Stori Fawr Dre-fach Felindre

Ddoe yn ôl

Atogofion bore oes Miss Gwyneth Evans, Y Bwthyn (Camwy gynt), a ysgrifennwyd yn 1994.

Fe’m ganwyd a’m magwyd ym mhentre Felindre yng nghyffiniau Llandysul a Chastellnewydd Emlyn a threuliais ddyddiau gwaith o fewn y filltir sgwâr. Brodor o Bont-sian oedd  nhad, fy nhad-cu wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn gofalu yn bennaf am anifeiliaid ffermydd y stiwardiaid ar stâd Plas Alltrodyn a rhai o’i ferched yntau wedi mynd dros Glawdd Offa i wasanaethu ar y teulu. Ond cefnodd  nhad ar gefndir amaethyddol a gwneud am y pentre diwydiannol yn Nre-fach Felindre lle’r oedd y ffatrioedd gwlân yn gweithio nos a dydd  a gelwid yr ardal un adeg yn Huddersfield of Wales. Dengys cofnodion dyddiol sydd gennyf yn llawysgrifen  nhad am y dyletswyddau newydd oedd yn ei aros ynghyd â dyddiau cynnal y ffeiriau gwlân megis wythnos ‘spinning’, ‘combing’, ‘carding’, ‘weaving’ a ‘working night shift this week’ – oll yn Saesneg er mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd, y cysegr a’r gymdeithas.

Byddai’r gwragedd a’r merched yn nyddu â llaw ar rod fach gyda’r nos a throi sioliau ond yn hwyrach os byddai’r gwaith yn y cartre yn ffynnu, mentro i’w ehangu a chodi ffatri. Roedd yma dri deg ffatri un adeg ac yna byddai’r gwaith o nyddu yn cael ei wneud gyda’r ‘jac’ ac yn ddiweddarach ar y ‘billy’. Roedd hwn yn rhagori ar y cyntaf a dyna gychwyn ar y diwydiant gyda chymorth peiriannau a’r rhod ddŵr cyn moderneiddio i’r trydan. Dyma rigwm bach ddaw i’r cof,
                                    Mae’n bwrw glaw allan,
                                    Mae’n bwrw’n y tŷ,
                                    Mae merched Drefelin
                                    Yn nyddu gwlân du.

Priododd nhad â Jane, merch John a Frances Jones, Ffatri Gilfach, Drefelin. Saif y ffatri hyd heddiw mewn llecyn dymunol dros ben ar wastadedd y Gilfach yn nhawelwch y wlad a phrydferthwch y pedwar tymor i’w weld a’i fwynhau i’r eithaf wrth lan afon Bargod. Rhaid wrth ddŵr, wrth gwrs, i olchi’r gwlân a throi’r rhod.

Saif y cartref yma hefyd ond dymchwelwyd y tŷ pair a’r lliwdy wrth foderneiddio ond nid yw’r rhod yn troi mwyach a dim ond Ffatri Teifi a rhyw un arall fach sydd yn dal i fynd a’r Cambrian bellach yn rhan o’r Amgueddfa Genedlaethol.

Roedd Ffatri Gilfach yn hunangynhaliol gan fod fferm fach yno hefyd. Roedd angen y bwyd i gynnal y teulu ac roedd rhai o’r gweithwyr yn aros yno yn ystod yr wythnos waith. Er bod ei leoliad yn unig, byddai mam yn sôn yn aml am y pleser a’r mwynhad gawsent wrth ganu emynau a chaneuon gwerin o amgylch yr organ, yn enwedig ar nosweithiau hirion y gaeaf ond gyda’i gilydd byddent yn gwmni difyr. Lletya dros nos fyddai’r pregethwyr bryd hynny a soniai mam am Granogwen yn aros yno pan yn pregethu yng nghapel y Methodistiaid yng Nghlos-y-graig a oedd gerllaw. Roedd Cranogwen yn enwog am bregethu, barddoni a chan fod ganddi dystysgrif mewn morwriaeth, merch cofiwch, yn gapten llong, roedd yn dysgu llawer o frodorion Llangrannog a’r cylch a’u paratoi i fynd i’r môr.

Cynnyrch Ffatri Gilfach yn bennaf oedd carthenni, crysau a drawers – trowsus gwlanen i’r gweithwyr stîl a’r pyllau glo.

Roedd dau frawd mam wedi aros yn gysylltiedig â’r wlanen – William wedi priodi merch Mr a Mrs Havard Jones, Ffatri Wlân ‘Rogo a Tom wedi dal ati hyd ddiwedd oes gyda chymorth ei briod ac wedi agor siopau gwlân yng Ngorseinon, Tymbl, Llanelli, Castell Nedd, Port Talbot, Abertawe a Chaerdydd. Adnabuwyd ef gan lawer yn yr ardaloedd hyn fel ‘Jones y Wlanen’. Mae gan ei wyres stondin ar farchnad Abertawe hyd heddiw. Hi yw’r bedwaredd genhedlaeth yn y gwaith.Gyda threm ffasiwn yn newid a dim angen y dillad isaf gwlân (mae bron holl byllau glo’r De wedi cau eisoes) na’r carthenni, rhaid oedd arallgyfeirio i wneud nwyddau fel socs gwlân, gwau tapestrïau, gorchuddion gwelyau, llenni ffenestri, cotiau a siwtiau a phan archebodd y Dywysoges Margaret y cotiau, roedd dangos tâp ‘By royal appointment’ yn hwb i’r busnes ac yn deimlad urddasol a breintiedig i’r gweithwyr.

Caewyd Ffatri Gilfach erbyn hyn ac er bod fy Ewythr Tom yn byw yng Ngorseinon roedd yn berchen ar ffatri wlân yn Llanpumsaint ac yn dod nôl i’w gynefin i’r Derw, Alltcafan, Cambrian, Bargod ac ati am eu cynnyrch ac yn allforio peth i’w fab Hedley yng Nghalifornia. Capten llong oedd Hedley wedi bod yn garcharor yn yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl dod adre symud ymhen amser i fyw yn America ac agor siop yn Newport Beach er mai ‘marine surveyor’ oedd ei swyddogaeth yno. Bellach yntau wedi ymddeol ac yn byw yng Ngharmel Valley sy’n fydenwog am golff mae’n debyg. Mae ef a’i briod sy’n hannu o Abertawe yn perthyn i’r Welsh Society of Monteray Peninsula ac yn edrych ymlaen at yr Ŵyl Gerdd Gymraeg – ‘The Welsh Musical Festival’ i’w chynnal yn Cambria yn y Gwanwyn 1994.

