Y Ddau Frawd -
Charles Raymond Renowden 1923 – 2000 a Glyndwr Rhys (Glyn) Renowden 1929 – 2002
(Casglwyd y wybodaeth gan Peter Hughes Griffiths – Mawrth 2021)
Yn y flwyddyn 1929 fe ddaeth Y Parchedig CHARLES RENOWDEN (1892 – 1964) yn Ficer ar Eglwysi Penboyr a Sant Barnabas. Fe symudodd y teulu i fyw i’r Rheithordy, y tŷ braf ym mhen ucha’r pentref ar y ffordd i Gwmpengraig. Yn ôl un o’r meibion roedd Charles Renowden yn dal yn gryf at y traddodiadau eglwysig, ac yn gwisgo ei ‘het gron offeiriadol’ bob amser am ei ben a’i ‘frock coat’ ddu amdano bob Sul. Roedd Raymond Renowden yn chwech oed pan symudodd y teulu o Drealaw yn y Rhondda i Felindre, ac ar y 13eg o Awst 1929 y ganwyd ei frawd Glyn Renowden. Mae’n amlwg i’r ddau gael eu haddysg fore yn Ysgol yr Eglwys Penboyr yn y pentref. Bu Charles Renowden, y tad, yn Offeiriad ar Eglwysi Penboyr a Sant Barnabas tan 1940 pan y symudodd i Dafen, Llanelli ac yn offeiriad ar Eglwysi Sant Michael a Hall Street, Llanelli. Bu Charles Renowden farw yn sydyn yn y pulpud tra’n traddodi pregeth yn Llambedr Pont Steffan yn 1964 ac fe’i claddwyd yn y dref honno.
Fe gafodd y ddau fachgen yrfa offeiriadol lwyddiannus iawn a bu eu magwraeth yn ardal Drefach Felindre yn sail gadarn i weddill eu bywydau.
Llun o Gor Eglwys Sant Barnabas gyda’r Rheithor Charles Renowden yn eistedd yn y canol a’i fab Raymond Renowden yn eistedd yn y rhes flaen.

Y Gwir Barchedig Charles Raymond Renowden (1923 – 2000) Deon Llanelwy 1971 – 1992.
Ganwyd Raymond Renowden yn Nhrealaw yn y Rhondda yn 1923 pan oedd ei dad yn ficer yno. Ar ôl i’r teulu symud i Felindre addysgwyd yn Ysgol Gynradd Penboyr ac Ysgol Ramadeg Llandysul cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan gan ennill Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Diwinyddiaeth. Yna, i Goleg Selwyn a Choleg Ridley yng Nghaergrawnt. Ymunodd gyda’r ‘Home Guard’ cyn mynd ymlaen i ymuno gyda’r fyddin a gwasanaethu yn yr ‘Intelligence Corps’ a mynd i India a Siapan 1944-47. Daeth yn rhugl mewn Japanaeg ac fe gafodd y cyfrifoldeb o ofalu a thywys yr Ymerawdwr Hirohito i weld adfeilion Hiroshima ar ôl gollwng y bom atomig ar y ddinas honno. Dioddefodd o belydrau radioactif yn dilyn hyn a gorfod iddo gael llawdriniaeth ymhellach ymlaen yn ei fywyd oherwydd yr effeithiau hynny.
Fe’i derbyniwyd i’r offeiriadaeth yn 1952 a bu’n gurad yn Hubberston, Sir Benfro cyn dod nol i Goleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1955 yn ddarlithydd mewn Athroniaeth, a dod yn Bennaeth yr Adran yn 1957 ac yn Uwch Ddarlithydd a Phennaeth yr Adran Ddiwynyddiaeth ac Athroniaeth yno tan 1971. Roedd ei wraig Ruth Cecil Mary Renowden yn ddarlithydd rhan amser Mathemateg yn y coleg hefyd. Ar ôl 16 mlynedd yn Llambed fe’i hapwyntiwyd yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn 1971 a bu yno tan ei ymddeoliad yn 1992. Bu’r Gwir Barchedig Raymond Renowden farw yn 76 oed yn y flwyddyn 2000.
Fel y gwelir yn y darn isod allan o 'Who’s Who' cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau a phapurau yn ymwneud a Christnogaeth a Diwynyddiaeth. Roedd ganddo hoffter at gerddoriaeth, garddio ac ornitholeg.
.jpg)

Yr Hybarch Glyndwr Rhys (Glyn) Renowden, CB, BA, 1929 – 2002.
Ganwyd yn Nhrealaw yn y Rhondda yn 1929 ychydig cyn i’w dad Charles Renowden symud i fod yn ficer ar Eglwysi Penboyr a Sant Barnabas, Felindre. Bu Charles Reowden yn ficer yno nes symud i Dafen Llanelli yn 1940. Cafodd Glyn ei addysg gynnar felly yn Ysgol Eglwysig Penboyr ym mhentref Felindre, ond ei addysg uwch yn Ysgol Ramadeg Llanelli. Fel ei dad a’i frawd o’i flaen fe aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan gan ennill Gradd yn y Gymraeg a’i ordeinio yn 1953.
Wedyn bu am gyfnod yn giwrad yn Eglwysi y Santes Fair, Dinbych y Pysgod ac yna Casgwent. Priododd gyda Mary Kinsey Jones yn 1956 cyn ymuno gyda Gwasanaeth Caplaniaeth yr RAF yn 1958, a bu’n gwasanaethu am 30 mlynedd. Daeth yn Gaplan Anrhydeddus i’r Frenhines (1980) ac yn Brif Gaplan y Gwasanaeth (1983). Fe wnaeth ymddeol o’r Gwasanaeth yn 1988 a chymryd gofal offeiriadol Eglwysi Llanfallteg a Chlunderwen a Chastell Dwyran. Bu farw Glyn Renowden yn 2002 yn 73 oed.