Stori Fawr Dre-fach Felindre

Y Parchedig  JOHN GOMER LEWIS 
1844 – 1914.

Yn ôl golygydd y cylchgrawn Christian Age roedd Gomer Lewis –‘mor boblogaidd fel roedd ei enw yn adnabyddus i bob cartref yng Nghymru.’  Mae hyn yn ddisgrifiad teg o’r gwr a ddaeth, yn y cyfnod hwnnw, yn enwog trwy Gymru gyfan fel pregethwr huawdl a darlithydd apelgar iawn. Pan fu farw, gwelwyd un o’r angladdau mwyaf a welodd Cymru yn Nrefach Felindre pan y llogwyd dau drên i gludo’r galarwyr o Abertawe i orsaf Henllan ar gyfer y cynhebrwng.  Mae llun o ran o’r cynhebrwng hwnnw ar dudalen 29 o’r llyfr Canrif o Luniau – Plwyf Llangeler.

Ganwyd JOHN LEWIS ( a John Lewis oedd ei enw bedydd) ym Mhensarn, Drefach yn 1844, ac yntau ond yn bump oed fe symudodd y teulu i fyw  i Lwynbedw, sydd o dan y ffordd sy’n arwain o bentref Felindre i gyfeiriad Cwmpengraig.  Roedd e’n fab i John ac Elizabeth Lewis.  John Lewis ei dad sefydlodd Ffatri Wlan y Dyffryn yn ymyl Llwynbedw. Fe briododd Elinor Lewis eu mherch, a chwaer y Parchedig John Gomer Lewis, gyda Samuel Williams, Dyffryn Mills Eu merch nhw Anne ddaeth yn wraig i’r Henadur John Lewis, OBE, JP, Meiros Hall, Drefach. [Yn Llwynbedw hefyd y cefais i Peter Hughes Griffiths, awdur y nodiadau hyn, fy ngeni bron ganrif yn ddiweddarach.]

Derbyniodd John Lewis ei addysg yn Ysgol Y Capel Bach, Felindre (ar draws yr afon i’r tŷ a enwir ‘Rhandir’ yn y presennol), ac yna Ysgol Ramadegol Castell Newydd Emlyn. Gadawodd diwygiad 1859 gryn ddylanwad arno ac fe ddechreuodd bregethu yng Nghapel y Bedyddwyr Drefach,  ac roedd y bachgen-bregethwr yn hynod boblogaidd drwy’r holl ardaloedd. Derbyniwyd i Goleg Hwlffordd yn 1864 ac fe gafodd amryw o alwadau pan yn y coleg oherwydd ei boblogrwydd fel pregethwr.

Yn 1867 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar Salem, Capel y Bedyddwyr Maesteg. Denodd aelodaeth fawr i wrando arno yn pregethu, ac aeth y capel yn rhy fach. Adeiladwyd capel newydd yn 1872 i ddal mil o bobl a  “dylifau’r torfeydd o bob cyfeiriad i wrando arno”. Bedyddiodd dros 405 a derbyniodd 100 a mwy o aelodau o gapeli eraill. Bu’n weinidog ym Maesteg am 11 mlynedd cyn derbyn galwad i ‘r Belle View yn Abertawe ac ymsefydlu yno ar Fawrth 1af 1878 gyda dim ond 44 o aelodau. Erbyn Mehefin y flwyddyn honno roedd 250 o aelodau gan gynyddu wedyn i dros 500. Aeth Capel y Belle View yn llawer rhy fach i’r gynulleidfa, ac fe benderfynwyd adeiladu capel newydd sbon yn ymyl a’i alw yn Capel Gomer er cof am olygydd enwog y cylchgrawn ‘Seren Gomer’ -  Joseph Harris. Roedd y capel yn dal mil o bobl.

Ar yr un pryd mabwysiadodd Y Parchedig John Lewis yr enw ‘Gomer’ fel ei enw swyddogol ac adnabuwyd ef o hynny am weddill ei fywyd fel y Parchedig Gomer Lewis.
Cyfeiriwyd ato fel...   “pregethwr bywiog, tanllyd, dylanwadol a doniol – ac ar nos Suliau byddai ugeiniau o bobl yn cael eu troi bant am fod y capel yn orlawn”.
Fe ddaeth yn adnabyddus fel “ffrind y tlawd”,  a bu’n Gadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Abertawe ac ef oedd y Cymro cyntaf i fod ar Bwyllgor Seneddol yn dilyn y National Poor Law Conference.

Cafodd ei ethol yn Gadeirydd Cymanfa Morgannwg gyda 23,000 o aelodau ac yn 1898 fe oedd Cadeirydd Undeb Bedyddwyr Cymru gyfan. Penodwyd ef yn arweinydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ffestiniog hefyd yn yr un flwyddyn.