Nid fy nghefnder yw’r unig aelod o’r teulu sydd wedi ymfudo i’r America. Yn y tridegau aeth David Jones, brawd dad-cu o ochr mam, a’i briod i fyw yn Chicago. Y tro diwethaf roeddent ar ddod nôl am dro i Gymru fach trawyd Wncwl America, fel y galwem ef, yn wael ar y llong ‘Scythia’. Sonia Mr Roy Davies am hyn yn ei lyfr Aur y Byd  a bu farw ‘Nwncwl cyn dechrau’r daith draw.

Uchafbwynt arall y busnes oedd ymweld â’r ffeiriau gwlân i ddechrau ac yna ymestyn y gorwelion. Rhaid oedd mynd i’r rhain, Llangyfelach yn enwedig yn y dyddiau cynt ac yn y blynyddoedd diwethaf cyrchu’r Eisteddfodau Cenedlaethol, Llangollen a’r Sioeau Amaethyddol i gyd, sioeau Smithfield a Sioe Foduron Llundain, Birmingham ac ati.

Symudodd fy rhieni i Gamwy i fyw yng nghanol y pentre ac yno’m ganed, yr ieuengaf o bump o ferched. Buom fel teulu yn byw yma bron chwe deg o flynyddoedd yn cadw siop lyfrau, nwyddau ysgrifennu a phapurau dyddiol, wythnosol a misol a chylchgronau. Rhaid oedd eu cludo o orsaf Henllan, rhyw filltir i ffwrdd, ddwywaith yn ddyddiol – y merched hynaf ar gefn beic yn casglu ac yna’n eu dosbarthu o ddrws i ddrws fel bo angen. Roedd yna ddalgylch eang hyd Llysnewydd â’r cylchgronau Tattler a’r Lady ac ati i’r gwŷr bonheddig ac yna i Gamwy daeth y copi cyntaf un o’r Western Mail i’r ardal. Cofier nad oedd tâl dosbarthu y dwthwn hwnnw, - roedd y gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Gan fod lleoliad Camwy yn ganolog at stryd y pentre, ac anhawster i gael llety yn yr ardal, yng Nghamwy arhosodd plismon cynta’r pentre sef Tomos Polis, - bonheddwr hawddgar yn hawlio parchedig ofn pawb ond ei bersonoliaeth hyfryd yn anwylo ei hun i’r trigolion oll. Yn anffodus clwyfwyd ef pan ar ddyletswydd yn yr ‘Ammanford Riots’. Erbyn hyn nid oes plismon yn y pentre a’r dull o blismona wedi newid yn arw.

Un arall fu’n aros oedd Mr Sykes o Sir Efrog. Wrth foderneiddio’r ffatrïoedd gwlân rhaid oedd wrth arbenigwr i osod y peiriannau cymhleth  a chyfarwyddyd i’w defnyddio.

Wrth Bont y Capel a oedd gerllaw roedd Ffynnon Capel, nid nepell roedd Ffynnon Ffald a Ffynnon Gybyddion a chario’r dŵr yfed fyddai’r norm. Os byddai wedi glawio’n barhaus byddai’r Bargod yn gorlifo dros Ffynnon Capel ac yna rhaid oedd wrth gymdogion caredig a’i gael o’u pwmp hwy. Byddai pawb bron â chasgen wrth y tŷ i ddal dŵr glaw at orchwylion y gegin. Braf oedd cael y gwasanaethau modern yn gyffredin yn y pedwar a’r pum degau.
Cofiaf am y trydan yn dod i’r pentre tua 1930, tair lamp, haearn stilo, a rhoi swllt (5 ceiniog) mewn slot ar y cychwyn. Da o beth fod gymaint o waith tŷ wedi ysgafnhau erbyn hyn gyda dyfodiad y peiriannau modern a gwneud deunydd cyffredinol o’r trydan mewn llawer maes a threfn wahanol o dalu biliau hefyd.

Byddai pobl yn galw yn aml, cymdogion, ffrindiau, teulu, y gweinidog a’r rheithor a rhai yn galw’n rheolaidd fel Mr Lewis, Penrhiwcoyon ar gefn ei feic yn casglu Clwb Dr Jenkins yn fisol. Talu swm penodol at dreuliau gwasanaeth meddyg mewn cyfnod o afiechyd oedd hwn. Erbyn hyn rhoir pwyslais eto ar yswirio’n breifat er sicrhau triniaeth a meddygaeth ynghyd â gwasanaeth deintydd, cam yn ôl debygwn i, pan oedd trefn wedi ei sicrhau i bawb yn ddiwahân dderbyn o’r breintiau hynny ar ôl talu yswiriant drwy gydol cyfnod gwaith, a derbyn os angen, yn ddi-dâl o’r gwasanaethau hyn o ganlyniad.

Byddai deintydd yn dod heibio hefyd ar ei feic o Gastellnewydd Emlyn yn ei drowsus ‘plus fours’, cap a phigyn, a sgidiau melyn a’r offer mewn bag Gladstone ar sedd ôl y beic.

Un arall oedd Vaughan y Llestri a’i drap a phoni. Dwn i ddim ai ei enw bedydd ynteu ei gyfenw oedd hwn. Ta waeth, gwerthu llestri a wnâi a chasglu ‘rhacs’ – dillad carpiog a’u cyfnewid am bysgodyn aur mewn bowlen. Cefais un lawer gwaith adeg fy mhlentyndod; debyg mai dyna pam y’i cofiaf. Roeddwn yn cael boddhad o’r mwyaf o gael un o’r rhain ac yna rhaid oedd gwylio campau Twdwls y gath yn ofalus, ond trwy drugaredd ni ddigwyddodd dim trychinebus. Nid oedd sôn am fynd â dillad ail-law glân, gweddol dda eu cyflwr i Oxfam bryd hynny!

Un arall oedd y ‘whipper-in’ – ymweld â rhieni ynglŷn ag absenoldeb eu plant o’r ysgol wnâi hwn er nad oedd nemor byth yn galw wrth ddrws ein ty ni. Roedd ei weld o hirbell yn codi braw arnaf. Byddai parchedig ofn arnaf hefyd o weld y Prifathro, yr Athrawon, y Gweinidog, y Rheithor a’r Plismon os cyfarfyddem â hwy ar stryd y pentre neu unrhyw le nad arferwn eu cyfarfod. Yn dymhorol byddai Sioni Winwns yn galw hefyd, ac yn wir, adnabyddem ef yn reit dda ac yntau’n siwr o’i gwsmer. Byddai’r trigolion yn dod o amgylch hefyd i gasglu at achosion da a gwerthu tocynnau at gyngerdd, eisteddfod, arwerthiant a drama.

