skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Y Parchedig Samuel Ishbeyre Davies D.D.  

Casglwyd gan Peter Hughes Griffiths Hydref 2022

Mae cynnwys y rhan fwyaf o hanes y Parchedig Samuel Ishbeyre Davies yn eiddo i Mr W Arvon  Roberts, Pwllheli, sydd wedi casglu gwybodaeth ac wedi cyhoeddi llyfrau yn dilyn hynt a helynt pobl o Gymru a ymfudodd i’r America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gweinidog blaenllaw gyda’r Annibynwyr yn America oedd Samuel I Davies ac yn fab i John (g. 1834), ffermwr 6 acer, ac Anne Davies (g. 1825). Ganwyd ar  13 Gorffennaf 1869 a bu farw ar Ebrill 29ain 1942 yn 72 oed. Un o Gynwyl Elfed oedd ei dad, a’i fam o Benboyr. Yn chwe mlwydd oed yr oedd Samuel yn byw gyda’i rieni a’i frawd Benjamin, deuddeg oed a’i chwaer Mary naw oed yn PANTYGRUG PENBOYR.  Yr oedd Samuel I Davies yn gweini  ar fferm BLAENMEINOG yn ymyl Pantygrug yn 17 oed.

Erbyn cyfrifiad 1901 yr oedd John Davies ei dad yn ŵr gweddw ac yn byw yn PENLLWYNCOCH FAWR gyda’i blant - sef Mary yn 40 oed, Dinah yn 35 oed, Daniel yn 26 oed, James yn 21 oed a Benjamin yn 19 oed, ac yn ôl y cyfrifiad hwnnw roedd y plant wedi eu geni ym Mhlwyf Cenarth.

Capel yr Annibynwyr yn Soar Penboyr yng Nghwmpengraig oedd cartref ysbrydol y teulu ac yno yn 1885 y dechreuodd Samuel I Davies bregethu ac roedd ei dad John Davies yn flaenor yn y capel.  Yna, treuliodd bedair blynedd yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin cyn iddo ymfudo i’r Unol Daleithiau  America tua 1890.

Enillodd radd B.A., B.D., a Ph.D., ym Mhrifysgol Yale. Cafodd ei ordeinio wedyn yn weinidog yn Le Raysville, Sir Bradford, Pennsylvania.                                                                                      
(Gweler mwy amdano yn y nodiadau Saesneg sy’n dilyn).

Lyrics of the FieldsCyhoeddodd nifer o lyfrau yn cynnwys barddoniaeth o’i waith yn yr iaith Saesneg ac yn Gymraeg ac yn eu plith y canlynol:                                                                                                                                                 
“Lyrics of The Fields” yn 1909 a hefyd “Biographical Sketches of Nine Deacons” a “The Old Parish” neu “Yr Hen Blwyf” – sef hanes ei hen blwyf Penboyr mewn barddoniaeth pan oedd yn blentyn.

Bu farw Ebrill 29ain  1942 yn 72 mlwydd oed yn Ysbyty Packer, Sayre, Sir Bradford, Pennsylvania a’i gladdu ym mynwent Neath, Sir Bradford, Pennsylvania.


Yn y llyfr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (1899) gan Daniel Jones, ac ar dudalen 216 o dan Hanes Capel Soar, Penboyr ceir y manylion hyn:

“Samuel Davies, M.A., Ph.D., gweinidog yn Le Raysville, Bradford County, Pennsylvanie, mab John Davies, Pantycrug. Addysgwyd yn Ysgolion Gramadegol Emlyn a Pharcyfelfed. Derbyniwyd i Goleg Henaduriaethol Caerfyrddin 1886. Enillodd ysgoloriaeth yno am ei wybodaeth o’r Hebraeg. Ymfudodd i America yn Medi 1890. Ar ôl dwy flynedd ym Mhrifysgol Yale, graddiodd yn B.D., ac ordeiniwyd yn weinidog yn eglwys Le Raysville. Wedi ei ymsefydliad mae wedi derbyn ei raddau M.A., a Ph.D.”                                                                        
(Rhaid cofio mai gwr ifanc tua 30 oed oedd Samuel Davies yn America pan ysgrifennwyd y manylion hyn amdano yn 1899)
 
1941/42 Obituary Records of Graduates of Yale University.                                                                      
Samuel Ishbeyre Davies, B.D., (1893)     Born July 4th 1866 (sylwer bod hyn yn wahanol i’r manylion ar ei Dystysgrif Marwolaeth) in Cardiganshire, South Wales. Died April 29th 1942 in Sayre, Pennsylvania.


