SGWRS am DANIEL JENKINS (1866 – 1917)
gan Peter Hughes Griffiths
Y rheswm pennaf mae’n debyg pam y gallwn nodi enw DANIEL JENKINS fel person pwysig yn hanes cerddorol Drefach Felindre yw’r ffaith mai fe oedd arweinydd COR MEIBION BARGOD TEIFI pan enillon nhw y brif gystadleuaeth i Gorau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911. Ond, roedd ei gyfraniad i gerddoriaeth y bröydd hyn yn llawer mwy na dim ond arwain y cor hwnnw, fel y cawn weld, ac mae gen i lungopïau o adroddiadau a ymddangosodd yn y Carmarthen Journal 11eg Awst 1911 sef ‘Hanes Mr D Jenkins a Buddugoliaeth Cor Meibion Bargoed Teifi’. Hefyd, dau adroddiad yn dilyn ei farwolaeth – ‘Y Diweddar Mr Daniel Jenkins, Ysgolfeistr, Felindre (gan John y Gwas.)’ ac yna teyrnged yn Saesneg iddo o dan y golofn ‘Velindre’. Mae darllen y cynnwys yn rhoi darlun clir i ni o fawredd y gwr arbennig hwn.

Llun: Mr Jenkins, Prifathro a'r athrawon tu allan i Dy'r Ysgol.
Fe ddaeth Daniel Jenkins yn brifathro ar Ysgol Genedlaethol, Felindre yn 1892.
Roedd e’n frodor o Gilybebyll ger Pontardawe ac fe gafodd ei hyfforddiant yn ‘Carmarthen Training College’ (Coleg y Drindod). Yna fe fu yn athro yn Llywel, ger Trcastell yn Sir Frycheinog, cyn dod yn brifathro ar Ysgol Penboyr a oedd y pryd hwnnw gyda’r mwyaf yng Ngorllewin Caerfyrddin. Nodir ar ddydd ei angladd fod 300 o blant yno.
Roedd e’n ŵr poblogaidd iawn yn lleol ac wedi cyflawni cymaint ym myd cerddoriaeth. Yn ôl un dyfyniad a ysgrifennwyd yn 1911 -
“Pan ddaeth ef i Drefach Felindre nid oedd bron yr un piano yn yr ardal, ond ar ôl ugain mlynedd, ac yntau wedi hyfforddi cymaint o ddisgyblion i ganu’r piano, bellach mae “pianoforte playing” yn gyffredin iawn yn yr ardal.”
Rhaid cofio bod gweld piano mewn tai yn ardal Drefach Felindre erbyn y pedwar a’r pumdegau yn beth cyffredin iawn a bod y traddodiad o wersi piano i bob plentyn yn beth poblogaidd. Cofiwn am Margaret Evans, Danwarin, (Mrs Brynmor Williams wedyn), Bronwen Jones, Bangor House, Mrs Griffiths Pensarn a Dolwerdd, Mrs J R Jones Trecoed, ac eraill. Dylanwad cerddorol Daniel Jenkins ar y plant a’r bobl ifainc a olygodd fod cymaint o bianos mewn cymaint o gartrefi yn y fro.
Roedd galw mawr ar wasanaeth Mr Daniel Jenkins i gyfeilio mewn eisteddfodau, ond nid yn unig hynny, fe oedd yn dysgu pobl ifanc i ganu a’u hyfforddi a cheir clod mawr iddo am hynny.
Fe oedd yr organydd a’r Cor Feistr yn Eglwysi Sant Barnabas a Phenboyr ac arweinydd y corau eglwysig mewn Gŵyl Ddwyflynyddol yng Nghastell Newydd Emlyn. Roedd e’n dysgu ac yn arwain Cor Sant Barnabas i gyflwyno Oritorios o waith Handel, Haydn a Mendelson. Yn dilyn ei ymdrechion fe gafwyd yr ‘organ bib’ gyntaf i’r eglwys. Fe ddilynodd y capeli hyn maes o law.
Heb os, a’r ffatrïoedd gwlân yn eu hanterth yn yr ardal, datblygodd Daniel Jenkins y bwrlwm cerddorol ymhlith ei bobl, yr ifanc a phlant yr ysgol. Cawn adroddiadau am blant yr ysgol yn perfformio Oparetas a darnau cerddorol.
Yn y Carmarthen Journal 21 Mehefin 1907 – “School Concert was a performance of the opera ‘Snow White and the 7 Dwarfs” Mae’n cynnwys enwau’r plant – Tom Morgan oedd un o’r ‘dwarfs’. Hefyd bu yn gyd-olygydd ‘Telyn y Perl’ at arfer plant ieuanc yr Eglwys.
Sefydlodd Gwmni Drama Felindre ac mae adroddiad (C.J. 24 Mai 1911) ohonyn nhw yn actio ‘Twm Sion Cati’ yn Neuadd Henllan. Actorion: Tom Young, JR Davies a Tom Morgan fel Twm Sion Cati’n fachgen.
Yn ei lyfr ‘Yn Fore i Felindre’ gan Tom Davies, Treale (Gwasg Gomer 1966), ar dudalennau 36 i 39, cawn ddisgrifiad o Daniel Jenkins fel athro a phrifathro pan oedd e yn ddisgybl yn Ysgol Penboyr. Fe wna i ddyfynnu ambell frawddeg -
“Er mai Cymro pur oedd y Meistr, ni roddai lawer o bwys ar ddysgu Cymraeg yn yr ysgol ... ond bernais ei fod yn medru ysgrifennu Cymraeg yn rhwydd a glan... Caem wersi canu yn gyson a hyfforddid ni i redeg y solffa ac i ganu caneuon mewn dau lais... Ni esgeulusodd ddysgu caneuon Cymraeg i ni...