Yn 1893 ymwelodd ag Unol Daleithiau’r America a ‘Ffair y Byd’ yn Chicago gan fynd ar daith bregethu a darlithio trwy’r wlad. Yna, fe ddaeth Gomer Lewis yn enwog trwy Gymru gyfan am ei ddarlith ar “Ffair y Byd”. Dywedir iddo ei thraddodi dros 500 o weithiau ar hyd a lled Cymru.  Mae’n debyg bod croeso mawr i wrando ar ei ddarlith a’i bregethau.

Mae’n werth dyfynnu allan o ‘Seren Gomer’ 8ed Rhagfyr 1893  am ei daith ddarlithio -
Nos Fawrth Tachwedd 28 – Dinas Pontypridd.
Nos Fercher Tachwedd 29 – Blaengarw.
Nos Iau Tachwedd 30  - Tabernacl, Caerfyrddin.
(“Traddododd y Parch J Gomer Lewis DD – am y 26ain waith – ei ddarlith boblogaidd ar ‘Ffair y Byd’. Yr oedd y capel hardd yn llawn o wrandawyr astud, ac roedd y darlithydd yn ddoniol iawn yn ei araith. Cynigiwyd  diolchgarwch gan y Parch Wyndham Lewis, yr hwn a ddywedodd fod y ddarlith yn cynnwys mwy o synnwyr, humour a sarcasm, na chlywodd ef erioed yn un ddarlith”.
Nos Sadwrn Rhagfyr 2il – Waunarlwydd, Abertawe.

Heb os Gomer Lewis oedd darlithydd enwocaf Cymru. Yn ôl Daniel Jones ar dudalen  245 o’r llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr 1898 – “Mae ei ‘Ffair y Byd’ wedi ei thraddodi dros dri chant o weithiau”.

Bu’n gwasanaethu yng Nghapel Gomer Abertawe am 30 o flynyddoedd ac ar ôl 25 mlynedd yno fe’i anrhegwyd yn hael iawn fel gwerthfawrogiad o’i wasanaeth diflino yn Abertawe.“Anrhegwyd ef gan yr eglwys ag anerchiad hardd a chod o aur yn cynnwys £100, ynghyd a phethau gwerthfawr eraill gan bobl bwysig y dref”. Derbyniodd yr anrhydedd o ddoethor hefyd gan osod D.D. ar ôl ei enw bob amser.
 

Bu’r Dr Gomer Lewis farw yng nghartref ei chwaer yn Frondeg, Cwmhiraeth, Drefach Felindre ar 11eg Gorffennaf, 1914 ac fe’i claddwyd ym mynwent Capel Saron, sydd ar fin y ffordd fawr o Gaerfyrddin i Gastell Newydd Emlyn. Mae cofeb y teulu yn un hardd a nodedig yn y fynwent honno.

Daeth miloedd ynghyd i fod yn rhan o’r cynhebrwng a’r gwasanaeth angladdol yng Nghapel Bethel Drefach – y capel lle y cychwynnodd ar ei daith fel pregethwr a darlithydd enwocaf Cymru. Llogwyd dau drên o Abertawe i Orsaf Henllan i gario’r galarwyr i Drefach Felindre. Mae’r llun sydd ar dudalen 29 o’r llyfr Canrif o Luniau – Plwyf Llangeler  yn dangos yn glir maint y cynhebrwng a oedd yn cynnwys dau geffyl yn tynnu’r hers a’r arch a chwech a mwy o  geffylau dwbl yn cludo’r galarwyr mewn coitsiau. Yn dilyn y gwasanaeth yn y capel rhaid fyddai dringo rhiw serth Pensarn i gyfeiriad Saron gan gludo’r arch a’r galarwyr. Byddai hynny yn ymdrech galed i’r ceffylau.  Mae’n anodd meddwl sut y cafodd y cannoedd a ddaeth ar y trên i Henllan o Abertawe eu bwydo wedi’r angladd. Tybed a oedd lluniaeth ar eu cyfer?  Heb os nac oni bai roedd y Parchedig John ‘Gomer’ Lewis yn un o’r bobl amlycaf a fagwyd yn ardal Drefach Felindre ac yn un o fawrion ei gyfnod yng Nghymru.

Bedd Dr Gomer Lewis

Dyma cof golofn y Dr Gomer Lewis ym mynwent Capel Saron, Llandysul.

Bedd Dr Lewis
Angladd Y Parchedig John Gomer Lewis
Llun o’r cynhebrwng o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’ Cyhoeddwyd ym Mehefin 2000. 

 

Peter Hughes Griffiths.  Medi 2021