Nodiadau ar Filltir Sgwar (Pum Hewl ger Drefach Felindre)
gan John Tudor Jones
Fi a'r Filltir Sgwar
Cefais fy ngeni a magu ar fferm Llwynneuadd ger 'Crossroads' fel y soniais yn fy llyfr cyntaf Cofio N'ol. Roeddem yn bedwar o blant sef Leslie, Parry, fi (John), a Gwyneth. Roedd ein mam, Mary Elen, wedi ei magu yn Llainffald ym mhentref Felindre a Tom neu Tommy, ein tad, wedi cael ei eni i'r Jonesiaid yn ‘Triolbrith’, Rhos, Llangeler. Ar ôl priodi buont yn byw yn Llainffald am oddeutu dwy flynedd cyn geni Leslie yn 1923. Wedyn prynodd fy nhad a mam fferm Llwynneuadd, sydd dafliad carreg o’r man uchaf ym mhlwyf Penboyr ac nid nepell o 'Crossroads'. Cyn hynny ffermiwyd Llwynneuadd gan Dafydd a Tomos Lewis, â oedd yn perthyn i ni o bell. Ganwyd Parry yn 1925, fi yn 1926, a Gwyneth yn 1927. Ni symudodd Leslie gyda’n rhieni i Lwynneuadd; fe wnaeth aros yn Llainffald a chael ei fagu yno gan dat-cu a mam-gu, sef Sam a Martha Jones, a’n dwy anti, Nan a Hetty. Roedd ganddynt frawd hefyd a oedd yn ganwr arbennig sef Johnny Baker Jones. Roedd Johnny gyda llaw yn ddatcu i'r canwr pop enwog Howard Jones a ddaeth i frig y siartiau yn wythdegau'r ganrif ddiwetha. Cyd-ddigwyddiad felly oedd taw Jones oedd cyfenw fy mam a'n nhad.
Drwy'r blynyddoedd, rwyf wedi edrych ar fy milltir sgwar fel petawn yn edrych drwy ffenest a gweld y clytwaith o dirluniau tu hwnt. Rwyf nawr yn nesau at fy mhenblwydd yn nawdeg a phedwar a hynny yn y flwyddyn 2020. Gyda fy merch Ann, dyn ni'n adlewyrchu yma ar fy ardal mewn amser rhyfedd a thorcalonnus yn ein hanes.
Fel llawer o ardaloedd gwledig dros Gymru a'r byd. Mae swyddogaeth llawer o'r tyddynod, ffermydd a ffatrioedd yr ardal wedi mynd ac yn dorcalonnus hefyd nifer o enwau'r llefydd hynny a hyd yn oed yr adeiladau gwreiddiol eu hun.
Yr unig beth a wnaf yma yw adlewyrchu ar y ffordd o fyw sy'n fy agoffa lawer am sut dyn ni'n ymrafael byw yng nghythrwfwl y flwyddyn 2020.
PENNOD 1
Y BUM HEWL neu 'CROSSROADS':
Dyma'r groesffordd a fyddai'n mynd â ni i unrhyw le y dymunem wrth gwrs. Ai un ffordd lawr ar hyd rhiw 'Blaenbuarthe' tuag at Cwmpengraig a Drefach Felindre, y nesa am Penboyr, y nesa am Dy Coch, yr hewl 'drympeg' neu 'turnpike' o Gastell Newydd i Gaerfyrddin drwy Llangeler a'r nesa'n ffordd fach gul â aiff allan i Hermon a'r ola nol dros y top i hewl Gastell Newydd Emlyn neu am 'Maudland', Hermon neu Fryn Iwan. Cofiaf i rywun ofyn i Tom Bwlchclawdd a oedd yn byw wrth ymyl 'Crossroads' unwaith
'Where do these roads take you?'
'One to Gorllwyn, One to Cwmpengraig, one to Penboyr, one to Maudland and this one to everywhere in the world' meddai Tom am hewl Gaerfyrddin.
Roedd 'Crossroads' yn ganolbwynt i'r cymunedau cyfagos ac yn le cwrdd. Ar nos Sul yn ystod yr haf byddai llawer o bobl yn ymgynnull yn Crossroads i gymdeithasu a charu. Doedd hi ddim yn syndod i weld tua hanner cant o bobl yn eistedd a sefyllan ar droed, ac ar feic neu fotobeic yn Crossroads. Roedd cael 'mwgyn' bach hefyd yn rhan o'r ddefod i lawer wrth rannu stori a chael hwyl. Yn wir, dyna lle y dechreuais ymrafael a'r ddefod fach hon er i fi orfod rhoi'r gorau i'r 'mwgyn' flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ar sgwar 'Crossroads' neu bum hewl roedd ty unnos. Yno roedd James Jones yn byw. Collodd ei wraig pan oedd hi'n ifanc iawn. Roedd gan James bedwar o blant. Adeiladwyd y ty unos gan James ei hun. Roedd yn wr deallus iawn gyda dawn feteorolegol dda. Roedd wedi dysgu llawer am yr haul, y lleuad, y ser a'r tywydd yn gyffredinol, gwyddai lawer am y tywydd a medrai ragfynegi'r tywydd yn gywir iawn. Roedd yn ffaith ei fod yn byw yn un o fannau uchaf y plwyf yn fantais fawr iddo o ran astudio'r tywydd. Cofiaf i Dai mab James ddod lawr rhiw Blaenbuarthe a'i chwaer yn eistedd ar flaen bar y beic un tro, a doedd dim brecs ar y beic felly roedd rhaid troi'r beic mewn am glôs balenbuarthe i'w stopio.
Y lle nesa i dy unnos Cross Roads ar yr hewl i Gorllwyn mae Blaenllain. Yno roedd Gwilym ac Anna Jane yn byw gyda'u pedwar o blant, Jac, Lilian, Hubert a Beti. Roedd rhyw bump o wartheg gyda nhw yno.
Roeddwn yn meddwl y byd o Gwilym pan yn ifanc. Roedd e'n dipyn o arwr i fi gan ei fod yn engraifft arbennig o weithiwr caled ac ymroddedig. Roedd e wastad yn helpu pobl eraill. Roedd Gwilym yn gweithio ar ffermydd yr ardal gyda'i ddau geffyl - caseg wen a phoni bach frown, yn mynd ati yn bennaf i ladd gwair hwnt ac yma. Gweithiau oriau aruthrol bob dydd ac fe fyddai Gwilym wastad yn ei ddillad gwaith. Cofiaf iddo ladd moch yn yr ardal yn ystod y gaeaf. Gwnai Gwilym bob swydd oedd angen yn yr ardal ac os fyddai angen help ar rywun, byddai yno'n syth. Roedd yn aredig i lefydd bach ac yn llusgo coed mewn llefydd eraill. Byddai'n nol clau o'r wichell ym Mhentrecagal yn aml, a'r tristwch mwya yw cofio a chofnodi iddo gael ei ladd gan dractor.
Nid nepell o Flaen Llain mae Crug y Gorllwyn. Crug uchel fel helmen dal oedd yma pan oeddem yn blant ac roeddem yn arfer chwarae o'i hamgylch yn aml. Ychydig yn nes ymlaen wedyn ar hewl fach gefen Hermon saif Blaenpant. Dw i'n cofio i fy mam a nhad brynu'r fferm fach hon ym mhedwardegau'r ganrif ddiwetha. Gwyneth fy chwaer aeth yno i fyw am gyfnod, ac yno buodd yn edrych ar ôl yr anifeiliaid. Roedd rhyw saith o wartheg gyda hi yno. Cofiaf unwaith i Gwyneth ddychwelyd i Blaenpant ar ôl bod adre yn Llwyn Neuadd a gweld llond clos o filwyr yn hamddena yno. Cofiaf iddi gael dipyn o fraw y tro hwnnw. Byddai Gwyneth yn mynd a llaeth ar ôl godro allan mewn churns i Crossroads wrth wthio cart bach. Safai'r stand laeth wrth ymyl yr hewl â adwaenodd at bentref Penboyr. Yn 1947 yn ystod yr eira mawr, daeth Gwyneth lawr i Lwyn Neuadd a bu'n rhaid i fi gerdded o Lwyn Neuadd i weithio ym Mlaenpant. Roedd rhiw Blaenbuarthe yn drwch o luwchfeydd ac ar dop rhiw Balenbuarthe, rhaid oedd mynd drwy'r caeau â mhen wedi i orchuddio â sach fel llywanen o'm hamgylch, i glirio'r eira ym Mlaen Pant gan na allech ddynesu at y ty na'r beudy heb fogi gan bwer yr eira. Cofiaf iddi gymryd dyddiau lawer i fi glirio llwybr i'r ty a'r beudy. Roedd y cyfnod hwn yn amser rhyfeddol o anodd gyda cholledion enfawr ar hyd a lled ffermydd a thyddynod Cymru.
