedi cyfansoddi darn mor brydferth hyd nes iddo glywed Bargod Teifi yn ei ganu.

Mae’r Carmarthen Journal Awst 11eg 1911 wedi rhoi tudalen gyfan i sôn am fuddugoliaeth Cor Meibion Bargod Teifi a’r dathlu a’r llawenydd trwy’r ardal.

Dyma rhai dyfyniadau:
The present party consist of 82 members most of them being weavers and farm servants and not a single professional was engaged to assist. A large number of them are former pupils of Mr Jenkins. A woed of parise is due to Miss M Jenkins, Cartref (Chwaer Daniel Jenkins) and Miss Jones, Pwllcornol, Henllan who have given their Services as accompanists through the months of training. It may be noted that this was Mr Jenkins’ first attempt at a National Eisteddfod. The treasurer is Mr John Phillips and Mr T Jones, Rock Cottage for the Velindre district and the secretarial duties were also caried out by Mr D Davies postman.

Roedd torfeydd yn disgwyl y trên yng ngorsaf Henllan ar y nos Wener honno
The Rechebite Brass Band struck Up – “See the conquering hero comes..”
The conductor was caried shoulder high and placed in a waggonette ...   Every window had a light shining ... Huge torches... It was well in the morning before the lights went out...
 
Cariwyd Mr Jenkins yr arweinydd i gerbyd a llusgwyd a llusgwyd ef yn galonnog ar hyd y ffordd i Felindre, ac yn ôl i’r ysgwar ger y Llythyrdy lle y cafwyd areithiau gwresog a llongyfarchiadol gan Parch E T Owen, Saron,  a’r Parch Idwal Jones, Drefach. Cyn cychwyn o Henllan siaradwyd gan John Jones, Velindre View a therfynwyd gyda phenillion arbennig i’r amgylchiad.
 
Yr oedd y gystadleuaeth yn odidog a thystiolaeth Dr Protheroe (Daniel Protheroe un o’r beirniaid)oedd  fod datganiad Bargod Teifi ’yn un gwefreiddiol’
 
Hyd y gwyddom, a hyd yn hyn nid oes llun wedi ei ganfod o Gor Meibion Bargod Teifi enillwyr y brif gystadleuaeth Corau Meibion Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911.
Ond mae llun o’r Cor o dan y teitl ‘Bargod Teifi Male Voice Party 1909 yn ddigon cyffredin. Tybiwn mai’r un cantorion oedd yn y côr yn 1909 ac yn 1911.
 
Fe wnaeth y Cor Meibion barhau nes dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf 1914 – 1918 ac fe gafwyd ergyd bellach pan fu’r arweinydd Daniel Jenkins farw’n frawychus o sydyn o niwmonia yn 1917.  Fe ddaeth tyrfaoedd i’w angladd ac fe geir disgrifiad llawnach yn hanes bywyd Daniel Jenkins mewn adran arall o ‘Stori Fawr Drefach-Felindre’. Yn ei angladd fe ganodd y Cor Meibion ‘O Mor Ber’ a’r ‘Delyn Aur.’

Albert Evans - arweinydd Cor Bargod TeifiYn ystod y ddwy flynedd nesaf nid oes fawr o sôn am y Cor ac anodd iawn oedd ail gychwyn. Ond yn 1919 dewiswyd Albert Evans yn arweinydd newydd ar Gor Meibion Bargod Teifi. (Cewch hanes y cerddor arbennig hwn mewn adran arall yn hanes ‘Stori Fawr Drefach-Felindre’. 

Cystadlu mewn eisteddfodau fu hanes y Cor Meibion o dan arweinyddiaeth Albert Evans. Mae adroddiad am y Cor yn ennill £100 a Chwpan yn Eisteddfod Is-genedlaethol Clunderwen yn 1926 gyda 10 cor yn cystadlu. Ar ôl canu ‘Cytgan y Pererinion’ yn yr eisteddfod honno meddai’r beirniad Glanville Bantock – “These were the triumphant Pilgrims and further more, these were the only Pilgrims to reach the promised land.”
 
Yn ei lyfr FI YW HWN mae W R Evans ar dudalen 154 a 155 yn sôn am yr eisteddfod fawr honno yng Nghlunderwen  fel hyn –
‘Crwtyn go ifanc oeddwn i, yn Ysgol Aberteifi pan gynhelid yr Eisteddfodau mawr hynny mewn pabell anferth yng Nghlunderwen. Roedd cystadleuaeth y corau meibion yn ddigon o ryfeddod...  Roedd rhai pethau rhyfedd yn digwydd yng Nghlunderwen... Cor enwog Dowlais yn colli am y tro cyntaf erioed ar ‘Iesu o Nazareth’, Côr Bargod Teifi yn curo corau Morgannwg i gyd ar ‘Y Pererinion’ ryw flwyddyn allan o ddeg o gorau (1926) a chôr Y Rhos yn ail.’