Wrth weld addasiad o lyfr T Llew Jones, Tân ar y Comin ar y teledu’n ddiweddar, cofio am y sipsiwn yn ymgynnull ar Gomin Waungilwen gerllaw, y gwragedd yn dod o amgylch i werthu eu nwyddau: lês, pegs dillad, pins, blodau artiffisial o’u gwaith eu hunain. Byddent yn dod i’r Swyddfa Bost i gael cymorth i ysgrifennu er mwyn archebu’r deunydd crai ac nid ar chwarae bach fyddai bod ar yr un donfedd â hwy, mor anodd eu hieithwedd.

Y pryd hwnnw roedd nyrs barhaol yn y pentre. Byddai dyletswyddau Nyrs Henry yn amrywiol yn ei hymdrechion i wella’r claf a rhoi gofal iddo a hefyd cynorthwyo’r trefnwr angladdau. Dyma gwpled o’i gwaith wedi dychwelyd o fod ar ddyletswydd i gael seibiant ar yr aelwyd gartre,
                                    Beth sydd imi yn y byd
                                    Ond push beic a thywydd gwlyb?
Gallaf eich sicrhau ei bod yn ddynes gydwybodol a roddodd o’i gorau i’w swyddogaeth. Cofio iddi sôn am ei phryder am un o’r gwragedd yn geni baban a’m chwaer yn mynd i’r comin gyda hi; hi’n cerdded nôl a blaen ger y garafan a’r gŵr pryderus yntau’n gwneud ‘run fath ac yn datgan gair wrth y nall. Roedd yn enedigaeth anodd ond ar ôl i bopeth fod drosodd, y nyrs yn dweud y byddai draw eto ar doriad gwawr. Pan aeth yno roedd y teulu wedi gadael am ryw fan gwyn fan draw. Ymhen amser priododd y nyrs â mab y Rheithordy, y Parch. T E Jenkins, a gafodd ei ddyrchafu’n ddiweddarach yn Ddeon Tyddewi.

Achlysur arall llai dymunol a ddaw i’r cof yw angladd un o deulu’r Lovells yn Eglwys Sant Barnabas a’r claddu yn y fynwent, y lleisiau aflafar a’r wylo, blodau artiffisial ar bob llaw, yn amryliw a llachar tu hwnt.

Rhaid oedd wrth chwaraeon ddyddiau ysgol – y bechgyn a’r cylch a’r bach, tap a whip, cystadleuaeth y concyr a ni’r merched a’n corc a rîl, gwnïo, gwau, pêl scotsh ar y llawr, marblys wrth gwrs, gwneud cadwyn o flodau llygad y dydd a’u gwisgo am y gwddf yn ystod dyddiau’r haf, a chasglu llysiau, mwyar a chnau yn eu tro. Edrychem ymlaen at gael picnic wrth Ffynnon Beca Rhos a chasglu llysiau. Hyfrydwch pur fyddai hynny, ar wahân i’r ffaith fod rhaid drachtio o’r dŵr grisialaidd oedd yn llesol i’r corff, mae’n debyg, ond yn blasu’n gas. Peth arall fyddai’n amharu ar y pleser oedd gweld neu gyfarfod â John Waun-fawr fyddai’n byw mewn rhyw hen gwt ar ei ben ei hun, meudwy wedi gwisgo cadachau a sach dros ei ysgwyddau wedi ei chlymu â ‘safety pin’ mawr a hen fowler hat ddu ar ei ben a honno’n werdd gan henaint. Cymeriad ecsentrig iawn – fe brynodd feic tair olwyn plentyn un tro a mynd ar ei gefn o ddŵr y mynydd i ddŵr y môr yn Llangrannog a phawb yn ei wylio ar y ffordd. Roedd eisiau tipyn o egni ac amynedd ar yr hen lanc; roedd yn lwcus nad oedd trafnidiaeth mor drwm bryd hynny â nawr. Hen ŵr digon diniwed oedd ac yn bencampwr o fugail yn gofalu am ei braidd.

Wedi tyfu dipyn yn hŷn byddwn yn mynd am Bont Henllan, ffin rhwng Sir Gâr a Sir Aberteifi, llecyn hardda’r fro, cyrchfan i lawer yn hwyr noson o haf. Mynd am dro a chael tê weithiau ar lan yr afon Teifi byddwn i a drachtio’n helaeth o brydferthwch gwanwyn, haf, hydref a gaeaf. Aroglu persawr y briallu a chlychau’r gog, yn enwedig wedi ambell gawod Ebrill, gwrando ar bêr ganiadau’r adar yn torri ar ddistawrwydd y gwanwyn, llwyr ymgolli ym mwrlwm y ffrydiau neu ymdawelu mewn llyfr gerllaw’r dyfroedd tawel, mynd am dro yn y tywydd teg , heibio ‘Tŷ Bach y Ladies’  - y tŷ bach crwn ei siâp oedd hwn ac eisteddfa o’i amgylch, lle cyfforddus i ladies y Plas oedd gerllaw, sef Plas Llysnewydd. Yr enwog Nash oedd yn gyfrifol am ei adeiladwaith ac ymlaciem a mwynhau’r olygfa odidog o amgylch ond  adfeilion ohono a erys mwyach. Caem ninnau lwyr foddhad o gasglu amrywiaeth o flodau’r maes a gweld cloddiau’r stâd yn fôr o borffor y rhodedondrons.

Yn hydre’r flwyddyn gwelsem y lliwiau amryliw gwych a’r wiwer fach goch yn prancio’n brysur yn casglu a storio’r cnau - ond y wiwer lwyd sydd i’w gweld heddiw ac ambell gwningen brin yn neidio a dangos ei chynffon wen. Yn y gaeaf noethlwm mynd dros y Bont nerth ein traed a gadael sŵn byddarol a rhuthr gwyllt y llifogydd o’n tu, a’r Teifi yn cyflymu i gyrraedd y môr. Mae prydferthwch y nos yn anhygoel yn y fangre hon. Hefyd gweld y diemwntiau yn dawnsio a llithro heibio, y lloer yn pefrio yn y ffurfafen las ddigwmwl uwchben, a’r lleuad wen yn codi rhwng canghennau’r coed i sŵn y gwdihŵ yn y pellter draw.

