DYFRIG EVANS Ph.D - “ Dyfrig Ffeirad.”
Fe ymddangosodd yr adroddiad hwn ym mhapur ‘Y GARTHEN’ Tachwedd/Rhagfyr 1992 ac mae’n adrodd yn glir hanes bywyd gwr arbennig iawn o bentref Dre-fach Felindre. Nid oedd enw’r awdur wrth yr erthygl. Y diweddar Mr Dyfrig Evans Ph.D Daeth ton o dristwch dros ardal Dre-fach Felindre pan glywyd am farwolaeth sydyn Dyfrig Evans Ph.D ar 19 Hydref 1992 tra ar ei wyliau yn Ballymack Farm ger Castle Douglas yn yr Alban gyda’i fab William. Yn 68 oed roedd yn unig blentyn i’r diweddar Barchedig Sam Evans,B.A. a Mrs Evans gynt o’r Rheithordy Penboyr.
Daeth y teulu i blwyf Penboyr ym 1942 pan sefydlwyd y Parch Sam Evans yn Rheithor Eglwysi Sant Llawddog a Sant Barnabas. Graddiodd Dyfrig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth mewn Lladin a Groeg cyn ymuno a’r Llynges Frenhinol a gwasanaethodd yn y Dwyrain pell ai’n ddyrchafu’n Swyddog Morwrol. Dysgodd siarad Siapaneieg a bu yn gyfieithydd adeg y Rhyfel. Dyma’r adeg y cyfarfu a’i wraig a’r Americanes Mary Ferrari. Ar ôl y rhyfel bu ef a’i deulu’n byw yn Upper Hayford ger Rhydychen ac yntau’n Swyddog Addysg mewn American Base (USAAF). Wedi hynny, prynodd hen ficerdy yn Holme ger Peterborough, a’i bleser pennaf oedd ei throi yn ‘gartref oddi cartref’. Yma, y collodd ei briod Mary yn ferch ifanc ac fe gladdwyd ei gweddillion yn ôl ei dymuniad yn ymyl ei chwaer yn Hawaii.
Rhyfedd meddwl i Dyfrig farw yn yr Alban, a bu rhaid cludo ei weddillion yntau i Hawaii ar ôl ei ymlosgi yn Castle Douglas.
Ar ôl i’w fab Kelly raddio yn Rhydychen aeth y teulu nol i Galifornia a phenodwyd Dyfrig yn ‘Visiting Professor’ ym Mhrifysgol Davis i ddysgu Lladin a Groeg unwaith eto. Roedd Dyfrig yn un o gymeriadau mwyaf hawddgar yr ardal ac roedd ganddo lu o ffrindiau sydd heddiw’n drist o’i golli. Un o’i ffrindiau o’r ardal, bu Dytfrig yn ymweld ag ef yng Nghanada’n gyson, oedd Douglas Jones, Dolhaidd (gynt), ond lawer tro pan fyddai’n teimlo’n hiraethus yn yr Amerig byddai ar y ffon yn oriau man y bore ein hamser ni i’w gyfaill mynwesol Leslie Walters yng Nghastell Newydd Emlyn, ac yn siarad yn ôl ei arfer fel pwll y mor.
Tra roedd yn y coleg yn Aberystwyth y cyfarfu a chyn Archesgob Cymru y gwir Barchedig George Noakes, a bu’r ddau yn rhannu llety yno. Cyfeiriai’r Parchedig ato fel y ‘co-digger’ a ffrind teyrngar bob amser. Roedd ganddo hefyd lawer o ffrindiau yn ardal Llanymddyfri, yn bennaf y Doctor Tyssul Williams (Penpwll Saron gynt) a’i wraig Ann (Morwood) gan fod Tyssul yng ngofal plant Coleg Elidyr lle bu Willaim ei fab yn fyfyriwr.
Roedd croeso ar aelwyd Dyfrig yng Nghaliffornia bob amser i bawb o Gymru, a newydd ddod nol wedi bod ar ymweliad ag ef oedd yr Arglwydd Emlyn Hooson.
Beth amser yn ôl ar ei ymweliad olaf a’r ardal rhoddodd Dyfrig rhodd o Ddarllenfa Bres hyfryd i Eglwys Sant Barnabas er cof am ei rieni. Roedd e’n hoff o deithio’r byd ac ymweld a lleoedd hanesyddol, a’i brif ddiddordebau oedd rygbi, pysgota a chanu. Meddai ar lais bas cyfoethog, a’i bleser olaf cyn derbyn trawiad farwol ar y galon oedd canu’r hen ffefryn ‘Many brave hearts are asleep in the deep’ yn y gwesty yn yr Alban. Cydymdeimla ardal eang a’r plant, William oedd gydag ef pan fu farw, Heather sydd wedi graddio’n B.A., ac yn athrawes yn Los Angeles a Kelly sydd yn gyfreithiwr yn Sacramento, Califfornia. Coffa Da Amdano.
Peter Hughes Griffiths (Awst 2017)