Stori Fawr Dre-fach Felindre

Eglwys St Barnabas

Eglwys St Barnabas a'r ysgol.
Eglwys St Barnabas a'r ysgol.

Saif Eglwys Sant Barnabas yng nghanol mynwent helaeth ar lan yr afon Esgair ac wrth Sgwâr y Gat yng nghanol pentref Felindre.
Mae disgrifiad manwl o hanes ac adeilad yr eglwys o  dudalen 185 tan 198 yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr gan Daniel Jones, Ionawr 1899.
Adeiladwyd yn 1862 ac mae’n adeilad prydferth oddi fewn a thu allan o gynllun Seisnig Cynnar, gyda’r muriau wedi eu hadeiladu o gerrig llwydion golau mynydd Penboyr a’r corneli a’r bwau o gerrig Bath.  Mae’r pulpud yn syml o garreg Bath.

Adeiladwyd y rheithordy yn 1889 ac mae’n dal yn adeilad hyfryd ar waelod Rhiw Cyrff a’r tu olaf ym mhentref Felindre i gyfeiriad Cwmpengraig.

Yn y bennod ar hanes Eglwys Sant Barnabas mae’r awdur Daniel Jones wedi nodi yr holl reithorion a fu’n gwasanaethu’r eglwys a hefyd rhestr hir o’r holl offeiriaid a godwyd yn y plwyf gyda  manylion am bob un o’r 56 mewn nifer.

Hanes Eglwys St Barnabas ar wefan yr Eglwys.

Chwilio Cronfa Ddata'r Fynwent Eglwys St Barnabas ar wefan yr Eglwys.

Mae prosiect Stori Fawr Dre-fach Felindre wedi casglu lluniau am Eglwys St Barnabas, a gallwch eu gweld nhw ar y wefan Casgliad y Werin

 

Capel Y Drindod

Lleolwyd ‘Y Capel Bach’ hwn ar lan yr afon Bargod ychydig yn is na’r bont sy’n croesi’r afon honno ac yn rhannu pentrefi Felindre a Drefach. Yn ôl Daniel Jones ar dudalen 182 yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr  cafodd ei adeiladu yn 1713.  Oherwydd y pellter i’r trigolion i fynd i’r Eglwys ym Mhenboyr adeiladwyd y ‘Capel Bach’ ar gyfer cynnal gwasanaethau yno.  Cynhaliwyd ysgolion.

Cynhaliwyd gwasanaethau yno nes yr adeiladwyd Eglwys Sant Barnabas yn 1863 ac fe adawyd i’r adeilad bychan fynd yn adfeilion. Ychwanegodd Daniel Jones yn 1899  - “Ymhen ychydig eto ni fydd dim ar ôl ond yr ywen i ddynodi y fangre gysegredig.” Nid oes dim o’r adeilad ar ôl bellach.