CAWR CYMUNED
gan John Dyfrig Davies
Beth yw'r diffiniad o "Gawr Cymuned?" Tybed? Ai unigolyn sydd bob amser yn datgan ac yn diffinio'n glir a diamwys lle mae ei gymuned, yn cydnabod ei gymuned, yn ennyn parch ei gymuned a hynny mewn llawer dull a modd. Beth bynnag fo'r cyhoeddusrwydd a'r clod ddaw i'w ran ni wna byth anghofio tarddle ei fywyd - lle'r eginodd y fesen dyfodd yn dderwen. Bydd "Boi o Drefach" yn "Foi o Drefach" am byth, lle bynnag y bo a gwnaiff ymdrech glodwiw i ddychwelyd i'w fagwrle, pan yn ymarferol, naill ai'n gorfforol, yn feddyliol neu drwy ddatganiadau llafar neu ysgrifenedig.
Diffiniad estynedig ond gesyd gyd-destun i'n "Cawr Cymuned" ni yn Nrefach Felindre lle mae'r Cawr a'r diffiniad yn cyd-orwedd yn gysurus. Mae hwn wedi cario Drefach gydag arddeliad mewn ystod eang o gyd-destunau ac heb byth anghofio mai un o "Fois Drefach" yw e ac a fydd i'r dyfodol.
Pwy yw'r Cawr Cymuned hwn te? Oes angen gofyn y cwestiwn? Nac oes - Peter Hughes Griffiths neu Peter Bedw, fel yr adnabyddir ef gan amryw o'r brodorion, yw ein Cawr. Mae Peter wedi cario Drefach i feysydd addysg, diwylliant, adloniant, y cyfryngau clywedol a gweledol, i fyd barddoniaeth caeth, rhydd a digri, i fyd pel-droed a'r byd politicaidd. Mae hefyd wedi rhannu gyda ni mewnwelediad i'w fywyd teuluol a fu, ac sydd yn parhau i fod, yn gefnlen gadarn gydol ei fywyd, o'i blentyndod gyda Jack a Mrs Griffiths y Cwc a'i chwaer Beti. Bellach mae'r teulu wedi lluosi ac mae cadernid cyfoes Peter yn seiliedig ar y cymorth gaiff gan Meinir, Llÿr a Meleri a'u teuluoedd ac wrth gwrs gyfraniad creiddiol ei wyrion a'i wyresau. Nid anghofiodd Peter erioed gefnogaeth ei deulu a'i gymuned. Un o "Fois ei Deulu" ac un o "Fois Drefach" yw e. Dyma'r ddwy angor sydd wedi ei ysgogi a'i gynnal. Yng ngeiriau'r beirniaid eisteddfodol "Mae Peter yn llawn haeddu'r wobr gyntaf".
Diolch Peter am dy gyfraniadau graenus, niferus ac amrywiol a'r modd y gwnest rannu gyda ni dy allu unigryw a'th ddiddordebau, beth bynnag fyddai'r lleoliad a'r cyfrwng. Nid anghofiaist erioed mai un o "Fois Drefach" wyt ti. Mae hon yn fesen wnaeth dyfu'n dderwen i'w hedmygu,ei pharchu a'i chlodfori. Mae dy Gymuned yn PROWD ohonot ac yn falch dy fod yn dal yn un ohonon ni. "Cawr ein Cymuned - Peter Hughes Griffiths".
Pennillion am Peter Hughes Griffiths
gan John Dyfrig Davies
Cael ei eni yn 1940
Mewn pentre yn agos i'r Teifi.
Plentyn Jack a Magi'n ymestyn
A Nurse Luke yn torri y cortyn.
Llwynbedw oedd cartref y crwtyn,
Un o "fois Drefach" oedd yr hogyn.
Dyma Beti a Jack yn carlamu
Lan y stâr i weled y babi.
May a Minnie yn dilyn y pâr
Ar noson eisteddfod Soar.
Rhaid cael enw gyda pawb yn fodlon
Gyda Jack yn ffafrio Gordon,
Y joci Gordon Richards enillai bob rhas
Ond heb gyswllt gyda Griffiths a'u tras.
Ond Magi a Beti enillodd y dydd,
"Two to one" ar gofrestr Castellnewydd.
Peter oedd dewis Nurse Beti
A dyna ddiwedd ar unrhyw faldorddi.
Roedd yn gyfnod go od yn y parthe
Gyda'r Iancs yn bachu pob cyfle.
Etifeddodd rhai merched un neu ddau
O fabis bach dwyieithog heb fai.
Ambell fam yn bwydo da llaeth
Ond "chewing gum" oedd y prif etifeddiaeth.
Ffarweliodd yr Iancs yn eitha ffeind
Gan yngan "What the Yanks left behind".
Daeth afiechyd i bennaeth y teulu,
Hen ddolur a geisiau ei fogi.
Ond aelwyd hapus i'w chanmol a'i pharchu
Oedd honno i lawr yn Llysnewy.
Aeth Peter i Ysgol Felindre
A pasio'r hen "scholarship" wnaeth e.
I Ysgol Llandysul heb strach'
At gorlan yr hen Davies bach.
Dal y bws bob bore yn gwylltu
Da Ifor bach neu Sam Howells yn gyrru.
Sgwâr Peglers oedd diwedd y daith.
Wedyn dringo lan y rhiw, na waith
Gyda trowseri tipyn gwlypach na llaith.
Cael ffrindiau gydol oes oedd yr allbwn,
O ardaloedd a chymunedau nas gwyddwn,
Bois Parcnest, Tyss Penpwll, Emyr Llew
Ac eraill yn ffrindiau, rhai glew.
Da iawn fu ei gynnydd academig'
Paso'r "O" a'r "A" levels mileinig.
Ei arwain i Goleg y Drindod'
Bod yn athro ar blant oedd ei nod.
Fan hyn daeth dan adain darlithydd
Norah Isaac y celfydd ddramodydd.
Roedd ganddi sut wyneb mor llon
Câdd arweiniad mor bwysig gan hon.
Sut i gyflwyno ac arwain cyngherddau
A'i gyfeirio at fyd y cyfryngau.
Mynd ati fel crwt i fwynhau
Barddoniaeth, pantomeims a dramau.
Cyfansoddi, canu caeth neu rai digri
A llenwi llawer iawn o raglenni.
Rhoi bwydlen ar ddesgiau y plant,
Ddydd Gwyl Ddewi ac yntau'n hen Sant.
Dyfalu pwy roddodd enw "Y Drindod",
Norah Isaac, y fi neu'r Archesgob.
Wedyn blwyddyn yn Aber, na waith,
Gyda Jac L Williams yn gwthio ail iaith.
O fynychu Canolfan yr Urdd
Bu cyfleoedd i gyflwyno amryw ffyrdd.
Hybu i ddilyn 'steddfode,
Rhai lleol, cenedlaethol a theatre.
Cyfansoddi, traddodi, beirniadu ac actio,
Ac ambell i gân wedi tipyn o brocio.
Gwnaeth Parti yr Aelwyd ddwyn ffrwyth
Wrth grwydro holl wlad y Twrch Trwyth.
'Run pryd mynd i fyd dosbarthiade
Mewn ysgolion yn llawn o syniade.
Cydweithio gydag eraill i ddysgu
Cwricwlwm oedd werth ei draddodi.
Gyda Meinir yn cyflwyno cerdd dant
Dyna joio a wnaeth yr hen blant.
Canu ysgafn yn ystod pob gwyl
Gyda plant yr ysgolion yn cel y fath hwyl.
Byddai cofnodi holl gyfraniadau ein cawr
Yn gofyn o leia ddwy awr.
Diwylliannol yn cenedlaethol a lleol
Yn godro ei egni rhyfeddol.
Ar lyfan, y teledu a'r radio,
Cafodd Peter ein plant bach i joio.