Albert Evans oedd arweinydd y côr am y 36 mlynedd nesaf hyd ei farwolaeth yn 1955.
Felly, rhwng 1908 a 1955 dim ond tri arweinydd a fu gan Gor Meibion Bargod Teifi. Aelod olaf o’r côr enwog hwn oedd James Davies, Pensarn ‘a’i frawd Harri’n fwy swynol fyth’ yn ôl y sôn. Yn wir roedd Cor Bargod Teifi’n enwog am ei “Sweet Tenors.”

Nid oes fawr o sôn am Gor Bargod Teifi wedyn tan 1973 pan sefydlwyd Cor Cymysg newydd.
(Hanes y Cor hwnnw nes ymlaen yn yr erthygl hon).

 
Cor Cymysg Bargod Teifi yn y 1920’au
Yn 1929 fe aeth Cor Cymysg Bargod Teifi i gystadlu yn Llundain o dan arweiniad Mr Robert G Owen. (Mab yr enwog Parch   Owen, Capel Soar.)  Roedd hon yn ymdrech fawr i fynd i Lundain a nol ar yr un diwrnod o orsaf rheilffordd Henllan. Roedd y côr ar ei ffordd yn ôl heb ei harweinydd ac wedi cyrraedd gorsaf Porth Talbot a chael y newydd yno eu bod wedi ennill y wobr gyntaf gyda 19 o gorau’n cystadlu. Yn eu disgwyl yn Llundain roedd Mr G Picton Davies brodor o’r ardal a pherchen gwesty. Mae llun o’r côr yn cael pryd o fwyd yn ei westy – Quebec Hotel.
 
Ail sefydlu Cor Bargod Teifi yn 1973.
Yn nechrau mis Medi 1973 yr ail sefydlwyd Cor Bargod Teifi ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974. Yr arweinydd cyntaf oedd  Iwan Guy o Gaerdydd yn wreiddiol ac yn gweithio yn yr ardal. Ei frawd yw’r cerddor, beirniad ac arweinydd enwog Alun Guy.

Erthygl o'r Garthen

Mae adroddiad yn y papur bro Y Garthen yn hydref 1998 yn adrodd am ginio arbennig y côr yn dathlu 25ain yng Ngwesty’r Porth, Llandysul. Y gwyr gwadd oedd Peter Hughes Griffiths, brodor o’r ardal a’i wraig Meinir Lloyd y gantores a’r delynores.

Mae’r erthygl yn rhoi tipyn o hanes y bum mlynedd ar hugain gyntaf i ni wrth i gadeirydd y côr y Parchedig Gareth Morris nodi’r arweinyddion.

Ar ôl Alun Guy bu Mrs R A Lewis (gwraig y Parch John Lewis, gweinidog Capel y Bedyddwyr, Bethel Drefach ) yn arweinydd ac yna Mrs Odette Jones, Mrs Eleri Samson, Mr Willie Evans ac yn 1998 Mr Martin Griffiths Llandysul oedd yn arwain. Cyflwynwyd rhodd i Martin yn ystod y ginio.

Yn ystod y bum mlynedd ar hugain gyntaf dim ond tri chyfeilydd fu’n gwasanaethu’r côr sef Mrs Nesta Jones, Mrs Margaret Evans a Mr Martin Griffiths. Diolchwyd hefyd i Mrs Briallen Jones, Awelfor, Drefach am ei gwasanaeth am 24 mlynedd fel ysgrifenyddes y côr. Y trysorydd cyntaf oedd Mr David Williams, Angorfa, yna Mrs Anita Evans a Mrs Annie Daniels Jones ac ers deng mlynedd Mrs Elinor Davies. Cyhoeddwyd y byddai Cyngerdd Blynyddol y Cor ar nos Wener 25ain Hydref 1998 yn Neuadd y Ddraig Goch, Felindre a’r elw’n mynd i Gronfa Tenovus. Nodwyd hefyd y byddai’r piano newydd yn y neuadd yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar y noson honno.

 

Cor Bargod Teifi

Yng nghyfarfod neuadd y Ddraig Goch Ebrill 2004 hysbyswyd y pwyllgor bod Cor Bargod Teifi yn dod i ben ac na fyddent yn defnyddio’r neuadd ar gyfer ymarfer bellach a’u bod yn cyflwyno’r piano electroneg i’r neuadd. Daeth Cor Bargod Teifi i ben felly.