OSWALD TUDOR DAVIES 1908 – 1996
O’r holl chwaraewyr lleol fuodd yn chwarae dros dim pel droed Bargod Rangers, ac eithrio JOHN DAVIES o Bentrecwrt a enillodd ei gap yn chwarae dros dim Ieuenctid Cymrru ac yna’n chwarae’n broffesiynol dros dimau Caerdydd a Hull City - OSWALD DAVIES yw’r unig un a enillodd ei gap yn chwarae dros Dim Cenedlaethol Cymru. Enillodd y cap hwnnw ar Ionawr 29ain 1938 ar gae y Belle Vue yn y Rhyl mewn gem Amatur Rhyngwladol yn erbyn Lloegr.
Roedd Oswald Davies yn fab i’r Parchedig Thomas Davies a’i wraig Elisabeth, ac fe’i magwyd yn Berwyn, Drefach Felindre – y tŷ nesaf fyny o Brynmeiros ar rhiw Pensarn sy’n arwain i Saron. Bu ei dad Thomas Davies yn weinidog ar Gapel y Bedyddwyr Drefach o 1913 tan 1952. Daeth Tom Davies yn enwog fel un o bregethwyr mawr ei gyfnod ac fe gyhoeddwyd nifer o’i bregethau yn y llyfr ”Prynu’r Amser a Phregethau Eraill” yn 1956 gan Wasg Gomer, Llandysul. Roedd gan Oswald un chwaer o’r enw Meima Margaret.
Cafodd Oswald ei addysg yn Ysgol Gynradd Penboyr ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Chwaraeodd i dim pel droed y Bargod Rangers pan ond yn 15 oed. Graddiodd mewn Daeareg (Geology) yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, a dyma’r cyfnod y chwaraeodd dros dim ‘Swansea Town’. Blaenwr canol oedd ei safle.
Tîm Pêl Droed Bargod Rangers 1924-5
Rhes ôl: D L Jones (Dolwion), Tommy Davies (Gwendraeth), J R Jones (Penlon Newydd), Cliff Jones (Y Glyn), C Jarman (Cwm), Sam Davies (Pensarn Cottage), Tom Owen (Clos).
Rhes Flaen: Johnny Jones (Dolwyon), Oswald Davies (Berwyn), H Bennett (Red Lion), E Jones (Felindre View,) D G James (Brynmeiros).

Gêm Bêl-droed Ryngwladol Amatur Cymru v Lloegr 29ain o Ionawr 1938.
Rhes Flaen: Oswald Davies 4ydd o'r chwith.
Mae yn fy meddiant dair tudalen o faint A3 sy’n llawn o doriadau papur newydd wedi eu llun gopïo yn cofnodi hynt a helynt Oswald Davies fel pel droediwr.
Dyma rhai dyfyniadau:
Northern Universities v Southern Universities - “Davies of Swansea scoring both goals.”
Swansea Town 3 Crystal Palace 0 - “Davies, a Swansea University College player was trïed at centre forward and proved an able player.”
Appointment – “Mr OT Davies BSc. The Aberystwyth Centre forward has been appointed assistant master at Wellingborugh Central School, Northampton...”
“Cobblers (Northampton FC) win at Wolverton – splendid shooting by young amateur. Five minutes from the end O. Davies scored with a sharp drive from 25 yards.”
Llanidloes 2 Hereford 0 - “OT Davies was unlucky not to score many times for Llanidloes”
Welsh Amateurs – Men who will oppose England at Rhyl. “OT Davies (Llanidloes) inside left is a player who strongly impressed in the trials. On his day, Davies can rise to great hights”.
Programme Front Cover : Amateur International. Wales v England at Rhyl – Saturday January 29th 1938.
Mae’r uchod i gyd yn dangos i Oswald Davies chwarae gyda Bargod Rangers, Prifysgol Abertawe a’r Prifysgolion, Tref Abertawe, Aberystwyth, Llanidloes a Northampton Town (The Cobblers).


Ar Ebrill 16eg 1938 priododd Oswald Davies gyda Beryl Jones merch Fferm Y Glyn, Drefach Felindre. Roedd David Williams ei thadcu yn frawd i Anne (Williams) Lewis gwraig yr Henadur John Lewis, Meiros Hall. Teulu Beryl oedd perchnogion gwreiddiol Ffatri Wlan Cilwendeg, un o’r ffatrïoedd mwyaf yn yr ardal. Roedd Beryl yn gerddorol iawn ac enillodd ei gradd mewn Cerddoriaeth, ond penderfynodd fynd i nyrsio gan ymarfer yn Ysbyty Guy’s Llundain.
Fe aeth Oswald a Beryl i Kenya a buon nhw yno am 20 mlynedd. Bu Oswald yn brifathro ar Ysgol Hill School, Eldoret, Yna, fe ddaeth yn Arolygydd Ysgolion yn ardal Rift Valley yn Kenya. Roedden nhw yno yng nghyfnod peryglus y Mau Mau (1952-1960) ac roedd cario gwn yn beth cyffredin iddo.
Fe ddaethon nhw nol i Gymru ac i fyw yn Dryslwyn, Cenarth, cyn symud wedyn i Gwêl y Frenni, Bryngwyn, ger Castell Newydd Emlyn. Bu yn Athro Daearyddiaeth yn Ysgol Aberteifi tua 1963.
Yn ei lyfr ‘Hanes Achos y Bedyddwyr Drefach 1793 – 1993’ mae’r awdur Alun Jones yn cofnodi bod Oswald Davies yn un o Ymddiriedolwyr y Capel y bu ei dad yn weinidog arno, gan roi’r enw ‘Gwêl y Frenni’ fel enw ei gartref.
Bu Oswald Davies farw yn Rhagfyr 1997 yn 88 oed a bu’r gwasanaeth yn Amlosgfa Arberth.
Heb os roedd e’n bel droediwr disglair iawn yn ei gyfnod, ac wedi byw bywyd diddorol iawn gan gynnwys treulio 20 mlynedd yn Kenya.
Peter Hughes Griffiths, Hydref 2021 gyda chymorth Eifion Davies.