Cydnabu er trymed y gwaith
Mai Drefach oedd yn gefndir i'w iaith.
Yn gyfochrog â'i gampau diwylliannol
Mae Peter yn ffrind da i'r cae ffwtbol.
Fel chwaraewr yn ei ifanc flynyddodd
Bargod Rangers oedd y tîm lle berfformodd.
Full back oedd ei safle wrth whare,
Gyda'i sgil, nerth ei dacl a'i gic e
Gyda'r wingers i gyd yn llawn ofne.
Petai'n derbyn rhyw slei fach o gic,
Dweda'r diawl ei fod yn teimlo yn sick.
Roedd lan a lawr cae fftbol Llysnewydd
Yn sialens i unrhyw chwaraeydd.
Mwd lan i'ch penglinie gan amla,
Gyda'r gôl bwys yr iet y man sycha.
Peter yn mynd lan y wing ar dân
Gan groesi'r hen bêl yn ben set
A Twmi Lleine yn rhwygo y net.
Ennill cwpane fel 'steddfod y pentre
A capten Peter ar ysgwydd bob cyfle.
Gêm Boxing Day yn erbyn Castellnwydd
Oedd pinacl maes Llysnewydd.
Bargod oedd wastod y gore
Os nad oedd y reff yn llawn beie.
Pan ddaeth gyrfa ei chware i ben
Daeth golau o entrych y nen,
Wrth iddo droi at y plant
A ddoi o bob mynydd a phant
I roi cyfle iddynt i whare
Pêl-droedoedd ar goll yn eu pentre.
Plant ysgolion y rhan 'ma o Gymru
Caerfyrddin a Dyfed yn clodfori
Ymroddiad Peter wrth iddo eu helpu.
Cafodd sawl plentyn ei gap cenedlaethol
Rôl derbyn cyfleoedd rhagorol.
Plant pob oed o bob cornel o Ddyfed
Gyda Peter yn bugeilio ei giwed.
Roedd crefydd yn gadarn ei le
Yn ardal Drefach, dyna fe.
Bedyddwyr, Methodistiaid, Eglwyswyr,
Heb anghofio ein hannwyl Annibynwyr.
Roedd rhaniad o fewn ambell deulu
Ble byddent yn mynd i addoli.
Methodistiaid oedd Peter a'i rieni
Ond Eglwyswraig go bybyr oedd Beti.
Cai'r plant gyfle, hyd yn oed y rhai bregus,
A chefnogaeth i fod yn gyhoeddus.
Ac yno o fewn muriau Closygraig
Cafodd Peter ei fwydo â saig.
Meithrinwyd ei sylfaen gyhoeddus
Wrth droed gweinidog go ddawnus.
Sefydlwyd Cymdeithas Ddiwylliannol
A bu hyn yn gaffaeliad dirdynnol.
Bu cryn drafod â Peter unwaith
I'w gymell i ymuno â'r weinidogaeth.
Byddai'n fantais fawr i Fethodistiaeth,
Ond colled enbyd i'n cenhedlaeth.
Elfen greiddiol yng nghalon ein cawr
Yw gwleidyddiaeth sy'n rheoli sawl awr.
Aelod pybyr yng nghyngor Caerfyrddin
A Sir Gâr mor barod i'w dderbyn.
Fel arwydd gwerthfawrogol o'i waith
Bu'n Faer ar y dref lawer gwaith.
Egwyddorion di-syflyd heb oedi
Fel Carwyn a'u cred dros eu Cymru.
Aeth Carlo yn ôl dros y ffin
Cyn i Peter cael tynnu ei lun.
Dyna i chi egwyddor y dyn.
Ei arwr yw Gwynfor a'i Blaid
Wrth iddo ymladd yn ddi-dor fel oedd rhaid.
Daeth llwyddiant i'w gyfaill mynwesol
Mynd yn Aelod Seneddol arloesol.
Dyna rywfaint o stori ein harwr
Gyda'i ysbryd fel toriad y wawr.
Un o "fois Drefach" yw yn greiddiol
A Drefach fydd ei angor byth bythol.
Mae ei gyfraniad ar draws sut benawde
Gan rannu gyda ni ei gryfdere,
Yn gofyn am ddiolch o galon.
Yn bennaf o'r cyfan mae'n debyg i ni
Mai ei deulu, gwleidyddiaeth a phlant ysgol sy fry.
Boed hyn mewn ysgol neu gae pêl droed
Mae brwdfrydedd ein cawr i'w weld yn ddi-oed.
Rhydd bob amser ei egni a'i gymorth
I'r rheiny sydd gwir angen pob ymborth.
Heb anghofio Meinir a'r plant
Wrth roi cymorth iddo ganu cerdd dant.
Maent bob amser yn barod i'w gynnal
I wynebu anawsterau ddaw'n amal.
Dod o Ruthin i Gaerfyrddin sy dipyn o gamp
Ond gwerth pob milltir er gwaethaf y dramp'
A diolch i Meinir pan fo angen rhoi stamp
Pan fo Peter yn llosgi ei gannwyll a'i lamp.
Cafodd Peter ei haeddianol anrhydeddu
Am bopeth a wnaeth ledled Cymru.
Ei urddo gan ein Cenedlaethol Eisteddfod
Ac yn Gymrawd gan Goleg y Drindod.
Diolch i ti Peter am wneud yr holl waith
Draws ein gwlad gyda taith ar ôl taith,
Gan floeddio cydnabyddiaeth wrth ganu yn iach
Fod Cawr ein Cymuned yn un o "fois Drefach"

Peter a Meinir ei wraig ar ei ben blwydd yn 82 oed.

Peter yn Faer Tref Caerfyrddin. Bu’n Faer y Dref bedair gwaith.

Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2015.

Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 2010.
Edrych yn ol ar fywyd llawn PETER HUGHES GRIFFITHS wrth iddo gyrraedd 82 oed.
Ganwyd ar y 15ed o fis Mawrth 1940 yn fab i Jack a Margaret Griffiths yn Llwynbedw, Felindre, Llandysul. Roedd ganddo chwaer Beti a oedd ddeng mlynedd yn hyn nag ef. (Yn Llwynbedw y magwyd un o Gymry mwyaf ei gyfnod sef y Parch John Gomer Lewis. Ceir hanes ei fywyd ar wefan Stori Fawr Drefach Felindre.)
Mehefin 1940 pan yn dri mis oed enillodd yr Ail Wobr yn Baby Show Felindre a derbyn Cwpan Te Arian yn wobr. Mae llun o Peter yn dal y cwpan hwn o’i flaen ac yntau yn ei saithdegau. Ar y cwpan mae’r geiriau PETER HUGHES GRIFFITHS – Second Prize – Felindre Baby Show – June 1940. Almaenwr a oedd yn garcharor rhyfel yn y Gwersyll yn Henllan ysgythrodd y geiriau ar y cwpan. Roedd gwahanol deuluoedd ym mhentref Felindre yn ‘mabwysiadu’ un o’r carcharorion, a byddai hwnnw wedyn yn dod allan o’r gwersyll rhyw unwaith yr wythnos i ymuno gyda’r teulu i swper. Gemydd oedd y carcharor arbennig hwn tua diwedd yr ail ryfel byd.
YSGOL A CHOLEG
Medi 1945. Dechrau yn nosbarth y babanod yn Ysgol Penboyr ym mhentref Felindre. Fe gychwynnodd ei fam ar yr un diwrnod fel cogyddes gyntaf yr ysgol pan ddechreuodd cinio ysgol am ddim am y tro cyntaf mewn ysgolion ar ôl y rhyfel.
1946 – 1949 Cystadlu ac adrodd mewn eisteddfodau lleol – ond fawr o lwyddiant.