Yr oedd yn arddwr medrus a chymerwyd darn o’r cae chwarae i wneud gardd i blant yr ysgol. Nid oedd gwell cerddor yn y cymdogaethau. Roedd e’n ddisgyblwr cadarn a llym.”
COR MEIBION BARGOD TEIFI
Mae holl hanes sefydlu a llwyddiant Cor Meibion Bargod Teifi wedi ei gofnodi gen i ar wefan “Stori Fawr Drefach Felindre,” ac fe ddilynodd Daniel Jenkins Tom Luke, Henllan fel arweinydd yn 1909 ar ôl cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen 1908 a dod yn ail i Fanceinion; ac yna Llundain 1909 - ond heb fawr o lwyddiant yno.
Mae gen i ddarlith lawn a 40 o hen luniau ar Hanes Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 ac ar y dydd Gwener olaf roedd Cystadleuaeth Y CORAU MEIBION ac ‘Yn Agored i’r Byd’. Rhwng 60 ac 80 o leisiau, a’r cystadlu’n dechrau am 2.30 y prynhawn. Roedd y pencampwyr i gyd yno – Swansea and District, Barry Male Voice, Neath, Morriston a mwy.
A’r Cor buddugol – Cor Meibion Bargod Teifi – a dyma ddywed y Carmarthen Journal –
“For composer Professor David Jenkins, one of the adjudicators - who had to leave the platfform caried away by his emotions –as he had never thought when he composed the piece “Gosteg Deg” that it contained such good music. The adjudicators thought that it was an electriacal rendering by the Teifi Valley boys.” Roedd eu datganiad ‘yn wefreiddiol’ yn ôl y beirniad arall y Dr Daniel Prothero. “Yr oedd taranau o gymeradwyaeth yn crynu’r babell ar ôl y feirniadaeth.”
Ac arweiniwyd y cor gan Mr Daniel Jenkins, Prifathro’r Ysgol Gynradd leol.
Bu’r dathlu’n fawr a’r adroddiad yn y Carmarthen Journal yn fanwl tu hwnt –
e.e. Torfeydd anferth yn disgwyl yn trên yng Ngorsaf Henllan nos Wener.
“The Rechebite Brass Band struck up – “See the conquering hero comes...
“The conductor was caried shoulder high and placed in a waggonette..
Every window had a light shinning... Huge fire torches ...
It was well into the morning before the lights went out...”
Areithiau yn Sgwâr y Gat gan wahanol bobl gan gynnwys John Jones, Velindre View yng Ngorsaf Henllan.
Mae’n werth darllen y Carmarthen Journal 18ed Awst 2019 gan fod yr ail dudalen i gyd bron yn son am lwyddiant y cor yn Gymraeg gyda llun o Daniel Jenkins yr arweinydd.
Heb os, hon oedd awr fawr ei fywyd.
Fe wnaeth barhau gyda’i gyfraniad cerddorol yn yr ardal nes yn sydyn bu farw o niwmonia ar ddydd Gwener Medi’r 6ed 1917 yn 51 oed. Mae’r adroddiad am ei angladd yn rhyfeddol ac fe nodaf rhai cyfeiriadau:
“It was an impressive sight on the day of the funeral, to see his little pupils, numbering about 300, lined up on the school grounds waiting for the body of their beloved master to be bourne out of his last resting place to the churchyard nearby”. Hynny yw o’r ‘School House’ i Eglwys Sant Barnabas.
“Before leaving the grounds (Ysgol Penboyr), the well known hymn ‘Mae nghyfeillion adre’n myned’ was sung.
The service was intruduced by the hymn ‘Ar for tymhestlog teithio’r wyf’ this being the favourite hymn of the deceased. The Bargod Teifi Party sang ‘Y Delyn Aur’ most impressively, the vast audience being moved by the sculful spirit of the singers. At the graveside the little children (conducted by Mr Michael Davies, Drefach) sweetly sung ‘The Christians Goodnight’ which was followed by the vast congregation singing ‘Ar ôl gofidiau’r ddyrys daith’.
Roedd yna dorf fawr yn yr angladd a pherthnasau o Bontardawe a gweinidogion a ffeiradon o ardal eang.
COF GOLOFN
Fe osodwyd Cofeb arbennig ar ei fedd ac mae hi i’w gweld yn glir ychydig lathenni ar y dde cyn cyrraedd porth Eglwys Sant Barnabas. Gosodwyd y gofeb hon gan aelodau Cor Meibion Bargod Teifi ac yno hefyd mae ei wraig Margaretta Jenkins wedi ei chladdu a’i ddwy chwaer Elizabeth Jenkins yn 1951 yn 79 oed a Margaret Jenkins yn 1954 yn 90 oed – Miss Jenkins Fawr a Miss Jenkins Fach, Cartref, Felindre. Bu’r ddwy yn athrawon hefyd yn Ysgol Penboyr.
Mae gen i gof plentyn o’r ddwy Miss Jenkins yn byw yn ‘Cartref’ (dau dy yn uwch i fyny na thafarn ‘John y Gwas’) ac fe roedden ni fel plant yn arfer adrodd rhigwm go ddoniol am y ddwy!
Ar y gofgolofn mae’r geiriau :
“This monument was erected by the members of the Bargoed Teifi Party in loving Memory of the choir’s friend and conductor. Peace and still.
Mae’n gwbl glir yn ôl yr holl adroddiadau bod y 25 mlynedd a dreuliodd Daniel Jenkins yn Nrefach Felindre – yn ôl John y Gwas - “Iddo fod yn enaid cerddoriaeth yr holl ardal.”
Heb os, gwr arbennig iawn oedd Daniel Jenkins yn holl hanes cerddorol Drefach Felindre.