Parchedig Rhys Saron Jones (1841 – 1904)
(Diolch i W Arvon Roberts, Pwllheli am ei waith ymchwil a’r wybodaeth am y Parch Rhys Saron Jones.)
Yn y ‘Bywgraffiadur Cymreig’ mae’r manylion canlynol:
Ganwyd yng Nghefn Isaf, tyddyn bychan rhwng Llwyndafydd a Drefach, plwyf Llangeler, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef adref ar yr aelwyd, Ysgol Ramadeg Castellnewydd Emlyn, a Choleg Aberhonddu (1864), lle y graddiodd yn 1668. Yr oedd yn aelod yng Nghapel Saron (A), Llangeler. Dechreuodd bregethu yno yng nghyfnod gweinidogaeth y Parchedig Benjamin Jones. Ei ofalaeth gyntaf oedd yn Treoes, Llangan, Sir Forgannwg, ac yno yr ordeiniwyd ef yn 1868. Llwyddodd i gychwyn achos yn Llangrallo, Penybont ar ogwr, Sir Forgannwg: codwyd capel yno a’i agor yn 1871. Y flwyddyn honno priododd a Elvira L Jenkjins, merch hynaf Thomas Jenkins, Y Bontfaen, Morgannwg.
Yn 1871 ymfudodd i’r America yn weinidog ar Eglwys Cynulleidfaol Gymraeg, Middle Granville, Efrog Newydd. Yna, bu’n weinidog ar Eglwys Providence (stryd West Market) yn Scranton, Pennsylvania. Ordeiniwyd ef yno ar Ebrill 21ain 1872. Gwasanaethodd y capel hwnnw am 32 o flynyddoedd. Bu ei ddylanwad ef mor ddwfn ar y gynulleidfa yno fel y galwyd y capel yn Gapel Cynulleidfaol Coffa Dr Jones ar ol hynny. Ehangwyd y capel ar ddau achlysur yn ystod ei weinidogaeth ef yno, yn 1874 ac yn 1884. Yn ystod ei ymweliad a Chymru yn 1890 anrhydeddwyd ef a gradd doethor gan Goleg Marietta, Ohio. Bu farw ar Awst 22ain 1904 yn 63 oed.
(Dyma gyfieithiad o “Memorial Volume of Welsh Congregationalists in Pennsylvania, U.S.A’ gan y Parchedig David Jones, D.D., Scranton, Pa. (1934) )
PARCHEDIG REES SARON JONES, D.D.
Ganwyd Mawrth 1842 yn Brynmanod, ymhen pellaf Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin. Bedyddiwyd ef yn blentyn gan y Parchedig D Hughes, Trelech. Symudodd ei rieni pan oedd eto ond yn blentyn ieuanc i fyw ar fferm Cefn Isaf, plwyf Llangeler. Derbyniodd yr holl fanteision addysg oedd ar gael ym mhlwyf Llangeler a Phenboyr yn y dyddiau hynny, a hefyd ym Mlaenycoed, Cynwyl Elfed. Tra yr oedd yn dilyn yr Ysgol Sul ym Mryn Iwan, gwnaeth hyn argraff grefyddol amlwg arno, ond ni wnaeth benderfyniad i ddyfod yn aelod eglwysig hyd nes iddo gael ei gyflogi yn was yng nghartref y Parchedig J Harris Jones, M.A., Ph.D. pan yn ddeunaw oed. ( Roedd Cefn Isaf yn ffinio gyda Penybanc cartref Y Parch J Harris Jones. – PHG). Derbyniwyd yn aelod yn Saron, Llangeler, gan y Parchedig Benjamin Jones y gweinidog, a ddaeth yn weinidog ar Eglwys Cynulleidfaol Gymraeg, Granville, Ohio, ar ôl hynny. Pregethodd yn Saron yn un ar hugain oed a mynychodd yr Ysgol Ramadeg o dan yr athro T T Elias yng Nghastellnewydd Emlyn ar gyfer ei baratoi i’r coleg.
Yn 1864 cafodd ei dderbyn i Goleg Coffa Brycheiniog, ac ar ddiwedd ei dymor o bedair blynedd yno cafodd alwad yn weinidog ar eglwysi Treoes a Phenybont-ar-Ogwr. Ar ôl tair blynedd a hanner yno ymfudodd i’r America, i Providence, Pennsylvania lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw ar Llun Awst 22ain 1904 wedi tridiau o waeledd yn 63 mlwydd oed. Rhoddodd 32 mlynedd o wasanaeth yn Providence. Pan fu farw gadawodd weddw a chwech o feibion ac un ferch. Bu ei eglwys yn galaru am 30 o ddyddiau ar ôl ei farwolaeth, ac ni chaniatawyd i neb esgyn i’r pulpud yno, a oedd wedi ei addurno gyda rhuban du. Ar Medi 25ain 1904 cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo. Pregethodd y Parchedig T Cynonfardd Edwards D.D, yn y bore yn Gymraeg, a rhoddwyd cymun i’r gynulleidfa. Yn yr hwyr pregethodd y Parchedig David Jones D.D yn Saesneg gan ganolbwyntio yn bennaf ar fywyd a llafur Dr Jones.