1948 Un o’r coblynnod bach yn un o’r pantomeimiau blynyddol yn hen Neuadd y Ddraig Goch. (Tud. 93 a 96 O Lwyfan i Lwyfan’ a’r Ffeil Lluniau)
1948 – 1952 Llwyddo mewn Arholiadau Pianoforte Playing – i safon ‘Elementary’. (Tystysgrifau i brofi hyn yn y Ffeil Lluniau.)
1949 - Cael ei donsiiau allan yn yr hen Ysbyty mewn Cabanau yn Glangwili. (Ffeil Lluniau)
1950 – 51 – Aelod o’r ‘Velindre Children’s Party’ yn cynnal nosweithiau mewn neuaddau lleol. (Wele’r lluniau yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’ a rhaglen ‘Concert St. Dogmaels’ lle’r oedd Peter yn adrodd ac yn canu deuawd.) Copi o rhaglen y noson yn y Ffeil Lluniau)
1951 Ymddangos fel Dewi Sant yn blentyn ar lwyfan yr hen Neuadd y Ddraig Goch yn Felindre ym mhasiant y W.I. i ddathlu ‘Gŵyl Prydain’. Thema’r pasiant oedd ‘Merched Cymru’ a gyfansoddwyd ac a gynhyrchwyd gan Miss Margaret Evans, Danwarin (Mrs Brynmor Williams wedyn). Ceir hanes y wraig arbennig hon ar wefan Stori Fawr Drefach Felindre. (Tud. 63 O Lwyfan i Lwyfan)
Gorffennaf – Medi 1951 Pasio Arholiad yr 11+ a dechrau yn ddisgybl yn Nosbarth 1M yn Ysgol Ramadeg Llandysul. 1958 - Chwarae cefnwr i Dim Rygbi Ysgol Ramadeg Llandysul (Tud. 56 O Lwyfan i Lwyfan). 1958 – Chwarae un o’r rhannau yn y ddrama Saesneg ‘Strife’ yn yr ysgol. 1958 - Un o Brif Swyddogion (Prefect) yr ysgol. (Lluniau yn dilyn tudalen 96 yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’.) Dau o’r ffrindiau gorau yn Ysgol Ramadeg Llandysul oedd Tyssul Williams a ddaeth yn feddyg yn Llanymddyfri ac Aled Jones – y Prifardd Aled Gwyn. 1958 – yn yr ysgol cyfansoddi yr Adroddiad Digri cyntaf gyda help Aled Gwyn – ‘Y Fi’, ac yn decharu... “Wi’n cofio fel tase hi’n ddoe pan ges i fy ngeni! Awr y Plant oedd ar y radio ta beth.... (Tud. 69 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Gorffennaf 1952 – Pasio Arholiad Piano – Elementary. (Tudalen 65 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1954 – Cymryd rhan yn 14 oed yn nathliadau Capel Closygraig yn ddeucant oed. (Tudalen 156 ‘O Lwyfan i Lwyfan).
1955 – Cael y cyfle cyntaf i gyd arwain Noson Lawen yn Neuadd Pentrecwrt ger Llandysul pan ond yn 15 oed gyda Tom Morgan arweinydd y noson (Tudalen 109 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Etholiad Cyffredinol 1955 – Ymaelodi gyda Phlaid Cymru a chymryd rhan yn Ymgyrch Jennie Eirian Davies, ymgeisydd Plaid Cymru (Tudalen 147/8 ‘O Lwyfan i Lwyfan). Eto yn yr is-etholiad 1957. (Tudalen 159 ‘O Lwyfan i Lwyfan.)
1955 – Dewis yn Ysgrifennydd Cymdeithas Ddiwylliadol Capel Closygraig. (Tudalen 150 ‘O Lwyfan i :Lwyfan).
Haf 1956 – Gweithio yn ystod gwyliau’r haf yn Ffatri Laeth y Cow & Gate yng Nghastell Newydd Emlyn yn gwneud caws.
O 1957 ymlaen – Chwarae i dim pel droed y Bargod Rangers am y tro cyntaf, ac ennill y tri chwpan yn y gynghrair.
Haf 1957 a 1958 – Gweithio yn labordy Ffatri Laeth Castell Newydd Emlyn yn profi’r llaeth a’r caws. (Tudalen 57 ‘O Lwyfan i Lwyfan’).
Haf 1958 - Mynd gyda Aled Gwyn i ‘Ymryson y Beirdd’ a drefnwyd gan Dan Lynn James yn neuadd Henllan a phrofi am y tro cyntaf y pleser a’r mwynhad o weld ac o glywed T Llew Jones, Isfoel, Dic Jones, Alun Cilie a Tydfor ac eraill yn cyfansoddi ‘ar y pryd’ yng nghefn y neuadd ac yn cyflwyno’u tasgau. Dyma oedd noson y ‘droedigaeth at farddoniaeth’ ( Tud.72 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Medi 1958- Cychwyn fel myfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a hyfforddi i fod yn athro a dod o dan ddylanwad Miss Norah Isaac. Chwarae i dim pel droed y coleg a dod yn gapten ar y tim yn nhymor 1959-60. (Llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’). 1958 – Aelod o Barti Noson Lawen y Coleg a dechrau arwain y nosweithiau rheini. (Tud. 110 ‘O Lwyfan i Lwyfan’) 1959 – Aelod o gast y ddrama ‘Amlyn ac Amig’, Saunders Lewis. Cynhyrchydd Norah Isaac. (Llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’). Ionawr 1960 – Aelod o dim Ymryson Areithio Coleg y Drindod yng nghystadleuaeth Ymryson Areithio Colegau Cymru y BBC ar y radio. Gŵyl Ddewi 1960 – Parti Coleg y Drindod yn ymddangos ar lwyfan yr Albert Hall, Llundain mewn meim yn Nathliadau Gŵyl Ddewi Cymry Llundain.
Medi 1960 –Dechrau ar gwrs blwyddyn ar Astudiaethau Dwyieithog yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol Aberystwyth gyda’r Athro Jac L Williams. Chwefror 1961 – Ennill Tlws y Siaradwr Gorau yng Nghystadleuaeth Ymryson Areithio Colegau Cymru’r BBC. Eraill yn y gystadleuaeth oedd Y Parchedigion W I Cynwyl Williams, D Ben Rees, John Gwilym Jones a Eirian Rees. (Tud. 112 ‘O Lwyfan i Lwyfan). Chwarae i Dim Pel Droed Prifysgol Cymru Aberystwyth. 1961 – Aelod o Dim buddugol Cymru gyfan ‘Sêr y Siroedd’ Sir Aberteifi fel Adroddwr Digrif. (Tud. 113 ‘O Lwyfan i Lwyfan’). 1961 – Chwarae rhan yn y ddrama ‘Meini Gwagedd,’ Kitchener Davies gyda Cwmni Drama’r Brifysgol. Perfformio yn Neuadd y Coleg ac ennill Gŵyl Ddrama Sir Aberteifi yn Neuadd Talybont ar Mawrth 15ed 1961 – noson ei ben blwydd yn 21ain oed!) (Lluniau yn y Ffeil Lluniau)
Rhagfyr 1960 – Bu farw ei dad Jack - John Brinley Gwyn Griffiths. Claddwyd ym mynwent Drefach.
Chwefror 8ed 1961 – Beirniadu’r Cystadlaethau Adrodd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Capel Bethel, Aberystwyth. Bu wrthi wedyn am dros hanner can mlynedd yn beirniadu mewn eisteddfodau dros Gymru gyfan.
CYFNOD ABERYSTWYTH
1960 – 63 – Chwarae gyda Thim Pel Droed Rhydaman yng Nghyngrair De Cymru. (Ffeil Lluniau a Tudalen 94 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Medi 1961 Cychwyn ar ei swydd fel Athro Dosbarth yn Ysgol Gymraeg, Aberystwyth a oedd wedi ei lleoli yn ymyl gorsaf rheilffordd y dref wrth y fynedfa i Faes Parcio Coedlan y Parc.