The Presbyterian College Carmarthen, Wales 1890, attended Yale University School 1890 – 93, (B.D., in 1893) and ordained in Congregational Church Le Raysville, Pensylvania in 1893 and minister there 1893-97. Started Presbytarian Church Apalchin, New York 1889-1901; minister Bethel Congregational Church Nanticoke, Pensylvania 1902-12 and Lima Ohio 1912-1916, stated supply Presbutarian Church Nanticoke 1917-20.   1925-26 Federal Church West Salem Wis. 1921-23 Firs Presb. Church Kanmare, N Dk.  1924-25 and Monroeron and Powell, Pensylvania.  1929 until his retirement resided in Le Raysville 1930-42.  Author ‘Biographical Sketches of Nine Deacons’, ‘The Old Parish’, ‘Lyrics of the Fields’ (1909) and other volumes.                                                                                                                                                    
Unmarried.  Death due to arteriosclerotic cardvascular disease.
Buried in North Cemetry, Bradford County, Pensylvania.
Survived by no immediate relatives.

(Mae’n werth nodi nad oedd unrhyw berthnasau agos ganddo pan fu farw ymhell o ardal Penboyr, Drefach Felindre yn Sir Gaerfyrddin lle cafodd ei eni a’i fagu.)
 

Dyma enghraifft o’r hyn a ysgrifennwyd amdano:

 

A PENBOYR POET  

(By Rev. Benjamin James, B.A.,  B.D.,  Arnot, Pensylvania.)

I have been searching for a few years for a model Welsh poet, a poet for Young Wales to emulate, and have found him in the person of a school mate of mine. I am very much surprised, for I did not know that he was a poet, but am delighted at the discovery. 

To his fellow students in college days, he was known as S.I. but at the present time he is the pastor of the Bethel Welsh Congregational Church of Nanticoke, Pa. and is known as Rev. Samuel Ishbeyre Davies.

He has just published a book of Welsh poems, the title being ‘Yr Hen Blwyf’ (‘The Old Parish’). Welsh poets as a rule, wander too much, and their poetry is too abstract, they also think that their mission is to compose for prizes. There are many prize poems in Welsh that are of no value. But Rev. S.I. Davies is a true poet.

He lives near nature’s heart.... but his poems deal with the beauties, the customs, the occupations of his native parish – Penboyr, Carmarthenshire.

In many respects he resembles the immortal Dafydd ap Gwilym. Perhaps this is not strange when we realise that his birthplace is in the neighbourhood of Cryngae, where at one time  Dafydd ap Gwilym made it his home. I am inclined to call the subject of my article Dafydd ap Gwilym No.2.

And what is remarkable about this poet is that it is only in the last few years he has made a study of Welsh, and has been entirely outside of Welsh influence, having been since his ordination in the American ministry. A great many things I had forgotten about Wales have come back to me while reading ‘Yr Hen Blwyf’. It is an interesting and inspiring book.

We hail thee our model poet, we greet thee, and we love thee. We wish you the long life to inspire and gladden us with more of the delightful poems.
 

ISHBEYRE   -  Dyma enw anghyffredin, ac mae T Arvon Roberts, Pwllheli yn nodi nad yw wedi dod ar draws yr enw hyn o’r blaen – ond dyna ei enw – Samuel Ishbeyre Davies, ac mae ar ei glawr ‘Lyrics of the Fields’. Yn ôl T Arvon Roberts meddyliodd mai enw Beiblaidd ydoedd. Y mae enw ISHBAH yn Llyfr 1 Cronicl 4: adnod 17, sef v tylwyth y perthynai yr Eshtemoaid.
A’i ystyr yn yr iaith Roegaidd yw mab Jether.  Tybed a’i arall eiriad ohono yw ISHBEYRE?

The Time Leader 2 Nov 1908
The Time Leader 2 Nov 1908