JAMES JONES 1835 -1912
Masnachwr Glo
(Daeth y wybodaeth hon am JAMES JONES i law trwy ymchwil W ARVON ROBERTS, 33 Maes y Llyn, Pwllheli, Gwynedd LL53 5NL yn Rhagfyr 2024. Mae Arvon Roberts wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau yn dilyn ei waith ymchwil am bobl o Gymru yn ymfudo i'r America. Arvon Roberts sy'n gyfrifol am yr holl wybodaeth ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre am bobl ardal Drefach Felindre a ymfudodd i'r America a'u hanes yno. Diolchwn iddo am ei gyfraniadau. Peter Hughes Griffiths a'u casglodd a'u paratoi ar gyfer y wefan hon).
Ganwyd JAMES JONES ar Fferm Gelligynnar, Pentrecagal, Penboyr, Sir Gaerfyrddin ar Mai 6ed 1835. (Gelligynnar, Cwmhiraeth, Drefach Felindre, yw'r cyfeiriad swyddogol erbyn hyn - PHG).
Ei rieni oedd Samuel Jones (g. Mehefin 22, 1786, Penboyr - m. Mawrth 12, 1849, Gelligynnar, Ffermwr),
a Rachel Jones (g. 1788 Llangeler, Sir Gaerfyrddin - m. Awst 15, 1864, Penpompren, Pentrecagal, Penboyr.)
Claddwyd rhieni James Jones ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr.
Yr oedd James y plentyn hynaf o ddeuddeg , ac yn frawd i'r canlynol:
Mary Jones (1814 - 1894), Geler Villa, Llangeler.
David Jones (g. tua 1815, Penboyr).
Daniel Jones (g. tua 1816 - m. Mehefin 1845, Gelligynnar).
Henry Jones (g. tua 1820 - m. Mehefin 20, 1902, Gelligynnar).
Mrs Martha Williams (g. 1821 ® m. Chwefror 28, 1900, Pencrug, Penboyr).
John Jones (g. tua 1823 - m. Ebrill 19, 1891, Gelligynnar Uchaf).
Mrs Elizabeth Jones (g. tua 1825, Gelligynnar).
Anne Jones (g. tua 1826 - m. Mawrth 1832, Gelligynnar).
Mrs Sarah Jones (g. tua 1830 - m. Chwefror 19, 1901 Henffordd, Blaenycoed, Cynwyl Elfed).
Rees Jones, (g. tua 1832 - m. Mawrth 21, 1911, Tŷ Gwyn, Pentrecagal - Gof).

JAMES JONES 1835 - 1912, Pittsburgh, Pennsylfania.
Yn 1858 ymfudodd James Jones i America, ac yntau ond yn 23 oed, ac i Cumberland, Maryland. Methodd a chael gwaith yno ac fe symudodd i Frostburg, tref yn yr un dalaith gan deithio ar y Rheilffordd Baltimore ac Ohio, ond methodd a bodloni yn y fan honno chwaith! Treuliodd gyfnod byr yn Mount Savage, Maryland, cyn symud i ddinas Pittsburgh, Pennsylfania. Cerddodd y pedwar ugain milltir o Mt. Savage i Uniontown, Pennsylfania lle y defnyddiodd hynny o arian oedd ganddo am docyn i Pittsburgh. Wedi iddo gyrraedd yno cafodd waith fel gof mewn adeilad a oedd ar draws y ffordd i'r orsaf Union bresennol. Rhywbryd yn ddiweddarach symudodd i Elizabeth, Pennsylfania lle yr hyfforddwyd ef yn gyntaf mewn mwyngloddio glo. Yna, cafodd waith mewn mwynglawdd yn South Side, Pittsburgh, lle yr arhosodd hyd doriad y Rhyfel Cartref. Gwasanaethodd trwy y rhyfel honno pan ymrestrodd yn aelod o Gwmni D, Catrawd 6, Gwyr Meirch yr Unol Daleithiau, o dan y Cadfridogion Winfield S Scott (1786 - 1866), a George McCellan (1826 - 1885).
Ar Hydref 25, 1861 yn Pittsburgh, Pennsylfania priododd James Jones gyda Miss Ann Agnes Ivill (g. Gorffennaf 22, 1845, Franworth, Sir Gaerhirfryn, Lloegr - m. Hydref 25, 1895 yn Monongahela, Sir Washington, Pensylfania). Roedd hi yn ferch i William Ivill (g. 1819 yn Little Lever, Sir Gaerhirfryn a bu farw yn 1862 yn Pittsburgh, a Sarah Partington (g. 1823 yn Sir Gaerhirfryn a bu farw 1887 yn Pittsburgh hefyd).
Ganwyd i JAMES ac ANN AGNES JONES o leifa 13 o blant:
Samuel Jones (1863 - 1864) Osceola, Pennsylfania.
Mrs Sarah Ann Livingston (1865 - 1898) - typhoid, Monongahella, Pa.
John Henry Jones (1866 - 1959, m.93oed), Delray Beach, Florida.
