Cofio’r Gorffennol – ‘Y Graig y naddwyd ni ohoni’
Gan Dr Leslie Baker-Jones
Yn gyntaf, priodol yw canmol a diolch i’r rhai a feddyliodd am y ‘cynllun’ i gadw mewn cof fywyd a diwylliant trigolion y Dre-fach a’r Felindre [y fileindref i’r taeogion] a’r cylch. Gwnaed casgliad o ddarluniau - o bobl, digwyddiadau, adeiladau a hefyd ‘arteffactau’ [pethau o waith llaw] a oedd i atgofio bywyd y cyfnod.
Ers blynyddoedd daeth hanes cymdeithasol yn rhan arbennig o astudiaeth ysgol a choleg, yn hytrach na hanes brenhinoedd, baneri rhyfel, utgyrn, milwyr, cadfridogion dewr a gwarchae rhyw gastell. Yn gymorth i’r hanesydd daeth yr hynafiaethydd yn amlwg. Mae ei ddiddordeb mewn ‘cromlech’ fel honno yn ‘Pentre Ifan’, neu domennydd fel tomen Llawddog a thomen Seba. Rhaid i’r hynafiaethydd ymweld â’r hyn sydd ar ôl o adfeilion castell neu fynachlog, lle roedd heol Rufeinig neu ganolfan fel Caerleon neu Gas-gwent, neu’r theatr Rufeinig ym ‘Moridunum’ [Caerfyrddin].
O ganlyniad daeth gwyddor newydd i’w hastudio – archaeoleg: cloddio hwnt ac yma a chael gafael mewn pethau gwerthfawr yn ariannol a diwylliannol. Fel y gwelir ar y teledu, medr ysgolheigion ddarganfod trysor, ysgerbwd dyn neu anifail, a hwnnw gannoedd neu filoedd o flynyddoedd yn ôl. Un o’r rhai enwocaf yn hanes archaeoleg oedd bedd brenin ifanc yr Aifft – Tutankhamun (a ddarganfuwyd yn 1922-3) a’r brenin wedi ei gladdu tua’r flwyddyn 1353 Cyn Crist.
Yn dilyn pob darganfyddiad rhaid oedd cael lle diogel i’w cadw – pob peth a oedd yn dangos hanes, crefftau, cyfoeth ac arferion y gorffennol. Felly adeiladwyd amgueddfeydd mewn llawer gwlad. Ym Mhrydain agorwyd yr Amgueddfa Brydeinig yn 1753. Yn Rhydychen bu Edward Lluyd (1660-1709), hynafiaethydd ac efrydydd Celtaidd a’i amgueddfa, a ddatblygodd wedyn yn ‘Ashmolean Museum’. Ar y cyfandir roedd yr Academia a’r Uffizi yn Fflorens, lle gwelir cerfiadau a darluniau paentiedig gan artistiaid enwog. Yn y Louvre ym Mharis mae’r cerflun marmor o’r ‘Venus de Milo’ a’r ‘Mona Lisa’ gan yr arlunydd enwog Leonardo da Vinci. Daeth yr amgueddfa yn elfen angenrheidiol ar draws y byd.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif roedd Caerdydd wedi datblygu yn dref ddiwydiannol a diwylliadol. Dangosir hynny gan yr adeiladau cyhoeddus , a’r pwysicaf i’r hanesydd a’r hynafiaethydd yw Amgueddfa Genedlaethol Cymru. I gychwyn roedd rhaid cael cyfoethogion i’w cefnogi mewn arian neu bethau i’w harddangos. Flynyddoedd ar ôl ei sefydlu, yn 1906, bu’r amgueddfa yn ffodus i gael rhodd werthfawr iawn gan y chwiorydd Davies, Llandinam a Gregynog – casgliad o ddarluniau paentiedig yn y dull ‘argraffiadol’ o waith Monet a Renoir. Oherwydd brwdfrydedd pobl (a’r rheiny – y ‘gwŷr mawr’ ag arian) sefydlwyd amgueddfeydd mewn llawer tref a chyn diwedd yr ugeinfed ganrif roedd dros ugain yng Nghymru. Un ohonynt oedd Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Stryd y Cei cyn symud i hen Blasty’r Esgob yn Abergwili. Ymhlith y casgliadau gwerthfawr, roedd crefftwaith o aur wedi ei gloddio gan y Rhufeiniaid ddwy fil o flynyddoedd gynt ar dir a ddaeth wedyn yn ystad teulu Lloyd-Johnes, Dolau-cothi. Un eitem hynod oedd y ‘chatelaine’, cadwyn o ‘glain’ [beads] bach i’w gwisgo gan ddynes. Yn anffodus cafodd ei lladrata rai blynyddoedd yn ôl.
