Stori Fawr Dre-fach Felindre

Aduniad Bargod Rangers yn 2012 a tharddiad Stori Fawr Dre-fach Felindre

Tua 2010 roedd Stephen Jones ac Eifion Davies yn casglu gwybodaeth i’w rhoi ar wefan Bargod Rangers. Roedd Gwynfor Jones, Llywydd am oes y clwb, wedi dweud i Bargod Rangers gael ei ffurfio yn 1897 ac mai tîm hoci oedd ef yn wreiddiol. Nid oedd tystiolaeth ganddo na gwybodaeth arall ond dyna a glywodd gan aelodau’r clwb yn y gorffennol.

Yn gynnar yn 2011 roedd Peter Hughes Griffiths, Llywydd am oes arall y clwb, yn trefnu digwyddiad i ddathlu Oes Aur y Clwb pan enillodd Gwpan y Gynghrair, Pencampwriaeth y Gynghrair a Chwpan y Bae yn 1957, camp a gyflawnwyd yr eildro yn 1962.

Ddydd Llun y Pasg 2011 tra’n gwylio Gêm Derfynol Cwpan y Gynghrair gwelodd Stephen ddarlun yn y Llew Du yn Aberaeron a gomisiynwyd ar gyfer dathlu’r Mileniwm yn 2000 a ddangosai gwahanol dimau yn hanes y clwb. Taniwyd diddordeb Stephen a theimlodd y dylid gwneud yr un peth yn hanes Bargod Rangers.

Senior Bargod Rangers player meeting a young Bargod Rangers player

Tua’r un adeg gwelwyd hen ffotograph gan Richard Jones, Goetre Uchaf, o dîm hoci gyda’r enw Bargod Rangers arno a amcan gyfrifai iddo gael ei dynnu yn yr 1890au pan oedd Esau Evans, Goetre Uchaf, a oedd yn y ffotograff, tua 25 mlwydd oed. Tueddai hyn i gadarnhau barn Gwynfor i Bargod Rangers gael ei ffurfio yn 1897.

Celebrating the Bargod Rangers Reunion cakeAr 18fed Chwefror 2012, cynhaliwyd aduniad tîm Oes Aur y Clwb pan wahoddwyd cyn-chwaraewyr a ffrindiau’r clwb i ymuno yn y dathlu. Bu’r diwrnod yn llwyddiant mawr a chodwyd cryn swm o arian. Y Llew Coch a Pharc Puw oedd canolbwynt y dathliadau. Cyn y gêm yn erbyn Sêr Dewi cafwyd arddangosfa hanesyddol yn y Llew Coch yn olrhain hanes y Clwb gyda nifer o eitemau a gyflwynwyd gan gyn-chwaraewyr yn cael eu gwerthu yn yr hwyr. Ymysg y rhai a roddodd eitemau i’w gwerthu roedd John Davies, cyn gôl-geidwad Bargod Rangers, ac wedi hynny’n chwaraewr proffesiynol gyda Chaerdydd a Hull City. Cyflwynodd Scott Williams, seren rygbi rhyngwladol Cymru ar hyn o bryd a chyn-chwaraewr Bargod, bêl rygbi wedi ei llofnodi a rhoddodd John Hartson, y cyn-chwaraewr dros Celtic a Chymru ac a oedd â chysylltiad teuluol â’r pentref, grys glas a gwyn gyda bathodynnau Bargod a Celtic arno.

Yn ystod y dydd cyfarfu aelodau hŷn y clwb am ginio yn y Llew Coch cyn y gêm yn erbyn Sêr Dewi, gyda chyn-chwaraewyr eraill a ffrindiau’n ymgynnull ym Mharc Puw. Unodd y ddau dîm ynghyd ag Ieuenctid Bargod i lunio gosgordd er anrhydedd wrth i’r chwaraewyr hŷn fynd i mewn i Barc Puw yn dilyn eu cinio yn y Llew Coch. Yn dilyn y gêm a enillwyd gan Bargod o ddwy gôl i un cynhaliwyd arwerthiant codi arian gyda’r dathlu yn parhau i oriau mân y bore. Roedd e’n ddiwrnod hynod o lwyddiannus gyda mwy na saith mil o bunnoedd yn cael ei godi i goffrau’r clwb a recordiwyd y cyfan ar gamera gan Llyr Hampson Jones.

Yn dilyn y digwyddiad parhaodd Stephen â’i weledigaeth i ddatblygu murlun hanesyddol o’r clwb yn debyg i’r hyn a welodd yn Aberaeron. Yn hydref 2012 cyfarfu Stephen ag Aled Jones o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a oedd wedi copïo adroddiadau gemau o’r Tivyside yn mynd yn ôl i’r 1880au, ynghyd ag erthyglau eraill o ddiddordeb am hanes cymdeithasol yr ardal a’r clwb pêl droed. Cyfrannodd Aled yn fawr iawn at helpu Bargod Rangers i ymchwilio i’w hanes i’w gynnwys yn Stori Fawr Dre-fach Felindre. Roedd cyfeiriad yn yr adroddiadau ar y gemau at y tîm hoci o 1895 to 1899 yn cynnwys Esau Evans, Goetre Uchaf, a rhoddodd yr adroddiad hwn brawf pendant mai tîm hoci a arddelai’r enw Bargod Rangers gyntaf.