Thomas Price Jones (1868 - 1942) Cleveland, Ohio.
William Ivill Jones (1869 - 1905) Canonsbury, Pa.
David G Jones (1871 - 1915), Ysbyty Mercy, Pittsburgh Pa.
Harry Phillip Jones (1873 - 1915) Monongahela, Pa.
Samuel Reece Jones (1875 - 1875), Greenock, Pa.
Miss Rachel Eizabeth Jones (1876 - 1917) Canonsbury, Pa.
Mrs Mair Agnes Holsing (1877 - 1962), Port Orange, Florida.
Jeane Ellen Jones, (1879 - 1879) Greenock, Pa.
Mrs Margaret Estelle Vitchestain (1881 - 1944) Coatesville, Pa.
Mary Ann Viola Jones (1882 - 1882), Pennsylvania.
.....................................................
Ymhen pum mlynedd ar ôl marwolaeth Ann ei wraig gyntaf ail briododd James Jones ar Fawrth 8, 1900 gyda Margaret Thompson (g. Mehefin 28, 1853, Illinois - m. 1927, Pittsburgh, Pa.)
.....................................................
Y tro cyntaf y cyflwynwyd John James i'r busnes glo oedd yn y flwyddyn 1878 pan ffurfiodd y Cwmni Glo Osceola, Pennsylfania, busnes a aeth ymlaen am ddwy flynedd ynghyd a chymorth ei fab hynaf John Henry Jones (g.1866 - m. 1959). Gwerthodd ei fuddiannau yn y Cwmni Osceola yn 1880 a chymerodd Mwyngloddiau Grant yn Carnegie, Pennsylfania ar les, unwaith eto am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl iddo werthu allan, cyn prynu Mwynglawdd Ivill, ger Monongahela City. Yn 1889 daeth James Jones yn nodwedd llywodraethol yn Cwmni Glo Catsburg, ac ymhen blwyddyn ar ôl hynny bu'n rheoli Cwmni Glo Rostraver, Sir Westmoreland, Pennsylfania.
Yn 1896 cymerodd ei bump mab mewn partneriaeth i ffurfio Cwmni James Jones a'i Feibion. Prynodd y cwmni hwn y busnes afon lleol, y gwastadeddau, y cychod ac agerlongau glo Cwmni T.M.Jenkins, ac fe ddaeth a buddiannau James Jones yn gludwyr glo mwyaf yr ardal y pryd hynny. Pan ffurfiwyd Cwmni Glo a Coke Monongahela River Consolidated yn 1899, gwnaed cynnig gwenieithol (flattering) am fuddiannau James Jones, a chafodd ei dderbyn ymhen amser. Gosodwyd darpariaeth neilltuol yn y cytundeb ar awgrym James Jones, sef bod ef a'i feibion yn cael yr hawl i ymuno a morgludiant y glo gyda®r rheilffordd. Ar ôl hynny ffurfiodd James Jones a'i feibion Cwmni Pittsburgh- Buffalo, a daeth yn Gadeirydd bwrdd y cyfarwyddwyr. Daeth John Henry Jones ei fab hynaf yn Llywydd, Thomas P. Jones (mab arall) yn Is-Lywydd; David G Jones (mab arall) yn Ysgrifennydd a Harry Phillip Jones (mab arall) yn Arolygydd buddiannau mwyngloddio yn Kentucky, Virginia a Gorllewin Virginia.
Ar ôl gwerthu ei fuddiannau i Gwmni Glo a Coke Monongahela River Consolidated, fe brynodd James Jones ardal fawr o dir yn Hazelwood, Sir McKean, Pennsylfania, a throdd rhan o'i amser o'r buddiannau mwyngloddio i adeiladu cartrefi ar gyfer gweithwyr, a phan fu James farw yr oedd yn un o berchnogion man-ddaliadau mwyaf yn Pittsburgh.
Dywedir iddo adael stad o dros 6,000,000 doler ar ei ôl. Yr oedd yn aelod o Eglwys Gyntaf y Bedyddwyr Saesneg yn Hazelwood, ac yn gyfrannwr hael tuag at holl weithgareddau yr eglwys honno.
Bu fawr yn ei gartref yn Hazelwood, Mawrth 17, 1912 yn 76 oed o "apoplexy" a chafodd ei gladdu ym Mynwent Hazelwood, Sir Allegheny, Pennsylfania.

(Sylwadau gan Peter Hughes Griffiths - "Mae'n amlwg i JAMES JONES adeiladu busnesau llwyddiannus iawn yn America a dod yn hynod o gyfoethog, a bod ei feibion hefyd wedi dilyn eu tad. Mae'n werth nodi llwyddiant gyrfa un a anwyd ac a fagwyd yn Gelligynnar, Cwmhiraeth yn Unol Daleithiau'r America. Tybed a yw ei ddisgynyddion ym Mhennsylfania heddiw? Diddorol fyddai gwybod mwy am hynny.") - Rhagfyr 2024.