William Davies (WIL PENLON) 1901 – 1982
Llawer blwyddyn yn ôl fe gyflwynodd y diweddar Miss Velia Davies lyfr ‘copybook’ i mi o eiddo ei diweddar ewythr William Davies (Wil Penlon). Yn ei ysgrifen ei hun mae Wil Penlon wedi rhoi darlun i ni o’i fywyd
cerddorol pan yn blentyn ac yn wr ifanc, yna ei gyfnod yn Llundain ac yn teithio Prydain fel canwr proffesynnol, cyn dychwelyd wedyn i Milford House, Alltpenrhiw, Felindre.
(Ysgrifennais ei hanes yn llawn yn y papur bro ‘Y Garthen’ Rhifynnau Rhagfyr 1993, Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai a Mehefin 1994).
Ganwyd a magwyd William Davies yn y bwthyn bach Penlon Gilfach, Saron, Llangeler, a’r tro cyntaf iddo gystadlu oedd yn Eisteddfod y Pasg Drefach pan yn dair ar ddeg oed. Pan yn bymtheg oed cafodd ei ddewis i ganu fel ‘The Rising Bariton’ mewn ‘Organ Recital’ yng Nghapel Drefach wrth agor y ‘pipe organ’ newydd.
Mae’n talu teyrnged uchel i DR Lewis Saron ac yn arbennig i Albert Evans am ei hyfforddi. Erbyn iddo gyrraedd deunaw oed roedd e’n canu’n gyson mewn cyngherddau ar hyd a lled y wlad gyda Dan Jones Mus.Bac. yn ei hyfforddi erbyn hynny. Yn 1923 enillodd yn Eisteddfod Fawr Cydweli yn y castell gyda 26 yn cystadlu.
Mewn eisteddfod leol roedd J T Rees Mus. Bac. o Goleg y Brifysgol Aberystwyth yn beirniadu gan roi’r wobr gyntaf iddo. O ganlyniad fe gafodd wahoddiad i ddod i gyfweliad gan Sir Walford Davies Pennaeth Cerdd y Coleg. Roedd yntau wedi synnu o glywed ei lais a dywedodd
‘ The Young Man that sang to me today has a marvellous voice, and should he decide to enter College, I shall only be too pleased to grant him a scholarship which will be free for 3 years.”
Felly, fe gychwynnodd ar ei yrfa yn y coleg yn gynnar yn Nhachwedd 1923.
Yna, ar ôl canu mewn rhai o gyngherddau’r coleg cafodd ei ddewis yn ‘Ganwr y Coleg’ – ‘Official College Singer’. Bu’n cymryd rhan gyda’r BBC yng Nghaerdydd ac Abertawe a gyda’r cyntaf o’r gorllewin i ganu ar y diwyfr (radio).
Wedi mynd i Lundain fe gymerodd ran mewn cyngherddau a chanu gyda David Ellis. Cymerodd ran yn y ‘Sunday League Concerts’ yn y Paledium ac yn yr ‘Adeilaide Galleries’. Mae adroddiad fel hyn yn y Carmarthen Journal February 17, 1928, ac yntau yn 27 oed erbyn hynny –
‘ During the past weeks a singer from Shir Gar has been delighting London audiencies at the Theatre Royal with his exceptional bass voice .... he has now been signed up to sing at the Tivoli, one of the most magnificent picture houses in the kingdom...’ ac fe geir llawer mwy o’i hanes a’i lwyddiant.
Ymunodd wedyn a chwmni y ‘Desert Song’ gan fynd ar daith i fannau fel Bournmouth, Isle of Man, Dublin, Llandudno, Belfast a Cork, Abertawe a Chaerdydd.
Ymunodd wedyn a’r ‘Student Prince’, ac yna gyda’r ‘White Horse Inn’, a ‘Casanova’ yn yn Coliseum, ac yn y Tivoli yn y Strand bu’n canu’r Prologue i’r ffilm ‘Student Prince’.
Y sioe fwyaf y bu ef ynddi oedd y ‘Miracle’ yn y Lyceum. Dim ond 80 o gantorion ac actorion oedd ei angen a dros 5,000 wedi cynnig, ac fe gafodd Wil Penlon ei ddewis.
Heb os roedd William Davies wedi cyrraedd yr uchelfannau cerddorol ac wedi ymuno gyda’r goreuon o’r cantorion a theithio i bob cwr o Brydain. Yn y cyfnod hwnnw fe fuodd e’n byw yn Whinney Hill, Durham City ac yno yr ysgrifennodd e am ei fywyd o dan y teitl ‘Amser i’w gofio’ yn y ‘copy book’ sydd gen i, ac yn ei lawysgrifen ei hunan.
Ond, fe dorrodd ei iechyd gyda’r holl deithio a phwysau gwaith a nol y daeth e yn ei eiriau ei hun –“i’r wlad i fwthyn fy nhad a mam i gael fy iechyd yn ôl. Hyfryd oedd gweld Singrug draw a mynydd Moelfre a rhos Mwdland... a lle hefyd y gallwn glywed y Gymraeg unwaith eto...”