1961-62 Aelod o ‘Barti Doniau’r Dosbarth’ sef parti Noson Lawen athrawon yr Ysgol Gymraeg a oedd yn cynnwys y Prifathro Hywel Jones, Llinos Thomas (Edwards wedyn), Nansi Lewis (Hayes wedyn). John Garnon, William Griffiths (Wil y Mel) a Mair ac Edna Jenkins.. Bu’r parti yn cynnal nosweithiau ar hyd a lled Sir Aberteifi am rhyw ddwy flynedd. (Tud.113 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Trwy gydol y 1960’au – Yng nghanol holl weithgarwch Aelwyd Aberystwyth. Arwain a chymryd rhan gyda Pharti Noson Lawen yr aelwyd a chynnal nosweithiau llawen ar hyd a lled Cymru. (Tudalen 115-118 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Ionawr 26ain 1962 – Arwain ‘Cyngerdd Amrywiol’ yn Ysgol Trelech. Un o’r nosweithiau cyntaf fel arweinydd. Y tocyn mynediad wedi ei gadw - gyda’r artistiaid Adar y Nant, Dyfed Thomas, Brian Davies a Peter Hughes Griffiths (Adroddwr) (Ffeil Lluniau)
Mai 1962 - Tim Aelwyd Aberystwyth yn ennill Tlws Siarad Cyhoeddus Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Rhuthun. Aelodau o’r tim: Rhiannon Howell (Cadeirydd), Peter Hughes Griffiths (Siaradwr), Len Williams (Cynnig diolch). Rhoddodd y beirniad Y Parch Trebor Lloyd Evans gant allan o gant i Peter am ei araith. (Tud. 112 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Mehefin 1962 - Am y tro cyntaf yn aelod o Dim Ymryson y Beirdd yn y Babell Len, Eisteddfod Gŵyl Fawr Aberteifi gyda’r Parch WJ Gruffydd (Yr Archdderwydd Elenydd wedyn), Tomi Evans, Tegryn, a Lyn Owen Rees.(Tud. 73 ‘O Lwyfan i Lwyfan’) (Ffeil Lluniau)
Haf 1962 - Cymryd rhan yn y ‘Welsh Seranade’ yn Neuadd y Brenin Aberystwyth. Cynhaliwyd y nosweithiau hyn bob haf i’r ymwelwyr yn bennaf am flynyddoedd wedyn. Trefnwyd a chymerwyd rhan gan Peter ar hyd y blynyddoedd. (Ffeil Lluniau)
1962 – Cychwyn cyfansoddi a chyfieithu caneuon pop i’r Gymraeg. Aled a Reg yn canu’r caneuon ar y rhaglen radio ‘Tipyn o Fynd’ ar fore Sadyrnau. Y cynhyrchydd oedd Ruth Price. Daeth y gan ‘Dim ond un gusan fach’ yn boblogaidd iawn ac fe’i canwyd yng Ngwersylloedd yr Urdd am flynyddoedd lawer wedyn. (Tud. 78 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Tymor 1962 – Ennill y tri chwpan yng Nghygrair Sir Aberteifi gyda Bargod Rangers am yr ail waith. (Tudalen 64 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1963 – Cyhoeddi’r llyfryn ‘Tonc’ yn cynnwys ‘Caneuon Pop Cymraeg’ (Tud. 78 ‘O Lwyfan i Lwyfan)
1962-65 - Aelod o Dim Dawnsio Gwerin Aelwyd Aberystwyth o dan Hyfforddiant Gwenant Davies (Gillespie wedyn). Enillwyr yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol a pherfformio mewn Gwyliau Gwerin yng Nghymru a Lloegr. (Llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Mai 1963 – Arwain y Noson Lawen i agor Gŵyl Fawr Aberteifi mewn pabell enfawr. Arwain y noson hon yn flynyddol am y saith mlynedd nesaf. Y trefnydd oedd Owen M Owen.
1963 – Aelod o Dim Aberystwyth yn y Cwis Teledu ‘Pam? Pwy? Ble?’ gyda Glyn T Jones a Margaret Hughes (gwraig J Cyril Hughes Yr Urdd) (Ffeil Lluniau)
Medi 1963 – Cychwyn fel athro dosbarth yn ysgol gynradd newydd Commins Coch ger Aberystwyth. Bu yno am bum mlynedd cyn symud fel Athro Cymraeg i Ysgol Fodern Dinas, Penglais Aberystwyth.
1964 - Ennill y gadair eisteddfodol gyntaf yn Eisteddfod Abergorlech. John Garnon gafodd ei gadeirio yn ei absenoldeb gan fod Peter ym Mhorthmadog yn cystadlu yn Nhim Siarad Cyhoeddus Aelwyd Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. (Llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’+ Ffeil Lluniau)
1964 – Cyhoeddi’r llyfr i blant Digri Dim Dagrau a’r lluniau gan J Towyn Jones
Mai 7ed 1964 – Sefyll ei etholiad cyntaf - Etholiad Bwrdeistref Aberystwyth dros Blaid Cymru gyda Tedi Millward, Nel Gwenallt, Lili Thomas a Tegwyn Jones yn ymgeiswyr eraill y Blaid. (Tud. 161 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ ynghyd a’u lluniau.
Nos Sadwrn Gorffennaf 18ed 1964 – Arwain noson ‘SWYNOL GAN’ yn yr Hen Farchnad yng Nhaerfyrddin. Ymhlith yr artistiaid oedd ‘Bois y Blacbord’ o dan arweiniad Noel John.(Ffeil Lluniau)
Ebrill 1964 – Arwain a chymryd rhan yng Nghyngerdd Agoriad Swyddogol Neuadd Goffa Llangain. Mynd nol i arwain y Gyngerdd i ddathlu 50 mlynedd y neuadd yn 2014. (Ffeil Lluniau)
Haf 1964 - Arwain y Gyngerdd yn Neuadd Ysgol Gyfun Abergwaun I Anrhydeddu DJ Williams, yn Ysgol Haf Plaid Cymru a chyflwyno Dafydd Iwan am y tro cyntaf. (Tud 118 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1964 – Ymuno gyda Chwmni Drama Ceredigion. Actio yn y ddrama Dedwydd Briodas. Actio mewn golygfa ar y Mimosa mewn pasiant yn Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd yn 1965 i ddathlu canrif ers y glaniad cyntaf ym Mhatagonia. Ithel a Valmai Jones, Talybont wrthi’n cynhyrchu.
Awst 1964 – Ennill yn Adran Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar ‘ Gasgliad o Ddeunydd Gwreiddiol ar gyfer Noson Lawen.’ (Llun gyda’r cyd-fuddugwyr yn yr eisteddfod -Ann a Norma Winston yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Canol 1960’au ymlaen – Adrodd ar Chwaraeon y Canolbarth yn wythnosol ar raglen radio Chwaraeon y BBC gyda Thomas Davies yn cynhyrchu. (Tud. 129 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Mai 1965 – Cyhoeddi’r llyfr Help Llaw i’r Noson Lawen’ sef cynnwys deunydd ar gyfer Nosweithiau Llawen a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964.
Haf 1965 ymlaen – Cyfrannu i’r cylchgrawn ysgafn Blodau’r Ffair (golygydd RE Griffith) ac am flynyddoedd wedyn – limrigau, storïau a phenillion ysgafn.
Mai 1965 – Chwarae rhan Robin yn y ddrama deledu ‘Gwr Llonydd’ gyda JO Roberts, Rachel Thomas a Prysor Williams.
Mehefin 1965 Un o arweinwyr y llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd 1965.