Ar hyd y ffordd hon mae tyddyn Nantsais. Lle bach ar waelod y cwm yw Nantsais. Ty dau ben bychan oedd hwn pan oeddwn yn fachgen ac wedi ei leoli rhwng Blaenpant a Gorllwyn a ger Clungwern. Roedd y ty ynghanol y brwyn a'r grug a gallech fynd o'r fan hynny i Ffos y Gelen. Cofiaf taw mab Moudland oedd yn byw yma ac adwaenwn ef fel Dai Nantsais. Roedd pedwar o blant yno. Un mab yn blismon sef Alwyn ac un yn gweithio gyda cwmni Corona. Roedd un o'r merched yn athrawes a phriododd un o'r merched eraill gyda John (Gelli) mab Williams Phillips, Penllwyn.
Roedd Ffos y Gelen yn ryfeddod i ni. Cors diwaelod hyd a lled cae cymhedrol o faint oedd hi. Roedd y ffos yn sigo nol a mlaen o un pen i'r llall. Gelwid hi'n fynych yn 'sigen' Roedd dwfnder y tyfiant tua throedfedd a tasech chi'n gwasgu hwnnw, byddai'n siglo hyd ben eitha'r ffos. Roedd e'n le brawychus i ni fel plant. Yn ôl y sôn, camodd ceffyl Tom Maudland ar y ffos ac ni welwyd mohono wedyn. Mae'n debyg i'r forwyn Nansi Pant y Gwcw ddiflannu yn y ffos hefyd un noson wrth fynd i'w gwaith ym Mhenrallt, Penboyr. Roedd hyn cyn ein hamser ni cofiwch. Cofiaf glywed yr hanes bod John Davies Pantymeillion wedi gosod dwy raff cart gyda wedi eu clymu a phwysau ar y pen i drio mesur dyfnder y ffos. Roedd y rhaffau rhyw drigain troedfedd yn glwm ac ar eu hyd. Fodd bynnag, methu fu'r ymgais i fesur a dod o hyd i waelod Ffos y Gelen.
Fferm fach i fyny'r cwm nid nepell o Gorllwyn a thu ol Nantysais yw Clungwern. Plant Clungwern oedd Tom, Harris, Doris a Geta. Yn ddiweddarach aeth Tom i ffermio Blaenpant, ynghyd ag adeiladu fan hyn a fan draw. Cofiaf iddo adeiladu winsh ym Mlaenpant a'i bricio yn gelfydd iawn. Roedd Harris yn fecanig a Dan yn adeiladwr. Cofiaf i Doris fynd i fyw ym Mhenclawdd a Geta yn Rhydfoyr. Wyn y saer a'r ymgymerwr sy yno heddiw wrth gwrs.
Gorllwyn yw fferm ucha'r pen hwn o'r plwyf ac mae hi'n rhyw gan erw. Pan oeddwn yn ifanc, cafodd Gorllwyn ei ffermio gan John James. Roedd hi'n hen fferm urddasol dros dri chan mlwydd oed, lle hyfryd gydag adeiladau megis stabl a chartws modern arbennig. Roedd ei wraig Lisi James yn fenyw hoffus, hapus a llawn sbri. Cofiaf ar un adeg iddynt gael pedwar o geffylau gwaith du a choesau gwynion. Roeddwn i wrth fy modd yn eu gweld. Roedd un merch gyda nhw o'r enw Mair, buodd hi'n athrawes yn Nhrelech a phriododd hi â William Marks Jones, Yr Hengae, Felindre. Ar ôl cyfnod John a Lisi yn Gorllwyn, daeth teulu Teifi Francis yno. Roedd yntau wrth gwrs yn ddeler anifeiliaid mwya'r ardal. Cofiaf un stori lle roedd Hubert Blaen Llain yn helpu Teifi ac yn gyrru ei fan cyn oed gyrru, cyngor Teifi i Hubert oedd i roi 'cwshyn' neu ddau ar y sedd i wneud ei hun i edrych yn henach ac yn fwy o faint cyn mynd mewn i mart Caerfyrddin.
Sam a Deina oeddwn yn cofio gyntaf yn Llainfraith gerllaw Gorllwyn. Yr oedd ganddynt bedwar o blant sef Dewi, Elfed, Denzil a Myra. Roedd ceffyl cob a thrap Llainfraith yn nodedig am fod yn smart iawn. Cofiaf i Sam fynd a'r teulu yn achlysurol ar wyliau i Llangrannog yn y trap hyfryd. Byddai yntau yn dychwelyd hebddynt wedyn i'r fferm gyda'r nos i odro a chadw golwg ar yr anifeiliaid.
Nes draw wedyn mae Blaen-cwarau sef hen dy bach dwy stafell. Gadawodd teulu John Lloyd y gwneuthurwr clocs y ty hwn, ac adeiladodd gartref o frics coch hyfryd i'w deulu ym Maes yr Haf. Yr oedd yn dy newydd felly yn ugeiniau'r ganrif ddiwetha. Roedd John yn gwneud clocs i blant ac oedolion. Cofiaf fynd â choeden sycamor draw at John at y pwrpas o wneud clocs. Wrth ddarparu coeden basen ni wedyn yn cael clocs am ddim.
Ochr arall i'r lle gweithio clocs slawer dydd, saif fferm o'r enw Ffosanna. Roedd un o fechgyn Ffosanna yn briod â Mary (Mari fach) Blaen Nant Gwyn. Efallai y cofiwch fi'n son am Crugland yn mynd i brynu gafr wrth Mary. Tynnodd Cruglan bum bunt o'i boced i dalu Mary am yr afr ond cafodd yr afr afael yn y pum punt a'i llyncu. Dyna lle roedd Mary a Cruglan yn trio tynnu'r afr fel petaent mewn 'tug o war' a checru am bwy oedd ei pherchennog ar ôl iddi lyncu'r bum punt. Roedd Mari fach yn fenyw alluog iawn a gallai hi ddelo'n chwim, cystal ag unrhywun yn yr ardal. Rhyw filltir wedyn o'r hewl fawr ar fferm Pwll y Gaseg, roedd Sam a John yn byw. Roedd y ddau yn gefnderwyr i Samuel ac Ann Pengraig ac i Johnny Pengraig. Ger yr afon wedyn, nid nepell o Ffosanna, mae fferm fach Nantgronw Isaf. Arthur Evans oedd yn byw yno a daeth o ardal Trelech. Cofiaf un tro i Arthur alw a gofyn i fy nhad os allai fenthyg cyfrwy. Dyma fy nhad yn rhoi'r cyfrwy iddo ac o dipyn i beth aeth dros flwyddyn heibio pan ofynnodd fy nhad i fi alw am y cyfrwy gydag Arthur gan nad oedd wedi ei ddychwelyd. Gelwais ar y fferm i'w gael e'n nol ag ateb Arthur oedd nad oedd e yn gwybod dim am un cyfrwy a bu'n rhaid i fi ddod o'r fferm a mynd adre heb yr un cyfrwy. Cofiaf hyd heddiw ei fod yn ddiwrnod gwlyb iawn ac wrth groesi'r afon dim ond pen a chefn y boni fach oedd yn y golwg wrth i mi drio ei marchogaeth allan o'r afon. Am brofiad brawychus ac heb air o gelwydd, gallen i a'r boni fach fod wedi boddi y diwrnod hwnnw.
Yn ddiweddarach aeth mab Arthur Evans sef John Henry i fyw yn Nantgronw Uchaf mewn ty newydd. Diddorol nodi bod mynedfa Nantgronw Uchaf yn dod allan i hewl Caerfyrddin tra roedd mynedfa Nantgronw Isaf yn dod allan i hewl Gorllwyn. Roedd mynedfa Pwll y Gaseg hefyd yn dod allan ar hewl Gaerfyrddin er fod y fferm yn cefnu ar hewl Gorllwyn. Cofiwch i fi son yn barod yn y llyfr blaenorol fod John Henry eisiau prynu wats o gatalog. A dyma Dai Nant yn ei gynghori. Dyma John Henry yn cael y wats a chael mis i dalu. Pan ddaeth y bil, thalodd e ddim o'r bil. Pan ddaeth yr ail fil penderfynodd John Henry ddweud ei fod yn 'dead' a phan ddaeth y trydydd bil ateb John Henry y tro hwn eto oedd 'still dead'.
PENNOD 2
Mae'n amser i ni nawr ddychwelyd i'r pum hewl neu Crossroads gan taw yno fel y soniais oedd canolbwynt fy ardal. O Crossroads nawr am Ty Coch a'r y fferm cyntaf welwch chi yw Blaen Nant Gwyn ger pileri'r Ail Ryfel Byd.
Mae dau le bach lawr yn y cwm a'u mynedfeydd ar yr hewl tuag at Ty Coch. Blaen Nant Gwyn a Phantir oedd rhain.
Blaen Nant Gwyn oedd cartref Mary neu Mari Fach a chofiwch i fi grybwyll am hanes yr afr ynghynt.