Yn y dosbarthiadau uwch byddem yn casglu penbyliaid a’u rhoi mewn pot gwydr a gwylio eu datblygiad. Byddai astudiaeth natur, gwnïo a garddio yn cael lle ar gwricwlwm ac amserlen ysgol erbyn hyn. Treuliem lawer o amser yn ymarfer barddoniaeth a chaneuon Sankey a Moody o Sŵn y Jiwbili, ffefrynnau eisteddfodau’r capel. Edrychwn ymlaen at drip yr Ysgol Sul, ymweld â Phorthcawl neu Aberystwyth fyddai’r nod a chaem hwyl bob amser. Roedd yn un o uchafbwyntiau gwyliau’r haf. Nid pawb oedd mor ffodus â mynd am wyliau y dwthwn hwnnw.

Mynychu’r Band of Hope  gyda’r nos ac edrych ymlaen i glywed darlith os byddai’r ‘Magic Lantern’ yn dangos sleidiau a fyddai’n berthnasol i’r testun cyn dyfodiad y ffilmiau a’r dechnoleg fodern a’r cymhorthion gweledol.
Rhaid oedd dathlu Gwyl Ddewi mewn cân ac adroddiad ac addunedu o’r newydd ‘i wneud y pethau bychain hyn’ a phleser o’r mwyaf oedd cael mynd adre’n gynnar o’r ysgol wedi gorffen y cyngerdd.

Ochr draw i Gamwy roedd siop y groser, Central Stores – siop Albert Evans. Heb fod yn anghwrtais, roedd yn gas ganddo’r siop. Ei briod dawel, serchog, ddi-ffws yn ei ffordd ddihafal ei hun fyddai ran amlaf wrth y cownter. Ond os soniech wrth Albert Evans am gerddoriaeth byddai’n union yn ei seithfed nef, ac yn wir, fe wnaeth waith clodwiw yn yr ardal, yn organydd ac arweinydd y gân yng Nghlos-y-graig. Ffurfiodd gerddorfa linynnol yno a band pres yn y pentre. Rhoddodd wasanaeth gwych a diflino fel arweinydd Côr Bargod Teifi – côr bechgyn gyda’r diweddar Mrs Maggie Griffiths a Miss Bronwen Jones yn ei dilyn wrth y piano am flynyddoedd lawer.

Un arall a gyfrannodd i gerddoriaeth yr ardal oedd Mr William Davies – Wil Pen-lon fel yr adweinid ef. Bu’n canu yn Drury Lane ond er cyrraedd y brig roedd yn barod i roi cyngor a chymhelliad i blant ac athrawon Ysgol Brynsaron wrth iddynt baratoi cyngherddau’r ysgol ar ôl oriau gwaith a helpu plant y pentre hefyd.

Un arall oedd Mr David Walters a chyn ei amser ef roeddwn i’n perthyn i gôr plant Mr Ben Davies, Bargod Villa. Cofiaf ef yn dda â’i ‘bitch fork’ am nad oedd piano yn gyffredin yr amser hwnnw ond nemor byth y canem allan o diwn!

Roedd bri ar eisteddfodau capel, eisteddfod Llun y Pasg Eglwys y Bedyddwyr ym Methel, Dre-fach a bron pawb trwy Gymru ben baladr yn cofio hon. Pob capel bron â’i gwmni drama, y cyrddau mawr, diolchgarwch, cyfarfodydd gweddi, cymanfa bwnc, Calan Hen a gwasanaeth y Plygain yn eglwys y plwyf ym Mhen-boyr, cymdeithasau diwylliadol ac ati. Pleser arbennig oedd gweld addoldai Castellnewydd Emlyn yn orlawn ar y Llungwyn a phawb o bob enwad yn chwyddo’r moliant. Daeth newid mawr gyda’r enciliad o’r addoldai. Roedd yma weinidogion a’u teuluoedd ynghyd â’r rheithor a’i deulu yn byw yn ein mysg yn y pentre a’u cyfraniad yn amhrisiadwy i’r sefydliadau lleol ond nawr pan mae’r ofalaeth yn eang rhaid trigo mewn mangre cyfleus a chanolog. Ar hyn o bryd nid oes un o’r swyddogion hyn yn byw yn ein plith. Mae capel yr Undodiaid ym Mhen-rhiw eisoes wedi hen gau a’i ddymchwel a’i ailgodi yn Sain Ffagan ac yn anffodus mae ysgolion Sul Bethel a Chlos-y-graig wedi peidio.

Rhaid sôn am y teulu arbennig a ddaeth i’r pentre o Bontardawe sef teulu’r Jenkinses, y brawd yn brifathro ysgol y pentre a’i chwaer yn dilyn fel prifathrawes a’r chwaer arall hefyd yno yn athrawes. Bu Mr David Jenkins yn flaenllaw ym mhob cylch yn y gymdeithas, yn yr eglwys ac yn arweinydd Côr Cymysg Bangor Teifi a’i ddwyn i lwyddiant mawr. Yn wir bu cyfraniad y teulu cyfan yn aruthrol fawr ar bob agwedd o ddiwylliant pan oeddent yn llawn hyder, ffresni a brwdfrydedd yn nyddiau eu hieuenctid. Saif beddfan iddynt wrth fynedfa eglwys Sant Barnabas. Deil traddodiad Dafydd ap Gwilym a’i gysylltiadau â’r Cryngae a Griffith Jones a aned ym Mhantyrefail (dwy fferm leol) yn y fro hefyd. Bonheddwr tawel oedd y diweddar Mr Sam Owens, ‘S.O.’ â dawn arbennig ganddo i farddoni, a’r diweddar Mr David Stephen Jones, M.Sc., yn cyfansoddi’n wych. Collwyd ef yn anffodus yn ifanc. O ddarllen cylchgronau ysgol a’r plwyf yn ddiweddar dengys eu cynnwys fod yma ddigon o ddeunydd eto, dim ond i’r disgyblion hyn gael eu swcro i aeddfedrwydd ysgrifennu llyfrau. Hefyd daw gwaith Mr Tom Davies, Treale Yn Fore yn Felindre i’r cof.
Llwyddodd llawer o blant y pentre gyrraedd uchafbwyntiau eu galwedigaethau a dal swyddi uchel mewn materion addysgol, meddyginiaethol ac ar lawer agwedd arall o fywyd cymdeithasol ac ehedodd yr had i bedwar ban byd.
Ffurfiwyd cangen o’r Urdd i’r Ifanc, y W.I., Sefydliad y Merched yn y dauddegau, a bellach cangen o Ferched y Wawr, oll wedi cyfrannu’n helaeth i’r ardal, a’r ddau ola yn dal i ffynnu.