Roedd hi yn amlwg fod hiraeth mawr ar Wil Penlon am Gymru tra yn teithio Lloegr, ac mae’n adrodd pa mor anhapus oedd Evan ei dad ei fab wedi dilyn gyrfa ansicr y canu. Dywedodd ei dad wrtho y byddai’n well ganddo werthu buwch er mwyn talu iddo fynd yn offeiriad.
Mae’n son hefyd am ei annwyl wraig Nova gan ei bod hithau hefyd yn hoff o wir gerddoriaeth ac yn bianydd penigamp.
Ar ôl dod nol i’w hen fro fe ddaliodd ati i gymryd rhan mewn cyngherddau a beirniadu mewn eisteddfodau. Fe gafodd bleser dihafal mewn arwain cymanfaoedd canu ac fe fuodd e’n arweinydd y gan am flynyddoedd yn ei eglwys leol gan ei fod wedi cael digon arni i ganu’n broffesynnol – “Roedd galwad y wlad yn rhy gryf i fi fentro nol i’r ‘stage’ fyth rhagor,” oedd ei eiriau.
Medde fe wedyn –
“Wedi blwyddyn neu ddwy yn y wlad a symud i dy ein hunain ( Milford House, Alltpenrhiw, Felindre mae’n debyg!), fe fues i’n ffodus i gael fy newis fel Athro Cerddoriaeth gan Fwrdd Cerddrol Cymru (National Council of Music for Wales).”
Golygodd hyn ei fod yn cynnal dosbarthiadau allanol wythnosol mewn tri gwahanol le. Roedd Wil Penlon wrth ei fodd nol yn ardal Drefach Felindre.
Aeth Wil Penlon ati wedyn i drefnu a pherfformio Operetas a Phantomeimiau yn lleol. Mae llun hyfryd o aelodau’r opereta ‘Pride of the Regiment’ yn Ebrill 1937 yn Ysgol Brynsaron gyda Wil Penlon yn cynhyrchu. Fe yw’r cyntaf sy’n sefyll ar y chwith yn y rhes ganol gyda’i wraig yn eistedd yn syth o’i flaen.
Yn ystod y pedwardegau rwyf fi’n bersonol yn cofio’r operetas a’r pantomeimiau yn yr hen Neuadd y Ddraig Goch, Felindre, a’r holl bobl leol yn cymryd rhan, a’r mwyafrif yn bobl ifanc. Gyda help llawer un arall – Wil Penlon a’i wraig oedd yn bennaf gyfrifol am eu trefnu a’u llwyfannu am sawl noson yr wythnos. I brofi hyn mae digon o luniau o’r cast ar lwyfan Neuadd y Ddraig Goch – fel Cinderella a San Marrino, ac ar dudalen 71 o’r llyfr Canrif o Luniau mae llun ardderchog o gast y pantomeim Mother Goose ar ddechrau’r 1950’au. Mae llun gen i hefyd o Stuart Rees a fi fel Goblin ac Elf, a finne yn naw oed ar y pryd yn un o’r pantomeimiau hynny.
Dyddiau da yn hanes Drefach Felindre oedd y dyddiau rheini gyda Wil Penlon yn ein hyfforddi.
Ond yn ogystal a chynnal perfformiadau ysgafn ei naws cerddorol yn yr Operetas fe aeth Wil Penlon ati hefyd i ffurfio The Tivyside Master Singers. (Llun ar dudalen 65 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’.) Fe ddaeth y parti hwn yn enwog iawn am ei ganu safonol gyda William Jones (Wil Velidre View, Alltpenrhiw) yn adrodd ac yn cyflwyno’r noson. Roedd hwn yn barti arbennig iawn gyda phob un yn gwisgo siwt ddu a tei bow.
Ar ddiwedd y ‘copy book’ mae William Davies wedi gosod trefn ei fywyd yn ôl y blynyddoedd fel hyn: (er yn anodd eu dehongli’n glir!)
Nawr – Whinney Hill, Durham City
1927 – 1937 Llundain
Gynt o Milford House, Velindre 1938 – 1966 a
Penlon Gilfach, Saron, Llangeler 1912 – 1938
Bu William Davies (Wil Penlon) farw yn 81 oed ar Chwefror 3ydd 1982.
Claddwyd ym mynwent Capel Saron gyda’i wraig a’i mhâm hithau.
Heb os dyma un o’r cantorion ac un o’r cerddorion gorau a ddaeth o’r ardaloedd hyn, a’r unig ganwr proffesynnol, a bu ei gyfraniad, yn y cyfnod hwnnw yn un pwysig iawn.
Diolch am gael nodi hynny.
Mae mwy o hanes a lluniau ar wefan Casgliad y Werin.