Haf 1965 – Am y tro cyntaf arwain y Noson Lawen hwyr y nos (10.30yh) yn Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd a hynny yn adeilad y Sinema wrth bont y dref. Arweiniodd laweroedd o’r nosweithiau hyn ar hyd y chwedegau a’r saithdegau. Fe’i cynhaliwyd i gyd yn yr adeiladau mwyaf yn nhref yr eisteddfod.
Rhagfyr 1965 – Aelod o Banel a chyfres deledu boblogaidd ‘Mi Hoffwn i’ gyda Marian Arthur Jones a Eurwen Richards, Llanymddyfri. (12 rhaglen). Cafwyd ail gyfres yn 1968 gyda Peter yn Gadeirydd y rhaglen. (Ffeil Lluniau)
Nadolig 1965 – Cyfansoddi pantomeim Sioned a’r Dair Arth i’w berfformio gan Ysgol Uwchradd Llangefni. (Ffeil Lluniau)
Tymor 1996 – Capten Tim Pel Droed Bargod Rangers ac ennill dau o’r tri chwpan yn y gynghrair. (Tudalen 94 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Mehefin 1966 – Un o arweinwyr y llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaergybi 1966, gyda Huw Jones (Y Bala), Tomi Scourfield a Meic Parry, Llundain), gan gyflwyno Llywydd yr Ŵyl Cledwyn Hughes Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. (Tud 121 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Medi 1966- Cymryd rhan yn agoriad swyddogol y ‘Neuadd Y Ddrag Goch’ newydd yn Felindre. Canwyd emyn o’i waith yn yr agoriad ac fe gymerodd ran yng ngweithgareddau amrywiol rhaglen wythnos dathlu yr agoriad.
1967 – Etholwyd yn ddiacon yng Nghapel y Methodistiaid Closygraig, Drefelin ac yn cadw’r hen gartref 3, Llysnewydd, Felindre, er bod ei fam erbyn hynny yn Ysbyty North Road, Aberystwyth.
Ebrill 1967 - Ennill Cadair Eisteddfod Hermon yn Neuadd y Ddraig Goch Felindre gyda Aeres Evans Caerfyrddin yn beirniadu. (Ffeil Lluniau)
1967 – Cael ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Aberystwyth 1969 yn 27 oed. (Tud. 121-2 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.) (Ffeil Lluniau)
Mehefin 1967 – Beirniadu cystadlaethau Caneuon Pop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin. Enillwyr –Unigol - Heather Jones, Grŵp Pop – Y Pelydrau o Drawsfynydd.
Mai 1968 – Y Lolfa’n cyhoeddi Pops i’r Parti sef llyfr yn cynnwys caneuon pop. Daeth y llyfryn i frig gwerthiant llyfrau Cymraeg yng ngholofn ‘Llyfrau’r Cymro’ y papur Cymraeg wythnosol. (tud. 78 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ a lluniau’r cloriau tud. 96 ymlaen.)
Gorffennaf 4ydd 1968 - Trefnu y noson fawr ‘Pinaclau Pop’ ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Y noson gyntaf erioed i ddod a phrif gantorion pop ac ysgafn Cymru ynghyd ar yr un llwyfan. Torf o dros ddwy fil i wrando ar Ryan a Ronnie, Tony ac Aloma, Dafydd Iwan, Meinir Lloyd, Heather Jones, Huw Jones ac eraill. (Casét ar gael o raglen hanner awr ar y radio gyda Alun Williams yn cyflwyno ac yn diolch i Peter am y weledigaeth. (Tud. 123 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
Medi 1968 – Cychwyn ar swydd fel Athro Cymraeg (Ail Iaith) yn Ysgol Fodern Dinas, Penglais Aberystwyth.
1969 – Cyd gyhoeddi’r llyfr i blant Amser Chwarae gyda Tegwyn Jones.
1969 – Cyhoeddi’r Llyfr Chwant Chwerthin gan Llyfrau’r Dryw.
Hydref 25ain 1969 - Priodi gyda Meinir Lloyd, merch Trevor a Ceinwen Lloyd, Maesaleg Cyffylliog yng Nghapel Salem Cyffylliog a mynd i fyw i Maesceiro, Bow Street, ger Aberystwyth. (Ffeil Lluniau)
1969 – Peter a Meinir yn Ymaelodi yng Nghapel y Garn, Bow Street.
1970 – Arwain Pinaclau Pop ym Mhafiliwn Corwen a chael trafferth i gyflwyno Meic Stevens. (Tud . 120 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Medi 25ain 1970 Ganwyd Llyr y mab yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Rhagfyr 1970 – Bu farw ei fam Maggie - Margaret Griffiths. Claddwyd ym mynwent Drefach.
1971 – Cyflwyno’r Gem Banel Deledu Dyfal Donc gyda Meinir. (Tud 126 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.) (Ffeil Lluniau)
Haf 1971 – Arwain un o’r Nosweithiau Llawen hwyr yn un o Sinemau Bangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Hywel Gwynfryn yn arwain mewn Sinema arall a’r artistiaid yn mynd o un lle i’r llall i berfformio. Cyflwyno Max Boyce am y tro cyntaf, a’r tro cyntaf iddo yntau ganu mewn noson o’r fath. (Tud. 119 ‘O Lwyfan i Lwyfan’.)
1971 - Cychwyn ar y swydd o drefnydd Plaid Cymru dros ardal Dyfed gan ganolbwyntio ar Etholaeth Caerfyrddin.
Cyfnod Caerfyrddin – 1972 ymlaen
Awst 1972 – Symud i fyw i Richmond House, 20, Waundew, Caerfyrddina newid enw’r tŷ i ‘Llaindelyn’. Cychwyn ar y swydd o Drefnydd Plaid Cymru yn Etholaeth Caerfyrddin
Awst 1972 – Arwain o’r llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd a chyflwyno Llywydd y Dydd – Carwyn James. Meinir yn cyfeilio fel telynores swyddogol. Gadael Llyr am yr wythnos gyda Bil a Mair a’u mab bach Emyr drws nesaf ym Maesceiro, Bow Street.
1972- Peter a Meinir yn ymaelodi yng Nghapel Y Priordy, Caerfyrddin. Gyda’r gweinidog T James Jones (Jim Parcnest) (Tudalen 157 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1972 – Arwain y rhaglen Noson Lawen am y tro cyntaf ar y teledu o fferm Treruffydd, Trewyddel, Sir Benfro. Arwain yn flynyddol wedyn yn ddifwlch am ugain mlynedd. (Tudalen 127 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1972-1973 – Sefydlu Cymdeithas Pel Droed Ysgolion Caerfyrddiin a’r Cylch. Bu’n ysgrifennydd a hyfforddwr a threfnydd gemau yn erbyn ardaloedd eraill ac yn aelod o Gymdeithas Pel Droed Ysgolion Cymru. (Tudalen 100 a llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1974 – Dwy etholiad cyffredinol. Collodd Gwynfor o 3 pleidlais ym mis Mai ac ennill o fwyafrif o dros dair mil yn Hydref 1974. Peter oedd trefnydd y ddwy ymgyrch. Daeth i adnabod Gwynfor Evans yn dda iawn yn y 70’au. (Tud. 164 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1974 – Yn gyfrifol gyda eraill fel Cenwyn Rees a Gareth Matthews am ail sefydlu’r ymgyrch am Ysgol Gyfun Gymraeg i Gaerfyrddin. Bu Peter yn cymryd rhan flaenllaw yn yr holl ymgyrchu (Tudalen 184 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ a’r llyfr ‘Gorau Arf’.)
1974 – Trefnu Cyfarfod Cyhoeddus ar ran Gwynfor Evans fel Aelod Seneddol yng Nghaerfyrddin i ymgyrchu am gael Canolfan Hamdden yn y dref. Etholwyd Peter yn ysgrifennydd yr ymgyrch leol gan godi dros ugain mil o bunnoedd. Agorwyd y Ganolfan Hamdden yn 1982. (Tudelan 193 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Awst 13eg 1974 – Ganwyd Meleri Llwyd ei ferch yn Ysbyty Glangwili.