Dewch am dro gyda fi ar hyd prif stryd y pentre, ffordd syth bron tua hanner milltir o hyd. Roedd yn anhygoel gymaint o fusnesau oedd yma adeg fy mhlentyndod gan ddechrau ar dop y pentre wrth y Rheithordy mawr – dyna Rhyd-y-wyrn a’r felin wlân, Rock Cottage Inn, Mr Tom Jones y sadler, siop deunydd gwnïo Emlyn House, siop groser, popty a ‘Tea Rooms’ cofiwch yn Glenview, siop groser yr Hall, y New Shop Inn. Rhaid nodi John y Gwas wrth basio, y Cynghorydd John Evans, a roddodd gymorth i lenwi ffurflenni lawer, cyngor ac ati, oll yn gyfrinachol; athro wrth ei swydd, hanesydd gwych, dyn dawnus. Mr Dan Rees y crydd, ffatrioedd gwlân Spring Gardens un ochr a Llain-ffald ar y llall, y Swyddfa Bost ar sgwâr canolog y pentre lle roedd banc ac asiantaeth i Reith Cleaners, glanhawyr dillad yn yr Alban, oll dan un to, Glyn-coed – siop ddefnyddiau, gwneud hetiau del a banc Nat West, Gwalia – Mr John Jones yn adeiladwr, gwerthwr llestri, papur papuro, paent, bwydydd, saer coed a threfnwr angladdau, Camwy – siop lyfrau, bwydydd yn Central Stores. Soniais eisoes am y rhain – Neuadd y Ddraig Goch, yma cynhelid yr adloniant oll, snwcer i’r bechgyn yn unig a Llyfrgell y Sir – dyna’r hen neuadd. Bellach trwy haelioni’r diweddar  Mr John Lewis, Cambrian fe adeiladwyd  y neuadd newydd ochr draw’r stryd bron i’r hen adeilad lle daw meddygon, nyrsys, a lle mae’r ysgol feithrin, pwyllgorau a chyngherddau. Mae yma gegin i ddarparu ymborth yn ogystal ag ystafell eang i’r bechgyn chwarae snwcer ynghŷd â thoiledau. Pwrpas hon oedd ymateb i holl ofynion y gymdeithas yn ddiwahân. Cynhaliwyd wythnos o adloniant o the-parti i’r trigolion oll i ddathlu ei hagoriad. Sgidiau a chrydd yn Llynfi House, cigydd yn Neuadd-wen, garej yn Erw Lon, llaeth a wyau yn y Garth - eu casglu o’r llaethdy nid derbyn potel wrth y drws, fferyllydd yn Islwyn, y Reading Room cyn dyfodiad Llyfrgell y Sir – lle i ymgynnull i ddarllen a chynhelid syrjeri Dr Jenkins yno, yr unig feddyg lleol y pryd hwnnw a oedd yn byw yn Henllan, pentre cyfagos, ddwywaith yr wythnos. Glanywmor – Messrs Tom Jones a’i fab, Mr J.R.Jones, adeiladwyr, seiri coed, gwerthu llestri, paent, papur papuro, nwyddau trydan, yr amser diwethaf trydanwyr a threfnwyr angladdau. Dyma’r adeiladwyr crefftus a atgyweiriodd glochdy Eglwys Sant Barnabas yn 1953. Y diweddar Mr Tom Jones wrth fodd ei galon yn mwmian emyn a chân wrth gerdded yr ysgol gyda phendantrwydd, mor ysgafn droed â chrwtyn heini ac yntau ymhell dros ei wyth deg oed. Teifi Cafe – gwerthu bwyd, brecwast priodas os hoffech, popty a siop groser, Maes-yr-ywen – arbenigwr y dicléin – y ‘T.B. Specialist’ yma unwaith y mis. Diolch nad yw’r clefyd hwn mor gyffredin ag y bu.

Dyma ni wedi cyrraedd Pont y Capel - roedd capel wrth law yn yr hen amser - a than hon rhed y Bargod, yr afon sy’n gwahanu Felindre oddi wrth Dre-fach a pharhau trwy’r Dre-fach wna Stryd y Pentre ond stori arall yw honno.

Beth am Sgwâr y Gât meddech chi. Ha! Nid anghofiais, lle cyfarfod i drin holl ddigwyddiadau a gwleidyddiaeth lleol a byd-eang - cyn dyfodiad y radio’n gyffredin, heb sôn am ddyfodiad y teledu. Yn ben a choron ar bopeth, yma saif Eglwys Sant Barnabas a’i chlochdy a’i chladdfa ac o’i blaen mae cofgolofn i’r arwyr a gollwyd yn ystod dwy ryfel byd ac wrth ei hymyl mae ysgol gynradd y pentre – yn fy nyddiau i ‘Penboyr Church of England School’ oedd y teitl swyddogol. Mawr fy mharch a’m dyled i’r prifathrawon fu’n gwasanaethu a’u staff, ac i’m teulu am eu hymdrechion beth bynnag i’m trwytho i werthfawrogi pethau gorau bywyd ac am eu cefnogaeth.

Bu Griffith Jones, Llanddowror a’i ysgolion cylchynnol hefyd ar daith yn y bröydd hyn. A wnaethoch sylwi ar y deunydd a wnaed o’r Saesneg, ymhell cyn i’r mewnlifiad gychwyn. Roedd prysurdeb y pentre bach a bwrlwm y gweithgareddau yn anhygoel yn y dyddiau a fu.

Mae cyfraniad amaethyddiaeth y fro yn deilwng i’w gofnodi hefyd. Atgofion plentyndod ar y cae gwair, y sbort a’r sbri yng nghanol y gweithwyr niferus, y cwrw sinsir o waith cartre a’r deisen arbennig ar gyfer amser gweira. Roedd hon yn hanfodol bwysig a rhaid oedd wrth bobi bara wrth gwrs. Nid oedd y fath beth yn bod â’r fan fara wrth y drws.