Gwilym Blaenllain ddaeth i fyw ym Mhantir ar ôl gadael Blainllain. Ac ar ôl hynny Twm Blaentransh fu'n byw yno sef brawd Ffred a fu'n byw yn Llwyndyrus cyn i ni symyd yno. Cofiaf i fi brynu moto beic wrth Dewi fy ffrind am ddwy bunt, dyma fi'n dweud wrth Twm mod i wedi ei brynu fe. Wel, roeddwn i'n meddwl mod i wedi cael bargen achos roedd e'n edrych yn fendigedig. Erbyn hynny dyma Twm oedd yn cerdded lan gyda fi yn dweud '
'Beth sy mlan da ti?'
'Dw i wedi prynu'r beic ma wrth Dewi' dwedais
'Fy meic i yw hwnna' meddai Twm
'Ma'r beic wyt ti wedi prynu wrth Dewi yn y cartws'
Wel unwaith es i n'ol i'r cartws dim ond hen foto beic yn rhwd i gyd ac yn ddim ond dwy whîl a ffram oedd yno. Beth bynnag, cydiais yn y cricsyn o feic a llwyddais i'w werthu mlaen am bum punt, drwy lwc.
Diddorol nodi taw teulu Pantymeillion oedd yn byw ym Mryn Gwyn nid nepell o'r ffermydd uchod ar un adeg. Erbyn hyn mae Dylan mab Eurig a'i deulu, ac yntau hefyd yn nai i Fanw a Ieuan yn byw yno.
Roedd tua phump o fechgyn yn byw yn Cwmbach wrth i chi nesau at gyffordd Ty Coch. Roedd y bechgyn yma yn perthyn i aelwyd Ty Coch. Nid nepell mae Pantwaun. Mae mewn llecyn bach ar gyffordd digon prysur oherwydd dyna lle roedd pobl yn cerdded allan i ddal y bus ar y ffordd drympeg i Gaerfyrddin.
Mae Fferm Blaenbargod yn gwynebu ffordd fawr y trympeg fel y'i gelwid. Roedd dau frawd yn ffermio yma ac roedd ganddynt ddwy forwyn sef Pearl a Lilian. Saesnes oedd Pearl a ddaeth i wasanaethu gyda'r fyddin. Roedd Lilian, ar y llaw arall, yn ffrindiau oes i ni ac yn briod gydag Idris a oedd yn saer coed, ac yna'n arolygwr adeiladu yn y Cyngor yng Nghaerfyrddin. Gwnaethpwyd eu cartref yn LLysderi ac yn ddiweddarach adeiladwyd fyngalo hyfryd ym mhentref Drefach Felindre sef Talar Las.
PENNOD 3
Dychwelwn eto i Crossroads a chymryd yr hewl tuag at Eglwys Penboyr a Phenboyr ei hun. Dyma a gofiaf o'r llefydd ar yr hewl gyfarwydd hon.
Mae Bwlchclawdd Mawr wrth ymyl Cross roads ar yr hewl i Benboyr nid nepell o Gwarcwm. Yno roedd Tom neu 'Twm Bwlchclawdd' fel yr adwaenwn ef yn byw gyda'i wraig Sofia. Tom Ffosywernen oedd yn gweithio fel gwas yno. Bu gwraig oedranus yn byw gyda nhw yno hefyd o'r enw Anna. Roedd hithau yn chwaer i Sam Williams o Saron. Roeddwn i'n cofio Sam gan ei fod yn cadw loris a chartio anifeiliaid o le i le.
Gyferbyn â Bwlchclawdd mawr, mae Bwlchclawdd Bach. Yno roedd Leusa yn byw. Mae Bwlchclawdd Bach tua phum erw ac roedd tua pedair buwch ac ychydig o ieir yno. Ni fu llawer o heddwch rhwng Tom Bwlchclawdd Mawr, Tom Ffosywernen a Leusa. Un tro, cofiaf i Tom y gwas ledaenu ysgyb ar draws y ffordd liw nos gan ddweud mai Leusa Bwlch Clawdd Bach oedd wedi ei ddwyn. Buodd hi'n dali ho yno! A dweud y gwir, yn aml doedd dim un yn gallach na'r llall ac roedd Tom Ffosywernen, wastad yng nghanol y miri. Yn ddiddorol, cafodd Mary Ffynnon Fach ei magu gan Leusa. Cofiaf iddi hithau fod yn ffrind agos i May Pantybara.
Ochr uchaf i Bantymeillion ar yr hewl yma, mae Pant y Crug. Yno roeddent yn cadw siop fach, ac hefyd ai Iori'r mab allan mewn fan fach o le i le, yn gwerthu bwydydd yn ogystal â sigarets a bwyd i'r ieir a'r moch a llawer o fanion eraill. Roedd y lle bach hwn tua naw erw ac yn cadw rhyw bedair buwch. Roedd ffynnon neu winsh ddwr â oedd dros drigain troedfedd o ddyfnder yno. Diddorol nodi bod pob lle ym Mhenboyr yn cael eu dwr o dan ddaear a fel y clywsoch gennyf droeon, gelwid y system ddwr honno'n 'winch'.
Mae Pantymeillion gerllaw yn rhyw ddeg erw a chadwyd rhyw chwe buwch odro ac un ceffyl yno. John a Marged oedd yn byw yno pan oeddwn yn ifanc ac roedd ganddyn nhw un ferch o'r enw Sarah. Priododd hi â William James, mab ffatri Green Meadow a chawsant un mab o'r enw John Daniel er taw Jaci oeddent yn ei alw. Aeth Jaci yn blismon ac wedyn aeth i gadw siop ddillad ym Mhontardulais ac aeth Sarah i fyw yn agos i Jaci ar ôl marwolaeth William.
Fferm arall nodedig ym Mhenboyr yw Waunfawr ar y ffordd i mewn i Flaenmaenog. Cofiaf bod William a John yn byw yno pan oeddwn i'n blentyn. Priododd John ag Annie, merch Seimon Ty Hen. Roedd tri o blant gyda John ac Annie sef Eiry, Nesta ac Eric.
Roedd gan deulu Waunfawr geffylau mwya bendigedig. Ceffylau gwaith o Ganada oeddynt, a rheini yn geffylau siarp a chryf. Yr oedd John yn gweithio gyda'r N.F.U. a roedd son un diwrnod fod John wedi mynd â the i'r cae i William a'i fod yntau wedi mynd i gysgu ond pan ddihunodd Will, yr oedd John wedi dibennu llynfi (llyfni) bron i chwe erw.
Yn nes ymlaen ar yr hewl mae Llwynsgawen. Roedd Tom Llwynsgawen yn selog yn Eglwys Penboyr. Roedd yn frawd i Dafydd Pengraig Fach a Ifan Llaingof. Lizzie oedd merch Ifan Llaingof. Roedd Ifan Llaingof hefyd a Lizzie Ann hithau, yn selog yn Eglwys Penboyr. Yn Nantllin roedd mab ffatri Ty Uchaf Daniel ac Anne ac roedd tri o blant gyda nhw sef Islwyn, Benjamin sef prifathro ysgol Penboyr ac Ann Nantllin. Roedd hi'n gweithio mewn siop sglodion yng Nghaerfyrddin.
Gerllaw mae Penlon a thri Phenlan. Mae Penlan ganol a Phenlan Gerrig ar ochr arall y cwm, a thu ôl i allt Dangribyn mae Penlan Gribyn. Mae'r tri lle yn wynebu ei gilydd ar draws top Cwmpengraig. Agorwyd mynwent newydd ar dir Penlon Gribyn sef Mynwent Newydd Soar heddiw. Wrth gwrs saif Soar, capel yr Anibynnwyr ei hun yng nghanol pentre Cwmpengraig.
Gerllaw mae Penlon fel y soniais yng nghynt. Dau dy oedd Penlon, ac yno roedd Jim Bach yn byw yn y naill dy a Tom a Sara oedd yn byw yn bwthyn. Buodd Jim yn byw gynt yn Penrhiwficer. Roedd Jim yn helpu Daniel a Benja Rhydfoyr gyda'u ceffylau. Dysgai'r ceffylau i orwedd a sefyll ar ddwy goes ôl a gallent fynd o gae i gae dim ond iddo ddweud enw'r cae. Un diwrnod penderfynodd Jim ddweud wrth y gaseg am fynd adre o'r siop yn Drefelin i Rhydfoyr, gwnaeth y gaseg fynd trwy Drefelin heibio Ffynnondudur a Gilfach a mas drwy'r top ac roedd hi nol adre cyn Jim. Aeth e adre drwy rhiw cyrff fel yr arferai wneud. Dangosai Jim y ffordd i bobl yr ardal wneud gwintelli mas o goed cyll, siap rhyw hanner wy. Defnyddiwyd y gwintelli i grynhoi tato pan oedd y peiriant tato yn taflu'r tato mâs a gellid tipio'r gwintelli o dato i'r cart a'u danfon yn eu tro i siopau'r ardal. Gellid golchi'r tato'n lân yn y gwintelli hefyd. Roedd hi'n draddodiad i ddod a gwintelli gyda chi os oeddech yn helpu ar ryw fferm neu'i gilydd.
