Y Parchedig John Harris Jones, M.A., Ph.D 1827 – 1885
Cyhoeddwyd Cofiant Y Parch J. Harris Jones, M.A., Ph.D. ar Dachwedd 13eg 1886 gan Edward Matthews a J Cynddylan Jones. Mae’n lyfr o 377 o dudalennau ac mae copi o’r llyfr gan Peter Hughes Griffith, (awdur y sylwadau hyn yn Ionawr 2023.)
Ganwyd John Harris Jones yn Waunwthan, plwyf Llangeler ar Awst 28ain, 1827, yn fab i John ac Elizabeth Jones, gan symud pan yn ddwy oed i ffermdy Penybanc, sydd i’w weld uwchben Capel Methodistaidd Closygraig ym mhentref Drefelin ger Drefach Felindre.
Bu farw ar Orffennaf 21ain 1885 yn Southport, Glannau Merswy, Lloegr. Fe’i claddwyd, ac mae cof golofn ar ei fedd y tu allan i Gapel Closygraig ac arno’r geiriau : In Memory of the Reverend J Harris Jones, M.A., Ph.D., Late classical tutor at Trevecca College, who died 21st July 1885.
Roedd ei dad John Jones yn ddiacon yng Nghapel Closygraig a daeth ei frawd Henry yn ddiacon yno hefyd. Fe’i hanfonwyd i’r ysgol ddyddiol yn Saron, Llangeler a phan yn ddeuddeg oed i’r Adpar Academy yng Nghastellnewydd Emlyn am flwyddyn ac yna i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a bu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin am bum mlynedd gan ddechrau pregethu pan ond yn 17 oed.
Yn 1849 enillodd ‘Ysgoloriaeth Dr Williams’ ac aeth i Brifysgol Glasgow. Graddiodd yno yn 1852 a dyfarnwyd iddo fedal aur ‘Lord Jeffreys’ am mai ef oedd yr ysgolhaig Groeg gorau y flwyddyn. Wedi hynny bu ym Mhrifysgolion Goetingen yn yr Almaen a Halle yn Prwsia am rhyw dair mlynedd gan raddio‘n Ph.D o Halle.
Dychwelodd i Gymru ac ymsefydlodd yng Nghaerdydd am rhyw bum mlynedd arall a bu’n pregethu yn helaeth cyn ei ordeinio yn 1859. O 1865 hyd at ei farwolaeth bu’n athro’r clasuron yng Ngholeg Trefeca. Bu’n llywydd Cymdeithas y De yn 1879 ac roedd galw mawr arno fel pregethwr. Bu farw ar 21ain Gorffennaf 1885 yn Southport ac fe’i claddwyd o flaen Gapel Closygraig.
Ar dudalennau 299 i 301 yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr ( 1899) ceir mwy o hanes yr ysgolhaig arbennig hwn. Heb os, roedd y Parch J Harris Jones yn un o’r meddylwyr mwyaf galluog a fagwyd yn yr ardal.