Diwrnod lladd mochyn. Roedd yn gas gen i hwnnw ond rhaid oedd wrth gig moch yn hongian o’r llofft i’w sychu a phleser fyddai rhannu a derbyn o’r ‘sbarib’ a’r ‘ffagots’.  Roedd pob tyddyn bron  â’i gwt mochyn ar waelod yr ardd a chadwent ieir. Gosod tatws wedyn ar dir y fferm fawr a chael eu cynnyrch yn rhad heblaw am eu casglu yn yr hydre – cydnabyddiaeth am gymwynas a gwasanaeth efallai yn ystod y flwyddyn.
Rhaid hefyd oedd torri sebon Windsor Best Pale. Nid oedd amrywiaeth o sebonau sydd ar gael ar y farchnad heddiw bryd hynny. Darn hir rhyw ddwy fodfedd sgwâr gwyrdd neu wyn oedd a thorrwyd hwn yn ddarnau a’u rhoi mewn rhwyd i’w sychu wrth eu hongian o’r llofft.

Diwrnod pwysig arall oedd y diwrnod corddi, gwerthu’r menyn yn lleol felly a rhoi a derbyn ambell botel o laeth neu laeth enwyn. Os na fyddech yn byw ar y fferm rhaid oedd archebu crochaned o fenyn i’w gadw wrth law dros y gaeaf. Piclo wyau, cadw ffrwythau o bob math a llysiau mewn tywod ac ati heb anghofio’r ymdrechion i gadw ffrwythau yn y ‘Kilner Jars’ adeg y rhyfel yn enwedig. Byddent oll yn werthfawr iawn yn ystod prinder i chwyddo’r ychydig stoc.

Dyddiau pwysig ar galendr y ffermwr oedd dyddiau lladd mochyn, wyna, lladd gwair, cynaeafu a dyrnu. Gwnaed hyn gyda’r offer pwrpasol fyddai’n mynd o amgylch a thalu am y gwasanaeth fel trwsio’r cloddiau yn y dyddiau hyn, cyflogi rhywun, cynaeafu’r cnydau yn yr hydre, llafurio’n galed ond heddiw gyda’r peiriannau modern gwna’r ffermwr y gwaith ei hunan bron a da o beth fod llai o nerth braich a chorff yn angenrheidiol gyda darganfyddiadau’r oes dechnolegol a dulliau newydd o amaethu.

Rhyfedd y newid sydd ym mhob maes bron. Bellach mae’r mwyafrif a enwyd  erbyn hyn wedi ein blaenu ac mae niferoedd heb eu crybwyll a wnaeth lafurio’n ddiflino a rhoi o’u gorau heb gyfri’r gost er diwylliant a chyfoethogi gwybodaeth. Braint oedd cael adnabod llawer iawn ohonynt,
                                                ‘Newid ddaeth o rod i rod,
                                               Mae cenhedlaeth wedi mynd
                                               A chenhedlaeth wedi dod’

Ar ôl pasio’r arholiad 11+ mor ddigrybwyll, newid ysgol i Landysul County School. Teithio ar fws yno yn ddyddiol a’r gost yn 2/9 yr wythnos yn yr hen arian a thaliad arall oedd ei angen yn wythnosol oedd am y llaeth a gaem gyda brechdanau amser cinio. Nid oedd cinio ysgol yn bod bryd hynny. Rhaid oedd wrth wisg ysgol fan hyn, y lliwiau’n ddu a melyn, ‘black and amber’, a’r arwyddair ‘Sic itur ad astra’, ‘such is the way to the stars’. Dyma newid mawr, pynciau dieithr, talu am lyfrau, archebu rhai yn Gomerian, Llandysul, chwilio am rai ail-law gan ddisgyblion ac archebu o Foyle’s, Llundain yn ein hymdrech i gadw’r gost lawr. Cofio cael oriawr newydd a Swan fountain pen cyn oes y biro i ddechrau’r yrfa – ‘gofala amdanynt, bydd yn gwrtais a gwna dy ore’ oedd y cynghorion. Teimlo’n ofnus a nerfus yng nghanol y llif o fyfyrwyr o’u cymharu â’r nifer yn ysgol y pentre a phawb yn adnabod ei gilydd. Gwneud cwrs y ‘C.W.B.’ – Central Welsh Board – y ‘Senior’ fel y’i galwem bryd hynny, ac yna rhaid oedd meddwl am swydd, heb gymorth na chyngor swyddog gyrfàu.

Roedd gwaith mewn swyddfa bost yn apelio’n fawr i mi ond roedd yn ofynnol bryd hynny i wneud blwyddyn o brentisiaeth yn ddi-dâl. Bûm yn lwcus cael fy nerbyn ym Mhentre-cwrt, Llandysul. Roedd yma feithrinfa ardderchog gan fod Mrs S.M.Jones wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth yn y Brifa Swyddfa ac yn brofiadol felly. Meddai Mr David Jones ar gymwysterau arbennig iawn hefyd, cywirdeb, cwrteisi, prydlondeb a rhoddodd bwyslais ar y geiriau ‘ymddiriedaeth’ a ‘cyfrinachol’ wrth i mi roi’m llofnod ar y ffurflenni cais. ‘Dim bwyd a dim tâl’ oedd y cytundeb ond derbyniais yn helaeth o ford y post tra bûm yno. Teithiwn ar gefn beic, yno erbyn wyth y bore a gadael ar ôl saith y nos ar ôl i’r gwasanaeth brysnegeseuon beidio. Roedd y rhain yn niferus bryd hynny gan nad oedd gwasnaeth ffôn yn gyffredin.

Roedd siop groser yno a phapurau dyddiol a rhaid oedd ymwneud â’r rhain hefyd a chan ei bod yn adeg yr Ail Ryfel Byd rhaid oedd pwyso’r ‘rations’ – dwy owns o siwgr, menyn, caws a phedair o fargarîn, te, a dwy o facwn. Roedd yn gas gennyf dorri hwn â chyllell law ond roedd yn rhan o’m dyletswyddau. Rhaid oedd cofrestru gyda'r cigydd lleol am gig, ran amlaf byddem yn byw heb hwn yn ystod yr wythnos a ‘poolo’r points’ am gyfran fwy o gig ar gyfer cinio’r Sul, os yn bosibl, pan fyddai mwyafrif y teulu yn dod at ei gilydd. Dyma adeg y ‘coupons’ ar ddillad, bwyd, melysion, dodrefn – yr ‘utility furniture’, ac ar betrol a phob person yn berchen ‘gas mask’ rhag ofn; roedd llyfr ‘coupons’ a cherdyn adnabod yn holl bwysig. Cefais fy rhyddhau mewn naw mis a mynd am gyfnod yn gyfrifol am Swyddfa Bost yn unig yn Rhydlewis, fy mhrofiad cynta un a’r cyfrifoldeb oll ar fy ysgwyddau. Roedd yn hanfodol cael y cyfrifon yn gywir – dim dimau’n fyr a dim dimau’n ormod. Yr annwyl ddiweddar Mr Enoch Thomas oedd y perchennog, hen lanc  yn byw ar ei ben ei hun, yn hynod garedig, wrth ei fodd yn smocio’r bibell, a’r sbecs ar flaen ei drwyn, dymunol a thawel ei ffordd, cymeriad hoffus. Cefais amser hapus iawn yn yr ardal.