Jams a'i wraig oedd yn byw yn Rhydfoyr Uchaf a Benja a'i frawd yn Rhydfoyr Isaf. Seiri oedd teulu Rhydfoyr Uchaf sef James ac Annie Rhydfoyr a roedd Dafi yn fab iddynt a Wyn yn fab i Dafi. Roedd John, Jenny a Mary yn frodyr a chwaer i Dafi Rhydfoyr.
Maesllan yw'r fferm sy'n ffinio gydag Eglwys Penboyr. Rhaid wrth fynd bron drwy glos Maesllan i gyrraedd Eglwys St Llawddog, Penboyr. Mae'r y fferm ei hun yn gymharol wastad. Harri a'i chwaer Kate oedd yn ffermio yno rhyw gan mlynedd yn ôl. Ar ôl blynyddoedd, cofiaf i Harri symud i fyw at ei wraig Jane Treale, ym Mhantyffynnon ar dop Cwmpengraig. Priododd Kate â James o Lanpumsaint.
Diddorol nodi bod llwybr yn cychwyn o Faesllan a mynd drwy clos fferm y Gilfach allan i Dafarn Llwyndafydd, a bod yna gwm serth rhwng Maesllan a Gilfach. Yno saif Penrhiwficer lle bach ar ben y cwm ar y ffordd o Benboyr i Rhos, Llangeler.
Uwchlaw mae fferm Rhydronwy lle cafodd John Rees Blaenbuarthe a Dafydd Rees Garn Villa eu geni. Eu chwiorydd oedd Esther Goetre ac Anna a briododd â Henri Brynglas. Symudodd un chwaer arall i Flaenmaenog, ei henw hi oedd Leusa.
Fferm gerllaw'r uchod yw Ffrydiau Gwynion lle roedd Ben a Sam a'u dwy chwaer Anna a Marged yn byw. Ben ac Anna fyddai adre'n ffermio Ffrydiau Gwynion tra'r aeth Sam a Marged i fyw ym Mlaenmaenog am dro. Allan i ladd moch hwnt ac yma a wnaeth Sam, tra bod Marged ei chwaer wedi gwasanaethu fel morwyn mewn amryw le gan gynnwys Penceiriau mawr.
Ar ol cyfnod Sam a Marged ym Mlaenmaenog. Symudodd William Jones o Rhyd yr Onw a'r mab Rhys Jones (Spring Gardens) i Flaenmaenog. Fferm tua chan erw yw hon. Cofiaf bod march 'shire' glas gyda Rhys Jones.
Rhyw dro daeth Rhys â'i geffyl heibo'i Bwlchclawdd ar adeg cynheua gwair a gofynodd i Ben Evans Nant
'Beth dych chi'n meddwl o'r march Mr Evans?'
'Ceffyl pert' meddai yntau
'ond dw i'n meddwl bod ei ddwydroed blaen yn troi mas rhyw dwtsh'
'Digwyddiad yw hwnna' meddai Rhys
'Diawch, falle eith hi'n ddigwyddiad o hyd.' meddai Ben yn chwim ei dafod.
Yn nes ymlaen ar hyd y ffordd gul hon ac heibio'r Eglwys ewch heibio i le bach o'r enw Penrhiwficer ar war cwm serth. Wrth gario mlaen ar hyd y cwm serth yma ac i fyny'r ochr draw dewch o hyd i Benclawdd Isaf a Phenclawdd Uchaf.
Mae Penclawdd Uchaf yn fferm o flaen Eglwys Penboyr. Cafodd ei ffermio gan James Thomas a'i wraig. Roedd ganddynt bedwar o blant, tair merch ac un mab sef Anna Mary, Deina, Myfanwy a Benja y mab. Cwrddais i a nhw lawer gwaith pan yn mynd i Ffrydiau i dynnu tatws.
Yn y blynyddoedd a fu, roedd ieuenctid yr ardal yn dueddol o briodi yn eu milltir sgwar. Roedd yr un patrwm ym Mhenclawdd Isaf hefyd gyda bechgyn a merched yn priodi o fewn eu hardal. Ar ôl i Tom Gower ymddeol, daeth Jos Marged (merch Ty Newydd, Drefelin) a'r teulu i fyw yno o Hermon. Lle gwastad fel ford oedd Penclawdd Isaf o gymharu â Phenclawdd Uchaf.
Cyn cyrraedd allan ar yr hewl fawr yn Rhos ewch heibio le bach a ffatri'r Glyn. Mae gwaelod y cwm i fyny'r llethr hyd yr hewl fawr tua chan troedfedd o ran uchder. Enw'r cwm yma yn wreiddiol oedd Cwm Shingrug. Yn rhyfeddol iawn saif Ffatri'r Glyn ar y gwastadedd rhwng dau lethr y cwm. Yno, darparwyd y dwr gan yr Afon Bargod i droi rhod y Ffatri. Yn ddiweddarach trowyd y ffatri yn gartref. Yno bu Defi. neu Dai Lodge yn byw. Bu'n gweithio gyda'n teulu ni am gyfnod yn yr wythdegau'r ganrif ddiwetha. Rhwng y Ffatri hon a Bwlchclawdd, mae Bwthyn Penrhiw. Yno bu teulu gwraig Dai Lodge yn byw.
Nol i brif hewl Penboyr a throi i'r chwith am Drefach Felindre, awn heibio festri Penboyr. Gyferbyn â Gwastod, roedd Ifan Llain Gof a'i ferch Lizzie Anne yn byw. Roeddent yn flaenllaw yn Eglwys Penboyr. Yn wir, Ifan oedd yn athro ysgol sul arnom.
Yn fferm Gwastod, roedd Samuel Mawr a Samuel bach yn byw. Gelwid y tad yn Sam Mawr a'r mab yn Sam Bach er ei fod yntau yn fwy o lawer na'i dad erbyn iddo brifio. Roeddent yn gymeriadau ffraeth iawn. Roedd tipyn o 'market garden' gyda nhw yn Gwastod ac ar dir uwchlaw Ty Dangribyn ym Mhenlan. Roeddent yn gwerthu cynnyrch yng Nghastell Castell Newydd a Chaerfyrddin yn ogystal â Gwastod ei hun.
Roedd brawd Sam Mawr yn ffermio ym Mhenlanfawr sef Johnny Williams. Roedd ganddo wac laeth o amgylch yr ardal. Fe a theulu'r Hen Gae oedd yn delifro llaeth i Ysgol Penboyr am yn ail wythnos os cofiaf yn iawn. Felly, fel petaech yn dweud, wythnos i un ac wythnos i'r llall.
PENNOD 4
Yn y bennod yma, dychwelwn eto i Crossroads a dechrau ar ein taith am y ffordd â aiff rhwng hewl Gorllwyn a'r hewl i Gwmpengraig. Cyfeirir ati fel hewl newydd o'r pwynt uchod hyd at fferm Blaen-esgair gan fod bont fach newydd wedi'i hadeiladu ger Blaen-esgair. Cofiaf i fy nhad helpu'i adeiladu pont Blaen-esgair. Doedd dim pont yno yn yr hen oes, roedd rhaid mynd drwy'r rhewyn dwr wrth ymyl Blaenesgair i fynd ar hyd y ffordd.
Perthnasau i ni oedd yno ers talwm. Dai mab Maudland dw i'n ei gofio yno pan o'n i'n ifanc. Symudodd Dai i Nant Sais wedyn. Er nad oeddem yn ymwneud â nhw cymaint â hynny. Lle bach gyda thair buwch oedd Blaen-esgair. cofiaf un tro i lori wartheg ddod dros y bont a digwyddodd rywbeth i beri i'r lori droi fel bod ei olwynion blaen ac olwynion ôl yn hongian dros y bont. Daeth yr hanes hwn nol i'n cartre ni, a chofiaf fynd i weld yr olygfa ryfeddol yma. Ni chofiaf sut aethon nhw â'r lori oddi yno ond o ran diddordeb prin iawn oedd y defnydd o graeniau yr adeg hon.
John oedd yn byw ym mhlas Newydd nid nepell o Flaen Esgair. Lle bach gyda thair buwch yw e 'nac mae agos iawn i Dy Maudland.
Os cofiaf yn iawn a chyn fy amser roedd dros ugain o blant gan Tom Thomas (Tom Tom) ac Anna Maudland. Cofiaf tua hanner dwsin o'r plant yn fy nghyfnod yn Llwyn Neuadd. Roedd Tom yn gefnder i fy mam a dweud y gwir. Un o'i wyresau oedd Novello a'i Mam oedd Maggi. Roedd Novello yn flaenllaw ac yn selog gyda Menna fy ngwraig, yn Eglwys Penboyr. Roedd hi'n briod â Dewi. Gwnaethant eu cartref yn Delfryn, Penboyr.
Gerllaw mae fferm Rhyd y Gwin. Cofiaf Jack a Joice Rhyd y Gwin a'u tad Dafi. Danygoilan oedd y lle bach nesa. Cofiaf taw saer oedd Jack Danygoilan.