Yn ystod ei fywyd yn Scranton, cafodd Dr. Jones ei anrhydeddu gan nifer o ganghennau eglwysi Cynulleidfaol y Dalaith. Yn ystod haf 1890, pan oedd yn ymweld a’i rieni a pherthnasau yng Nghymru, cafodd radd doethor gan Goleg Marietta, Ohio. Cynrychiolodd y Dalaith yn y Cyngor Rhyngwladol a gynhaliwyd yn Boston yn 1899, a bu yn gynrychiolydd yn y Cyngor Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Des Moines, Iowa yn 1904. Yn ystod blwyddyn olaf ei fywyd yr oedd yn Llywydd Cynhadledd Talaith Pennsylvania.
Yn y llyfr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (1899) mae’r manylion hyn am Y Parchedig Rhys Saron Jones ar dudalen 212.
RHYS.S JONES, D.D, gweinidog Providence, Scranton Yr Unol Daleithau. Ganwyd ef yn Cefn-isaf. Enwau ei rieni oeddynt Dafydd ac Elizabeth Jones. Derbyniodd ei addysg elefenol oddi wrth Thomas Williams yn Saron, a William Williams yng Nghapel Bach, (Drefach). Bu hefyd pan gyda’i ewythr Y Parch Evan Evans Pantricket, mewn ysgol ym Mlaenycoed. Ar gymhelliad taer merch ieuanc o’r enw Mary, morwyn ym Mhenbanc (cartref Y Parch John Harries Jones) yr ymunodd a chrefydd. Buan wedi hynny cymhellwyd ef i ddechrau pregethu (1861). Bu wedyn yn ysgol enwog y proffwydi yng Nghastellnewydd Emlyn dan Mr T T Elias. Derbyniwyd i Goleg Aberhonddu yn 1864; graddiodd yno yn 1868, a’r un flwyddyn ordeiniwyd yn weinidog Treoes a Phenybont- ar- ogwy. Yn Hydref 1871 rhoddodd ofal yr eglwys hon i fyny, ac ymfudodd i’r America. Derbyniodd alwad eglwys Providence yng Ngwanwyn 1872. Derbyniodd yr anrhydedd o D.D gan Athrofa Marietta, Ohio yn 1890. Yn 1897 cynhaliodd eglwys Providence gyfarfodydd dathliad pen chwarter canrif ei weinidogaeth iddi – yr unig enghraifft o’r fath yn hanes y genedl yn America. Mae Dr Jones wedi gwneud gwaith mawr ar ddau du y Werydd.
(Mae’n werth nodi bod hyn wedi ei ysgrifennu yn 1898 yn yr amser yr oedd Y Parchedig Dr. Rhys Saron Jones yn gwasanaethu gan iddo farw yn 1904. – PHG)
Amlinelliad o fywyd Rhys Saron Jones a’i wraig Elvira (Jenkins)
Y Parchedig Rhys Saron Jones.
Ganwyd Mawrth 1842, Cefn Isaf, Saron, Llangeler.
28 oed - Yn byw yn Llangrallo, Morgannwg.
29 oed - Rhagfyr 26ain 1871. Priodi yng Nghapel Saron (A) Treoes gyda Elvira Jenkins. Yn ystod y tair blynedd nesaf yn weinidog yn Treoes. Syrthiodd mewn cariad a merch ieuanc o’r Bontfaen, aelod yn ei gapel – Elvira L Jenkins, merch hynaf Thomas a Mary Jenkins, Mount Pleasant, ger Y Bontfaen.
30 oed – Ebrill 1872. Cyrraedd Dinas Efrog Newydd, America.
38 oed - 1880. Byw yn Scranton, Pennsylvania.
62 oed – Awst 23ain 1904. Marw yn Scranton, Pennsylvania ac ar Awst 25ain 1904 ei gladdu ym mynwent Forest Hill, Scranton.
Ei wraig ELVIRA JENKINS.
Ganwyd mis Mai 1852 yn Y Bontfaen, Sir Forgannwg. Merch hynaf Thomas a Mary Jenkins, Mount Pleasant ger Y Bontfaen a wyres i Lewis Jenkins (1785 – 1852) a Gwenllian Thomas (1783 – 1862).
19 oed - Rhagfyr 26ain 1871 priododd yng Nghapel Saron (A) Treoes, gyda’r Parchedig Rhys Saron Jones.
19 oed - Cyrhaeddodd yr America yn Ebrill 1872.
82 oed - Bu farw Hydref 4ydd 1934 yn Scranton. Claddwyd ym Mynwent Dunmore, Sir Lackawanna, Pennsylvainia. (Nid felly yn yr un bedd a’i gwr? – PHG)
Plant y Parchedig Rhys Saron Jones a Elvira L Jones.
Thomas Myrddin Jones g. 1873, Scranton, Pa. m. 1947, Westflield, Sir Union, New Jersey.
David Edgar Jones g. 1875 Scranton Pa. M. 1934 Chatham Sir Morris, New Jersey.
Rhys Emlyn Jones (Ffermwr. g.1887 Johnstown, Pa. m. 1928, Clifford, Sir Susquehanna, Pa.
Elizabeth Ogwen JONES, g. 1881 Scranton, Pa. m. 1968, Tujunga, Los Angeles, California.
Iwan Elvet Jones, (Peiriannydd). g.1885 Scranton, Pa. m 1945 Union, New Jersey.
Daniel Windzor Jones, (Ysg. YMCA, g. 1885 Scranton, Pa. m. 1949 Berea, Sir Madison, Kentucky.
Benjamin Honddu Jones (Peiriannydd Sifil) g, 1896 Scranton Pa. m. 1961 Pleasantville, Sir Westchester, Pennseylvania.
Dyma mwy o wybodaeth am y capel a enwyd ar ôl y Dr Rhys Saron Jones yn Scranton, Pennsylvania.