Oddi yno i Gwrt Newydd, Felindre ac i Swyddfa’r Goron yn Llandysul a nôl drachefn i Felindre i ardal fy mebyd.

Erbyn hyn roedd yna wersyll mawr a dros fil o filwyr yn Felindre a’r Ail Ryfel Byd yn dal i fod. Cymerwyd drosodd llawer o’r ffatrioedd gwlân gweigion ac yng Nghilwendeg roedd y prif swyddfeydd, yr H.Q., lle bwyta yn Ffatri Dyffryn a gweithdy yn Ffatri Meiros. Cofiaf y ‘Black Watch’, 3rd Btn Royal Marines, 11th Btn Durham Light Infantry a’r 2nd Btn Princess Louise’s Kensington Regiment  i enwi rhai, yn aros yma, yn ogystal â’r Americaniaid. Caem anrhegion dros y cownter gan y rhain, melysion a ffrwythau, orenau a bananas, rhai na fedrem eu cael yma ers amser maith. Aeth y gwaith swyddfa’n drwm a’r oriau’n hirion. Roedd y ‘Telephone Manual Exchange’ yma hefyd. Rhaid oedd gweithio hwn ac ni ddarfyddai’r clychau i ganu. Roeddwn wrth fy modd yn cyfarwyddo ag ardaloedd newydd a’u hanesion, cyfarfod  â phobl. Roedd daearyddiaeth wedi apelio ataf i ers dyddiau ysgol a rhoddai gwasanaethu’r cyhoedd foddhad mawr i mi.

Byddai swyddogion y fyddin yn aros mewn tai preifat ar hyd stryd y pentre, ac yn eu sgil deuai’r gwragedd a’u teuluoedd, a hyn oll yn chwyddo rhif y trigolion a’r gwaith wrth gwrs. Daeth ‘evacuees’ hefyd o ardaloedd Abertawe, Croydon, East Grinstead a Bootle Lerpwl a rhaid oedd talu tâl lletya, lwfansau, pensiynau a phensiynau teulu i’r milwyr ac ati, y rhai lleol a’r rhai oedd wedi dod dros dro.

Cyflwynwyd brysneges arbennig – ‘Special Telegram’ a negeseuon penodol wrtho fel ‘Home Tomorrow’, ‘Everyone Well’, ‘Baby Boy/Girl. Both Well’ a gellid eu hanfon am bris rhad – hanner coron yn yr hen arian a gellid eu hanfon a’u derbyn dros yr holl fyd bron. Gwasanaeth poblogaidd arall oedd yr ‘Airgraph’; am yr hen dair ceiniog yn unig medrech anfon hwn eto i bedwar ban byd. Roedd y gost am anfon y rhain yn llawer rhatach na’r tâl arferol. Ffurflen fawr i ysgrifennu arni oedd hi ond byddech yn derbyn rhyw lythyr bach tua rhyw ddwy fodfedd sgwâr – llun gopi o’r gwreiddiol oedd ond rhyfeddod yn wir bryd hynny gyda’r dechnoleg fodern yn datblygu. Parseli pymtheg pwys, rhai ychwanegol at rai’r ffatrïoedd gwlân oedd yn gweithio nawr gan fod y milwyr yn anfon a derbyn llawer iawn. Dyma ddyddiau’r ‘blackout’, gwae ni pe gellid  gweld y golau lleiaf min a thrwy’r nos yn ôl y gyfraith; pe torrid hon byddai’r gosb yn un lem.

Roedd y pentre’n fwrlwm o weithgareddau. Ffurfiwyd ‘St John’s Ambulance’, y Groes Goch, y ‘Women’s Voluntary Reserve’. Byddai Clwb y Merched i wau cysuron i’r bechgyn a’r merched lleol oedd yn y lluoedd arfog yn cwrdd yn wythnosol mewn festri  capel a hyn ar gylch felly. Llawer yn ymuno â’r ‘Land Army’, yr ‘Home Guard’ a’r ‘Air Raid Protection Group’ ac yn cyfarfod yn y ‘Reading Room’ ynghyd â’r bechgyn a’r merched lleol fyddai’n gorfod ymuno â’r lluoedd arfog, rhai yn gweithio yn Nhre-cwn ac Aber-porth yn cynhyrchu arfau a’u profi. Blin iawn fyddai derbyn newyddion trist weithiau neu gydofidio â’r sawl nad oedd wedi clywed oddi wrth anwyliaid ers amser hir. Codwyd pileri cadarn i rwystro trafnidiaeth ar draws y Rhos. Hefyd  y ‘Pill Boxes’  a’u cuddio mewn mannau annisgwyl. Diolch na fu eu hangen.

Roedd y gymdeithas yn un rhyfeddol glos a phawb yn ddiwahân dros ei gilydd. Cynhaliwyd cyfarfodydd undebol yn Eglwys Sant Barnabas yn aml a chofir am y rhain yn hir.  Canu cynulleidfaol wedyn yn Neuadd y Ddraig Goch ar nos Sul dan faton y diweddar Mr Albert Evans a’r carolau adeg y Nadolig. Cynhaliwyd dawnsfeydd yn rheolaidd, cyngherddau ynghyd â ffilmiau yn y neuadd yn ychwanegol at ‘ENSA’ i ddifyrru’r milwyr.

Trefnwyd ‘Street Collection for the National Savings Movement’ – cynilo arian i’r mudiad cenedlaethol ar adegau arbennig fel ’Warship, Airship’ neu ‘Naval Week’ a tharged y dalgylch yn hanner can mil ond mwy na hynny’n dod i law. Cofiaf dros saith deg mil yn cael ei dderbyn, amser prysur yn y swyddfa a’r emosiynau’n llifo drosodd mewn dagrau o lawenydd a thristwch mawr hefyd  wrth glywed am golli hen gyfeillion mynwesol.