Plant Clun Gwern (Harries) oedd yn cadw'r garej gerllaw Rhyd y Gwin a Dangoilan a'r fferm nesa dan sylw yw Clun Bele. Mae Clun Bele wrth ymyl Clungwern a gerllaw Llainfraith. A dweud y gwir, mae Clun Bele rhwng y ddwy fferm a nodwyd er bod ei mynedfa yn agor ar yr hewl o Maudland i Hermon.
PENNOD 5
Dychwelwn i Crossroads a dechrau ein taith i lawr am Gwmpengraig.
Y fferm agosaf at 'Crossroads' yw Gwar Cwm. Gwar Cwm yw'r ffarm fach gynta y cwrddoch â hi wrth ddod lawr o Crossroads neu bump hewl. Tyddyn bach o dair erw yw Gwarcwm ac yno roedd William a Dinah Beel yn byw. Daeth William Beel i'r ardal i weithio yn y ffatriaoedd gwlan. Cofiaf i Dinah fod yn dal iawn, dros chwe troedfedd. Roedd rhyw dair buwch ganddynt ac yn aml byddai'r gwartheg yn pori yn rhydd ar ochr yr hewl fel yr oedd gwartheg Bwlch Clawdd bach a Blaenllain yn gwneud hefyd. Buasent yn pori i fyny am Blaenesgair ac er yn cymysgu drwy'r trwch wrth bori, gwyddent i ba fferm yr aethant nol iddi gyda'r nos. Hyfryd o beth i mi yn blentyn oedd gweld y gwartheg yn pori'n hamddenol braf wrth ymyl yr hewl fawr ac yn dychwelyd yn rhyfeddol i'w cartref priodol gyda'r nos.
Beth am Llwynneuadd ei hun sef fy aelwyd fy mebyd? Chwe deg saith erw oedd Llwynneuadd a chan erw o dir rhent wrth Capten Lewis Plas Llys Newydd. Roedd tua 12 o wartheg cyrnau byrion ar y fferm a tua phedwar ceffyl yn gwneud y gwaith aredig. Roedden ni'n cadw ieir, gwyddai, twrcis a moch. Roedden ni'n mynd â hychod bob yn ddwy i gael badd gyd lein wrth eu coes ôl. Bu'r caeau top yn segur am sawl blwyddyn ond bu'n rhaid aredig y cyfan yn ystod yr Ail ryfel byd. Yno, Roedden ni'n tyfu llafur ceirch ty bach - llafur da ar gyfer tyfu ar gaeau gwyllt am y tro cynta gyda chrop da. ar y top a ceirch gwyn a du a barlys a gwenith yn nes lawr thatws a phori ar y caeau gwaelod. Roedd Llwynneuadd ar dop Cwmpengraig ac o'r fferm roedd y trem ar fore braf o haf yn ymestyn ein golygon o'r ffermydd cyfagos i'r ardaloedd tu hwnt dros ddyffryn Teifi ac allan am Fae Ceredigion.
Uwchlaw Llwynneuadd ar yr ystlys dde mae Penffynnon. Tom a Mari Mathias ac Annie ddaeth i fyw yno o Bantybara yn nhridegau'r ganrif ddiwetha. Arhosodd David John brawd Annie a Mab Tom a Mari i ffermio Pantybara gyda'i wraig May. Esther a Glyn fu'n ffermio Pantybara wedi hynny a chawsant un ferch Rhiannon. Mae Rhiannon yn byw ym Mryn Iwan erbyn hyn. Yn ddiweddarach, priododd Annie â William o Gastell Newydd Emlyn ac aethant i fyw i Saron, Llangeler.
Wrth ymyl Penffynnon uwchlaw Llwynneuadd mae Llainddu. Y cof cyntaf sydd gen i o Lainddu yw Hettie. Roedd Hettie yn ei hwythdegau pan o'n i'n blentyn. Ni hoffai ymolchi o gwbl, mae hynny yn ffaith nodedig, ond roedd ei chof, golwg a chliw yn berffaith. Un diwrnod, aeth Parry, Gwyneth a fi i gasglu calennig, arferiad yn yr ardal hon a thrwy Gymru ar ddydd Calan. Wel, ni chawsom yr un ddimau goch yn Llainddu. Fodd bynnag, gwelsom olwyn whilber tu flaen ei thy ar ben y clawdd a phenderfynom rolio'r olwyn lawr y cwm. Yn ddiweddarach daeth Hettie i ddrws Llwynneuadd i'n ceryddu ni a dweud wrthon ni am roi'r olwyn n'ol ar ben y clawdd yn union lle roedd hi. Roedd Hettie wedi ein gweld drwy'r ffenest. Felly bu'n rhaid i ni chwilio am yr olwyn yn y cwm a'i dychwelyn i'r union fan lle cawsom hi. Gwers dda felly am y cam a wnaethom. Cawsom stwr gan mam a nhad hefyd ond roedd rhyw ddireidi yn llygaid y ddau wrth roi'r stwr honno i ni.
Un o'r ffermydd agosa atom o'n blaen yw Blaenbuarthe. Arweiniodd y rhiw serth o 'crossroads' lawr i Gwmpengraig heibio Blaenbuarthe. John Rees oeddwn yn nabod gyntaf. Ei ferch oedd Maggie Jane ac roedd tri o blant ganddi sef Annie May, Arthen a Gerwyn.
Wrth edrych at dalgylch ein fferm, y lle agosa atom ar ein chwith yw fferm Penparc ar war cwm du mowr. Yno, roedd Howell Harries yn ffermio ar ddechrau'r ganrif ddiwetha. Cofiaf ef yn eistedd ar bwys y tân gyda wisgers gwyn yn twymo afal ar blat o flaen y tân. Byddai'r afal yn ddigon meddal i'w fwyta wedyn. Roedd Howell Harries yn tynnu am ei gant oed yr adeg hon. Yr un Harries oeddent a'r Harrisiaid oedd yn ffermio Penrallt hefyd. Daeth Johny Harries yno wedyn sef mab Penrallt. Roedd yn briod â Lizzie Ann oc redd ganddynt un ferch sef Eleanor. Bu'r teulu yn ffermio yno nes iddynt ymddeol yn Delfryn cartref Novello a Dewi ym Mhenboyr.
Y llefydd agosa atom lawr y bryn yw Blaenbuarthe a Nant. Roedd Pantymeillion yn ffinio gyda Blaenbuarthe a Nant, ac roeddent fel teulu wedi bod yno ers blynyddoedd. Cofiaf iddyn nhw gael caseg ddu a hi fyddai'n tynnu'r hers pan oeddent yn claddu yn Soar.
Roedd Pengraig drws nesa i Benparc. Cafodd ei ffermio gan Marged a'i mab a'i merch Samuel ac Ann. Diddorol nodi na fyddai Samuel ac Ann byth yn siarad â'i gilydd. Dafliad carreg o fferm Pengraig roedd fferm Pengraig Fach, fferm fechan o naw erw oedd hi. Pan roeddwn i'n blentyn bach cofiaf taw Ben a Martha oedd yn ffermio yno. Yn nes ymlaen, daeth teulu newydd yno sef Dafydd a'i wraig o Caerau, brawd i Tom Llwynsgawen ac Efan Llaingof ym mhentref Penboyr.
Roedd gan Curtis Yeomans rhyw chwe erw o dir gerllaw yn Cligraig ac roedd yn cadw rhyw faint o ieir a phoni fach a thrap. Roedd yn mynd ar hyd ac ar led yr ardal â nwyddau o'r siop fach yn ysgod yr wythnos. Hefyd roedd ganddo ddwy afr fach. Roedd blodau hyfryd gan Martha, Gwyndryd a'u tad Tom Ffosywernen ar ben y clawdd ochr yr afon ond un diwrnod fe fwytodd y gafrod y blodau i gyd a dyma Martha'n grac gyda Yeomans am y blodau a dweud wrtho fod y gafrod wedi bwyta'r blodau ac meddai Yeomans
'I can't see any flowers'
'Of course not' meddai martha,
'The goats have eaten them all.'
Cofiaf i Yeomans ddod adre wedi delifro nwyddau gyda'i drap a phoni, heibio'i Ysgol Penboyr. Neidiodd Wil o dan y trap i eistedd ar echel neu acsl y trap a phan ddaeth Wil allan o dan yr echel dyma Yeomans yn rhoi cwrs iddo lan am Nant. Yn y cyfamser, triodd y poni fynd mewn i'r stabl ar ei phen ei hun, ond aeth yn sownd hanner ffordd gan fod y trap yn ei stopio hi fynd ymhellach.
Gerllaw mae Nant a Pen Graig. Roedd pump o blant yn Nant a Samuel ac Ann, brawd a chwaer oedd yn byw yn Pen Graig er nad oeddent yn cyfathrebu a'i gilydd mae'n dddiddorol nodi.
