Cwmhiraeth
Glandwr a Dinas Fach. Cwmhiraeth ydy enw'r pentref ar lafar, a daw'r enw o'r comin a leolir i'r dwyrain. Os cerddwch ar y ffordd i Felindre fe sylwch ar y cloddiau syth a'r caeau rheolaidd a ffurfiwyd wrth gau'r comin yn y ganrif ddiwethaf. Yn fwy diweddar fe fedyddiwyd y cwm prydferth yma yn `Cwm yr Adar'. Sylwch ar eich map ac fe welwch fod yr afon a nifer o dai yn dwyn enwau adar.
Ar draws y cwm fe saif Pantyrefail, lle ganwyd Griffith Jones yn 1683, pregethwr enwog a sylfeinydd yr Ysgolion Cylchynol yng Nghymru.
Ewch i'r de ac yna trowch i'r gorllewin ac fe ellwch gerdded ar hyd Lon y Sipsiwn. Sgrifennodd T. Lew Jones, yr awdur enwog, a brodor o'r plwyf nofel, `Tan ar y Comin', sydd yn ymwneud a bywyd y Sipsiwn. Fe addaswyd y nofel yn ffilm ar gyfer y teledu ac yng Nhwmhireth y lleolwyd yr olygfa o losgi carafan y sipsi. Mae rhai o'r bobl leol yn cofio am hen arfer y Romani o losgi carafan y sipsi ar ei farwolaeth. Mai Lon y Sipsiwn yn cwrdd a'r hen hewl ym Mwlchydomen (B 4333).
Yn agos i Fwlchydomen fe welwch `Tomen Seba' neu 'Y Domen Fawr'. Dywed rhai mai hen gladdfa ydy'r Domen, tra bod eraill yn credu mai amddiffynfa i hen Arglwyddiaeth Emlyn a geir yma. Defyddiwyd yr hewlydd a'r llwybrau yn fwy diweddar gan y Porthmyn, ac hefyd, ffermwyr lleol yn cario calch i'r caeau. Fe gynddeiriogwyd llawer gan y tollau uchel a godwyd ar y ffyrdd hyn - ond yn 1843, ar noson oer o Chwefror fe chwalwyd y Tollborth ym Mwlchydomen gan Beca a'i dilynwyr.