Agorwyd dwy siop ‘Fish & Chips’ yn y pentre, un yn yr Hall a’r llall lle roedd Mr Wendell Davies y Gof. Byddent yn orlawn gyda’r hwyr, siopau Central a’r Teifi Cafe yn paratoi paned a chacen o waith cartre i’r milwyr yn ddyddiol, canol bore, pan fyddai’r ‘troop’ yn dod dros Dro’r Gât a chael eu rhyddhau. Safai’r Swyddfa Bost ar sgwâr canolog y pentre bryd hynny. Gwae ni!  Ar ôl cael y baned dod i’r Post i drefnu  busnes a phostio cyn ailffurfio’n grwp a gwneud am y Baracs drachefn.

Symud wedyn i’r Swyddfa Bost yn Henllan i gynorthwyo am ryw wythnos oedd y bwriad oherwydd afiechyd yn y teulu ond aeth yr wythnos yn bum mlynedd. Cael fy nerbyn ar yr aelwyd yn y Swyddfa Bost fel un o deulu y diweddar Mr a Mrs Tom Davies. Bûm yn eithriadol hapus yma a’r ardal yn gyfeillgar iawn. Tebyg oedd y galwadau i’r swyddfa yn Felindre ar wahân i’r ffaith bod y 70 P.O.W. Camp gerllaw lle cedwid carcharorion rhyfel o’r Eidal a’r Almaen. Aelodau breintiedig o’r rhain, yn ychwanegol at y milwyr fyddai’n edrych ar eu hôl yn ogystal â’r trigolion lleol fyddai’n cwsmeriaid.

Dod i nabod yn dda llawer a weithiai yn swyddfa’r camp, fel Hans Buddelmann, mab rheolwr banc yn Stuttgart; bachgen glanwedd, llygaid gleision a gwallt melyn, bonheddwr wir yn medru llawer o Saesneg. Un arall y cofiaf yn dda oedd Adolf Braun, bachgen tawel, yn gymwynasgar wrth ddod â gwaith o’r swyddfa, bob amser yn cynorthwyo gyda’r parseli trymion ac ati. Roedd hwn wedi bod yn ‘batman’, gwas bach, i Adolf Hitler ei hun. Un arall oedd yr ifanc, heini dros chwe troedfedd o daldra, Carl Schmidt, gwneuthurwr offer – ‘toolmaker’, yn ei gynefin, galwem ef yn ‘Lofty’  ac ni fyddai byth yn gwrthwynebu hynny.

Roedd yna Eidalwyr hefyd a byddent yn mynd allan i’r ffermdai i gynorthwyo, mynd mewn tryciau bach yng ngofal dinasyddion lleol yn ddyddiol a dod nôl i’r gwersyll gyda’r hwyr. Yn eu mysg roedd Mario Ferlito, arlunydd dawnus a lwyddodd gyda chymorth rhai o’i gydgarcharorion i wneud llun o’r Swper Olaf sydd i’w weld o hyd yn Eglwys y Gwersyll hyd heddiw. Byddent yn trin coed a thiniau i edrych fel marmor. Nid oedd ganddynt ddeunydd crai pwrpasol, wrth gwrs, ond roedd y gwaith a wnaent yn ei grynswth yn wych. Roedd yn amlwg nad oedd eu ffydd a’u gobaith  yng Nghrist wedi pylu er gwaethaf erchyllterau rhyfel.

Nid oedd trigolion lleol yn cael mynd ar gyfyl y gwersyll wrth gwrs ond cofiaf i Gapten Robert Griffiths, brodor o Kingston, Jamaica wahodd y diweddar annwyl Mrs Tom Davies, yr Is-bostfeistres a mi i’r  ‘Compound’ i weld Jennifer Jones yn y ffilm The Song of Bernadette, cael coffi cyn gadael yn yr ‘Officers Mess’ a ninnau oedd yr unig ddwy chwaer yn y môr o ddynion, tipyn o brofiad wrth sylweddoli fod yr holl ddrysau wedi eu diogelu.

Roeddwn yn Henllan yn 1947 ac nid anghofiaf fyth yr harddwch o weld gwlad y tylwyth teg, y golygfeydd tlysa erioed, a Phont Henllan a’i chyffiniau yn uchafbwynt yr harddwch hwnnw. Y carcharorion yn clirio’r trwch eira bob dydd a rhagor yn disgyn, o hyd ac o hyd. Am chwe wythnos bûm yn cerdded draw o’m cartre yn Felindre gan nad oedd moduron na chludiant cyhoeddus yn rhedeg a phob peth ar stop. Ni chofiaf aeaf felly hyd yma ond byddai mam yn cyfeirio at y gaeafau caled slawer dydd yn aml. Rhaid oedd toddi’r pibonwy trwy gynnau tân dan y rhod cyn dechrau’r ffatri yn barhaus, ond byddai’r hafau yn siwr o wres cyson yr haul. Nid oedd angen ymbarél na chot law a dyma ni yn mwynhau mwynder rhyfeddol Tachwedd 1994, beth bynnag sydd yn ein haros.

Erys llawer o’r Eidalwyr, Dacri, Vasami, Curnado, rhai enwau a ddaw i’r cof, yn Nyffryn Teifi hyd heddiw, wedi priodi yma a chodi teuluoedd ac yn Gymry glân gloyw.
Daw Mario Ferlito yntau yn ôl i’r fro ac mae wedi gwneud ffrindiau yma a hwythau yn eu tro yn ymweld ag ef a’i deulu yn yr Eidal.

Ar ôl y rhyfel cymerwyd y gwersyll gan Bwyllgorau Addysg Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin ac yma sefydlwyd yn hynod iawn Ysgol Uwchradd Fodern Henllan a’r diweddar Mr J.Tysul Jones, M.A.,  yn brifathro. Dyma ddechrau arbrofi ar ddulliau newydd ym myd addysg.

Daeth fy ngwasanaeth yn Henllan i ben gan ddychwelyd fel Is-bostfeistres am yr olaf dro i Felindre. Mawr oedd fy nyled i lawer iawn o drigolion y pentre, a’r dalgylch, am eu teyrngarwch a’u cefnogaeth.

[golygwyd gan Richard Jones, Medi 2021]