Y Parchedig James Velindre Jones, 1842 – 1917
Yn ei lyfr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ (1899), ac ar dudalen 230 o dan hanes Capel Closygraig, Drefelin, Felindre mae’r awdur Daniel Jones yn dweud hyn:
“..... David Havard, Felindre ymfudodd i America; James Felindre Jones: dechreuodd bregethu yma (Closygraig), ond trodd at yr Annibynwyr; ymfudodd i America cyn sefydlu yn y weinidogaeth; mae yn awr yn New Cambria, Missouri.” (1899)
(Gyda diolch eto i W Arvon Roberts, Pwllheli am y wybodaeth ganlynol am Y Parchedig James Velindre Jones.)
Ganwyd yn Felindre, plwyf Penboyr, Sir Gaerfyrddin, Ionawr 16eg 1842. Ef oedd yr ieuengaf o naw o blant i John ac Ann Jones. Saer maen oedd galwedigaeth ei dad. Mynychodd ysgol ddyddiol y pentref hyd nes oedd yn 12 oed, ac yna bu’n brentis gwehydd gydag un o’i frodyr. Tua’r un adeg cafodd ei dderbyn yn y aelod o Eglwys Closygraig (Methodistiaid Calfinaidd), plwyf Llangeler. Wedi treulio rhyw dair blynedd a hanner yn y ffatri, gosododd ei fryd ar fynd yn ddilledydd, a gyda’r nod honno mewn golwg aeth i’r Ysgol Ramadeg yng Nghastell Newydd Emlyn yng ngofal y Parchedig John Evans, Llanybri, gweinidog amlwg gyda’r Undodiaid. Yn y cyfamser cymhellwyd ef gan ddiacon gyda’r Methodistiaid, o’r enw Daniel Rees, i ennyn ac arfer ei dalentau yn y gyfeillach grefyddol a’r cyfarfodydd gweddïo. Cydsyniodd yntau, a thrwyddedwyd ef i ymweld a eglwysi’r cylch.
Yn 1858, ac yntau ond yn 17 oed gadawodd Ddyffryn Teifi am dref Abertawe. Yr oedd chwaer iddo yn byw yno ac yn addoli yn Soar (Annibynwyr). Ymunodd a’r eglwys ac aeth ar ei union, ar gymeradwyaeth ei weinidog, i’r Coleg yn Aberystwyth lle y derbyniodd addysg am bron i ddwy flynedd. Treuliau wyliau’r haf gyda’i ewythr ym Mrycheiniog, a brawd ei fam ac offeiriad dysgedig. Gyda’r gwr hwnnw y cafodd ei wersi cyntaf yn y Testament Groeg. Ym Mehefin 1860 aeth i Goleg Aberhonddu, lle y treuliodd bum mlynedd. Yng ngwanwyn 1864 derbyniodd alwad oddi wrth eglwysi Soar a Jeriwsalem, Sir Fflint lle yr ordeiniwyd ef y mis Gorffennaf dilynol. Bu yno am ddwy flynedd hapus cyn symud yn 1866 i wasanaethu Seion a’r Sarn, ger Treffynnon, a bu yno hyd 1868.
Ar Mai 11eg, 1868, ymfudodd i’r America. Pregethodd yn Utica, Efrog Newwydd a’r cylchoedd trwy gydol yr haf, ac yn yr Hydref aeth i Winsconsin lle yr ymsefydlodd yn weinidog ar eglwys y Tabernacl Delafield, Sir Waukesha, Wisconsin. Tua blwyddyn fu ei arhosiad yno gan faint ei hiraeth am Gymru. Dychwelodd i’w famwlad am rhyw ddeng mis, gan droi eilwaith am yr America, ac ymgymryd a bugeilio eglwys Ashton, Summit Hill, Sir Carbon, Pensylvaina.
Yn haf 1871 priododd a Miss Candace L. James (1848-1926), merch i Robert a Cathrine James, tyddynwr o Penmynydd, Steuben, Sir Oneida, Efrog Newydd, lle roedd ei thad yn ddiacon. Wedi dwy flynedd hapus yn Summit Hill cyfeiriodd am daleithiau’r gorllewin ac yno y treuliodd 22 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw gwasanaethodd yr eglwysi canlynol: Big Rock, Illinois; Soar, Oshkosh, Winsconsin; Williamsburg, Iowa; Bevier, Missouri; Osage City, Kansas; a New Cambria, Missouri. Yn y lle olaf claddwyd ei unig blentyn Katie. Yno hefyd y collodd ei gartref trwy dan. Yno roedd lludw ei gartref a llwch ei ferch.
Yn 1905 ymddeolodd o’r weinidogaeth reolaidd a symudodd i Ramsen, Sir Oneida, Efrog Newydd i dreulio hwyrddydd ei oes, ac yno y bu farw yn ei gartref o niwmonia ar Rhagfyr 14eg 1917 a’i gladdu wrth ymyl y Parchedig Robert Everett (1791 – 1875) golygydd ‘Y Cenhadwr Americanaidd’ am 35 mlynedd, ym mynwent Capel Ucha, Steuben, Sir Oneida, Efrog Newydd.