Diwedd y 1970’au – Cyd sefydlu gyda Norah Isaac ‘Cymdeithas Ddrama Bro Myrddin’. Perfformiwyd y ddrama dair act ‘Dedwydd Briodas’ ddeg ar hugain o weithiau ar hyd a lled Cymru. (Tudalen 134 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
!977 – Peter a Meinir yn ennill y gystadleuaeth Can i Gymru gyda’r gan ‘Dafydd ap Gwilym. Fe’i canwyd gan y grŵp ‘Aros Mae’ (Tudalen 79 ‘O Lwyfan i Lwyfan’).
Mai 1978 – Cael ei ethol yn gynghorydd dros Ward y Gogledd ar Gyngor Tref Caerfyrddin ac mae’n dal yn gynghorydd yn ddifwlch ers 44 mlynedd ar y Cyngor Tref.
Medi 1978 – Agoriad swyddogol Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn hen adeilad Ysgol Ramadeg Caerfyrddin yn Waundew, Caerfyrddin. Mae Peter wedi bod yn Lywodraethwr ar yr ysgol ers bron 40 mlynedd ac yn Gadeirydd sawl tro hefyd, (Tudalen 184 ‘O Lwyfan i Lwyfan’).
1978 – Gyda T Gwynn Jones cyd sefydlu’r papur bro CWLWM yn ardal Caerfyrddin. Gwyn yn olygydd a Peter yn drefnydd. Rhifyn Ionawr 2022 oedd y 431 rhifyn. Mae Peter yn Llywydd Anrhydeddus y Papur Bro CWLWM. (Tudalen 77 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Eisteddfod Plaid Cymru 1979 – Ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y ‘Solo Twps’ yn canu’r gan ‘Y Dymestl’ (Tudalen 138/9 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Hydref 1979 – Gŵyl Cerdd Dant Caerfyrddin. Peter yn Gadeirydd y Pwyllgor Trefnu a Meinir yn Ysgrifennydd.
1970’au – 1980’au – Peter a Meinir yn ysgrifennu caneuon yn gyson i raglenni Ysgolion y BBC gyda Carey Williams yn cynhyrchu. (Tudalen 81 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Gwanwyn 1980 – Gwynfor Evans yn cyhoeddi ei fod yn mynd i ymprydio dros Sianel Deledu Gymraeg. Peter a Dafydd Williams fu’n trefnu’r hyn oedd i ddigwydd. (Tudalen 172 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Mai 1980 – Cael ei ethol yn Ddirprwy Faer ar Gyngor Tref Caerfyrddin. (Sian Morris oedd y Maer).
Mehefin 1980 – Cymryd rhan yn gyson yn y rhaglen radio ‘Dyfal Donc’ (Ffeil lluniau)
Mai 1981/2 – Maer Tref Caerfyrddin. Y Pleidiwr swyddogol cyntaf i gael ei ethol yn Faer y Dref.
Ionawr 1982 – Teithio i Lesneven yn Llydaw i drafod y posibilrwydd o Efeillio Tref Caerfyrddin gyda Lesneven. (Tudalen 187 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ ynghyd a Ffeill o luniau).
Pasg 1982 – Sefydlu RAS ELUSEN Y MAER yn nhref Caerfyrddin gyda’r Dr Hedydd a Eiddwen Davies yn drefnwyr. Cynhelir y ras yn flynyddol ers hynny ac yn awr ar Ŵyl y Banc Calan Mai. (Tudalen 189 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ + Ffeil Lluniau.)
Ebrill 1982 – Trefnu a chynnal SEREMONI GEFEILLIO CAERFYRDDIN A LESNEVEN yn y Guildhall, Caerfyrddin pan yn Faer y Dref. Dathliadau 40 mlynedd yn Ebrill 2022. (Tudalen 189 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ ynghyd a chynnwys yn y Ffeil Gefeillio).
1982 – Agor Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn Nhre Ioan. Henry Wilkins oedd yn gadeirydd a Peter yn Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgyrchu i gael Canolfan a Phwll Nofio i Gaerfyrddin yn dilyn cyfarfod cyhoeddus gan Gwynfor Evans ac a drefnwyd gan Peter. (Tudalen 193 ‘ O Lwyfan i Lwyfan).
Medi 1982 – Ei apwyntio yn Warden Canolfan Athrawon, Coleg y Drindod. Bu ar staff Coleg y Drindod nes ymddeol yn 2005. Bu’n aelod o Dim Arolygu Ysgolion Cyngor Sir Dyfed cyn dod yn ddarlithydd yn yr Adran Addysg yng Ngholeg y Drindod.
Hydref 1982 – Sefydlu a Chadeirydd cyntaf Gŵyl Myrddin.
1982 – Sefydlu Cymdeithas Bel Droed Ysgolion Dyfed o dan 15 a 18 oed. Bu’n ysgrifennydd y Gymdeithas gan drefnu’r timau i chwarae yn erbyn siroedd eraill ar hyd a lled Cymru o 1982 tan 1996. ( Tudalen 100 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ + Lluniau)
Medi 1984 - Ysgrifennu’r llyfr ‘O’r Fesen Derwen a Dyf’ sef hanes Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin 1955 – 1985 i ddathlu agoriad adeiladau yr ysgol newydd i Ysgol y Dderwen. Adnewyddwyd yr ysgol ar yr un safle eto yn 2010. Mae Peter yn dal yn Lywodraethwr ar Ysgol y Dderwen ar ol dros 40 mlynedd. (Tudalen 185 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Medi 1985 – Actio yn y ddrama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ Saunders Lewis yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod am dair noson yn olynol – Cwmni Cofio, Norah Isaac. (Tudelen 136 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1986 – Sefydlu Gŵyl Gelfyddydol Myrddin a’r cadeirydd cyntaf. Rhyw fynd a dod fu hanes yr ŵyl am rhai blynyddoedd wedyn. (Tudalen 192 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Mawrth 2il 1988 – Ysgol Gruffydd Jones, San Cler yn perfformio’r pasiant ‘Onibai’ gan Peter a Meinir i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. (Tudalen 83 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ + Rhaglen yn y ffeil lluniau).
Mawrth 1988 – Trefnu gyda Norah Isaac i osod cofeb newydd ar fedd yr emynydd David Charles ym mynwent Eglwys Llangynnwr.
1985 – 1990’au – Aelod o Dim Gwreiddiol Talwrn y Beirdd Caerfyrddin ar Radio Cymru. Ennill yn y Rownd Derfynol ym Mhabell Len Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992. (Tudalen 75 ‘O Lwyfan i Lwyfan’) Enillodd Tim Caerfyrddin o dan arweiniad T Gwynn Jones ymrysonau lawer yn Eisteddfodau Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan ac eraill.
1989 – 1995 – Ysgrifennu sgriptiau i Gwmni Drama Pernod yng Ngholeg y Drindod.
1988 – Cyfansoddi cynnwys a chyflwyno tri thap casét gyda’r teitl ‘Instant Welsh’ i helpu pobl i gychwyn dysgu’r Gymraeg. Gwerthwyd miloedd o’r tapiau. (Tudalen 82 ‘O Lwyfan i Lwyfan’) Hefyd cyhoeddi’r llyfr ‘Cymraeg Cywir’; gyda 100 o wersi iaith.
Trwy’r 1980’au a’r 1990’au – Cymryd rhan yn gyson yn y rhaglen ‘Dros Ben Llestri’ ar Radio Cymru. (Tudalen 130 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Mawrth 1990 – Sefyflu ‘Gŵyl Gomediau Cwlwm’ yn Neuadd San Pedr gyda perfformiad o dair comedi un act ar y nos Wener a’r nos Sadwrn. Trefnodd Peter yr Ŵyl am 12 mlynedd gyntaf yn ddi-fwlch. (Tudalen 86/7 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Mai 1990 – 91 Ethol yn Faer Tref Caerfyrddin.