PENNOD 6
CWMPENGRAIG
Pentre bach llawn prysurdeb oedd Cwmpengraig yn ystod fy ieuenctid. Roedd Cwmpengraig yn llewyrchus ac yn fwrlwm i gyd. Roedd y pentre hwn yn gyferbyniad i'r pentre bach hamddenol a thawel yw e heddiw. Mae y rhan uchaf yn agos i'n fferm, Llwynneuadd a'r rhan isaf yn arwain tuag at Drefach Felindre. Mae Cware Llwyd rhwng yr uchaf a'r isaf a'r tap dwr nant gerllaw yn nodwedd arbennig ar ochr yr hewl. Nodwedd arall arbennig i'w arogli a'i weld wrth gerdded o'r naill ben i'r arall o'r pentref hwn yn y gwanwyn yw'r garlleg gwyllt.
Yr oedd tair ffatri yng Nghwmpengraig sef Coedmor, Ty Uchaf a Green Meadow ac un fechan iawn yn Llwynderw. Mae fferm Bachygwiddyl uwchben Cwmpengraig ac yno bu Ben a'i wraig, sef merch Berallt yn byw. Y siopau groser yno oedd Ffynnon Rhadis a Danderi a chawsai glo ei werthu mewn sachau bychain gan William y glo, Ffynnon Rhadis. Roedd poni fach gyda fe i ddechrau ac wedyn prynodd lori fach wrthyf pan o'n i'n byw yng Nghlun Bach. Yr oedd ganddo lori fach yn delifro ar hyd a lled yr ardal.
PENNOD 6
O ganol pentre Cwmpengraig awn i fyny'r Rhiw Fawr ger capel Soar. Roedd yna efail fach hefyd uwchlaw Capel Soar ar un adeg a'r teulu yn byw yn Nhy'r Efail. Roedd lle bach o'r enw Pit ar ben y rhiw. Cofiaf taw gwas oedd yn byw yn Pit a gelwid ef yn Tom Gwas. Cofiaf iddo fod yn was yn Blaenbuarthe. Dai Jim oedd yn byw yn Penrhiw Fawr gerllaw. Roedd e'n gwasanaethu mas ffor hyn a ffor 'co. Mae lle o'r enw Bryn Hyfryd ar dop y rhiw hefyd. Yno roedd tri phlentyn roeddwn yn eh hadnabod yn byw yno sef Benjamin a oedd yn blismon a Mary ac Eirlys oedd y merched. Mae'n debyg eu bod yn perthyn i deulu Menna ar ochr Bryn Iwan.
Goddyreb a Bryn Hyfryd roedd Pantyffynnon. Mam a tad Muriel oedd yn byw yno. (Emporium) merch Treale a mab Maes Llan oeddynt.
Roedd Tom Berallt yn byw ar fferm Berallt ar dop y rhiw. Roedd yn aelod selog yn St Llawddog, eglwys Penboyr. Roedd ei wraig Hanna Mary yn chwaer i tad Fanw Williams gynt o Ffarm Fach.
Deina a Harri a James oedd yn byw yng Nghrug Cynfarch. Brawd i Tom Berallt oedd Harri a James. Aeth Deina i fyw yn Rhiwlas gyda'i mam pan fu farw Harri yn ifanc.
Buodd Fanw ac Eurig a'u mam Esther Mary a'u tad Dai yn ffermio yng Ngrug Cynfarch wedyn. Ty newydd gerllaw oedd wedi cael ei adeiladu gan hen deulu Crug Cynfarch oedd Bryn Cynfarch. Roedd Defi Bryn Glas yn fecanig. Priododd â chwaer gwraig Rhys Spring sef Megan. Symudon nhw wedyn i garej ym Mheniel. Roedd Defi Brynglas yn gefnder i Dai tad Fanw. Roedd Henri tad Defi yn byw yn Penrallt Fach gerllaw Bryn Glas ac roedd yn gweithio yn Cware Llwyd. Lle diddorol gerllaw yw Derwig. Mae'n debyg i John Derwig ddod o hyd i sofrins dan y grat yn y ty. Frances oedd gwraig John a roedd Mary yn ferch iddyn nhw. Priododd Mary â David Tom, brawd Rhys Spring. Morfydd ac Eira oedd eu merched a phrynon nhw Berallt ym mlwyddyn y coroni mae'n debyg.
Un o ffermydd mawr y filltir sgwar hon yw Treale. Cofiaf mai Jim ac Ifan John oedd yn byw yno pan oeddwn yn ifanc. Ar fferm Blaenbran gerllaw, dw i'n cofio Samuel ac Idwal. John Daniel Walters a'i wraig oedd yn byw yn Llwyn Beili gyda dwy ferch a mab o'r enw Garfield. Aeth Garfield a Leusa i fyw i Llain gerllaw. Hannah Bryn oedd yn byw mewn lle bach wrth ymyl o'r enw Bryn. Roedd Annie Nant a Defi Tom wedi magu'u merched mewn ty wrth ymyl Llain hefyd. Aethon nhw i Landwr wedyn. Cournel Quotes oedd yn Llain ar ôl Annie a'i theulu. Nid nepell mae Pantybara. Esther a Glyn oedd yn byw ym Mhantybara fel rwyf wedi crybwyll eisioes. Defi John a May Pantybara oedd yno cyn hynny. Ochr draw'r cwm roedd Cwmbran. Wiliam Henry brawd Samuel Bwlchydomen oedd yn byw yng Nghwmbran. Roeddent yn selog yn St Llawddog, eglwys Penboyr. Dau le arall oedd Troed y Rhiw a Pant yr Hebog.
Roedd Wil Penlan yn byw yn Gelligynnar. Daeth o Berallt i fyw yma ac aeth ei chwaer i fyw i Benlan. Roedd ganddynt frawd hefyd o'r enw Elfed. Cefais reid gydag e un tro ar y bar beic i'r ysgol pan oeddwn yn fach. Gerllaw mae Pantyrefail. Roedd yn yn enwog am fod yn fan geni i Gruffydd Jones Llanddowror. Bu Benji Bengraig yn byw yn Pantyrefail. Priododd Benj gyda Gwenda merch Llainddu ac aethant i fyw i Bengraig. Roedd ganddynt ddau o blant, Ian a Rhian. Ifan oedd yn byw ym Mhant y Barcud yn fy nghyfnod i. Aeth merch hena Ifan i fyw ym Mhibwrlwyd. Roedd Olwen merch ifanca Pant y Barcud yn wraig i Wendel y gof. Dysgodd Wendel y gof ei grefft gyda Dai Seiloh am flynyddoedd. Lle bach wrth ymyl capel Seiloh ydoedd.
Roedd Edwin Clun Glas gerllaw yn frawd i Daniel Penlan, Blanycoed. Roedd Nan yn ferch i Edwin a Glyn Penlan yn hanner brawd i Nan ac yn ffrind annwyl i'n teulu ni. Sam oedd yn ffermio Parciau, roedd yntau yn dad i Gwyn a oedd yn ffermio Parciau hefyd. Roedd gwraig Sam yn chwaer i Howells yr 'ironmonger' ac yn nodedig am gadw'r lle fel pin.
Jos a Hannah oedd yn byw yn Goetre Uchaf. Roedd Sarah eu merch yn byw yn Nhrecoed ym mhentref Drefach Felindre. Roedd siop a banc yno ar un cyfnod.
Roedd Sarah yn rhedeg siop bopeth 'ironmonger' yng Nglaniwmor. Roedd caffi a phopty hefyd drws nesa i Drecoed. Roedd 'tea room' yno cyn hynny. Ai bobl yno i hamddena, gael te a darllen. John ac Esther oedd yn Goetre Isaf. Eu plant oedd Dai, Tom, Emrys, Heti Meri a Lizzie Ann.
PENNOD 7
Wel, awn nol i Gwmpengraig a gweithio ein ffordd lawr am Drefach Felindre gan fy mod eisioes wedi son am y topiau uwchben Cwmpengraig a rhiw fawr a lawr heibio Cwm Hiraeth.
Dychwelwn i Gwwmpengraig ac i gware llwyd Yn y Cwm isha nid nepell o dap ffynnon Rhadys mae Cware Llwyd. Defnyddiwyd y cerrig o Cware Llwyd i adeiladu llawer o dai a ffyrdd yr ardal. Y rhai a symudodd y cerrig o'r cware oedd John Rees Goitre a'i gart a cheffyl, Walters LlwynBeili a'i geffyl, John Parri Penlancerrig a'i geffyl a'i gart. a Dafi Spring, Peter's Well hefyd. Roedd y cware yn fwrlwm o ddiwidiant. Roedd rhaid stopio ar hyd y ffordd os buasai'r cerrig yn cael eu chwalu. Roedd rhaid aros tan bod ergyd y cerrig a gawsai eu chwalu yn gostewi. Yn aml gwelwn y gweithwyr â rhaffau o amgylch eu canol. Roeddent yn tyllu â bar a llewni'r tyllau gyda phowdwr gwn wedyn matsien ac yna ffrwydrad a glywid drwy'r ardal.