Gyda’r wybodaeth newydd yma a’r ffotograff o’r tîm hoci ynghyd â deunyddiau hanesyddol eraill a oedd wedi eu casglu aeth Stephen at Ann Whittall i weld a fyddai diddordeb gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn hanes y clwb trwy drefnu arddangosfa fel rhan o hanes cymdeithasol yr ardal. Dangosodd Ann gryn ddiddordeb ond awgrymodd y dylid ehangu’r gwaith i gynnwys pob agwedd ar hanes cymdeithasol y pentref gan gynnwys y corau, clwb snwcer, bandiau pres, addysg, amaethyddiaeth, archaeoleg a chrefydd.

Gofynnwyd i Meirion Jones, artist adnabyddus lleol i lunio llun o Bargod Rangers gyda’r posibilrwydd o ehangu’r cynnwys gydag agweddau hanesyddol eraill o’r pentref a’r ardal gyfagos. Cytunodd Meirion y byddai’n gallu llunio’r murlun. Gofynnwyd i Nia ap Tegwyn, Menter Gorllewin Sir Gâr am y posibilrwydd o ariannu’r prosiect. Cadarnhaodd Nia y gellid ariannu’r gwaith o gydymffurfio â meini prawf penodol.

Yn ystod gaeaf 2012-13 holwyd nifer o bobl â diddordeb yn hanes y pentref gan gynnwys Dr Leslie Baker Jones a Towy Cole Jones.

Cynyddodd y diddordeb yn y prosiect a siaradodd Stephen ac Eifion â nifer o gymdeithasau gan gynnwys Merched y Wawr a phwyllgor Neuadd y Ddraig Goch i egluro eu bwriad ac i ennyn diddordeb ymysg pobl leol. Bu’r trafodaethau o fudd gyda phob cymdeithas yn cefnogi’r fenter.

Ar 20fed Chwefror 2013 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y prosiect hanes cymdeithasol yn yr Amgueddfa Wlân a ffurfiwyd pwyllgor gyda Stephen yn gadeirydd. Amcanion cam cyntaf y prosiect oedd:
1. Sicrhau arian i wireddu’r prosiect.
2. Casglu a storio’r holl wybodaeth a gasglwyd yn yr Amgueddfa.
3. Comisiynu darlun o hanes cymdeithasol Dre-fach Felindre.

Roedd Dr Leslie Baker Jones yn ddylanwad wrth ddarparu fframwaith ar gyfer casglu gwybodaeth gyda nifer o agweddau allweddol i’w hymchwilio yn ogystal â gosod cyfeiriad ar gyfer datblygu’r prosiect.

Ar 20fed Mawrth 2013 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Ddraig Goch gyda nifer dda’n bresennol. Eglurwyd cefndir y prosiect gan ddefnyddio ffotograff y tîm hoci, adroddiadau cynnar y Tivyside a murlun Aberaeron i ennyn diddordeb.

Ddydd Gwener, 12fed Gorffennaf 2013, cafwydd Noson Caws a Gwin er mwyn egluro’r cynnydd a wnaed a gwahodd cyfrniadau o ffotograffau ac artiffactau gan y cyhoedd. Yn ystod y noson eglurwyd y cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r ffordd y byddai dogfennau a ffotograffau’n cael eu sganio a’u rhoi ar wefan Casgliad y Werin. Byddai wythnos sganio ym mis Medi 2013. Penderfynwyd enwi’r prosiect yn Storii Fawr Dre-fach Felindre ar awgrym Mrs Branwen Davies i bwysleisio natur ddeinamig a chyfoeth hanes y gymuned fechan hon.

Yn dilyn wythnos sganio lwyddiannus canolbwyntiwyd ar ddatblygu’r murlun fyddai’n darlunio agweddau o hanes y pentref a’r ardal gyfagos. Dadorchuddiwyd y darlun terfynol yn Ebrill 2014. Yn ystod y noson ddadorchuddio tynnodd yr artist, Meirion Jones, sylw’r gynulleidfa at yr anhawster i benderfynu ar fan cychwyn oherwydd ehangder y dasg tan iddo agor ebost un dydd a gweld yr hyn a alwodd yn ffotograff eiconig o berson hŷn yn ysgwyd llaw â bachgen ifanc mewn dillad pêl droed. Clywodd yn ddiweddarach mai’r person hwnnw oedd David John Jones, aelod hynaf y clwb pêl droed, yn arwain pobl yr aduniad o’r Llew Coch i Barc Puw ac yn cyflwyno baton Bargod Rangers i genedlaethau’r dyfodol.