1991 – Fel Maer trefnu dathliad yn y Clos Mawr Caerfyrddin i’r ceffyl ‘Norton’s Coin’ ar ennill y Gold Cup yn Cheltenham. (Ffeil Lluniau)
Tymor 1992 – Tim pel droed Caerfyrddin yn cael dyrchafiad i Gynghrair Genedlaethol Cymru. Cychwyn fel cyhoeddwr swyddogol ar y gemau ar Barc Waundew. Parhau yn ddifwlch tan 2016 ac yn achlysurol wedyn.
Awst 1992 – Ennill ar gyfansoddi Comedi Un Act ‘Tipyn o Sioc’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Perfformiwyd y ddrama yn Theatr y Maes. (Tudalen 86 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Trwy’r 1990’au – Ysgrifennu comedïau un act ar gyfer Gŵyl Gomediau CWLWM yn bennaf a pharhau i wneud hynny. Mae wedi ysgrifennu dros 20 o’r comedïau hyn. Cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch y gomedi ‘RHIWBOB’ yn 2021. (Tudalen 87/8 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Haf 1992 – Ennill y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Rhys James, Llanbedr Pont Steffan am ‘Rhaglen Nodwedd ar W R Evans’. Enillodd Peter y Fedal yr ail waith yn 1999 am ei gomedi un act ‘Corffw’. (Tudalen 88 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
1994-1996 – Cadeirydd Cymdeithas Pel Droed Ysgolion Cymru. (Tudalen 102 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Ebrill 1995 – Ennill Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Mon. Perfformiwyd y ddrama yn Theatr Fach Llangefni. (Tudalen 89 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ a Ffeil Lluniau)
1996 – Ysgrifennu Erthygl Cymraeg misol i’r cylchgrawn ‘Carmarthenshire Life’. Parhaodd hyn am 15 mlynedd nes i’r cylchgrawn ddod i ben. 10 erthygl y flwyddyn am 15 mlynedd = 150 o erthyglau, a phob un yn seiliedig ar fywyd Sir Gaerfyrddin. (Tudalen 90 ‘ O Lwyfan i Lwyfan’)
1996 – Yn dilyn trefnu tri chyfarfod gyda cherddorion lleol sefydlodd Peter Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin. Fe aeth y band o nerth i nerth a bellach mae Peter yn Llywydd Anrhydeddus Y Band. (Tudalen 191 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Haf 1996 – Derbyn y Wisg Wen ac Urdd Derwydd er Anrhydedd yn yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr.
Haf 1996 – Arweinydd Llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr a chyflwyno Mark Aizelwood fel enillydd ‘Dysgwr y Flwyddyn’.
Awst 8ed 1996 – Trefnu’r gyngerdd ‘Wyt Ti’n cofio Sgwâr Caerfyrddin...’ yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin i gofio 30 mlynedd ers i Gwynfor ennill yr etholiad yn 1996. (Ffeil Lluniau)
1997 – Cynrychiolydd Etholiadol i Roy Llewellyn fel ymgeisydd Plaid Cymru i Etholiadau Cynulliad Cymru. Cynrychiolydd i Llyr Gruffydd ei fab a John Dixon mewn etholiadau hyd at 2008.
Awst 1998 – Beirniad Llefaru yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr a chyd feirniadu Cystadleuaeth y Llwyd o’r Bryn. (Tudalen 143 ‘O Lwyfan i Lwyfan).
1999 – Ennill Y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Rhys Thomas James (Pantyfedwen) yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan. (Lluniau yn ‘O Lwyfan i Lwyfan a Ffeil Lluniau)
Diwedd y 1990’au hyd at tua 2016 – Beirniadu ‘Limerig y Dydd’ bob rhyw dair mlynedd yn y Babell Len yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
2000 – Ar ôl cyd-ymgyrchu gyda’r Bwrdd Iath a’r Cyngor Sir - Cadeirydd cyntaf Menter Iaith Bro Myrddin. (Tudalen 193 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
2000 - Ymddangos ar y rhaglen deledu ‘Penblwydd Hapus’ ar ei ben blwydd yn 60 oed. (Llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Awst 2000 Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Cyfansoddi a chynhyrchu Rhaglen Deyrnged i Norah Isaac “Y Bwndel Bach”. Perfformiwyd ar ddau ddiwrnod yn Theatr Y Maes.
Mai 1999 – 2000 Ethol yn Faer Tref Caerfyrddin
Mai 2001 – 2002 Etholwyd Llyr ei fab yn Faer Tref Caerfyrddin.
Mai 2003 – Mai 2004 Ethol yn Faer Tref Caerfyrddin am y pedwerydd tro.
2003 – Gwestai dathlu penblwydd 70 mlynedd o Aelwyd Aberystwyth. ( Llun yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
2003 – Peter a Meinir yn derbyn Gwobr Goffa Dr John a Dr Margaret Evans gan Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin am eu cyfraniad nodedig i fywyd tref Caerfyrddin. (Tudalen 199 ‘O Lwyfan i Lwyfan’+ Ffeil Lluniau).
2003 – Fel Maer Caerfyrddin teithio i As Pontes yng Ngalisia yn Sbaen i’r Seremoni Efeillio Caerfyrddin ac As Pontes. Daeth y gefeillio hwn i ben yn 2009. (Tudalen 189 ‘O Lwyfan i Lwyfan).
Mai 2004 – Ei ethol yn Gynghorydd Sir (Cyngor Sir Caerfyrddin) dros Ward y Gogledd Tref Caerfyrddin.
15ed Mai 2004 - Siaradwr Gwadd yn nathliadau Capel Closygraig yn ddeucant a hanner oed.
27 Ebrill, 2005 - Un o’r archgludwyr yn angladd GWYNFOR EVANS yng Nghapel Seion, Aberystwyth ac yna yn Amlosgfa, Aberystwyth.
Gorffennaf 2005 - Ymddeol fel darlithydd yn yr Adran Addysg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Mawrth 4ydd 2007 – Siaradwr gwadd yng Ngwasanaeth Gŵyl Ddewi Capeli Caerfyrddin yng Nghapel Heol Dwr. (Ffeil Lluniau)
Mai 2007 – Peter a Meinir yn wahoddedigion gyda Chymdeithas Cymry Birkenhead. Merfyn Williams yn Llywydd y Gymdeithas.
Haf 2007 – Derbyn yr anrhydedd o fod yn Gymrawd Coleg y Drindod Dewi Sant. (Tudalen 2008 ‘O Lwyfan i Lwyfan + Llun).
2007 – Rhoi’r gorau i arwain Cyngherddau a Nosweithiau Llawen. (Tudalen 2011 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Tachwedd 2007 – Cyhoeddi’r llyfr ‘Hiwmor Sir Gar’ yn y gyfres ‘Ti’n Jocan. (Lluniau’r cloriau yn ‘O Lwyfan i Lwyfan’ a’r Ffeil lluniau)
2008 – Bellach yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin. Etholwyd 30 o Gynghorwyr Plaid Cymru ar y Cyngor Sir a 4 allan o 6 o’r seddau yn nhref Caerfyrddin. (Tudalen 209 ‘O Lwyfan i Lwyfan + Llun ar y dudalen gefn)
2008 – Prif Westai a siaradwr gwadd yn noson agoriad adnewyddu Neuadd y Ddraig Goch Felindre.
2008 – Golygu’r gyfrol ‘Bro a Bywyd Gwynfor Evans’ sef casgliad o luniau a ffeithiau manwl amdano.
Ionawr 2009 – Cyflwyno teyrnged goffa i’w gyfaill oes Gwynfor Jones yng Nghapel Bethel Drefach. (Tudalen 213 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
2010 – Ethol yn flaenor am 7 mlynedd yng Nghapel Y Priordy, Caerfyrddin.