Y llefydd bach eraill sy'n dod i gof pan oeddwn yn blentyn yw Spring ucha, Spring Isa a Spring ganol. Yno roedd Peter's Well hefyd. Tafarn oedd Ffynnon Bedr ar un cyfnod ond ni chofiaf hynny. Will y Glo a'i wraig sef merch Pencnwc oedd yn byw yn Ffynnon Bedr gyda'u plant Beryl, John ac Anita.
Roedd George Robins, (yn un o'r tri Gymro digymraeg ynghyd â William Beale a Curtis Yeomans) yn byw mewn bwthyn yr ochr arall. Yn Danffynnon rhyw dafliad carreg i ffwrdd roedd Ted ac Annie yn byw gyda'u mab Gareth. Dros y blynyddoedd roeddent yn cadw a godro gafrod wrth ochr y bryn. Roedd Beca yn byw ym Mhantycelyn a'i gwr a gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wrth fynd lawr drwy'r cwm at Drefach Felindre, dewch i'r Ogof a ffatri'r Ogof. Cadwyd gwartheg yno, roedd wedi gorffen bod yn ffatri erbyn i fi gofio. Roedd lladd-dy gyda Ben gyferbyn ac efallai bod y lle yn fwthyn cyn hynny. Roedd Ela yn byw yma a'i mherch Brenda. Roedd teulu'r Ogof yn perthyn i'n teulu ni ac efallai mai yma neu gerllaw mewn lle sy'n adfail erbyn hyn y daeth ein teulu yn wreiddiol.
Glenesgair oedd yn rhedeg y ffatri gyferbyn cyn iddo gael ei droi yn dai. Dafi Dangraig Felindre, perthynas oedd yno yn gwehyddu a byddai'n rhoi cordenni i ni at ddefnydd ar y fferm megis lasus clocs neu gordenni at offer y ceffylau.
Hen dy hir oedd Dangribyn ar droad y ganrif ddiwetha. Cafodd y ty blaen crand 'arts a crafts' ei adeiladu yng nghyfnod Dr Ben Jones. Roedd y teulu hwn yn perthyn yn agos i ni hefyd.
Roedd Llysderi islaw yn nodedig am ei gloddiau cerrig. Safai’r cloddiau hyn o amgylch rhyw saith erw, wedi eu codi mwy neu lai o gerrig nad oeddent yn llyfn nac yn sgwâr ar unrhyw ochr. Roeddent ar eu cant. Mae'n debyg fod y cloddiau hyn yn eithaf unigryw yn yr ardal hon. Y sôn oedd eu bod yn gloddiau sych a hynny er mwyn taflu dŵr glaw o’r clawdd, er mwyn draenio’r clawdd a chadw'r clawdd yn sych. Gellid codi coed a blodau arbennig arnynt hefyd gan arbed y rhew. Roedd dŵr afon Esgair a redai’r tu ôl i Lysderi yn troi ffatri wlân Glanesgair neu ffatri Dangribyn fel fyddai yn cael ei galw hefyd yr amser hwnnw, ac yn dod ar draws yr hewl i lyn Dyffryn ac o fan hynny tua’r pentref i droi rhôd ddŵr ffatri Rhydywern. Dim ond chwech o dai a welid ar dop y pentref yr adeg honno hyd tro yr Ogof, sef Rhydywern, Trebedw, Dyffryn, Llysderi, Glanesgair a Dangribyn. Roedd tair ffatri yn y parth hwn sef Rhydywern, Dyffryn a Glenesgair.
Roedd y llyn ar dir Llysderi ar y cae uwchben ac fe droiai’r dŵr hwnnw rôd ddŵr ffatri Dyffryn gerllaw. Eto roedd llyn bach i'w gael yr ochr arall i’r ffatri hon a darddai nes lan ar y dde. Roedd dŵr yn rhedeg o dan ardd Llysderi i'r ochr arall i'r tŷ. O’r fan honno, daeth dŵr yfed a dŵr ymolchi i’r tŷ yn Llysderi. Wrth ymyl y caeau roedd gallt fawr rhyw bymtheg o erwau yn ymestyn o Lanesgair hyd at Frynbedw wrth ymyl rhiw Cyrff. Roedd yr allt yn dderw i gyd. Ffiniai’r allt â Phenlan Fawr ar dop Penboyr. Yr ochr arall roedd tri chae arall yn ffinio â Llwynbedw a Dangribyn.
Doedd neb yn byw yn Nhy Dyffryn nes lawr i Llysderi pan oeddwn yn blentyn nag yn y ffatri chwaith. wedyn daeth Samuel John mab i sadler i fyw yno a'i wraig Gertie. Roedd ei dad Tom yn gweithio fel sadler mewn sied fach ar bwys ty Hill Side. Roedd Tom yn frawd i Samuel ac Ann Pengraig lle roedd Benji yn byw. Roedd bythynod o dan y ty mawr - Sali ac Elfed a'i plant Calfin a David oedd yn byw mewn un bwthyn a Dai ac Esther Mary oedd yn byw yn y ty arall.
Yn ystod y Ail Ryfel Byd roedd Americanwyr yn dod i Ffatri Dyffryn i ddawnsfeydd. Cafodd hyn ddylanwad mawr ar ferched y plwyf gan eu bod eisiau siarad Saesneg wedyn. Rwyn cofio GI a un o ferched y pentre yn cerdded lawr drwy'r pentre a roedd y GI ym chwifio phastwn a dillad isa'r ferch yn hongian wrtho a'r ddau yn gwenu o glust i glust.
Roedd tri o dai yn Trebedw yn cael eu rhentu allan. Roedd dyn yn byw yn y ty ucha tua 6 troedfedd 6 agosa at y ffatri. Dangribyn oedd perchennog Llwynbedw ar un amser cyn gwerthu i Dic Maesyrhaf. Bu Garfield a Beti yn byw yno gyda'u teulu hefyd.
PENNOD 8
Wrth gyrraedd pentre Felindre gwelir arwydd y pentref wrth ymyl Ty Ffeirad. Roedd tipyn o dir gyda'r ty hwn. Yr offeiriad cyntaf dw i'n cofio oedd Renowden ac yna Sam Evans a briododd fi a Menna. Daeth Jones yr offeiriad wedyn gyda phedair o ferched a mab ifanca.
Roedd ffatri arall ar bwys yr arwydd yma yn Rhydywyrn. Pan o'n ni'n blant roedd y ffatri hon yn brysur. Ymdebygau ty Rhydywyrn i dy Llysderi a Dyffryn. Bu Nan yn byw yn Rhydywyrn - perthynas i Penlan, Blaenycoed. Arferai asynod bori yno ac fel mae llawer ohonoch yn gwybod. rwyf yn hoff iawn o asynod.
Dai Felin oedd yn byw yn Brynbedw uwchlaw Ty'r Ffeirad. Boi tawel a dim sôn amdano ydoedd â chanddo phoni ddu yn mynd mas â pwnne dros Tom lawr yn y felin yn Drefelin Gwelech chi Dai yn mynd ar hewl bob dydd cyn belled â hermon i ddelifro. Roedd ganddo ddwy chwaer. Roedd un yn gyfarwydd i ni fel Miss Williams oedd yn coginio yn y saithdegau'r ganrif ddiwethaf yn Ysgol Penboyr.
Wrth gyrraedd y pentref roedd ty Preswylfa ac roedd dwy wraig yn byw yno a drws nesa roedd Tafarn Rock sef y ty a saif nawr gyferbyn â Hill Side. William John fu'n rhedeg Tafarn Rock ac roedd yntau yn fab i ffatri Coedmor.
Doedd ty Hillside ddim yn bodoli gyferbyn pan oeddwn i'n blant. Ty mwy diweddar yw Hill Side a thy mâs neu sied ydoedd i dafarn Rock pan oeddwn i'n blentyn. Cofiaf i deulu Ffarm Cwmbran brynu'r lle a ddaeth i fod yn Hill Side.
Ein teulu oedd a sydd yn Dangraig drws nesa i Hill Side hefyd. Roedd y teulu hwn yn perthyn yn agos i deulu Dangribyn.
Drws nesa i Dangraig roedd Powell a'i wraig yn byw, Pennaeth Ysgol Penboyr oedd e. Jennie a Bronwen oedd yn byw gyferbyn â Dangraig. Roedd Tom Post yn dad i Bronwen os cofiaf yn iawn. Roedd tad Jennie yn grudd wrth Dafarn John y Gwas.
Roedd Mrs Camden y winyddes yn byw nes lawr. Hi fyddai'n gwinio i bobl yr ardal. Roedd gwr yn gwerthu olew yn byw yn y ty gyferbyn â'r Hall neu Hâl fel y'i gelwid.
Yr ydwyf yn cofio pan yn ifanc iawn yn yr ysgol cael ceiniog gan mamgu Martha Close Jones yn Llainffald ger Tafarn John y Gwas a'r Hâl a mynd i mewn i siop yr Hâl yn y pentre i gael swits neu siocled a gofyn am gwerth ceiniog a Dafi'r Hâl yn rhoi gwerth hanner ceiniog i fi a rhoi hanner ceiniog neu dime yn ôl gan ddweud
'cadwa di'r ddime yna'n saff erbyn y tro nesa' a dyna unig un yn fy oes i roi arian n'ol i fi heb ofyn a rhoi cyngor da i fi hefyd.