Gyda dyledus barch i’r noddwyr caredig, credai rhai bod un elfen yn absennol – gwybodaeth o’n gorffennol fel gwerin bobl. Yn ôl yr Athro, Dr David Evans (a aned ym Mlaen-ffos) yn ei lyfr Y Wlad, Ei Bywyd, ei Haddysg a’i Chrefydd, 1933, ni ellir anghofio bywyd y wlad, ei gwerin a’r ddyled sydd gan bobl heddiw i’r gorffennol - eu gwreiddiau ‘megis pob planhigyn’. Onide, mae diwylliant tref, daliadau newydd, poblogaeth ddieithr, etc., yn beryglus i ffyniant ac ysbryd y Cymro. Trwy ymdrechion y Dr. Iorwerth Peate, hanesydd, llenor ac ysgolhaig, sefydlwyd Adran Diwylliant Gwerin yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, a hon yn dilyn patrwm amgueddfeydd Llychlyn [Sgandinafia]. Yno, nid yr amgueddfa yn Oslo neu Bergen yn unig oedd yn bwysig ond hen adeiladau allan yn y wlad hefyd, er enghraifft, yr eglwys ‘stave’, wedi ei hadeiladu o estyll main a thenau o goed, neu’r bwthyn a’i do o briddellau neu dywyrch.
Diffyg yr Amgueddfa Genedlaethol oedd medru cael digon o le i’r Adran Diwylliant Gwerin. Yn ffodus iawn yn 1946, rhoddodd Iarll Plymouth ei gastell Sain Ffagan i’w ddefnyddio fel Amgueddfa Werin, a’r curadur cyntaf oedd y Dr Iorwerth Peate. Dyma adeilad, tir a gerddi addas i ailadeiladu Capel Penrhiw, hen eglwys neu ysgubor, bwthyn gât oddi ar amser Beca, etc. Dyma le i ddenu’r ymwelydd, yr un sy’n astudio Botaneg, Swoleg, a phob agwedd o archaeoleg – olion pobl Oes y Cerrig, eu harfau cerrig, bwyeill, pennau saethau, etc. Wedyn daeth Oes y Pres, yr Haearn ac ymlaen i grefftwyr fel y gof, y turniwr, crefft nyddu a gwau – ac felly datblygiad ar hyd y canrifoedd. Nid pobl o awdurdod, grym a rheolaeth oeddynt yn eu cymdeithas, ond crefftwyr yr oedd cymdeithas yn dibynnu arnynt yn llwyr.
I ddychwelyd at y ‘cynllun’ presennol – y mae yn gyfraniad gwerthfawr i’r dyfodol fel portread o fywyd yn y Dre-fach a’r Felindre. Ardal y ‘gwaith gwlân’ ydoedd yn bennaf, a’i dull o fyw yn unigryw, ei thafodiaith a’i safonau a’i harferion yn wahanol i ardaloedd eraill yng Nghymru – ardal y chwareli llechi, y ‘gweithe’, y pyllau glo [a fu] a’r ardaloedd enwog am eu hamaethyddiaeth.
Mae’n hanfodol bod y presennol yn wybodus am y gorffennol – cofio’r ardal a’i phobl, ei dyled i’w hynafiaid – eu llwyddiant a’u methiant, eu statws israddol a’u tlodi. Ac yn hyn o beth rhaid diolch i’r cyfranwyr am eu ‘cynllun’, er bod ganddynt alwadau eraill yn y gymdeithas.
L. B-J.
Ôl-nodyn
Wrth chwilio yn ofalus am henebion i gyfrannu at y ‘cynllun’, mae’n sicr bod rhai wedi dysgu peidio â llosgi neu daflu i’r ‘cwdyn sbwriel’ beth a allasai fod yn dystiolaeth ddefnyddiol i’r hanesydd a’r hynafiaethydd ‘i gofio’r graig y’u naddwyd ohoni’.