Mehefin 2010 - Derbyn Gwobr Gymunedol Arbennig Clwb Rotari Caerfyrddin fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad i fywyd tref Caerfyrddin ar hyd y blynyddoedd. (Tudalen 199 ‘O Lwyfan i Lwyfan’ + Llun).
Rhagfyr 2010 – Trefnu’r ddegfed ar hugain Ffair Nadolig Plaid Cymru yn Neuadd San Pedr Caerfyrddin yn ddi-fwlch ar y Sadwrn cyntaf ym mis Rhagfyr. (Tudalen 215 ‘O Lwyfan i Lwyfan’)
Hydref 2010 – Derbyn Anrhydedd Oes Plaid Cymru yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth gan Dafydd Wigley. (Ffeil Lluniau)
2010 – Cyhoeddi ei Hunangofiant ‘O LWYFAN I LWYFAN’.
Mai 2012 – Etholwyd eto fel Cynghorydd Sir. Etholwyd 6 allan o 6 Cynghorydd Plaid Cymru dros tref Caerfyrddin ac un arall dros Llangynnwr.
Mai 2014 – Peter a Meinir yn Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin.
Tach. 2014 Ennill Cadair Eisteddfod Llandyfaelog Ger Caerfyrddin am Ddwy Soned.
Medi 2015 – Derbyn anrhydedd ‘Lifetime Achievement’ y ‘Carmarthen Journal. (Tystysgrif mewn ffrâm fawr a llun.).
Mai 2015 – 2016 – Ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mawrth 1af 2016 – Fel Cadeirydd y Cyngor Sir trefnodd Y Pared Gŵyl Ddewi cyntaf yn nhref Caerfyrddin. (Ffeil Lluniau)
Mai 2016 – Etholwyd eto ar y Cyngor Sir. Etholwyd 5 allan o 6 dros Blaid Cymru yn nhref Caerfyrddin ac un dros Llangynnwr. Daeth yn aelod o Gabinet y Cyngor Sir gyda phortffolio Diwylliant (Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a Theatrau), Hamdden a Chwaraeon, Twristiaeth, Yr Iaith Gymraeg a Llysgennad y Cynghorau Tref a Chymuned.
Rhaid nodi am y blynyddoedd nesaf, gyda Peter yn aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin, iddo ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar waith y Cyngor. Fe wnawn gyflwyno rhestr o’r hyn a gyflawnwyd o fewn ei bortffolio ar ddiwedd ei gyfnod ar y Cyngor Sir.
Gorffennaf 2016 – Trefnu dathlu 50 mlynedd ers buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966 ar Sgwâr Caerfyrddin. Dadorchuddio Cofeb o Gwynfor yn cyfarch y dorf i nodi hynny tu allan i’r Guildhall ar y Clos Mawr, Caerfyrddin a Rhaglen Nodwedd wedyn yng Nghapel Heol Awst.
2018 – Cyflwyno Darlith ar ‘John y Gwas’ yn nhafarn John y Gwas, Felindre yn Gymraeg ac yna yn Saesneg, a chyflwyno i’r dafarn Ffeil o’i hanes a Llun a manylion wedi ei fframio i’w osod ar wal y dafarn.
2019 – Pentref Drefach Felindre yn Bentref Diwylliant Sir Gaerfyrddin.
Hydref 2019 – Dathlu 50 mlynedd penblwydd priodas.
Tachwedd 2019 – Cyflwyno darlith yn yr Amgueddaf Wlan Genedlaethol, Drefach Felindre ar ‘Y Tri Cherddor’ yn hanes ardal Drefach Felindre - Daniel Jenkins, Albert Evans a William Davies.
Tachwedd 2019 – Arwain Taith trwy bentref Felindre o’r Rectory hyd yr Amgueddfa Wlan .
Rhagfyr 2019 – Llywydd Cyngerdd yng Nghapel Bethel Drefach fel rhan o weithgarwch y Pentref Diwylliant 2019.
2ail Mawrth 2020 - Siaradwr Gwadd Noson Gŵyl Ddewi Capel Peniel ger Caerfyrddin. Hwn oedd ei ymddangosiad cyhoeddus olaf ger bron cynulleidfa cyn ei salwch a chyfnod Cofid.
25ain Mawrth2020 – Cael triniaeth llawfeddygol i dynnu ei aren yn Ysbyty Glangwili.
Mawrth 2020 – Cychwyn ar gyfnod o ddwy flynedd o’r pandemig Cofid. Cyfyngwyd ar fywyd pawb o fewn ei gymdeithas. Ni chynhaliwyd fawr ddim yn gyhoeddus.
Mai 2020 – Cychwyn ar ddefnyddio dull newyddo gyfathrebu a chynnal cyfarfodydd ar lein trwy gyfrwng ZOOM a TEAMS gyda holl waith y Cyngor am y ddwy flynedd nesaf. Popeth yn RHITHIOL.
Mehefin 2021 – Ail agor Llyn Llech Owain ar ôl gwaith arbennig i wella’r cyfleusterau.
Tachwedd 2021 – Dadorchuddio Murlun am Fro Myrddin yn Ysgol Bro Myrddin.
2021 – Cyhoeddi ei gomedi ‘RHIWBOB’ gan Gwasg Carreg Gwalch yn y llyfr ‘Dwy Ddrama Ha Ha!’
2ail Mawrth 2022 – Trefnu Talwrn y Beirdd yn Yr Egin, Caerfyrddin fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi tref Caerfyrddin. Bu Peter yn trefnu’r Talwrn yn flynyddol ers iddo ei sefydlu yn 2016.
Sadwrn Mawrth 5ed Trefnu, gyda eraill Pared Gŵyl Ddewi Tref Caerfyrddin 2022.
14eg Mwrth2022 – Siarad gyda Cymdeithas Bronwydd yn y neuadd yno. Dyma’r tro cyntaf iddo siarad fel hyn ers dwy flynedd oherwydd y pandemig.
15ed Mawrth 2022 – Cael ei benblwydd yn 82 oed.
.....................................................................................
Y Comediau Un Act a luniodd Peter:
Dechreuodd ysgrifennu comedïau yn 1992 a chystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992 ac ennill ar y Gomedi Un Act. Perfformiwyd y gomedi ‘Tipyn o Sioc’ yn yr eisteddfod. Enillodd Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Mon yn 1994 am Gomedi Un Act a’r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Rhys James Pantyfedwen yn Llanbedr Pont Steffan yn 1995. Fe’i comisynnwyd i ysgrifennu comedïau i Ŵyl Flynyddol Theatr Felinfach ac fe ysgrifennodd ddramâu yn flynyddol ar gyfer Gŵyl Comediau Cwlwm, Caerfyrddin. Defnyddiwyd ei dramâu yn helaeth mewn Gwyliau Dramâu ar hyd a lled Cymru – Gŵyl Ddrama Rhuthun a Chystadlaethau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn enghraifft dda o hyn.
Tipyn o Sioc 1992 – Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992
Gweld Sêr 1994 Rhedeg Bant (Calen 1996)
Antics Yr Antics 1994 Cadw Lodjers (Calen 1997)
Y Cythrel Sadam 1994 Y Botel :Lwcosed (1998)
Yr Arolygwr 1994 Fi Yw Hwn 1992 (Sgript ar ŴR Evans – Y Fedal
Y Bel Ddu 1994 Ryddiaeth Eisteddfod Llambed)
Mam Fach 1994 Corffw 1999
Rhosys Cochion 1994 Wrth y Pwll 2002
Fflat Iawn (Calan 1995) En Cor 2003
Mas i Swper 2004 Pwy Sy’n Talu 2007
Dau Lun a Dwy Fenyw 2015 Rhiwbob 2021 (Cyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch)
........................................................................................................................................................