Gorffennaf yn dwt yma wrth ymyl un o gartrefi eraill y teulu sef Llainffald. Roedd felin gyda'r teulu yno a thir tu ol i'r pentref ar y ffordd i Saron. Roedd Mamgu sef Martha yn perthyn i deulu'r Dean of Carslile sef Francis Close o Chelthenham a roedd Samuel Baker Jones ei gwr yn frawd i deulu Dangribyn. Cawson nhw dri o blant sef fy mam Mary Ellen, Nan a Johnny Baker. Cofiaf i Llainffald fod yn le cymen a chrosawgar iawn a chofiaf i Mamgu sef Martha Close fod yn un o'r bobl caredica i mi gwrdd erioed.
Rwyf yn cau pen y mwdwl drwy adlewyrchu ar y ffaith fy mod yn dri ar ddeg a phedwar ugain oed erbyn hyn. Er nad yw'r côf fel yr oedd e, rwyf wedi mynd ati i gofio'r bobl a'u cynefin â oedd yn rhan annatod o fy mebyd o amgylch Crossroads neu'r Pum Hewl. Dyma'r groesffordd a gysylltai ardaloedd y topiau gyda'r dyffryn islaw. Roedd pawb yn adanabod teuluoedd ei gilydd ac yn hynny o beth, rwyf wedi ceisio adlewyrchu 'r elfen o berthyn yma i chi. Roedd yr ardal yn fwrlwm o waith a diwilliant a rhan annatod o hynny oedd ein Cymreictod a theimlad o berthyn i le ac amser unigryw sydd yn gyflym ddiflannu erbyn hyn.
Un funyd fach cyn elo'r haul o'r wybren,
Un funud fwyn cyn delo'r hwyr i'w hynt.
I gofio am y pethau anghofliedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.
Waldo Williams
PENNOD 9
RHESTRAU O BETHAU RWYF YN COFIO AM YR ARDAL PAN OEDDWN YN IFANC.
TRAFNIDIAETH YR ARDAL PAN YN BLENTYN:
Dwy fan gan fwtsheriaid Aberdeuddwr, Cwmpengraig.
Fan fach gan Ben yr Ogof.
Dwy fan gan Danwaring yn Drefelin.
Curtis Yeomans gyda'i boni broc a thrap.
Cart a phoni fach gan Tom y felin yn Drefelin
Cart a cheffylau yn dal i fod gan ran fwyaf o'r ffermwyr yr adeg hon.
LORIS YR ARDAL:
Cwmnant Eynon, ger Seiloh a Thriol Brith
Harri, Pentrecagal
Dan, Blaentranch
D O Jones, Llandysul
Rees, Spring Velindre
Rees, Pantycordiwns
Harri Davies, Conwil
Einon Davies, Bryn Gwyn
MOTOR BEICS
Roedd gan lawer o bobl ifanc yr ardal fotor beics. Cofiaf yn arbennig:
Daniel, Weunlwyd
Jaci, Pantymeillion
John, Waunfawr
Will, Blaenbran (a gafodd ei ladd gan fotor beic)
SIOPAU FELINDRE A DREFACH
Siop Heins yn gwerthu dillad (drws nesa i Dangraig).
Siop Yomans (Siop Yom) Cilgraig.
Siop Ffynnon Rhadis.
Danderi a Ffynnon Rhadis - siopau a nwyddau.
Siop yr Hâl - bwydydd a swîts drws nesa i dafarn John y Gwas.
Siop Glen View - yn gwerthu swîts.
Siop Albert lle mae'r siop tsips nawr.
Siop y Caffi - nwyddau a chaffi (lle buasai rhai plant yn mynd i gael cinio yno mae'n ddiddorol nodi).
Siop Pensarn ar waelod Drefach.
Y GLYN
Drefach Felindre - Fferm Fach 10 erw ar gyrion Drefach. Cafodd hi ei rhedeg gan Dan a'i wraig. Roeddent yn gwerthu llaeth ar hyd y pentref
Siop Pensarn - nwyddau
FFATRIOEDD RWYF YN EU COFIO'N DDA
(Gweler Lyfr cynhwysfawr Geraint Jenkins: Drefach Felindre and the Woollen Industry am restr a chefndir helaethach)
Hen Ffatri Gilwendeg
Ty Uchaf
Coedmor
Green Meadow
yr Ogof
Glanegair
Dyffryn
Rydywyrn
Dolwiol
Dolgoch
Cwmgilfach
Pensarn
Cambrian
Cwm Jack
Cwmhiraeth
Gower Hall
Ffatri Gilwendeg
Ffatri Bridlick
Ffatri Glyn
Cambrian
Dlowerdd
Llainffald
Ffatri Square Hall
Ffatri Rhyd y Wern
Pensarn
Cwmgilfach
Dol Goch
Cwmhiraeth
Coedmor
Green Meadow
TAFARNDAI
Tafarn Ffynnon Bedr - rhwng Felindre a Chwmpengraig.
Tafarn y Roc, ger Dangraig.
John y Gwas - New shop Inn - Yr Allsop.
Red Lion yn Drefach.
ASYNNOD
Asyn Tomi - carto clau o'r Wichell.
Asyn Abrahm, Tre Lôn.
TAI UNOS
Blaenllain
Cross Roads
Bwlch Clawdd (Isa)
Gwarcwm
Rock Hall
Ffos y Wernen
Pengraig Fach
Yr Ivy
Temple
Penlon
Banc y Deri - Drefelin
SIOPAU TSIPS
Yr Hâl, wrth ymyl John y Gwas.
Siop tsips o flaen Maesyberllan cyn i Wendell y gôf gymeryd y lle drosodd.
GOFIAID Y PLWYFI CYFAGOS
David (Dafi) Jones, Drefach
David y gof (Dafi), Cwmpengraig
David Jones y gof (Siloh), Rhos Llangeler
Wendel y Gôf, Felindre
Dewi Jones, Hermon
SEIRI'R ARDAL (AC ADEILADWYR)
Jones, Glaniwmor
Un teulu sef:
James Williams
Dai williams
Wyn Williams
ac
Idris Davies
ADEILADWYR YR ARDAL
Donald, Drefelin
Johnny, Cwmpengraig
Jack Cloc Drefelin
Dafi John, Aberlleine
Dan Bach, Felindre
LORIS LLAETH
Jack Evans, Erwlon
Rees Evans, Brawd Jack Erwlon
Defi, Pwllmarl
LORI LO
William Jones, Ffynnon Rhadis, Cwmpengraig.
POSTMYN
Davies Postmon o Bentrecwrt, tipyn o arwr gan ei fod yn gloff a cherdded neu reidio beic i Henllan i bigo'r post o'r rheilffordd yn Henllan. Tom Postmon o Felindre
David John o Drefelin
LLADD MOCH
Robert Cole, Drefach
Sam Evans, Ffrydiau
Gwilyn Jones, Blaenllain
Ben Ffrydiau - cadw mochyn gwryw (Baedd)
Harri Maesllan - cadw mochyn gwryw (Baedd)
MEDDYGON YR ARDAL
Dr Ben Dangribyn (Hen ewythr i mi)
Dr Jenkins Henllan
Dr Enoch
Dr Selcon
Dr Owen
Dr LLywelyn
ADDOLDAI
Capel Soar
Capel Closygraig
Capel Drefach
Capel Pentrecagal
Eglwys St Llawddog, Penboyr
Eglwys St Barnabas
'WINCHES' YN YR ARDAL:
Roedd 'winches' a dwr rhedeg mewn llawer o lefydd, dyma'r rhai mwyaf cyfarwydd i fi:
Llwynneuadd
Blaenbuarthe
Nant
Blaenpant
Bwlchclawdd
Pantycrug
Pantymeillion
RHIWIAU O DREFACH FELINDRE I FYNY AT Y TOPIAU:
Rhiw Pensarn - o Drefach Felindre i fyny at Saron.
Rhiw Cyrff - O Drefach felindre i fyny at Penboyr ac allan i 'Crossroads'.
Rhiw Blaenbuarthe - i fyny o Drefach Felindre a Chwmpengraig i fyny at 'Crossroads'.
Rhiw fawr - i fyny o Gwmpengraig heibio i Gapel Soar ac allan i dop Penrallt ac yna hewl Castell Newydd Emlyn.
Rhiw Goetre - o Drefach Felindre i Gwmhiraeth.
Rhiw Penbanc - o Drefelin i fyny i'r Rhos Llangeler.
Rhiw Drefelin - o Drefelin i fyny i ochrau Saron.
Bu fawr John Tudor Jones ar y 5ed o Ionawr 2021 a’i gladdu ym mynwent Eglwys St. James, Rhos, Llangeler ar Sadwrn Ionawr 9ed, 2021.